Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

Paid â Phryderu, Gan Mai Fi yw Dy Dduw Di

Paid â Phryderu, Gan Mai Fi yw Dy Dduw Di

“Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di.”—ESEI. 41:10.

CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth

CIPOLWG *

1-2. (a) Sut gwnaeth y neges yn Eseia 41:10 effeithio ar chwaer o’r enw Yoshiko? (b) Pwy sy’n gallu elwa ar neges Jehofa yn Eseia 41:10?

CAFODD chwaer ffyddlon o’r enw Yoshiko newyddion drwg. Dywedodd ei doctor fod ganddi ychydig o fisoedd yn unig i fyw. Sut gwnaeth hi ymateb? Cofiodd Yoshiko un o’i hoff adnodau yn y Beibl, Eseia 41:10. (Darllen.) Wedyn, heb gynhyrfu, dywedodd hi wrth ei doctor nad oedd hi’n ofnus, oherwydd bod Jehofa yn gafael yn dynn yn ei llaw. * Helpodd neges gysurus yr adnod honno ein chwaer annwyl i ddibynnu ar Jehofa yn llwyr. Gall yr un adnod ein helpu ninnau i aros yn dawel ein meddwl yn wyneb treialon anodd. Er mwyn deall sut mae hynny’n bosib, gad inni ystyried pam gwnaeth Duw roi’r neges honno i Eseia.

2 Ar y cychwyn, gofynnodd Jehofa i Eseia ysgrifennu’r geiriau hynny er mwyn cysuro’r Iddewon a fyddai, yn nes ymlaen, yn cael eu cymryd yn gaethion i Fabilon. Ond, sicrhaodd Jehofa fod y neges honno yn cael ei chofnodi nid ar gyfer yr Iddewon yn unig, ond ar gyfer ei holl bobl ers y cyfnod hwnnw. (Esei. 40:8; Rhuf. 15:4) Heddiw, rydyn ni’n byw yn ystod “adegau ofnadwy o anodd,” ac mae angen yr anogaeth yn llyfr Eseia yn fwy nag erioed.—2 Tim. 3:1.

3. (a) Pa addewidion sydd yn Eseia 41:10, sef testun y flwyddyn ar gyfer 2019? (b) Pam mae angen yr addewidion hyn arnon ni?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar dri o addewidion Jehofa yn Eseia 41:10 sy’n gallu adeiladu ein ffydd: (1) Bydd Jehofa gyda ni, (2) Jehofa ydy ein Duw ni, a (3) bydd yn ein helpu ni. Mae angen yr addewidion * hyn arnon ni oherwydd, fel Yoshiko, rydyn ni’n wynebu treialon yn ein bywydau. Mae’n rhaid inni hefyd ddelio gyda’r straen mae’r byd hwn yn ei achosi inni. Mae rhai ohonon ni’n ymdopi ag erledigaeth oddi wrth lywodraethau pwerus. Gad inni ystyried y tri addewid hyn fesul un.

“DW I GYDA TI”

4. (a) Beth ydy’r addewid cyntaf y byddwn ni’n ei drafod? (Gweler hefyd y troednodyn.) (b) Ym mha ffyrdd mae Jehofa yn mynegi ei deimladau tuag aton ni? (c) Sut mae geiriau Duw yn gwneud iti deimlo?

4 Yn gyntaf, mae Jehofa yn ein cysuro ni gyda’r geiriau: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.” * Mae Jehofa yn dangos ei fod gyda ni drwy roi ei sylw llawn inni yn ogystal â’i gariad. Sylwa ar sut mae’n mynegi ei deimladau dwfn tuag aton ni. ‘Ti’n werthfawr yn fy ngolwg i,’ meddai Jehofa. ‘Dw i’n dy drysori di, ac yn dy garu di.’ (Esei. 43:4) Ni all unrhyw rym yn y bydysawd wneud i Jehofa stopio caru’r rhai sy’n ei wasanaethu; mae ei ffyddlondeb tuag aton ni yn ddiysgog. (Esei. 54:10) Mae ei gariad a’i gyfeillgarwch yn rhoi dewrder mawr inni. Bydd yn ein hamddiffyn ni heddiw, yn union fel yr oedd yn amddiffyn ei ffrind Abram (Abraham). Dywedodd Jehofa wrtho: “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di.”—Gen. 15:1.

Gyda help Jehofa, gallwn fynd trwy unrhyw dreialon sydd fel llifogydd neu dân (Gweler paragraffau 5-6) *

5-6. (a) Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau ein helpu gyda’n treialon personol? (b) Pa wers gallwn ni ei dysgu oddi wrth esiampl Yoshiko?

5 Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau ein helpu ni gyda’n treialon personol oherwydd mae’n addo i’w bobl: ‘Pan fyddi di’n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.’ (Esei. 43:2) Beth mae’r geiriau hyn yn ei olygu?

6 Dydy Jehofa ddim yn addo cael gwared ar yr heriau sy’n gwneud bywyd yn anodd, ond ni fydd yn gadael i “lifogydd” o broblemau ein boddi nac i “dân” ein treialon achosi unrhyw niwed parhaol inni. Mae’n addo y bydd gyda ni, yn ein helpu ni pan fyddwn ni’n “mynd trwy’r” problemau hynny. Beth fydd Jehofa’n ei wneud? Bydd yn helpu i dawelu ein pryderon fel y gallwn ni aros yn ffyddlon iddo, hyd yn oed yn wyneb marwolaeth. (Esei. 41:13) Sylweddolodd Yoshiko, y soniwyd amdani uchod, fod hynny’n wir. Mae ei merch yn dweud: “Roedden ni’n edmygu pa mor dawel ei meddwl oedd Mam. Gwnaethon ni weld bod Jehofa yn rhoi heddwch mewnol iddi. Hyd y diwrnod y gwnaeth hi farw, roedd Mam yn siarad â’r nyrsys a’r cleifion am Jehofa a’i addewidion.” Beth ydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Yoshiko? Pan fyddwn ni’n credu yn addewid Duw, “dw i gyda ti,” byddwn ninnau hefyd yn ddewr ac yn gryf wrth inni wynebu treialon.

“FI YDY DY DDUW DI!”

7-8. (a) Beth ydy’r ail addewid byddwn ni’n ei drafod, a beth mae’n ei olygu? (b) Pam dywedodd Jehofa wrth yr Iddewon alltud: “Paid dychryn”? (c) Pa eiriau yn Eseia 46:3, 4 fyddai wedi tawelu meddyliau pobl Dduw?

7 Sylwa ar yr ail addewid a gofnodwyd gan Eseia: “Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di!” Beth mae hyn yn ei olygu? Yn yr iaith wreiddiol, mae’r gair “dychryn” yn cynnwys y syniad fod person yn gorfod “edrych dros ei ysgwydd drwy’r adeg oherwydd bod ganddo ofn y gallai rhywbeth neu rywun peryglus achosi niwed iddo” neu “ei fod yn mynd i banic fel rhywun sydd mewn sefyllfa beryglus.”

8 Pam dywedodd Jehofa wrth yr Iddewon a fyddai’n cael eu halltudio i Fabilon am beidio â dychryn? Oherwydd roedd yn gwybod y byddai trigolion y genedl honno yn troi’n ofnus. Beth fyddai’n achosi’r ofn hwnnw? Tuag at ddiwedd y gaethglud Iddewig 70-mlynedd, byddai byddinoedd pwerus Medo-Persia yn ymosod ar Fabilon. Byddai Jehofa yn defnyddio’r fyddin honno i ryddhau ei bobl o’u caethiwed ym Mabilon. (Esei. 41:2-4) Pan glywodd y Babiloniaid, a’r bobl o genhedloedd eraill a oedd yn byw ar y pryd, fod eu gelyn yn agosáu, ceision nhw godi hyder ei gilydd drwy ddweud: “Bydda’n ddewr.” Gwnaethon nhw hefyd greu mwy o ddelwau, gan obeithio y byddan nhwthau’n eu hamddiffyn. (Esei. 41:5-7) Yn y cyfamser, tawelodd Jehofa feddyliau’r Iddewon alltud drwy ddweud: “Israel, [yn wahanol i dy gymdogion] ti ydy fy ngwas i . . . Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di!” (Esei. 41:8-10) Sylwa fod Jehofa wedi dweud: ‘Fi ydy dy Dduw di.’ Gyda’r geiriau hynny, calonogodd Jehofa ei weision ffyddlon a’u hatgoffa nad oedd wedi anghofio amdanyn nhw—roedd yn dal yn Dduw iddyn nhw, a’i bobl ef oedden nhw. Dywedodd wrthyn nhw: “Fi sy’n gwneud y cario, a fi sy’n achub.” Yn sicr, gwnaeth y geiriau hynny gryfhau’r Iddewon alltud.—Darllen Eseia 46:3, 4.

9-10. Pam does dim rhaid inni bryderu? Eglura.

9 Nawr yn fwy nag erioed, mae pobl o’n cwmpas yn pryderu oherwydd bod cyflwr y byd yn gwaethygu. Wrth gwrs, mae’r problemau hynny hefyd yn effeithio arnon ni. Ond ni ddylen ni ofni. Mae Jehofa’n dweud wrthyn ni: “Fi ydy dy Dduw di!” Pam mae’r geiriau hynny yn ein helpu i aros yn dawel ein meddwl?

10 Ystyria’r eglureb hon: Mae dau ddyn, Jim a Ben, yn teithio ar awyren sy’n cael ei hysgwyd gan wyntoedd cryf. Wrth i’r awyren gael ei gwthio i fyny ac i lawr, mae llais yn dod drwy’r uchelseinydd ac yn dweud: “Rhowch eich gwregys diogelwch amdanoch. Byddwn ni’n hedfan trwy’r gwyntoedd am beth amser.” Dechreuodd Jim bryderu’n fawr iawn. Ond dyma’r peilot yn ychwanegu: “Peidiwch â phryderu. Eich peilot sy’n siarad.” Mae Jim yn ysgwyd ei ben ac yn dweud: “Pa fath o sicrwydd ydy hynny?” Ond, mae’n sylweddoli nad ydy Ben yn edrych yn bryderus o gwbl. Mae Jim yn gofyn iddo: “Pam dwyt ti ddim wedi cynhyrfu?” Mae Ben yn gwenu ac yn dweud: “Oherwydd dw i’n adnabod y peilot yma’n dda iawn. Fy nhad ydy o!” Wedyn mae Ben yn dweud: “Gad imi sôn am fy nhad. Dw i’n sicr y byddi di’n dawelach dy feddwl ar ôl iti glywed amdano fo a’i alluoedd.”

11. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’r eglureb am y ddau deithiwr?

11 Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’r eglureb hon? Fel Ben, rydyn ninnau’n dawel ein meddwl oherwydd ein bod ni’n adnabod ein Tad nefol, Jehofa, yn dda iawn. Rydyn ni’n gwybod y bydd yn ein harwain yn ddiogel drwy’r problemau mwyaf anodd rydyn ni’n eu hwynebu yn nyddiau olaf y system hon. (Esei. 35:4) Rydyn ni’n dibynnu ar Jehofa, felly gallwn ni aros yn dawel ein meddwl er bod gweddill y byd yn cael ei lethu gan ofn. (Esei. 30:15) Hefyd, rydyn ni’n ymddwyn fel Ben pan fyddwn ni’n rhannu â’n cymdogion y rhesymau dros roi ein hyder yn Nuw. Yna y gallan nhw fod yn sicr y bydd Jehofa yn eu cefnogi dim ots pa anawsterau y byddan nhw’n eu hwynebu.

“DW I’N DY NERTHU DI AC YN DY HELPU DI”

12. (a) Beth ydy’r trydydd addewid y byddwn ni’n ei drafod? (b) Beth mae cyfeirio at “fraich” Jehofa yn ein hatgoffa ohono?

12 Ystyria’r trydydd addewid gwnaeth Eseia ei gofnodi: “Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di.” Roedd Eseia eisoes wedi disgrifio sut byddai Jehofa yn cryfhau ei bobl drwy ddweud: “Wele’r ARGLWYDD Dduw yn dod mewn nerth, yn rheoli â’i fraich.” (Esei. 40:10, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae’r Beibl yn aml yn defnyddio’r gair braich mewn ffordd symbolaidd i gynrychioli nerth. Felly, mae’r syniad o Jehofa “yn rheoli â’i fraich” yn ein hatgoffa mai Brenin nerthol ydy Jehofa. Defnyddiodd ei nerth i gefnogi ac amddiffyn ei weision yn y gorffennol, ac mae’n parhau i gryfhau ac amddiffyn y rhai sy’n ymddiried ynddo heddiw.—Deut. 1:30, 31; Esei. 43:10, BCND.

Ni fydd unrhyw arf yn llwyddo yn erbyn braich gref Jehofa sy’n ein hamddiffyn (Gweler paragraffau 12-16) *

13. (a) O dan ba amgylchiadau mae Jehofa yn cadw ei addewid i’n nerthu ni? (b) Pa warant sy’n rhoi cryfder a hyder inni?

13 Yn enwedig pan fydd ein gelynion yn ein herlid, mae Jehofa yn cadw ei addewid: “Dw i’n dy nerthu di.” Mewn rhai rhannau o’r byd heddiw, mae ein gelynion yn ceisio stopio ein gwaith pregethu neu wahardd ein cyfundrefn. Er hynny, dydyn ni ddim yn pryderu’n ormodol am ymosodiadau o’r fath. Mae Jehofa wedi rhoi gwarant inni sy’n rhoi cryfder a hyder inni. Mae’n addo: “Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo.” (Esei. 54:17) Mae’r geiriau hynny’n ein hatgoffa o dair ffaith bwysig.

14. Pam dydyn ni ddim yn synnu bod gelynion Duw yn ymosod arnon ni?

14 Yn gyntaf, fel dilynwyr Crist, rydyn ni’n disgwyl i bobl ein casáu. (Math. 10:22) Rhagfynegodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu herlid yn llym yn ystod y dyddiau diwethaf. (Math. 24:9; Ioan 15:20) Yn ail, mae proffwydoliaeth Eseia yn ein rhybuddio y bydd ein gelynion yn gwneud mwy na’n casáu ni; byddan nhw’n defnyddio gwahanol arfau yn ein herbyn. Mae’r arfau hynny’n cynnwys twyll cyfrwys, celwydd noeth, ac erledigaeth ffyrnig. (Math. 5:11) Fydd Jehofa ddim yn stopio ein gelynion rhag defnyddio’r arfau hynny i frwydro yn ein herbyn. (Eff. 6:12; Dat. 12:17) Ond does dim rhaid inni bryderu. Pam?

15-16. (a) Beth ydy’r drydedd ffaith sy’n rhaid inni ei chofio, a sut mae Eseia 25:4, 5 yn cefnogi hyn? (b) Sut mae Eseia 41:11, 12 yn disgrifio’r canlyniadau i’r rhai sy’n brwydro yn ein herbyn?

15 Ystyria’r drydedd ffaith sy’n rhaid inni ei chofio. Dywedodd Jehofa ‘fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo.’ Fel mae wal yn ein hamddiffyn ni rhag grym dinistriol storm o law, mae Jehofa yn ein hamddiffyn ni rhag “pobl greulon.” (Darllen Eseia 25:4, 5.) Fydd ein gelynion byth yn llwyddo i achosi unrhyw niwed parhaol inni.—Esei. 65:17.

16 Ar ben hynny, mae Jehofa yn cryfhau ein hyder ynddo drwy ddisgrifio’n fanwl beth fydd yn digwydd i’r rhai “sy’n codi” yn ein herbyn ni. (Darllen Eseia 41:11, 12.) Dim ots pa mor frwd y bydd ein gelynion yn brwydro yn ein herbyn na pha mor ffyrnig fydd y rhyfel, bydd y canlyniad yr un fath: Bydd pob un o elynion Duw yn “diflannu ac yn marw.”

SUT I YMDDIRIED YN FWY YN JEHOFA

Gallwn ymddiried yn fwy yn Jehofa drwy ddarllen amdano yn y Beibl yn rheolaidd (Gweler paragraffau 17-18) *

17-18. (a) Sut gall darllen y Beibl ein helpu i ymddiried yn fwy yn Nuw? Rho esiampl. (b) Sut gall myfyrio ar destun y flwyddyn ar gyfer 2019 ein helpu?

17 Rydyn ni’n gallu ymddiried yn fwy yn Jehofa drwy ddod i’w adnabod yn well. A’r unig ffordd y gallwn ni ddod i adnabod Duw yn dda ydy darllen y Beibl yn ofalus ac yna myfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Mae’r Beibl yn cynnwys cofnod dibynadwy o sut gwnaeth Jehofa amddiffyn ei bobl yn y gorffennol. Mae’r cofnod hwnnw’n rhoi hyder inni y bydd ef yn gofalu amdanon ni nawr.

18 Ystyria’r eglureb gwnaeth Eseia ei defnyddio i ddangos sut mae Jehofa yn ein hamddiffyn. Mae’n cyfeirio at Jehofa fel bugail ac at weision Duw fel ŵyn. Mae Eseia’n dweud am Jehofa: “Bydd yn codi’r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl.” (Esei. 40:11) Pan ydyn ni’n teimlo breichiau cryf Jehofa o’n cwmpas ni, rydyn ni’n teimlo’n ddiogel ac yn dawel ein meddwl. Er mwyn ein helpu i aros yn dawel ein meddwl er gwaetha’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu, mae’r gwas ffyddlon a chall wedi dewis Eseia 41:10 fel testun y flwyddyn ar gyfer 2019, Paid â phryderu, gan mai fi yw dy Dduw di. Myfyria ar y geiriau calonogol hyn. Byddan nhw’n dy gryfhau di wrth iti wynebu’r heriau sydd i ddod.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

^ Par. 5 Mae testun y flwyddyn ar gyfer 2019 yn rhoi tri rheswm pam y gallwn ni gael tawelwch meddwl hyd yn oed pan fydd pethau drwg yn digwydd yn y byd neu yn ein bywydau personol. Bydd yr erthygl hon yn edrych yn fanwl ar y rhesymau hynny ac yn ein helpu i deimlo’n llai pryderus ac yn fwy tebygol o ddibynnu ar Jehofa. Myfyria ar destun y flwyddyn. Ceisia ei ddysgu ar gof. Bydd yn dy gryfhau di ar gyfer yr heriau sydd o dy flaen di.

^ Par. 3 ESBONIAD: Datganiad sy’n wir ydy addewid ynglŷn â rhywbeth sy’n sicr o ddigwydd. Mae’r addewidion mae Jehofa’n eu rhoi yn gwneud inni deimlo’n llai pryderus am broblemau a all godi yn ein bywydau.

^ Par. 4 Mae’r ymadrodd “Paid bod ag ofn” yn ymddangos dair gwaith yn Eseia 41:10, 13, ac 14. Mae’r un adnodau yn defnyddio’r geiriau “Dw i” yn aml (sy’n cyfeirio at Jehofa). Pam gwnaeth Jehofa ysbrydoli Eseia i ddweud “Dw i” mor aml? Er mwyn pwysleisio ffaith bwysig—yr unig ffordd o dawelu ein hofnau ydy dibynnu ar Jehofa.

^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Aelodau teulu yn wynebu treialon yn y gwaith, ynglŷn â’u hiechyd, yn y weinidogaeth, ac yn yr ysgol.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yr heddlu yn tarfu ar un o gyfarfodydd y Tystion, ond dydy’r brodyr a’r chwiorydd ddim yn mynd i banic.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Addoliad Teuluol rheolaidd yn ein cryfhau ni i ddal ati.