Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

Sut Gelli Di Warchod Dy Galon?

Sut Gelli Di Warchod Dy Galon?

“Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall.”—DIAR. 4:23.

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

CIPOLWG *

1-3. (a) Pam roedd Jehofa’n caru Solomon, a pha fendithion gafodd Solomon? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

DAETH Solomon yn frenin ar Israel pan oedd yn ddyn ifanc. Yn gynnar yn ei deyrnasiad, ymddangosodd Jehofa iddo mewn breuddwyd a dweud: “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.” Atebodd Solomon: “A minnau’n llanc ifanc, dibrofiad. . . . Felly rho i’th was galon ddeallus i farnu dy bobl.” (1 Bren. 3:5-10, BCND) Cais gostyngedig iawn oedd gofyn am “galon ddeallus,” rhywbeth a fyddai’n ei helpu i fod yn ufudd! Does dim syndod fod Jehofa’n caru Solomon! (2 Sam. 12:24) Roedd Duw mor hapus gydag ateb y brenin ifanc fel ei fod yn rhoi iddo “galon ddoeth a deallus.”—1 Bren. 3:12.

2 Tra oedd Solomon yn ffyddlon, cafodd ef lawer o fendithion. Cafodd y fraint o adeiladu teml “i anrhydeddu’r ARGLWYDD, Duw Israel.” (1 Bren. 8:20) Daeth yn enwog am ei ddoethineb roedd Duw wedi ei roi iddo. Ac mae’r pethau gwnaeth Solomon eu dweud o dan ysbrydoliaeth Duw wedi eu cofnodi mewn tri llyfr yn y Beibl. Un o’r rhain ydy llyfr y Diarhebion.

3 Mae’r galon yn cael ei chrybwyll lawer iawn o weithiau yn llyfr Diarhebion. Er enghraifft, yn Diarhebion 4:23, rydyn ni’n darllen: “Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall.” Yn yr adnod hon, beth mae’r gair calon yn cyfeirio ato? Byddwn ni’n ateb y cwestiwn hwnnw yn yr erthygl hon. Byddwn ni hefyd yn trafod yr atebion i ddau gwestiwn arall: Sut mae Satan yn ceisio llygru ein calon? A beth allwn ni ei wneud i warchod ein calon? Er mwyn aros yn ffyddlon i Dduw, mae angen inni ddeall yr atebion i’r cwestiynau pwysig hynny.

BETH YDY “DY GALON”?

4-5. (a) Sut mae Salm 51:6 yn ein helpu ni i ddeall beth mae’r gair calon yn cyfeirio ato? (b) Sut mae ein hiechyd corfforol yn dangos pwysigrwydd y person mewnol?

4 Yn Diarhebion 4:23, mae’r gair calon yn cyfeirio at “y person mewnol” neu’r “person cudd.” (Darllen Salm 51:6, BCND.) Mewn geiriau eraill, mae’r gair calon yn cyfeirio at ein meddyliau, teimladau, cymhellion, a dymuniadau personol. Mae’n golygu’r person rydyn ni ar y tu mewn, nid y person allanol yn unig.

5 Ystyria sut mae ein hiechyd corfforol yn dangos pwysigrwydd y person mewnol. Yn gyntaf, i’n cadw ein hunain yn iach ar y tu mewn, mae’n rhaid inni ddewis deiet iachus, ac mae’n rhaid inni wneud ymarfer corff rheolaidd. Yn yr un modd, i’n cadw ein hunain yn iach yn ysbrydol, mae’n rhaid inni ddewis deiet o fwyd ysbrydol iachus ac ymarfer ein ffydd yn Jehofa yn rheolaidd. Mae’r fath hon o ymarfer yn golygu rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu a siarad am ein ffydd. (Rhuf. 10:8-10; Iago 2:26) Yn ail, ar sail ein gwedd allanol, gallwn dybio ein bod ni’n iach er bod gennyn ni afiechyd ar y tu mewn. Mewn ffordd debyg, ar sail ein harferion theocrataidd, gallwn dybio bod ein ffydd yn gryf, ond efallai bod chwantau drwg yn tyfu y tu mewn inni. (1 Cor. 10:12; Iago 1:14, 15) Rhaid inni gofio bod Satan eisiau ein llygru gyda’i feddyliau ef. Sut yn benodol y bydd yn ceisio gwneud hynny? A sut gallwn ni ein hamddiffyn ein hunain?

SUT MAE SATAN YN CEISIO LLYGRU EIN CALON?

6. Beth ydy nod Satan, a sut mae’n ceisio ei gyrraedd?

6 Mae Satan eisiau inni fod yn union fel ef—gwrthryfelwr sy’n anwybyddu safonau Jehofa ac sy’n cael ei gymell gan hunanoldeb. Dydy Satan ddim yn gallu ein gorfodi i resymu nac ymddwyn fel y mae yntau. Felly mae’n ceisio cyrraedd ei nod mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae’n ein hamgylchynu ni gyda phobl sydd wedi cael eu llygru ganddo yn barod. (1 Ioan 5:19) Mae’n gobeithio y byddwn ni’n dewis treulio amser gyda nhw, er ein bod ni’n gwybod bod cymdeithasu drwg yn “llygru” y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. (1 Cor. 15:33) Gweithiodd y dacteg honno yn achos y Brenin Solomon. Priododd lawer o ferched paganaidd, a dyma nhw yn y pen draw yn dylanwadu’n fawr arno a’i “arwain ar gyfeiliorn” i ffwrdd oddi wrth Jehofa.—1 Bren. 11:3.

Sut gelli di warchod dy galon rhag ymdrechion Satan i’w llygru â’i feddyliau ef? (Gweler paragraff 7) *

7. Beth arall mae Satan yn ei ddefnyddio i ledaenu ei ffordd o feddwl, a pham mae’n rhaid inni fod yn ofalus?

7 Mae Satan yn defnyddio ffilmiau a rhaglenni teledu i ledaenu ei ffordd o feddwl. Mae’n deall bod straeon yn gallu bod yn llawer mwy nag adloniant yn unig; maen nhw’n ein dysgu ni sut i feddwl, teimlo, ac ymddwyn. Roedd Iesu yn defnyddio’r dull hwn o ddysgu. Meddylia er enghraifft am ei ddamhegion am y Samariad trugarog ac am y mab a wnaeth adael ei gartref a gwastraffu ei etifeddiaeth. (Math. 13:34; Luc 10:29-37; 15:11-32) Ond, mae’r rhai sydd wedi cael eu llygru gan feddyliau Satan yn gallu defnyddio straeon i’n llygru ninnau. Mae’n rhaid inni fod yn gytbwys. Gall ffilmiau a rhaglenni teledu ein diddori heb ein llygru. Ond mae angen inni fod yn ofalus. Wrth ddewis adloniant, peth da fyddai gofyn i ni’n hunain, ‘Ydy’r ffilm neu’r rhaglen hon yn fy nysgu ei bod hi’n iawn imi ildio i fy chwantau cnawdol?’ (Gal. 5:19-21; Eff. 2:1-3) Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n synhwyro bod rhaglen yn hyrwyddo meddylfryd satanaidd? Osgoi’r peth fel petai’n afiechyd heintus!

8. Sut gall rhieni helpu eu plant i warchod eu calonnau?

8 Rieni, mae gennych chi gyfrifoldeb arbennig i warchod eich plant rhag ymdrechion Satan i lygru eu calonnau. Wrth gwrs, rwyt ti’n gwneud popeth a elli di i warchod dy blant rhag afiechydon llythrennol. Rwyt ti’n cadw dy gartref yn lân, ac rwyt ti’n taflu allan unrhyw beth a all achosi i ti neu dy blant fynd yn sâl. Yn yr un ffordd, mae angen iti warchod dy blant rhag ffilmiau, rhaglenni teledu, gemau electronig, a gwefannau sy’n debygol o’u llygru gyda meddylfryd Satan. Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb o ofalu am iechyd ysbrydol dy blant i ti. (Diar. 1:8; Eff. 6:1, 4) Felly, paid â dal yn ôl rhag gosod rheolau yn y teulu sy’n seiliedig ar egwyddorion y Beibl. Dyweda wrth dy blant beth maen nhw’n cael ei wylio a beth dydyn nhw ddim yn cael ei wylio, a helpa nhw i ddeall y rhesymau dros dy benderfyniad. (Math. 5:37) Wrth i dy blant dyfu i fyny, hyffordda nhw i weithio allan ar eu pennau eu hunain beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg yn ôl safonau Jehofa. (Heb. 5:14) A chofia, bydd dy blant yn dysgu llawer o’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ond yn fwy byth o’r hyn rwyt ti’n ei wneud.—Deut. 6:6, 7; Rhuf. 2:21.

9. Beth ydy un syniad sy’n cael ei hyrwyddo gan Satan, a pham mae’n beryglus?

9 Mae Satan yn ceisio llygru ein calon drwy wneud inni ddibynnu ar ddoethineb dynol yn hytrach nag ar feddyliau Jehofa. (Col. 2:8) Ystyria un syniad sy’n cael ei hyrwyddo gan Satan—dylai ceisio cyfoeth fod y peth pwysicaf yn ein bywydau. Efallai bydd y bobl sy’n meddwl fel hyn yn dod yn gyfoethog, ond efallai ddim. Beth bynnag ydy’r canlyniad, maen nhw mewn perygl. Pam? Oherwydd gallan nhw ddechrau canolbwyntio cymaint ar wneud arian fel eu bod nhw’n aberthu eu hiechyd, eu perthynas gyda’r teulu, a hyd yn oed eu cyfeillgarwch â Duw er mwyn cyrraedd eu nod. (1 Tim. 6:10) Gallwn fod yn ddiolchgar bod ein Tad nefol doeth yn ein helpu ni i gael agwedd gytbwys tuag at arian.—Preg. 7:12; Luc 12:15.

SUT GALLWN NI WARCHOD EIN CALON?

Fel gwylwyr a phorthorion gynt, arhosa’n effro a gweithreda fel nad ydy dylanwadau drwg yn mynd i mewn i dy galon (Gweler paragraffau 10-11) *

10-11. (a) Beth sy’n rhaid inni ei wneud i’n gwarchod ein hunain? (b) Beth oedd gwaith y gwyliwr yn adeg y Beibl, a sut gall ein cydwybod fod fel gwyliwr i ni?

10 Os ydyn ni am lwyddo i warchod ein calon, mae’n rhaid inni fedru adnabod peryglon a gweithredu’n gyflym i’n gwarchod ein hunain. Mae’r gair “gwarchod” yn Diarhebion 4:23 yn ein hatgoffa o waith y gwyliwr. Yn nyddiau’r Brenin Solomon, roedd gwylwyr yn sefyll ar waliau dinasoedd ac yn seinio rhybudd petaen nhw’n gweld peryg yn agosáu. Mae’r ddelwedd honno yn ein helpu i ddeall beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn stopio Satan rhag llygru ein meddyliau.

11 Yn adeg y Beibl, roedd y gwylwyr yn gweithio’n agos â’r porthorion yn y ddinas. (2 Sam. 18:24-26) Gyda’i gilydd, roedden nhw’n helpu i warchod y ddinas drwy sicrhau bod y giatiau ar gau bob tro roedd gelyn yn agos. (Neh. 7:1-3) Gall ein cydwybod * sydd wedi ei hyfforddi yn ôl y Beibl weithio fel gwyliwr inni a’n rhybuddio pan fydd Satan yn ceisio gorchfygu ein calon—mewn geiriau eraill, pan fydd yn ceisio dylanwadu ar ein meddyliau, teimladau, cymhellion, neu fwriadau. Bryd bynnag y bydd ein cydwybod yn seinio rhybudd, mae angen inni wrando a chau’r giât, fel petai.

12-13. Beth efallai cawn ni ein temtio i’w wneud, ond sut dylen ni ymateb?

12 Ystyria esiampl o sut gallwn ni ein gwarchod ein hunain rhag dylanwad meddyliau Satan. Mae Jehofa wedi ein dysgu na “ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith!” (Eff. 5:3) Ond beth wnawn ni os ydy ein cyd-weithwyr neu ein cyd-ddisgyblion yn dechrau siarad am bynciau sy’n anfoesol yn rhywiol? Rydyn ni’n gwybod y dylen ni “ddweud ‘na’ wrth ein pechod a’n chwantau bydol.” (Titus 2:12) Efallai bydd ein gwyliwr, ein cydwybod, yn seinio rhybudd. (Rhuf. 2:15) Ond a fyddwn ni’n gwrando arno? Efallai cawn ni ein temtio i wrando ar ein cyfoedion neu i edrych ar luniau maen nhw’n eu rhannu. Ond, dyma’r amser i gau giatiau’r ddinas, fel petai, drwy newid pwnc y sgwrs neu drwy gerdded i ffwrdd.

13 Mae’n gofyn am ddewrder i wrthod pwysau gan ein cyfoedion i feddwl am neu i wneud pethau drwg. Gallwn fod yn sicr bod Jehofa yn gweld yr ymdrech rydyn ni’n ei gwneud, ac fe fydd yn rhoi’r nerth a’r doethineb inni i wrthod meddyliau satanaidd. (2 Cron. 16:9; Esei. 40:29; Iago 1:5) Ond, sut gallwn ni barhau i wneud ein rhan ni i warchod ein calon?

AROS YN EFFRO

14-15. (a) Beth sy’n rhaid inni agor ein calonnau iddo, a sut gallwn ni wneud hyn? (b) Sut mae Diarhebion 4:20-22 yn ein helpu i gael y gorau allan o ddarllen y Beibl? (Gweler y blwch “ Sut i Fyfyrio.”)

14 Er mwyn gwarchod ein calon, mae’n rhaid inni, nid yn unig ei chau i ddylanwadau drwg, ond hefyd ei hagor i ddylanwadau da. Meddylia eto am yr eglureb am waliau’r ddinas. Roedd y porthorion yn cau giatiau’r ddinas i stopio’r gelynion rhag dod i mewn, ond ar adegau eraill roedd yn agor y giatiau i adael i fwyd a phethau eraill ddod i mewn. Os nad oedd y giatiau byth ar agor, byddai’r dinasyddion yn llwgu. Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid inni agor ein calon yn rheolaidd i ddylanwad meddyliau Duw.

15 Mae’r Beibl yn cynnwys meddyliau Jehofa, felly bob tro rydyn ni’n ei ddarllen, rydyn ni’n caniatáu i feddyliau Jehofa effeithio ar y ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo, ac yn ymddwyn. Sut gallwn ni gael y gorau allan o ddarllen y Beibl? Mae gweddïo’n hanfodol. Mae un chwaer Gristnogol yn dweud: “Cyn imi ddarllen y Beibl, rydw i’n gweddïo ar Jehofa, ac yn gofyn iddo fy helpu i weld ‘y pethau rhyfeddol’ sydd yn ei Air.” (Salm 119:18) Hefyd, mae’n rhaid inni fyfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddarllen. Pan fyddi di’n gweddïo, yn darllen, ac yn myfyrio, bydd Gair Duw yn treiddio yn “agos at dy galon,” a byddi di’n dod i garu meddyliau Jehofa.—Darllen Diarhebion 4:20-22; Salm 119:97.

16. Sut mae llawer o bobl wedi elwa ar wylio JW Broadcasting?

16 Ffordd arall o adael i feddyliau Duw ddylanwadu arnon ni ydy gwylio’r hyn sydd ar gael ar JW Broadcasting®. Mae un cwpl yn dweud: “Mae’r rhaglen fisol yn wir wedi ateb ein gweddïau! Maen nhw wedi ein cryfhau ni a’n codi ni pan oedden ni’n teimlo’n isel neu’n unig. Ac mae’r caneuon gwreiddiol yn aml yn cael eu chwarae yn ein tŷ ni. Rydyn ni’n eu chwarae wrth inni goginio, glanhau, neu gael paned.” Mae’r rhaglenni hynny yn ein helpu i warchod ein calonnau. Maen nhw’n ein dysgu i feddwl yn yr un ffordd â Jehofa ac i wrthod y pwysau i feddwl fel Satan.

17-18. (a) Beth sy’n digwydd pan ydyn ni’n rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth Jehofa, fel y gwelwn yn 1 Brenhinoedd 8:61? (b) Beth allwn ni ei ddysgu o esiampl y Brenin Heseceia? (c) Yn unol â gweddi Dafydd yn Salm 139:23, 24, beth gallwn ni weddïo amdano?

17 Bob tro rydyn ni’n gweld y buddion o wneud yr hyn sy’n iawn, mae ein ffydd yn cryfhau. (Iago 1:2, 3) Rydyn ni’n teimlo’n dda oherwydd ein bod ni wedi gwneud Jehofa’n falch o’n galw ni’n blentyn iddo, ac mae ein dymuniad i’w blesio yn cryfhau. (Diar. 27:11) Mae pob prawf yn troi’n gyfle i ddangos dydyn ni ddim yn ddauwynebog ynglŷn â gwasanaethu ein Tad cariadus. (Salm 119:113) Yn hytrach, rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru Jehofa a’n holl galon, un sy’n hollol benderfynol o ufuddhau i’w orchmynion ac i wneud ei ewyllys.—Darllen 1 Brenhinoedd 8:61.

18 A fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau? Byddwn; rydyn ni’n amherffaith. Os ydyn ni’n baglu, cofia esiampl y Brenin Heseceia. Gwnaeth ef gamgymeriadau. Ond fe wnaeth edifarhau a dal ati i wasanaethu Jehofa â “chalon berffaith.” (Esei. 38:3-6, BCND; 2 Cron. 29:1, 2; 32:25, 26) Felly, gad inni wrthod ymdrechion Satan i’n llygru â’i feddyliau ef. Gad inni weddïo am inni feithrin calon ddeallus. (1 Bren. 3:9, BCND; darllen Salm 139:23, 24.) Gallwn aros yn ffyddlon i Jehofa os ydyn ni’n gwarchod ein calon o flaen popeth arall.

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

^ Par. 5 A fyddwn ni’n aros yn ffyddlon i Jehofa, neu a fyddwn ni’n gadael i Satan ein denu oddi wrth ein Duw? Mae’r ateb yn dibynnu, nid ar ba mor ddifrifol ydy ein profion, ond ar ba mor dda rydyn ni’n gwarchod ein calon. Beth mae’r gair “calon” yn ei olygu? Sut mae Satan yn ceisio llygru ein calon? A sut gallwn ni ei gwarchod? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau pwysig hynny.

^ Par. 11 ESBONIAD: Rhoddodd Jehofa y gallu inni i edrych ar ein meddyliau, ein teimladau, a’n gweithredoedd ein hunain ac yna ein barnu ein hunain. Yn ôl y Beibl, y gydwybod ydy’r gallu hwnnw. (Rhuf. 2:15; 9:1) Mae cydwybod sydd wedi ei hyfforddi gan y Beibl yn defnyddio safonau Jehofa, sy’n cael eu hegluro yn y Beibl, i farnu a ydy’r hyn rydyn ni’n ei feddwl, yn ei wneud, neu’n ei ddweud yn dda neu’n ddrwg.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd sydd wedi ei fedyddio yn gwylio teledu ac mae golygfa anfoesol yn codi ar y sgrin. Mae’n rhaid iddo benderfynu beth i’w wneud nesaf.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwyliwr yn adeg y Beibl yn gweld peryg y tu allan i’r ddinas. Mae’n galw i’r porthorion, ac maen nhw’n ymateb yn syth drwy gau giatiau’r ddinas a’u cloi o’r tu mewn.