Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 4

Beth Mae Swper Syml yn Ein Dysgu Ni am Frenin Nefol?

Beth Mae Swper Syml yn Ein Dysgu Ni am Frenin Nefol?

“Dyma fy nghorff i. . . . Dyma fy ngwaed sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl.”—MATH. 26:26-28.

CÂN 16 Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog

CIPOLWG *

1-2. (a) Pam gallwn ddisgwyl y byddai Iesu yn rhoi inni ffordd syml o goffáu ei farwolaeth? (b) Pa rinweddau sydd gan Iesu y byddwn ni’n eu hystyried?

WYT ti’n gallu disgrifio beth sy’n digwydd yng Nghoffadwriaeth flynyddol marwolaeth Crist? Mae’n debyg fod y rhan fwyaf ohonon ni yn gallu cofio manylion sylfaenol Swper yr Arglwydd. Pam? Gan fod y swper hwn mor syml. Ond, mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn. Felly gallwn ofyn, ‘Pam mae’r trefniant hwn mor syml?’

2 Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, roedd Iesu’n adnabyddus am ddysgu gwirioneddau pwysig mewn ffordd syml, clir, a hawdd ei deall. (Math. 7:28, 29) Yn yr un modd, mae wedi paratoi ffordd syml ond eto arwyddocaol inni goffáu * ei farwolaeth. Gad inni edrych yn fanwl ar Swper yr Arglwydd a rhai o’r pethau a ddywedodd ac a wnaeth Iesu. Byddwn yn deall yn fwy byth pa mor ostyngedig, dewr, a chariadus yw Iesu, a byddwn yn dysgu sut gallwn ei efelychu yn well.

MAE IESU’N OSTYNGEDIG

Mae bara a gwin y Goffadwriaeth yn ein hatgoffa bod Iesu wedi marw droson ni a’i fod yn rheoli fel Brenin yn y nefoedd heddiw (Gweler paragraffau 3-5)

3. Fel mae Mathew 26:26-28 yn dweud, pa mor syml oedd y Goffadwriaeth a sefydlodd Iesu, a beth oedd y ddau eitem sylfaenol yn ei gynrychioli?

3 Gwnaeth Iesu gyflwyno Coffadwriaeth ei farwolaeth yng nghwmni ei 11 apostol ffyddlon. Cymerodd beth oedd yn weddill ar ôl pryd o fwyd y Pasg er mwyn sefydlu’r trefniant syml hwn. (Darllen Mathew 26:26-28.) Defnyddiodd ddim ond y bara croyw a’r gwin oedd yno yn barod. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion fod y ddau beth sylfaenol hynny yn cynrychioli ei gorff a’i waed perffaith, a fyddai’n cael eu haberthu ganddo drostyn nhw. Efallai doedd yr apostolion ddim yn synnu ar ba mor syml oedd y trefniant newydd hwn. Pam ddim?

4. Sut mae’r cyngor a roddodd Iesu i Martha yn ein helpu i ddeall pam gwnaeth Iesu gadw’r Goffadwriaeth mor syml?

4 Ystyria beth ddigwyddodd misoedd yn gynharach, yn ystod trydedd flwyddyn gweinidogaeth Iesu, pan aeth i dŷ ei ffrindiau agos—Lasarus, Martha, a Mair. Yn y sefyllfa hamddenol hon, dechreuodd Iesu ddysgu. Roedd Martha yn bresennol, ond roedd paratoi pryd o fwyd mawr ar gyfer ei hymwelydd arbennig yn tynnu ei sylw. Pan welodd Iesu hyn, cywirodd Martha yn garedig, gan ei helpu hi i ddeall dydy pryd o fwyd cymhleth ddim wastad yn angenrheidiol. (Luc 10:40-42) Yn hwyrach ymlaen, dim ond ychydig o oriau cyn ei farwolaeth aberthol, rhoddodd Iesu ei gyngor ei hun ar waith. Fe gadwodd y Goffadwriaeth yn syml. Beth mae hyn yn ein dysgu am Iesu?

5. Beth mae’r pryd o fwyd syml hwn yn ein dysgu am Iesu, a sut mae hyn yn cyd-fynd â Philipiaid 2:5-8?

5 Ym mhopeth a ddywedodd ac a wnaeth Iesu, roedd yn ostyngedig. Nid yw’n syndod felly fod Iesu wedi dangos gostyngeiddrwydd yn ystod ei noson olaf ar y ddaear. (Math. 11:29) Roedd ef yn gwybod ei fod ar fin rhoi’r aberth mwyaf yn hanes dyn ac y byddai Jehofa yn ei atgyfodi i fod yn frenin yn y nefoedd. Er hynny, nid oedd yn tynnu gormod o sylw ato’i hun drwy fynnu defod gymhleth o’i farwolaeth. Yn lle hynny, dywedodd wrth ei ddisgyblion i’w gofio ef bob blwyddyn drwy gyfrwng y pryd o fwyd syml hwn. (Ioan 13:15; 1 Cor. 11:23-25) Mae’r swper syml a phriodol yn dangos doedd Iesu ddim yn berson balch. Gallwn fod yn hapus mai gostyngeiddrwydd yw un o rinweddau mwyaf nodedig ein Brenin nefol.—Darllen Philipiaid 2:5-8.

6. Sut gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd Iesu wrth inni wynebu treialon?

6 Sut gallwn efelychu gostyngeiddrwydd Iesu? Drwy roi anghenion pobl eraill o flaen ein hanghenion ein hunain. (Phil. 2:3, 4) Meddylia yn ôl i noson olaf Iesu ar y ddaear. Roedd Iesu’n gwybod y byddai’n marw mewn ffordd boenus; ond eto, roedd ganddo gonsýrn dwfn dros ei apostolion ffyddlon, a fyddai’n galaru drosto yn fuan wedyn. Felly treuliodd ei noson olaf yn eu hyfforddi, eu hannog, a’u cysuro. (Ioan 14:25-31) Drwy ei ostyngeiddrwydd, rhoddodd Iesu anghenion pobl eraill o flaen ei anghenion ei hun. Dyna esiampl wych inni!

MAE IESU’N DDEWR

7. Sut dangosodd Iesu ddewrder yn fuan ar ôl iddo sefydlu Swper yr Arglwydd?

7 Yn fuan ar ôl i Iesu sefydlu Swper yr Arglwydd, dangosodd ddewrder aruthrol. Sut felly? Gwnaeth Iesu yr hyn roedd ei Dad eisiau iddo ei wneud, er ei fod yn gwybod bod gwneud hynny yn golygu y byddai’n cael ei gyhuddo o gablu a’i ddienyddio mewn ffordd sarhaus. (Math. 26:65, 66; Luc 22:41, 42) Arhosodd Iesu yn hollol ffyddlon er mwyn anrhydeddu enw Jehofa, cefnogi sofraniaeth Duw, a’i gwneud hi’n bosib i bobl edifar fyw am byth. Ar yr un pryd, gwnaeth Iesu baratoi ei ddilynwyr ar gyfer beth fydden nhw’n ei wynebu cyn bo hir.

8. (a) Beth ddywedodd Iesu wrth ei apostolion ffyddlon? (b) Yn y blynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, sut gwnaeth disgyblion Iesu ddilyn ei esiampl o ddewrder?

8 Gwnaeth Iesu hefyd ddangos dewrder drwy roi heibio unrhyw bryderon oedd ganddo a thrwy ganolbwyntio ar anghenion ei apostolion ffyddlon. Byddai’r pryd o fwyd syml, a sefydlodd Iesu ar ôl iddo anfon Jwdas i ffwrdd, yn atgoffa’r rhai a fyddai’n dod yn ddilynwyr eneiniog o fuddion gwaed Iesu a buddion bod nhw’n rhan o’r cyfamod newydd. (1 Cor. 10:16, 17) Er mwyn eu helpu i aros yn ffyddlon a bod gyda Iesu yn y nefoedd, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr beth oedd ef a’i Dad yn ei ddisgwyl ganddyn nhw. (Ioan 15:12-15) Hefyd, soniodd wrth yr apostolion am y treialon y bydden nhw’n eu hwynebu. Yna, gan eu hannog i ddilyn ei esiampl ef, gwnaeth eu cymell nhw: “Codwch eich calonnau.” (Ioan 16:1-4a, 33) Flynyddoedd wedyn, roedd disgyblion Iesu yn dal yn efelychu ei esiampl hunanaberthol ac yn dangos dewrder. Er bod rhaid iddyn nhw ddioddef, gwnaethon nhw gefnogi ei gilydd drwy eu gwahanol dreialon.—Heb. 10:33, 34.

9. Sut gallwn ni efelychu Iesu drwy ddangos dewrder?

9 Yn yr un modd heddiw, rydyn ni’n dilyn esiampl Iesu o ddangos dewrder. Er enghraifft, mae’n gofyn am ddewrder i helpu ein brodyr sy’n cael eu herlid oherwydd eu ffydd. Ar adegau, efallai bydd ein brodyr yn cael eu carcharu am resymau annheg. Pan fydd hynny’n digwydd, rhaid inni wneud popeth a fedrwn ni ar eu cyfer, gan gynnwys siarad ar eu rhan. (Phil. 1:14; Heb. 13:19) Ffordd arall rydyn ni’n dangos dewrder yw trwy barhau i bregethu “yn gwbl ddi-ofn.” (Act. 14:3) Fel Iesu, rydyn ni’n benderfynol o bregethu neges y Deyrnas, er efallai bydd pobl yn ein gwrthwynebu neu’n ein herlid. Ond ar adegau, efallai bydd gennyn ni ddiffyg dewrder. Beth allwn ni ei wneud?

10. Yn yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, beth ddylen ni ei wneud, a pham?

10 Gallwn gryfhau ein dewrder drwy feddwl am y gobaith sy’n bosib oherwydd aberth pridwerthol Crist. (Ioan 3:16; Eff. 1:7) Yn yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, mae gennyn ni gyfle arbennig i gryfhau ein gwerthfawrogiad am y pridwerth. Yn ystod yr adeg honno, ceisia ddilyn darlleniad Beiblaidd y Goffadwriaeth gan weddïo a myfyrio ar beth ddigwyddodd adeg marwolaeth Iesu. Yna wrth inni ddod at ein gilydd am Swper yr Arglwydd, byddwn yn deall pwysigrwydd elfennau’r Goffadwriaeth yn well a’r aberth unigryw maen nhw’n ei gynrychioli. Pan ydyn ni’n gwerthfawrogi beth mae Iesu a Jehofa wedi ei wneud droson ni ac yn deall sut mae hyn o fudd inni a’n hanwyliaid, mae ein gobaith yn cryfhau, ac rydyn ni’n cael ein hysgogi i ddal ati’n ddewr hyd y diwedd.—Heb. 12:3.

11-12. Beth ydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn?

11 Hyd yn hyn rydyn ni wedi dysgu sut mae Swper yr Arglwydd yn ein hatgoffa o’r pridwerth arbennig ac o rai o rinweddau nodedig Iesu, sef gostyngeiddrwydd a dewrder. Rydyn ni mor ddiolchgar fod Iesu’n parhau i ddangos y rhinweddau hyn fel ein Harchoffeiriad yn y nefoedd, sy’n pledio ar ein rhan! (Heb. 7:24, 25) I ddangos ein bod ni wir yn ddiolchgar, rhaid inni goffáu marwolaeth Iesu yn ffyddlon, yn ôl ei orchymyn. (Luc 22:19, 20) Rydyn ni’n gwneud hyn ar y diwrnod sy’n cyfateb i 14 Nisan, dyddiad pwysicaf y flwyddyn.

12 Trwy edrych ar nodweddion syml Swper yr Arglwydd, gallwn weld rhinwedd arall a ysgogodd Iesu i farw droson ni. Fel dyn ar y ddaear, roedd yn adnabyddus am y rhinwedd hon. Beth oedd hi?

MAE IESU’N GARIADUS

13. Sut mae Ioan 15:9 a 1 Ioan 4:8-10 yn disgrifio’r cariad mae Jehofa ac Iesu wedi ei ddangos, a phwy sy’n elwa ar eu cariad?

13 Gwnaeth Iesu adlewyrchu’n berffaith gariad dwfn Jehofa tuag aton ni ym mhopeth a wnaeth. (Darllen Ioan 15:9; 1 Ioan 4:8-10.) Yn bwysicaf oll, cariad a ysgogodd Iesu i farw droson ni. P’un a ydyn ni’n eneiniog neu’n un o’r defaid eraill, rydyn ni’n elwa ar y cariad mae Jehofa a’i Fab wedi ei ddangos tuag aton ni drwy gyfrwng yr aberth hwnnw. (Ioan 10:16; 1 Ioan 2:2) Meddylia hefyd am elfennau’r Goffadwriaeth; maen nhw hefyd yn datgelu cariad Iesu a’i gonsýrn dros ei ddisgyblion. Sut felly?

Drwy ei gariad, sefydlodd Iesu drefniant y Goffadwriaeth a oedd yn ddigon syml i gael ei gadw dros y ganrifoedd ac o dan amryw o amgylchiadau (Gweler paragraffau 14-16) *

14. Ym mha ffordd gwnaeth Iesu ddangos cariad tuag at ei ddisgyblion?

14 Dangosodd Iesu gariad dros ei ddilynwyr eneiniog drwy sefydlu, nid defod gymhleth, ond pryd o fwyd syml iddyn nhw ei gadw. Wrth i amser fynd heibio, roedd rhaid i’r disgyblion eneiniog hynny gadw’r Goffadwriaeth bob blwyddyn, o dan amryw o amgylchiadau, gan gynnwys carchariad. (Dat. 2:10) A oedden nhw’n gallu ufuddhau i Iesu? Oedden!

15-16. Sut roedd hi’n bosib i rai gadw Swper yr Arglwydd o dan amgylchiadau anodd?

15 O’r ganrif gyntaf hyd at heddiw, mae gwir Gristnogion wedi gwneud ymdrech i goffáu marwolaeth Iesu. Gwnaethon nhw ddilyn trefniant Swper yr Arglwydd y gorau y gallen nhw, weithiau o dan amgylchiadau anodd. Sylwa ar yr esiamplau canlynol. Tra oedd y Brawd Harold King mewn cell ar ei ben ei hun yn Tsieina, roedd rhaid iddo fod yn greadigol. Paratôdd elfennau’r Goffadwriaeth yn dawel fach, gan ddefnyddio’r pethau oedd ganddo. Hefyd, gweithiodd allan ddyddiad y Goffadwriaeth mor agos ag y gallai. Pan ddaeth yr amser i goffáu, gwnaeth ef—ar ei ben ei hun mewn cell—ganu, gweddïo, a rhoi anerchiad Ysgrythurol.

16 Dyma esiampl arall. Pan gafodd grŵp o chwiorydd eu carcharu mewn gwersyll crynhoi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwnaethon nhw roi eu bywydau mewn peryg er mwyn coffáu Swper yr Arglwydd. Ond, gan fod yr achlysur mor syml, roedden nhw’n gallu cadw’r Goffadwriaeth heb i unrhyw un sylwi. Dywedon nhw: “Gwnaethon ni sefyll yn agos at ein gilydd o gwmpas mainc fach gyda lliain gwyn a’r elfennau arni. Cannwyll oedd yn goleuo’r ystafell, oherwydd byddai golau trydan yn datgelu beth oedden ni’n ei wneud. . . . Gwnaethon ni ailfynegi ein hymroddiad i’n Tad i ddefnyddio ein nerth i gyd er mwyn cefnogi ei enw sanctaidd.” Roedd ganddyn nhw ffydd gadarn iawn! A dangosodd Iesu ddyfnder ei gariad drwy ei gwneud hi’n bosib inni gadw’r Goffadwriaeth hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd!

17. Pa gwestiynau y gallwn eu gofyn i ni’n hunain?

17 Wrth i’r Goffadwriaeth agosáu, mae’n werth inni ofyn y cwestiynau canlynol: ‘Sut gallaf efelychu esiampl Iesu o ddangos cariad yn fwy byth? Ydw i’n rhoi anghenion fy nghyd-addolwyr o flaen fy anghenion fy hun? Ydw i’n disgwyl gormod gan fy mrodyr a fy chwiorydd, neu ydw i’n ymwybodol o’u cyfyngiadau?’ Gad inni efelychu Iesu bob amser trwy “gydymdeimlo” ag eraill.—1 Pedr 3:8.

CADW’R GWERSI HYN YN GLIR YN DY FEDDWL

18-19. (a) O beth gallwn fod yn sicr? (b) Beth wyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Ni fydd y gofyniad i gadw Coffadwriaeth marwolaeth Crist yn para am yn hir. Wrth i Iesu “ddod” yn ystod y gorthrymder mawr, bydd yn casglu’r “rhai mae wedi eu dewis” i’r nefoedd, a fyddwn ni ddim yn cadw’r Goffadwriaeth bellach.—1 Cor. 11:26; Math. 24:31.

19 Hyd yn oed ar ôl inni orffen cadw’r Goffadwriaeth, gallwn fod yn sicr y bydd gan bobl Jehofa atgofion braf o’r pryd o fwyd syml hwn sy’n symbol o’r gostyngeiddrwydd, y dewrder, a’r cariad mwyaf mae dyn erioed wedi eu dangos. Yr adeg honno, bydd pawb a wnaeth fynychu’r pryd o fwyd arbennig hwnnw yn sôn amdano er lles pawb sy’n byw bryd hynny. Ond er mwyn inni elwa ar y pryd o fwyd hwn nawr, rhaid inni fod yn benderfynol o efelychu gostyngeiddrwydd, dewrder, a chariad Iesu. Os gwnawn ni hynny, gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa yn ein gwobrwyo.—2 Pedr 1:10, 11.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

^ Par. 5 Yn fuan iawn byddwn ni’n dod at ein gilydd ar gyfer Swper yr Arglwydd i goffáu marwolaeth Iesu Grist. Mae’r pryd o fwyd syml hwn yn dysgu llawer inni am ostyngeiddrwydd, dewrder, a chariad Iesu. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut gallwn ni efelychu’r rhinweddau hyfryd a ddangosodd ef.

^ Par. 2 ESBONIAD: Mae coffáu yn golygu gwneud rhywbeth arbennig er mwyn cofio ac anrhydeddu digwyddiad neu berson pwysig.

^ Par. 56 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Golygfa yn dangos gweision ffyddlon yn cadw’r Goffadwriaeth yng nghynulleidfa y ganrif gyntaf; yn hwyr yn y 19eg ganrif; mewn gwersyll crynhoi Natsïaidd; ac yn Neuadd y Deyrnas heb waliau yn Ne America lle mae’r tywydd yn boeth.