Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

Ewch, Gwnewch Ddisgyblion

Ewch, Gwnewch Ddisgyblion

TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2020: Ewch, gwnewch ddisgyblion, a’u bedyddio nhw.—MATH. 28:19.

CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

CIPOLWG *

1-2. Beth mae angel yn ei ddweud wrth y merched ger y beddrod, a pha gyfarwyddyd y mae Iesu ei hun yn ei roi iddyn nhw?

MAE’N Nisan 16, 33 OG a hithau newydd wawrio. Yn drwm eu calon, mae grŵp o ferched duwiol yn gwneud eu ffordd i’r beddrod, lle cafodd corff yr Arglwydd Iesu Grist ei osod i orffwys 36 awr ynghynt. Pan maen nhw’n cyrraedd y man claddu er mwyn trin y corff ag olew persawrus a sbeisys, er mawr syndod iddyn nhw, mae’r siambr yn wag! Mae angel yn dweud wrth y disgyblion fod Iesu wedi ei godi oddi wrth y meirw, gan ychwanegu: “Mae’n mynd i Galilea o’ch blaen chi. Cewch ei weld yno.”—Math. 28:1-7; Luc 23:56; 24:10.

2 Ar ôl i’r merched adael y beddrod, mae Iesu ei hun yn dod atyn nhw ac yn rhoi’r cyfarwyddyd canlynol: “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr am fynd i Galilea; byddan nhw’n cael fy ngweld i yno.” (Math. 28:10) Mae’n rhaid bod gan Iesu gyfarwyddiadau pwysig iawn i’w rhoi i’w ddisgyblion, oherwydd y cyfarfod hwn yw’r peth cyntaf mae’n ei drefnu ar ôl ei atgyfodiad!

GORCHYMYN I BWY?

Pan wnaeth Iesu gyfarfod gyda’i apostolion ac eraill yng Ngalilea ar ôl ei atgyfodiad, rhoddodd y gorchymyn ‘ewch i wneud disgyblion’ (Gweler paragraffau 3-4)

3-4. Pam gallwn ni ddweud na chafodd y comisiwn yn Mathew 28:19, 20 ei roi i’r apostolion yn unig? (Gweler y llun ar y clawr.)

3 Darllen Mathew 28:16-20. Yn y cyfarfod a drefnodd Iesu, soniodd yn fras am y gwaith pwysig y byddai’r disgyblion yn ei gyflawni drwy gydol y ganrif gyntaf—yr un gwaith yr ydyn ni’n ei gyflawni heddiw. Dywedodd Iesu: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion . . . a dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi.”

4 Mae Iesu eisiau i bob un o’i ddilynwyr bregethu. Ni chyfyngodd ei orchymyn i’r 11 apostol ffyddlon. Sut gallwn ni fod yn sicr? Wel, ai dim ond yr apostolion oedd yn bresennol pan gafodd y gorchymyn i wneud disgyblion ei roi ar y mynydd yng Ngalilea? Cofia beth ddywedodd yr angel wrth y merched: “Cewch ei weld [yng Ngalilea].” Felly mae’n rhaid bod ’na ferched ffyddlon yn bresennol ar yr achlysur hwnnw. Ond yn fwy na hynny, mae’r apostol Paul yn datgelu bod Iesu wedi cael “ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr a’n chwiorydd.” (1 Cor. 15:6) Ble oedd hynny?

5. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o 1 Corinthiaid 15:6?

5 Mae gennyn ni resymau da dros feddwl bod Paul yn cyfeirio at yr union gyfarfod hwnnw yng Ngalilea a ddisgrifir yn Mathew pennod 28. Pa resymau? Yn gyntaf, Galileaid oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion Iesu. Felly byddai mynydd yng Ngalilea—yn hytrach na chartref preifat yn Jerwsalem—yn lle rhesymol i ddod â nifer mawr o bobl ynghyd. Yn ail, ar ôl iddo gael ei atgyfodi roedd Iesu eisoes wedi cyfarfod â’i 11 apostol mewn cartref preifat yn Jerwsalem. Os bwriad Iesu oedd hyfforddi dim ond ei apostolion i bregethu a gwneud disgyblion, fe fyddai wedi gallu gwneud hynny yn Jerwsalem yn lle gofyn iddyn nhw, y merched, ac eraill ei gyfarfod yng Ngalilea.—Luc 24:33, 36.

6. Sut mae Mathew 28:20 yn dangos bod y gorchymyn i wneud disgyblion yn berthnasol heddiw, ac i ba raddau y mae pobl yn ufuddhau i’r gorchymyn hwn?

6 Ystyria drydydd rheswm pwysig. Nid oedd gorchymyn Iesu i wneud disgyblion wedi ei gyfyngu i Gristnogion oedd yn byw yn y ganrif gyntaf. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Wedi i Iesu roi ei gyfarwyddyd i’w ddilynwyr, gorffennodd gyda’r geiriau hyn: “Bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Math. 28:20) Fel y dywedodd Iesu, heddiw mae llawer o bobl wrthi’n gwneud disgyblion. Meddylia! Mae bron i 300,000 yn cael eu bedyddio’n Dystion Jehofa bob blwyddyn ac yn dod yn ddisgyblion i Iesu Grist!

7. Beth byddwn ni’n ei drafod nawr, a pham?

7 Mae llawer sy’n astudio’r Beibl yn gwneud cynnydd ac yn cael eu bedyddio. Er hynny, mae rhai sy’n astudio’r Beibl yn rheolaidd gyda ni yn dal yn ôl rhag dod yn ddisgyblion. Maen nhw’n mwynhau eu hastudiaethau, ond dydyn nhw ddim yn cymryd camau tuag at fedydd. Os wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd, rydyn ni’n sicr y byddi di eisiau helpu dy fyfyriwr i roi ar waith yr hyn mae’n ei ddysgu a’i helpu i ddod yn ddisgybl i Grist. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gallwn ni gyrraedd calon y myfyriwr a sut gallwn ni ei helpu i dyfu’n ysbrydol. Pam y mae’n rhaid inni drafod y pwnc? Oherwydd rywbryd efallai bydd rhaid i ninnau benderfynu p’un a fyddwn ni’n parhau â’r astudiaeth neu beidio.

CEISIA GYRRAEDD Y GALON

8. Pam y mae hi’n anodd weithiau i helpu ein myfyrwyr i garu Jehofa?

8 Mae Jehofa eisiau i bobl ei wasanaethu am eu bod nhw’n ei garu. Felly ein nod yw helpu ein myfyrwyr i ddeall bod gan Jehofa ddiddordeb mawr ynddyn nhwthau fel unigolion, a’i fod yntau wir yn eu caru. Rydyn ni eisiau iddyn nhw weld Jehofa fel “Tad plant amddifad, yr un sy’n amddiffyn gweddwon.” (Salm 68:5) Wrth i dy fyfyrwyr ddod i werthfawrogi cariad Duw tuag atyn nhw, mae’n debyg y bydd hyn yn cyffwrdd â’u calonnau a bydd eu cariad tuag ato ef yn tyfu hefyd. Gall rhai myfyrwyr ei chael hi’n anodd gweld Jehofa fel Tad cariadus am y ffaith na chawson nhw lawer o gariad a chynhesrwydd gan eu tadau eu hunain. (2 Tim. 3:1, 3) Felly, wrth iti gynnal yr astudiaeth, pwysleisia rinweddau apelgar Jehofa. Helpa dy fyfyrwyr i ddeall bod ein Duw cariadus eisiau iddyn nhw gael bywyd tragwyddol, a’i fod yn barod i’w helpu nhw i gyrraedd y nod hwnnw. Beth arall gallwn ni ei wneud?

9-10. Pa gyhoeddiadau dylen ni eu defnyddio wrth gynnal astudiaethau Beiblaidd, a pham y llyfrau hynny?

9 Defnyddia’r llyfrau “Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?” a “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw.” Mae’r cyhoeddiadau hynny wedi cael eu hysgrifennu i’n helpu ni i gyrraedd calonnau ein myfyrwyr. Er enghraifft, mae pennod 1 y llyfr Dysgu o’r Beibl yn ateb y cwestiynau: Ydy Duw yn ein caru ni neu ydy ef yn greulon? Sut mae Duw yn teimlo pan fydd pobl yn dioddef?, ac A allwch chi fod yn ffrind i Jehofa? Beth am y llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw? Bydd hwnnw’n helpu’r myfyriwr i ddeall sut bydd rhoi egwyddorion Beiblaidd ar waith yn gallu gwella ei fywyd a’i helpu i glosio at Jehofa. Hyd yn oed os wyt ti wedi astudio’r llyfrau hynny gydag eraill, dos ati i baratoi’n dda ar gyfer pob astudiaeth, a chadwa anghenion penodol y myfyriwr mewn cof.

10 Beth dylet ti ei wneud os oes gan dy fyfyriwr ddiddordeb mewn pwnc arall, ond dydy’r cyhoeddiad sy’n trafod y pwnc ddim yn rhan o’r Bocs Tŵls Dysgu? Efallai gelli di ei annog i ddarllen y cyhoeddiad ar ei ben ei hun er mwyn iti allu parhau i gynnal yr astudiaeth yn un o’r llyfrau astudio’r Beibl uchod.

Dechreua’r astudiaeth gyda gweddi (Gweler paragraff 11)

11. Pryd dylen ni ddechrau agor a chau’r astudiaeth gyda gweddi, a sut gallet ti godi’r pwnc?

11 Dechreua’r astudiaeth gyda gweddi. Yn gyffredinol, mae’n well dechrau agor a chau mewn gweddi cyn gynted ag y bo modd, fel arfer o fewn yr wythnosau cyntaf ar ôl dechrau astudiaeth reolaidd. Mae’n rhaid inni helpu’r myfyriwr i sylweddoli mai dim ond gyda help ysbryd Duw y gallwn ni ddeall Gair Duw. Mae rhai athrawon y Beibl yn esbonio pam rydyn ni’n gweddïo yn yr astudiaeth drwy ddarllen Iago 1:5, sy’n dweud: “Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw.” Yna mae’r athro yn gofyn i’r myfyriwr, “Sut gallwn ni ofyn i Dduw am ddoethineb?” Mae’n debyg bydd y myfyriwr yn cytuno y dylen ni weddïo ar Dduw.

12. Sut byddet ti’n defnyddio Salm 139:2-4 i helpu myfyriwr i wella ansawdd ei weddïau?

12 Dysga dy fyfyriwr sut i weddïo. Helpa iddo ddeall bod Jehofa eisiau clywed ei weddïau diffuant. Esbonia iddo ein bod ni’n gallu agor ein calonnau’n llawn i Jehofa yn ein gweddïau preifat, a mynegi teimladau y bydden ni’n gyndyn iawn eu rhannu ag eraill. Wedi’r cyfan, mae Jehofa yn gwybod ein meddyliau mwyaf personol yn barod. (Darllen Salm 139:2-4.) Hefyd, gallwn ni annog ein myfyriwr i ofyn i Dduw am ei help i newid ffordd anghywir o feddwl a threchu arferion drwg. Er enghraifft, dyweda fod rhywun sydd wedi bod yn astudio am beth amser yn hoff o ddathliad gyda gwreiddiau paganaidd. Mae’n gwybod ei fod yn anghywir, ond y gwir yw ei fod yn mwynhau rhai agweddau ohono. Ceisia ei annog i esbonio sut mae’n teimlo wrth Jehofa ac i ymbil am help i garu dim ond yr hyn y mae Duw yn ei garu.—Salm 97:10.

Gwahodd dy fyfyriwr y Beibl i ddod i’r cyfarfodydd (Gweler paragraff13)

13. (a) Pam dylen ni wahodd ein myfyrwyr i ddod i’r cyfarfodydd cyn gynted ag y bo modd? (b) Sut gallwn ni wneud i’r myfyriwr deimlo’n gartrefol yn Neuadd y Deyrnas?

13 Gwahodd dy fyfyriwr y Beibl i ddod i’r cyfarfodydd cyn gynted ag y bo modd. Gall yr hyn y mae myfyriwr yn ei weld a’i glywed mewn cyfarfodydd Cristnogol gyffwrdd â’i galon a’i helpu i wneud cynnydd. Dangosa’r fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?, a’i wahodd yn gynnes i ddod gyda ti. Os ydy’n bosib, cynigia lifft iddo. Mae’n syniad da i wahodd gwahanol gyhoeddwyr i ddod gyda ti ar yr astudiaeth. Bydd hynny yn helpu dy fyfyriwr i ddod i adnabod eraill yn y gynulleidfa, ac mae’n debyg y bydd yn teimlo’n fwy cartrefol pan ddaw i’r cyfarfodydd.

HELPA’R MYFYRIWR I DYFU’N YSBRYDOL

14. Beth all sbarduno myfyriwr i dyfu’n ysbrydol?

14 Ein nod yw helpu ein myfyriwr i dyfu’n ysbrydol. (Eff. 4:13) Pan fydd rhywun yn cytuno i astudio’r Beibl, efallai ei brif gymhelliad fydd sut mae’r Beibl yn mynd i’w helpu yn bersonol. Ond pan fydd ei gariad tuag at Jehofa yn tyfu, mae’n debyg y bydd yn dechrau meddwl am sut y gall helpu eraill, gan gynnwys y rhai sydd yn rhan o’r gynulleidfa yn barod. (Math. 22:37-39) Pan fydd yr amser yn iawn, paid â dal yn ôl rhag sôn am y fraint o gefnogi gwaith y Deyrnas yn ariannol.

Dysga dy fyfyriwr beth i’w wneud pan fydd problemau’n codi (Gweler paragraff 15)

15. Sut gallwn ni helpu myfyriwr y Beibl i ymateb yn dda pan fydd problemau’n codi?

15 Dysga dy fyfyriwr y Beibl beth i’w wneud pan fydd problemau’n codi. Er enghraifft, beth petasai dy fyfyriwr, ac yntau’n gyhoeddwr difedydd, yn dweud wrthyt ti fod rhywun yn y gynulleidfa wedi brifo ei deimladau? Yn hytrach na chymryd ochr, beth am esbonio beth yw’r opsiynau Ysgrythurol. Un ai mae’n gallu maddau i’r brawd ac anghofio am y mater, neu os nad ydy hi’n bosib iddo wneud hyn, yna dylai siarad â’r unigolyn yn garedig gyda’r nod o adfer y berthynas rhyngddo ef â’r brawd. (Cymhara Mathew 18:15.) Helpa dy fyfyriwr i baratoi’r hyn mae ef am ei ddweud. Dangosa iddo sut i ddefnyddio’r ap JW Library®, Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa, a jw.org® er mwyn dysgu ffyrdd ymarferol o ddelio â’r sefyllfa. Mwyaf yn y byd o hyfforddiant y caiff cyn cael ei fedyddio, y mwyaf tebygol y bydd o gael perthynas dda ag eraill yn y gynulleidfa.

16. Pa fanteision rwyt ti’n eu gweld o wahodd eraill i ddod i’r astudiaeth gyda ti?

16 Gwahodd eraill o’r gynulleidfa i ddod i’r astudiaeth, ac arolygwr y gylchdaith hefyd pan fydd yn ymweld â’r gynulleidfa. Pam? Yn ogystal â’r rhesymau a soniwyd amdanyn nhw gynt, hwyrach y gall cyhoeddwyr eraill helpu dy fyfyriwr mewn ffyrdd nad wyt ti’n gallu. Dyweda, er enghraifft, fod y myfyriwr wedi ceisio rhoi’r gorau i ysmygu ond wedi methu sawl gwaith. Beth am wahodd Tyst sydd wedi gorchfygu’r arferiad, efallai ar ôl iddo yntau faglu mwy nag unwaith, i ymuno â ti ar yr astudiaeth. Efallai bydd dy gyd-gyhoeddwr yn gallu rhoi cyngor ymarferol y mae’r myfyriwr angen ei glywed. Os nad wyt ti’n gyfforddus yn cynnal yr astudiaeth o flaen brawd profiadol, fe gei di ei wahodd i gynnal yr astudiaeth ar yr achlysur hwnnw. Beth bynnag yw’r sefyllfa, manteisia ar brofiad eraill. Cofia, ein nod yw helpu’r myfyriwr i dyfu’n ysbrydol.

A DDYLWN I STOPIO’R ASTUDIAETH?

17-18. Beth dylet ti gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu stopio’r astudiaeth neu beidio?

17 Os nad yw dy fyfyriwr yn gwneud digon o gynnydd, rywbryd bydd rhaid iti ofyn iti dy hun, ‘A ddylwn i stopio’r astudiaeth?’ Wrth bwyso a mesur y sefyllfa, dylet ti ystyried gallu’r unigolyn. Mae’n cymryd mwy o amser i rai pobl wneud cynnydd nag eraill. Gofynna i ti dy hun: ‘A ydy fy myfyriwr yn gwneud cynnydd rhesymol o ystyried ei amgylchiadau personol?’ ‘Ydy ef yn dechrau “gwneud,” neu roi ar waith y pethau mae’n eu dysgu?’ (Math. 28:20) Weithiau bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i fyfyriwr ddod yn ddisgybl. Ond fe ddylai fod yn newid ei fywyd yn raddol.

18 Ond, beth os na fydd rhywun sydd wedi astudio am gyfnod sylweddol yn dangos yn glir ei fod yn gwerthfawrogi’r astudiaeth? Ystyria’r sefyllfa hon: Mae dy fyfyriwr wedi gorffen astudio’r llyfr Dysgu o’r Beibl, ac efallai wedi cychwyn y llyfr Cariad Duw, ond heb fod i’r un cyfarfod eto—dim hyd yn oed y Goffadwriaeth! A bydd yn canslo ei astudiaeth am y rhesymau mwyaf dibwys. Os felly mae pethau, fe fyddai’n well siarad yn blaen gyda’r myfyriwr. *

19. Beth gallet ti ei ddweud wrth rywun sy’n ymddangos nad yw’n gwerthfawrogi ei astudiaeth Feiblaidd, a beth bydd rhaid iti ei ystyried?

19 Fe allet ti ddechrau drwy ofyn iddo, ‘Beth bydd y peth anoddaf ichi ei wneud er mwyn dod yn un o Dystion Jehofa?’ Hwyrach bydd y myfyriwr yn ateb, ‘Dw i’n hoffi astudio’r Beibl, ond fydda’ i byth yn dod yn un o Dystion Jehofa!’ Os dyna yw ei agwedd ar ôl astudio am gyfnod sylweddol, a oes unrhyw ddiben mewn parhau â’r astudiaeth? Ar y llaw arall, efallai bydd dy fyfyriwr yn datgelu beth sy’n ei ddal yn ôl am y tro cyntaf. Er enghraifft, efallai bydd ef yn teimlo na allai byth bregethu o ddrws i ddrws. Nawr, o wybod sut mae’n teimlo, fe fyddi di mewn sefyllfa well i’w helpu.

Paid â threulio amser yn cynnal astudiaeth anffrwythlon (Gweler paragraff 20)

20. Sut gall deall Actau 13:48 ein helpu i bwyso a mesur p’un ai i barhau â’r astudiaeth neu beidio?

20 Y ffaith drist amdani yw, mae rhai myfyrwyr yn debyg i Israeliaid adeg Eseciel. Dyma ddywedodd Jehofa amdanyn nhw wrth Eseciel: “Adloniant ydy’r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti’n offerynnwr medrus. Maen nhw’n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu.” (Esec. 33:32) Gall fod yn anodd inni ddweud wrth rywun ein bod ni am stopio’r astudiaeth. Ond, “mae’r amser yn brin.” (1 Cor. 7:29) Yn hytrach na threulio mwy o amser yn cynnal astudiaeth anffrwythlon, rydyn ni angen cael hyd i rywun sy’n dangos yn amlwg ei fod “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.”—Darllen Actau 13:48, o’r troednodyn. *

Efallai fod eraill yn dy diriogaeth yn gweddïo am help (Gweler paragraff 20)

21. Beth yw testun y flwyddyn ar gyfer 2020, a pham y mae’n briodol?

21 Yn ystod 2020, bydd testun y flwyddyn yn ein helpu i ganolbwyntio ar wella’r ffordd rydyn ni’n mynd ati i wneud disgyblion. Mae’n cynnwys rhai o eiriau Iesu o’r cyfarfod hanesyddol hwnnw ar fynydd yng Ngalilea: Ewch, gwnewch ddisgyblion, a’u bedyddio nhw.Math. 28:19.

Gad inni fod yn benderfynol o ganolbwyntio ar wella ein ffordd o wneud disgyblion a helpu ein myfyrwyr i gael eu bedyddio (Gweler paragraff 21)

CÂN 70 Chwiliwch am Rai Teilwng

^ Par. 5 Mae testun y flwyddyn ar gyfer 2020 yn ein hannog, “gwnewch ddisgyblion.” Mae’r gorchymyn yn berthnasol i bob un o weision Jehofa. Sut gallwn ni gyrraedd calonnau ein myfyrwyr y Beibl er mwyn iddyn nhw ddod yn ddisgyblion Crist? Bydd yr erthygl hon yn dangos inni sut gallwn ni helpu ein myfyrwyr i glosio at Jehofa. Hefyd fe wnawn ni ystyried sut i benderfynu a ddylen ni barhau â’r astudiaeth neu beidio.

^ Par. 18 Gwylia’r fideo Stopio Astudiaethau Anffrwythlon ar JW Broadcasting®.

^ Par. 20 Actau 13:48, NWT: “Pan glywodd y cenhedloedd hyn, dechreuon nhw lawenhau a gogoneddu gair Jehofa, a daeth pawb a oedd â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol yn gredinwyr.”