Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 4

“Mae’r Ysbryd yn Dangos yn Glir”

“Mae’r Ysbryd yn Dangos yn Glir”

“Mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw.”—RHUF. 8:16.

CÂN 25 Dy Eiddo Arbennig

CIPOLWG *

Ym Mhentecost tywalltodd Jehofa ei ysbryd glân mewn ffordd ddramatig ar grŵp o tua 120 o Gristnogion (Gweler paragraffau 1-2)

1-2. Pa ddigwyddiad trawiadol sy’n digwydd ar ddydd y Pentecost yn 33 OG?

AR FORE Sul y Pentecost yn 33 OG, daeth 120 o ddisgyblion at ei gilydd i fyny’r grisiau mewn tŷ yn Jerwsalem. (Act. 1:13-15; 2:1) Ychydig o ddyddiau ynghynt, roedd Iesu wedi gorchmyn iddyn nhw aros yn Jerwsalem oherwydd eu bod nhw am gael rhodd arbennig. (Act. 1:4, 5) Beth sy’n digwydd nesaf?

2 “Yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf.” Mae’r sŵn yn llenwi’r tŷ i gyd. Yna, mae “rhywbeth tebyg i fflamau tân” yn ymddangos uwch pennau’r disgyblion, ac maen nhw’n “cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân.” (Act. 2:2-4) Yn y modd trawiadol hwn, mae Jehofa’n tywallt ei ysbryd glân ar y grŵp. (Act. 1:8) Y nhw yw’r cyntaf i gael eu heneinio â’r ysbryd glân * a chael y gobaith o reoli gyda Iesu yn y nefoedd.

BETH SY’N DIGWYDD PAN FYDD RHYWUN YN CAEL EI ENEINIO?

3. Pam nad oedd y disgyblion adeg Pentecost yn amau eu bod nhw wedi eu heneinio gan yr ysbryd glân?

3 Petaset ti’n un o’r disgyblion yn yr oruwchystafell y diwrnod hwnnw, fyddet ti byth yn ei anghofio. Dychmyga rywbeth fel fflam o dân yn dod i orffwys ar dy ben di, a tithau’n dechrau siarad ieithoedd gwahanol! (Act. 2:5-12) Fe fyddet ti’n gwbl bendant dy fod ti wedi cael dy eneinio â’r ysbryd glân. Ond ydy pawb sy’n cael eu heneinio â’r ysbryd glân yn cael eu heneinio mewn ffordd ddramatig ac ar yr un cyfnod yn eu bywydau? Nac ydyn. Sut rydyn ni gwybod?

4. A gafodd pob un o’r eneiniog yn y ganrif gyntaf ei alwad ar yr un adeg yn ei fywyd? Esbonia.

4 Gad inni ystyried pryd gallai rhywun gael ei eneinio. Doedd y grŵp o tua 120 o Gristnogion ddim yr unig rai a gafodd eu heneinio â’r ysbryd glân ym Mhentecost 33 OG. Hwyrach ymlaen ar y diwrnod hwnnw, cafodd tua 3,000 o bobl eraill yr ysbryd glân a addawyd gan Iesu. Cawson nhw eu heneinio wrth iddyn nhw gael eu bedyddio. (Act. 2:37, 38, 41) Ond yn y blynyddoedd wedi hynny, ni chafodd pob un o’r Cristnogion eneiniog eu heneinio yn ystod eu bedydd. Cafodd y Samariaid eu heneinio rywbryd ar ôl eu bedydd. (Act. 8:14-17) Ac mewn digwyddiad hynod iawn, cafodd Cornelius a’i deulu eu heneinio hyd yn oed cyn cael eu bedyddio.—Act. 10:44-48.

5. Yn ôl 2 Corinthiaid 1:21, 22, beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn cael ei eneinio â’r ysbryd glân?

5 Hefyd, gad inni ystyried beth sy’n digwydd pan gaiff rhywun ei eneinio â’r ysbryd glân. Gall rhai ei chael hi’n anodd ei derbyn yn y dechrau fod Jehofa wedi eu dewis nhw. Hwyrach eu bod nhw’n meddwl, ‘Pam gwnaeth Duw fy newis i?’ Ond nid pawb sy’n ymateb fel ’na. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae’r apostol Paul yn esbonio’r hyn sy’n digwydd i bawb sy’n cael eu heneinio: “Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl * sy’n dangos eich bod yn perthyn iddo, a’r sêl hwnnw ydy’r Ysbryd Glân oedd wedi’i addo i chi. Yr Ysbryd ydy’r blaendal sy’n gwarantu’r ffaith bod lle wedi’i gadw ar ein cyfer ni.” (Eff. 1:13, 14) Felly, mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i wneud yn gwbl glir i’r Cristnogion hyn ei fod wedi eu dewis nhw. Fel hyn, mae’r ysbryd glân yn “flaendal [gwarant neu addewid]” a roddir i’w sicrhau eu bod nhw yn y dyfodol am fyw am byth yn y nef ac nid ar y ddaear.—Darllen 2 Corinthiaid 1:21, 22.

6. Beth sy’n rhaid i Gristion eneiniog ei wneud i gael ei wobr nefol?

6 Os ydy Cristion wedi ei eneinio, a fydd ef yn derbyn ei wobr nefol yn awtomatig? Na fydd. Mae ef yn sicr ei fod wedi cael ei ddewis i fynd i’r nefoedd. Ond, mae’n rhaid iddo gofio’r rhybudd hwn: “Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi’ch galw chi a’ch dewis chi. Dych chi’n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi’r pethau hyn.” (2 Pedr 1:10) Felly er i Gristion eneiniog gael ei ddewis, neu ei alw, i’r nefoedd, bydd ef yn cael ei wobr dim ond os bydd yn aros yn ffyddlon.—Phil. 3:12-14; Heb. 3:1; Dat. 2:10.

SUT MAE RHYWUN YN GWYBOD OS YW’N UN O’R ENEINIOG?

7. Sut mae’r eneiniog yn gwybod bod ganddyn nhw’r alwad nefol?

7 Ond sut mae rhywun yn gwybod os ydy ef neu hi wedi cael yr alwad nefol? Mae’r ateb yn glir yng ngeiriau Paul i’r rhai yn Rhufain a gafodd eu galw i fod yn “bobl arbennig.” Dywedodd wrthyn nhw: “Dydy’r Ysbryd Glân dyn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae’n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno’n llawen, ‘Abba! Dad!’ Ydy, mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw.” (Rhuf. 1:7; 8:15, 16) Felly drwy gyfrwng ei ysbryd glân, mae Duw yn ei gwneud hi’n gwbl glir i’r rhai eneiniog fod ganddyn nhw’r alwad hon i’r nef.—1 Thes. 2:12.

8. Sut mae 1 Ioan 2:20, 27 yn dangos nad ydy Cristnogion eneiniog angen cadarnhad gan eraill ynglŷn â’u heneinio?

8 Does dim arlliw o amheuaeth yng nghalonnau’r rhai sy’n cael gwahoddiad Jehofa i fynd i’r nefoedd. (Darllen 1 Ioan 2:20, 27.) Wrth gwrs, mae Cristnogion eneiniog angen eu dysgu gan Jehofa drwy’r gynulleidfa fel pawb arall. Ond does dim angen i neb arall gadarnhau eu bod nhw o’r eneiniog. Mae Jehofa wedi defnyddio’r grym mwyaf yn y bydysawd, ei ysbryd glân, i’w gwneud yn gwbl glir iddyn nhw eu bod nhw’n eneiniog!

MAEN NHW WEDI EU GENI O’R NEWYDD

9. Yn ôl Effesiaid 1:18, pan fydd rhywun yn cael ei eneinio, pa newid bydd yr unigolyn yn ei brofi?

9 Efallai bydd y rhan fwyaf o weision Duw heddiw yn ei chael hi’n anodd deall beth sy’n digwydd i rywun pan fydd Duw yn ei eneinio. Mae hyn i’w ddisgwyl gan nad ydyn nhw eu hunain wedi cael eu heneinio. Creodd Duw fodau dynol i fyw am byth ar y ddaear, nid yn y nef. (Gen. 1:28; Salm 37:29) Ond mae Jehofa wedi dewis rhai i fyw yn y nef. Felly, pan fydd ef yn eu heneinio, fe fydd yn newid eu gobaith a’u ffordd o feddwl yn llwyr, fel eu bod nhw’n edrych ymlaen at fyw yn y nef.—Darllen Effesiaid 1:18.

10. Beth mae’n ei olygu i gael dy “eni o’r newydd”? (Gweler hefyd y troednodyn.)

10 Pan fydd Cristion yn cael ei eneinio â’r ysbryd glân, bydd yn cael ei “eni o’r newydd,” neu “ei eni oddi uchod.” * Dangosodd Iesu ei bod yn amhosib i esbonio’n union i rywun sydd heb gael ei eneinio sut mae’n teimlo i gael dy “eni o’r newydd,” neu dy ‘eni drwy’r Ysbryd.’—Ioan 3:3-8; tdn.

11. Esbonia’r newid meddwl sy’n digwydd pan fydd rhywun yn cael ei eneinio.

11 Sut mae Cristnogion yn dechrau meddwl mewn ffordd wahanol pan fyddan nhw’n cael eu heneinio? Cyn i Jehofa eneinio’r Cristnogion hyn, roedden nhw’n trysori’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Roedden nhw’n edrych ymlaen yn eiddgar at amser pan fyddai Jehofa’n cael gwared ar bob drygioni ac yn gwneud y ddaear yn baradwys. Efallai eu bod nhw wedi dychmygu croesawu’n ôl aelod o’r teulu neu ffrind oedd wedi marw. Ond ar ôl iddyn nhw gael eu heneinio, dechreuon nhw feddwl yn wahanol. Pam? Doedden nhw ddim yn meddwl nad oedd y gobaith daearol yn ddigon da. Wnaethon nhw ddim newid eu meddyliau am eu bod nhw wedi bod trwy’r felin ac yn isel yn emosiynol. Wnaethon nhw ddim dechrau meddwl y byddai byw am byth ar y ddaear yn ddiflas. Yn hytrach, defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân i newid eu ffordd o feddwl a’r gobaith yr oedden nhw’n ei drysori.

12. Yn ôl 1 Pedr 1:3, 4, sut mae Cristnogion eneiniog yn teimlo am eu gobaith?

12 Gall rhywun sydd wedi cael ei eneinio deimlo nad yw’n deilwng o’r fraint werthfawr hon. Ond nid yw’n amau am ennyd nad ydy Jehofa wedi ei ddewis. Mae llawenydd a gwerthfawrogiad yn llenwi ei galon wrth iddo feddwl am ei obaith o fyw yn y nef.—Darllen 1 Pedr 1:3, 4.

13. Sut mae’r eneiniog yn teimlo am eu bywydau yma ar y ddaear?

13 Felly, ydy hyn yn golygu bod yr eneiniog eisiau marw? Mae’r apostol Paul yn ateb y cwestiwn hwnnw. Cymharodd eu cyrff dynol â phebyll a dweud: “Tra’n byw yn y babell ddaearol, dyn ni’n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff—dŷn ni eisiau gwisgo’r corff nefol. Dŷn ni eisiau i’r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy’n para am byth.” (2 Cor. 5:4) Dydy’r Cristnogion hyn ddim wedi colli’r awydd i fyw nac yn dymuno prysuro eu marwolaeth. I’r gwrthwyneb, maen nhw’n mwynhau bywyd ac maen nhw eisiau defnyddio pob diwrnod i wasanaethu Jehofa gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Eto, ni waeth beth maen nhw’n ei wneud, maen nhw’n wastad yn meddwl am y gobaith gogoneddus sydd ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol.—1 Cor. 15:53; 2 Pedr 1:4; 1 Ioan 3:2, 3; Dat. 20:6.

YDY JEHOFA WEDI DY ENEINIO DI?

14. Beth sydd ddim yn profi bod person wedi cael ei eneinio gan yr ysbryd glân?

14 Hwyrach dy fod ti wedi gofyn iti dy hun, ‘A ydw i wedi cael fy eneinio gan yr ysbryd glân?’ Os felly, ystyria’r cwestiynau pwysig hyn: Wyt ti ar dân eisiau gwneud ewyllys Jehofa? Wyt ti’n teimlo dy fod ti’n hynod o selog yn y gwaith pregethu? Wyt ti’n fyfyriwr da yng Ngair Duw ac yn un sydd wrth ei fodd yn dysgu “cyfrinachau Duw i gyd”? (1 Cor. 2:10) Wyt ti’n teimlo bod Jehofa wedi dy fendithio di â chanlyniadau gwych yn y weinidogaeth? Wyt ti’n teimlo cyfrifoldeb mawr i helpu eraill i ddysgu am Jehofa? Wyt ti wedi gweld tystiolaeth fod Jehofa wedi dy helpu di mewn llawer o ffyrdd penodol yn dy fywyd? Os wyt ti wedi ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau hyn, ydy hyn yn profi bod gen ti’r alwad nefol? Nac ydy. Pam felly? Achos gall pob un o weision Duw deimlo fel hyn, p’un a ydyn nhw’n eneiniog neu beidio. A thrwy ei ysbryd glân, gall Jehofa roi’r un grym i unrhyw un o’i weision, beth bynnag fo’u gobaith nhw. Y ffaith amdani yw, os nad wyt ti’n siŵr dy fod ti wedi cael dy eneinio gan yr ysbryd glân, byddai’r amheuon hyn ynddyn nhw eu hunain yn golygu nad wyt ti wedi cael dy eneinio. Dydy’r rhai sydd wedi cael eu galw gan Jehofa ddim yn dweud: ‘Ys gwn i a ydw i’n un o’r eneiniog?’ Maen nhw’n gwybod yn iawn eu bod nhw!

Defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân i alluogi Abraham, Sara, Dafydd, ac Ioan Fedyddiwr i wneud pethau hynod, ond ni ddefnyddiodd ei ysbryd i roi’r gobaith nefol iddyn nhw (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Sut gwyddon ni nad ydy pawb sydd wedi cael ysbryd Duw wedi eu dewis i fynd i’r nef?

15 Drwy’r Beibl i gyd, mae ’na lu o enghreifftiau o ddynion ffydd a gafodd ysbryd glân gan Dduw; ond eto, ni chawson nhw’r gobaith o fyw yn y nef. Fe gafodd Dafydd ei arwain gan yr ysbryd glân. (1 Sam. 16:13) Fe wnaeth yr ysbryd glân ei helpu i ddeall pethau dwfn am Jehofa a’i gyfarwyddo i ysgrifennu rhannau o’r Beibl. (Marc 12:36) Er hynny, dywedodd yr apostol Pedr na “chafodd y Brenin Dafydd mo’i godi i fyny i’r nefoedd.” (Act. 2:34) Cafodd Ioan Fedyddiwr ei “lenwi â’r Ysbryd Glân.” (Luc 1:13-16) Dywedodd Iesu nad oedd neb o blith dynion yn fwy na Ioan, ond wedyn dywedodd na fyddai Ioan yn cael ei gynnwys yn Nheyrnas Nefoedd. (Math. 11:10, 11) Defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân er mwyn rhoi’r gallu i’r dynion hyn wneud pethau hynod, ond ni ddefnyddiodd ei ysbryd glân i’w dewis i fyw yn y nef. Ydy hynny’n golygu eu bod nhw’n llai ffyddlon na’r rhai gafodd eu dewis i reoli yn y nef? Nac ydy. Mae’n golygu y bydd Jehofa yn dod â nhw’n ôl i fyw ym Mharadwys ar y ddaear.—Ioan 5:28, 29; Act. 24:15.

16. Pa wobr y mae’r rhan fwyaf o weision Duw yn edrych ymlaen ati heddiw?

16 Does gan y mwyafrif helaeth o weision Duw ar y ddaear heddiw mo’r gobaith o fyw yn y nefoedd. Fel Abraham, Sara, Dafydd, Ioan Fedyddiwr, a llawer o ddynion a merched eraill yng nghyfnod y Beibl, maen nhw’n edrych ymlaen at fyw ar ddaear o dan reolaeth Teyrnas Dduw.—Heb. 11:10.

17. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl nesaf?

17 Oherwydd bod rhai o’r eneiniog yn dal ymhlith pobl Dduw heddiw, mae ond yn naturiol y bydd ambell gwestiwn yn codi. (Dat. 12:17) Er enghraifft, sut dylai’r eneiniog eu hystyried eu hunain? Petai rhywun yn dy gynulleidfa yn dechrau cymryd yr elfennau yn y Goffadwriaeth, sut dylet ti drin y person hwnnw? A beth os bydd rhif y rhai sy’n dweud eu bod yn eneiniog yn dal i dyfu? A ddylet ti boeni am y peth? Byddwn ni’n ateb y cwestiynau hyn yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 5 Ers Pentecost 33 OG, mae Jehofa wedi rhoi gobaith rhyfeddol i rai Cristnogion—y gobaith o reoli gyda’i Fab yn y nefoedd. Ond, sut mae’r Cristnogion hyn yn gwybod eu bod nhw wedi cael eu dewis ar gyfer y fraint hyfryd hon? Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn cael y gwahoddiad hwn? Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar un a ymddangosodd yn Tŵr Gwylio Ionawr 2016. Fe fydd yn ateb y cwestiynau diddorol hynny.

^ Par. 2 ESBONIAD: Eneinio â’r ysbryd glân: Mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i ddewis person i reoli gyda Iesu yn y nefoedd. Drwy gyfrwng ei ysbryd, mae Duw yn rhoi addewid i’r person hwnnw ar gyfer y dyfodol, neu “blaendal.” (Eff. 1:13, 14) Gall y Cristnogion hyn ddweud fod ysbryd glân yn tystiolaethu neu “yn dangos yn glir” iddyn nhw fod eu gwobr yn y nefoedd.—Rhuf. 8:16.

^ Par. 5 ESBONIAD: Sêl. Nid yw’r sêl yn barhaol tan rywbryd cyn i’r person farw’n ffyddlon neu rywbryd cyn i’r gorthrymder mawr gychwyn.—Eff. 4:30; Dat. 7:2-4; gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn Tŵr Gwylio Saesneg Ebrill 2016.

^ Par. 10 Am esboniad pellach o’r hyn mae’n ei olygu i gael dy “eni o’r newydd,” gweler y Tŵr Gwylio Saesneg, Ebrill 1, 2009, tt. 3-12.

CÂN 27 Datguddir Meibion Duw

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: P’un a ydyn ni mewn carchar dros ein ffydd neu yn rhydd i bregethu a dysgu’r gwirionedd i eraill, cawn edrych ymlaen at fyw ar y ddaear pan fydd Teyrnas Dduw yn rheoli droson ni.