Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

Rwyt Ti’n Werthfawr i Jehofa!

Rwyt Ti’n Werthfawr i Jehofa!

“Cofiodd amdanon ni pan oedden ni’n isel.”—SALM 136:23.

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

CIPOLWG *

1-2. Pa sefyllfaoedd y mae llawer o bobl Jehofa yn eu hwynebu, a sut effaith gall hyn gael arnyn nhw?

YSTYRIA’R tair sefyllfa ganlynol: Brawd ifanc yn cael ei ddiagnosio â salwch difrifol. Brawd gweithgar, canol oed yn colli ei swydd ac yn methu cael un arall er iddo chwilio’n drylwyr. Chwaer ffyddlon oedrannus yn methu gwneud cymaint ag yr oedd hi i wasanaethu Jehofa.

2 Os wyt ti’n wynebu problem yn debyg i’r rhain, efallai dy fod ti’n teimlo nad wyt ti’n ddefnyddiol bellach. Gall sefyllfaoedd fel hyn ddwyn dy lawenydd, chwalu dy hunan-barch, a difetha dy berthynas ag eraill.

3. Sut mae Satan a’r rhai sydd wedi’u dylanwadu ganddo yn ystyried bywyd?

3 Mae’r byd hwn yn adlewyrchu agwedd Satan tuag at fywyd dynol. Mae Satan wastad wedi trin pobl fel petaen nhw’n ddiwerth. Yn ddideimlad, dywedodd wrth Efa y byddai hi’n cael rhyddid drwy fod yn anufudd i Dduw, er iddo wybod yn iawn y byddai hi’n marw petai hi’n gwneud hynny. Mae Satan wastad wedi rheoli systemau masnachol, gwleidyddol, a chrefyddol y byd hwn. Felly nid yw’n syndod fod llawer o ddynion busnes, gwleidyddion, ac arweinwyr crefyddol yn adlewyrchu ei ddiffyg parch tuag at fywyd a theimladau pobl.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Mae Jehofa, ar y llaw arall, eisiau inni wybod ein bod ni’n werthfawr, ac mae’n ein helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu sefyllfaoedd sy’n gwneud inni deimlo’n dda i ddim. (Salm 136:23; Rhuf. 12:3) Bydd yr erthygl hon yn trafod sut mae Jehofa yn ein helpu ni yn y sefyllfaoedd canlynol: (1) Pan fyddwn ni’n dioddef salwch, (2) pan fydd caledi ariannol yn codi, a (3) pan fydd henaint yn gwneud inni deimlo nad oes gennyn ni ddim byd i gynnig yng ngwasanaeth Jehofa. Ond yn gyntaf, gad inni weld pam gallwn ni fod yn sicr ein bod ni’n werthfawr i Jehofa.

MAE JEHOFA YN EIN GWERTHFAWROGI

5. Beth sy’n profi i ti fod dynolryw yn werthfawr i Jehofa?

5 Er ein bod ni wedi ein gwneud o lwch y ddaear, rydyn ni’n llawer mwy gwerthfawr na llond llaw o bridd. (Gen. 2:7) Ystyria rai o’r rhesymau dros wybod ein bod ni’n werthfawr i Jehofa. Creodd ddynolryw gyda’r gallu i efelychu ei rinweddau. (Gen. 1:27) Wrth wneud hynny, cawson ni ein rhoi yn uwch na phopeth arall a greodd ar y ddaear, gan roi’r cyfrifoldeb o ofalu am y ddaear a’r anifeiliaid i ni.—Salm 8:4-8.

6. Pa dystiolaeth arall sydd gennyn ni sy’n dangos bod Jehofa yn gwerthfawrogi dynolryw amherffaith?

6 Hyd yn oed ar ôl i Adda bechu, parhaodd Jehofa i werthfawrogi dynolryw. Mae ef yn ein gwerthfawrogi ni gymaint ei fod wedi rhoi ei annwyl Fab, Iesu, yn bridwerth dros ein pechodau. (1 Ioan 4:9, 10) Ar sail y pridwerth, bydd Jehofa yn atgyfodi’r rhai sydd wedi marw o ganlyniad i bechod Adda; y rhai “sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg.” (Act. 24:15) Mae ei Air yn dangos ein bod ni’n werthfawr iddo, ni waeth beth yw cyflwr ein hiechyd, ein sefyllfa ariannol, na’n hoedran.—Act. 10:34, 35.

7. Pa resymau eraill sydd gan weision Duw dros gredu bod Jehofa yn eu gwerthfawrogi nhw?

7 Mae gennyn ni ragor o resymau dros gredu bod Jehofa yn ein gwerthfawrogi. Mae ef wedi ein denu ni ato ac wedi sylwi ar ein hymateb i’r newyddion da. (Ioan 6:44) Pan wnaethon ni ddechrau closio at Dduw, fe glosiodd yntau aton ninnau. (Iago 4:8) Mae Jehofa hefyd yn dangos ein bod ni’n werthfawr iddo drwy roi amser ac ymdrech i’n dysgu ni. Mae ef yn gwybod sut fath o unigolion ydyn ni nawr, a sut gallwn ni wella. Ac mae’n ein disgyblu ni oherwydd y mae’n ein caru ni. (Diar. 3:11, 12) Dyna i ti dystiolaeth glir ein bod ni’n bwysig i Jehofa!

8. Sut gall geiriau Salm 18:27-29 effeithio’r ffordd rydyn ni’n ystyried ein heriau?

8 Roedd rhai yn meddwl bod y Brenin Dafydd yn ddiwerth, ond roedd ef ei hun yn gwybod bod Jehofa yn ei garu ac yn ei gefnogi. Gwnaeth hyn helpu Dafydd i oddef ei sefyllfa gyda’r agwedd gywir. (2 Sam. 16:5-7) Pan fyddwn ni’n teimlo’n isel ein hysbryd, neu’n wynebu heriau, gall Jehofa ein helpu i weld pethau’n wahanol a threchu unrhyw rwystr. (Darllen Salm 18:27-29.) Gyda chefnogaeth Jehofa, ni all dim ein rhwystro rhag ei wasanaethu’n llawen. (Rhuf. 8:31) Nawr, gad inni ystyried y tair sefyllfa benodol hynny lle mae angen inni gofio bod Jehofa yn ein caru ac yn ein gwerthfawrogi.

WRTH YMDOPI Â SALWCH

Bydd darllen geiriau ysbrydoledig Jehofa yn ein helpu i ymdopi ag emosiynau negyddol sy’n dod gyda salwch (Gweler paragraffau 9-12)

9. Sut gall salwch effeithio ar y ffordd yr ydyn ni’n gweld ein hunain?

9 Gall salwch effeithio arnon ni’n emosiynol, gan wneud inni deimlo nad ydyn ni’n ddefnyddiol i unrhyw un bellach. Hwyrach ein bod ni’n teimlo dipyn bach yn annifyr pan fydd eraill yn sylwi bod ’na rywbeth yn bod arnon ni, neu pan fydd rhaid inni ddibynnu ar eraill am help. Hyd yn oed os nad yw eraill yn ymwybodol ein bod ni’n sâl, efallai byddwn ni’n brwydro teimladau o gywilydd oherwydd nad ydyn ni’n gallu gwneud cymaint ag yr oedden ni. Yn ystod cyfnodau anodd o’r fath, mae Jehofa yn codi ein calonnau. Sut?

10. Yn ôl Diarhebion 12:25, beth all ein helpu pan fyddwn ni’n sâl?

10 Pan fyddwn ni’n sâl, gall “gair caredig” godi ein calonnau. (Darllen Diarhebion 12:25.) Yn y Beibl, mae Jehofa wedi cofnodi llawer o eiriau caredig sy’n ein hatgoffa ein bod ni’n bwysig iddo er gwaethaf ein salwch. (Salm 31:19; 41:3) Os ydyn ni’n darllen ei eiriau ysbrydoledig, a hyd yn oed yn eu hail ddarllen, bydd Jehofa yn ein helpu i reoli’r emosiynau negyddol sy’n dod gyda’r salwch.

11. Sut gwnaeth un brawd dderbyn help Jehofa?

11 Ystyria brofiad Jorge. Pan oedd yn ddyn ifanc, cafodd Jorge salwch difrifol a waethygodd yn gyflym gan wneud iddo deimlo’n dda i ddim. “Doeddwn i ddim yn barod am effaith y salwch ar fy nheimladau, na’r cywilydd oeddwn i’n teimlo wrth i bobl edrych arna’ i,” meddai Jorge. “Wrth i gyflwr fy iechyd ddirywio, wnes i feddwl am sut byddai fy mywyd yn newid. Oeddwn i’n torri ’nghalon, ac yn erfyn ar Jehofa am help.” Sut gwnaeth Jehofa ei helpu? “Gan fy mod i’n cael trafferth canolbwyntio, oeddwn i’n darllen pytiau bach o’r Salmau sy’n dangos cariad Jehofa tuag at ei weision. Oeddwn i’n cael cysur o ail ddarllen yr adnodau hynny bob dydd. Ac ymhen amser, oedd yn amlwg i bawb fy mod i’n gwenu mwy. Wnaethon nhw hyd yn oed ddweud bod fy agwedd bositif yn eu calonogi nhw. Sylweddolais fod Jehofa wedi ateb fy ngweddïau! Oedd o wedi fy helpu i newid y ffordd oeddwn i’n teimlo amdanaf fy hun. Dechreuais ffocysu ar beth oedd ei Air yn dweud am y ffordd mae o’n teimlo amdana’ i er fy mod i’n sâl.”

12. Wrth ymdopi â salwch, sut gelli di dderbyn help Jehofa?

12 Os wyt ti’n ymdopi â salwch, gelli di fod yn sicr fod Jehofa yn gwybod yn union sut rwyt ti’n teimlo. Erfyn arno am help i feithrin agwedd bositif tuag at dy sefyllfa. Yna, defnyddia’r Beibl i gael hyd i’r geiriau caredig mae Jehofa wedi eu cofnodi yno iti. Canolbwyntia ar adnodau sy’n dangos cymaint mae Jehofa yn caru ei weision. Wrth wneud hynny, byddi di’n gweld bod Jehofa yn garedig wrth bawb sy’n ei wasanaethu’n ffyddlon.—Salm 84:11.

WRTH YMDOPI Â CHALEDI ARIANNOL

Bydd cofio bod Jehofa yn addo gofalu amdanon ni yn ein helpu ni os cawn ni drafferth cael swydd (Gweler paragraffau 13-15)

13. Sut gallai penteulu deimlo petai’n colli ei swydd?

13 Mae pob penteulu eisiau gofalu am anghenion pob dydd ei deulu. Ond beth petai brawd yn colli ei swydd heb unrhyw fai arno ef? Mae’n ymdrechu’n fawr i gael un arall, ond heb lwyddiant. Yn wyneb y sefyllfa honno, efallai byddai’n teimlo’n ddiwerth. Sut gall ffocysu ar addewidion Jehofa ei helpu?

14. Pam mae Jehofa yn cadw ei addewidion?

14 Mae Jehofa yn cadw ei addewidion bob tro. (Jos. 21:45; 23:14) Mae’n gwneud hyn am nifer o resymau. Yn gyntaf, bydd hyn yn effeithio ar ei enw da. Mae Jehofa wedi addo y bydd yn gofalu am ei weision ffyddlon, ac mae wedi ymrwymo i gadw’r addewid honno. (Salm 31:1-3) Ar ben hynny, mae Jehofa’n gwybod y bydden ni’n drist iawn pe na byddai’n gofalu am y rhai sy’n rhan o’i deulu. Mae’n addo gofalu amdanon ni’n faterol ac yn ysbrydol; fydd dim byd yn gallu ei rwystro rhag cadw at yr addewid honno!—Math. 6:30-33; 24:45, BCND.

15. (a) Pa her roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn ei hwynebu? (b) Pa sicrwydd mae Salm 37:18, 19 yn ei roi?

15 Pan fyddwn ni’n cofio rhesymau Jehofa dros gadw ei addewidion, gallwn wynebu caledi ariannol â hyder. Ystyria esiampl Cristnogion y ganrif gyntaf. Pan gafodd y gynulleidfa yn Jerwsalem ei herlid, “dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru.” (Act. 8:1) Meddylia am sgil effaith hynny. Problemau economaidd! Mae’n debyg y collodd Cristnogion eu tai a’u swyddi neu fusnesau. Eto, ni wnaeth Jehofa gefnu arnyn nhw, a wnaethon nhw ddim colli eu llawenydd. (Act. 8:4; Heb. 13:5, 6; Iago 1:2, 3) Gwnaeth Jehofa gefnogi’r Cristnogion ffyddlon hynny, a bydd yn ein cefnogi ninnau hefyd.—Darllen Salm 37:18, 19.

WRTH YMDOPI Â CHYFYNGIADAU HENAINT

Bydd canolbwyntio ar beth gallwn ni ei wneud, hyd yn oed mewn henaint, yn ein sicrhau bod Jehofa yn ein gwerthfawrogi ni a’n gwasanaeth ffyddlon (Gweler paragraffau 16-18)

16. Pa sefyllfa all wneud inni deimlo nad ydy Jehofa yn gwerthfawrogi ein gwasanaeth?

16 Wrth inni fynd yn hŷn, efallai byddwn ni’n dechrau teimlo nad oes gennyn ni lawer i roi i Jehofa. Efallai bod y Brenin Dafydd wedi teimlo felly wrth iddo heneiddio. (Salm 71:9) Sut gall Jehofa ein helpu ni?

17. Beth gallwn ni ei ddysgu o brofiad chwaer o’r enw Jheri?

17 Ystyria esiampl chwaer o’r enw Jheri. Cafodd hi wahoddiad i gyfarfod cynnal a chadw yn Neuadd y Deyrnas, ond doedd hi ddim eisiau mynd. Dywedodd hi: “Dw i’n hen, dw i’n wraig weddw, a does gyda fi’r un sgìl gall Jehofa ei ddefnyddio. Dw i’n dda i ddim.” Y noson cyn y sesiwn hyfforddi, tywalltodd ei chalon i Jehofa mewn gweddi. Y diwrnod wedyn, wrth iddi gyrraedd Neuadd y Deyrnas, roedd hi’n dal i amau a ddylai hi fod yno neu beidio. Yn ystod y rhaglen, pwysleisiodd un o’r siaradwyr mai’r sgìl pwysicaf sydd gennyn ni yw ein parodrwydd i gael ein dysgu gan Jehofa. Dywed Jheri: “Meddyliais, ‘Mae’r sgìl hwnnw gyda fi!’ Dechreuais lefain wrth imi sylweddoli bod Jehofa yn ateb fy ngweddi. Roedd e’n gwneud imi deimlo bod rhywbeth gwerthfawr gyda fi i gyfrannu a’i fod yn barod i fy nysgu!” Wrth feddwl yn ôl, dywedodd Jheri: “Cerddais i mewn i’r sesiwn hwnnw yn nerfau i gyd, yn ddigalon, ac yn isel. Ond cerddais mas yn teimlo’n hyderus, yn hapusach, ac yn werthfawr!”

18. Sut mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa yn parhau i werthfawrogi ein haddoliad wrth inni fynd yn hŷn?

18 Wrth inni fynd yn hŷn, gallwn fod yn sicr fod gan Jehofa waith inni ei wneud o hyd. (Salm 92:12-15) Dysgodd Iesu fod Jehofa yn gwerthfawrogi beth bynnag gallwn ni ei wneud i’w wasanaethu, ni waeth pa gyfyngiadau sydd ar ein galluoedd, na pha mor ddibwys mae ein hymdrechion yn ymddangos. (Luc 21:2-4) Felly canolbwyntia ar beth gelli di ei wneud. Er enghraifft, gelli di siarad am Jehofa, gweddïo dros dy frodyr, ac annog eraill i aros yn ffyddlon. Mae Jehofa yn dy ystyried di’n gyd-weithiwr, nid oherwydd beth rwyt ti’n ei gyflawni, ond oherwydd dy fod ti’n barod i fod yn ufudd iddo.—1 Cor. 3:5-9.

19. Pa sicrwydd gawn ni yn Rhufeiniaid 8:38, 39?

19 Rydyn ni mor ddiolchgar cael addoli Jehofa, Duw sydd wir yn gwerthfawrogi’r rhai sy’n ei wasanaethu! Cawson ni ein creu ganddo i wneud ei ewyllys, a gwir addoliad sy’n rhoi pwrpas i’n bywydau. (Dat. 4:11) Er bod y byd yn ein hystyried ni’n ddiwerth, dydy Jehofa ddim. (Heb. 11:16, 38) Pan fyddwn ni’n teimlo’n ddigalon oherwydd salwch, caledi ariannol, neu henaint, gad inni gofio does dim byd yn gallu ein gwahanu ni oddi wrth gariad ein Tad nefol.—Darllen Rhufeiniaid 8:38, 39.

^ Par. 5 A wyt ti erioed wedi bod mewn sefyllfa a oedd yn gwneud iti deimlo’n dda i ddim? Bydd yr erthygl hon yn dy atgoffa cymaint mae Jehofa yn dy werthfawrogi di. Bydd yn trafod sut gelli di gadw dy hunan-barch ni waeth beth sy’n digwydd yn dy fywyd.

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind