ERTHYGL ASTUDIO 4
Dalia Ati i Feithrin Cariad Tyner
“Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd.”—RHUF. 12:10, BC.
CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon
CIPOLWG *
1. Ym mha ffyrdd rydyn ni’n gweld diffyg cariad naturiol heddiw?
RHAGFYNEGODD y Beibl y byddai pobl yn y dyddiau diwethaf “yn ddiserch,” neu heb gariad naturiol. (2 Tim. 3:1, 3) Rydyn ni’n gweld y broffwydoliaeth hon yn cael ei chyflawni heddiw. Er enghraifft, mae miliynau o deuluoedd wedi cael eu gwahanu oherwydd ysgariad, gan adael y rhieni yn flin gyda’i gilydd a’r plant yn teimlo bod neb yn eu caru. Gall hyd yn oed teulu o dan yr un to fod yn ddieithr i’w gilydd. Dywedodd un cynghorwr teulu: “Mae mam, dad, a’r plant wedi datgysylltu oddi wrth ei gilydd ac wedi cysylltu â’r cyfrifiadur, y tabled, y ffôn, neu’r consol gemau fideo. Er bod y teuluoedd hyn yn byw yn yr un tŷ, prin maen nhw’n adnabod ei gilydd.”
2-3. (a) Yn ôl Rhufeiniaid 12:10, tuag at bwy ddylen ni ddangos cariad tyner? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
2 Dydyn ni ddim eisiau cael ein mowldio gan ysbryd digariad y byd. (Rhuf. 12:2) Yn hytrach, rydyn ni angen meithrin cariad tyner nid yn unig tuag at aelodau ein teulu, ond hefyd tuag at y rhai sy’n perthyn inni yn y ffydd. (Darllen Rhufeiniaid 12:10.) Beth ydy cariad tyner? Mae’n derm sy’n disgrifio’n benodol y cyfeillgarwch cynnes sydd rhwng teulu agos. Dyma’r math o gariad dylen ni feithrin tuag at ein teulu ysbrydol, ein brodyr a’n chwiorydd Cristnogol. Pan ddangoswn gariad tyner, rydyn ni’n helpu cadw’r undod sy’n rhan hanfodol o wir addoliad.—Mich. 2:12.
3 Er mwyn ein helpu i feithrin cariad tyner a’i ddangos, gad inni weld beth allwn ni ddysgu o esiamplau o’r Beibl.
JEHOFA—YN DYNER IAWN EI GARIAD
4. Beth mae Iago 5:11 yn ei ddweud wrthon ni am ddyfnder cariad Jehofa?
4 Mae’r Beibl yn datgelu rhinweddau hyfryd Jehofa. Er enghraifft, mae’n dweud mai “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Mae’r disgrifiad hwnnw ynddo’i hun yn ein denu ni ato. Ond mae’r Beibl hefyd yn dweud bod “tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr.” (Darllen Iago 5:11.) Dyna iti ffordd gynnes o fynegi dyfnder cariad Jehofa tuag aton ni!
5. Sut mae Jehofa yn dangos trugaredd, a sut gallwn ni ei efelychu?
5 Sylwa fod Iago 5:11 yn cysylltu cariad Jehofa â rhinwedd arall sy’n ein denu ni ato, sef ei drugaredd. (Ex. 34:6) Un ffordd mae Jehofa yn dangos ei drugaredd yw drwy faddau inni am ein camgymeriadau. (Salm 51:1) Yn y Beibl, mae trugaredd yn golygu llawer mwy na maddeuant. Mae’n deimlad cryf sy’n codi o weld rhywun mewn trafferth ac sy’n ein cymell i geisio helpu’r unigolyn hwnnw. Mae Jehofa yn disgrifio ei ddymuniad cryf i’n helpu ni fel teimlad mwy na sydd gan fam tuag at ei phlentyn. (Esei. 49:15) Mae trugaredd Jehofa yn ei gymell i’n helpu ni pan fyddwn ni mewn helbul. (Salm 37:39; 1 Cor. 10:13) Gallwn ni ddangos trugaredd tuag at ein brodyr a chwiorydd drwy faddau iddyn nhw a pheidio â dal dig pan fyddan nhw’n ein siomi. (Eff. 4:32) Ond un o’r ffyrdd pwysicaf gallwn ni ddangos trugaredd yw drwy gefnogi ein brodyr a chwiorydd drwy’r treialon maen nhw’n eu hwynebu. Pan fydd cariad yn ein hysgogi i ddangos trugaredd at eraill, rydyn ni’n efelychu Jehofa, yr esiampl orau o gariad tyner.—Eff. 5:1.
JONATHAN A DAFYDD—“FFRINDIAU GORAU”
6. Sut dangosodd Jonathan a Dafydd gariad tyner tuag at ei gilydd?
6 Mae’r Beibl yn cynnwys hanesion pobl amherffaith a ddangosodd gariad tyner. Ystyria esiampl Jonathan a Dafydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Daeth y ddau yn 1 Sam. 18:1) Cafodd Dafydd ei eneinio i fod yn frenin ar ôl Saul. Ar ôl hynny, aeth Saul yn genfigennus o Dafydd, a cheisio ei ladd. Ond wnaeth Jonathan ddim cefnogi ei dad yn hynny o beth. Addawodd Jonathan a Dafydd i aros yn ffrindiau ac i gefnogi ei gilydd bob amser.—1 Sam. 20:42.
ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.” (7. Beth oedd un peth allai fod wedi rhwystro Jonathan a Dafydd rhag bod yn ffrindiau?
7 Mae’r cariad tyner rhwng Jonathan a Dafydd yn fwy rhyfeddol byth o ystyried rhai pethau a allai fod wedi eu rhwystro rhag bod yn ffrindiau. Er enghraifft, roedd Jonathan tua 30 mlynedd yn hŷn na Dafydd. Byddai Jonathan wedi gallu dod i’r casgliad nad oedd ganddo unrhyw beth yn gyffredin â’r dyn hwn oedd gymaint yn iau ac yn llai profiadol nag ef. Ond eto, wnaeth Jonathan ddim ystyried Dafydd yn is nag ef, na’i drin felly.
8. Pam, wyt ti’n meddwl, roedd Jonathan yn ffrind mor dda i Dafydd?
8 Gallai Jonathan fod wedi cenfigennu wrth Dafydd. Ac yntau’n fab i’r Brenin Saul, gallai Jonathan fod wedi mynnu mai ef oedd â’r hawl i’r orsedd. (1 Sam. 20:31) Ond roedd Jonathan yn ostyngedig, ac yn ffyddlon i Jehofa. Felly roedd yn cefnogi penderfyniad Jehofa i ddewis Dafydd fel y brenin nesaf yn llwyr. Roedd hefyd yn ffyddlon i Dafydd, er bod hyn yn gwneud Saul yn flin iawn.—1 Sam. 20:32-34.
9. A oedd Jonathan yn teimlo ei fod yn cystadlu yn erbyn Dafydd? Esbonia.
9 Roedd Jonathan yn caru Dafydd, felly doedd ef ddim yn teimlo ei fod yn cystadlu yn ei erbyn. Roedd Jonathan yn fwasaethwr penigamp, ac yn filwr dewr. Roedd ganddo ef a’i dad, Saul, enw am fod yn “gyflymach nag eryrod” ac yn “gryfach na llewod.” (2 Sam. 1:22, 23) Felly, gallai Jonathan fod wedi brolio am ei weithredoedd dewr ei hun. Ond, doedd Jonathan ddim yn gystadleuol nac yn genfigennus. I’r gwrthwyneb, roedd Jonathan yn edmygu Dafydd am ei ddewrder, a’r ffordd roedd yn dibynnu ar Jehofa. A dweud y gwir, dim ond ar ôl i Dafydd ladd Goliath y dechreuodd Jonathan garu Dafydd fel ef ei hun. Sut gallwn ni ddangos y fath gariad tyner tuag at ein brodyr a chwiorydd?
SUT GALLWN NI DDANGOS CARIAD TYNER HEDDIW?
10. Beth mae’n ei olygu i garu ein gilydd “o waelod calon”?
10 Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i “garu eich gilydd, a hynny o waelod calon [yn angerddol, BCND].” (1 Pedr 1:22) Mae Jehofa yn gosod yr esiampl i ni. Mae ei gariad mor gryf na all unrhyw beth dorri’r rhwymyn hwnnw, cyn belled ein bod yn ffyddlon iddo. (Rhuf. 8:38, 39) Mae’r gair Groeg sydd wedi ei drosi’n “angerddol” yn cyfleu’r syniad o ymestyn allan neu wneud ymdrech fawr hyd yn oed. Ar brydiau, efallai bydd rhaid inni “ymestyn” ac “ymdrechu” er mwyn dangos cariad tyner tuag at gyd-grediniwr. Pan fydd eraill yn ypsetio ni, mae angen inni ddilyn cyngor y Beibl: “Goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.” (Eff. 4:1-3) Pan fyddwn ni’n gweithio i gadw ‘cwlwm heddwch,’ byddwn ni’n edrych y tu hwnt i ffaeleddau ein brodyr a chwiorydd. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i’w gweld nhw fel mae Jehofa yn eu gweld.—1 Sam. 16:7; Salm 130:3.
11. Pam gall meithrin cariad tyner fod yn anodd weithiau?
11 Dydy hi ddim bob tro’n hawdd dangos cariad tyner tuag at ein brodyr a chwiorydd, yn enwedig pan ydyn ni’n ymwybodol o’u ffaeleddau. Mae’n ymddangos bod rhai Cristnogion yn y ganrif gyntaf wedi cael trafferth yn hyn o beth. Er enghraifft, mae’n debyg nad oedd gan Euodia a Syntyche unrhyw broblem gweithio “gyda [Paul] o blaid y newyddion da.” Ond am ryw reswm, roedden nhw’n cael trafferth cyd-dynnu. Felly cawson nhw eu hannog gan Paul i “ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd.”—Phil. 4:2, 3.
12. Sut gallwn ni feithrin cariad tyner tuag at ein brodyr a chwiorydd?
12 Sut gallwn ni feithrin cariad tyner tuag at ein brodyr a chwiorydd heddiw? Wrth inni ddod i adnabod ein cyd-gredinwyr yn well, efallai bydd hi’n haws inni eu deall nhw a datblygu cariad tyner tuag atyn nhw. Does dim rhaid i oedran na chefndir fod yn rhwystr. Cofia, roedd Jonathan tua 30 mlynedd yn hŷn na Dafydd, ond eto, daethon nhw’n ffrindiau pennaf. Allet ti ddod yn ffrind i rywun sy’n hŷn—neu’n iau—na ti? Drwy wneud hynny, gelli di ddangos dy fod yn caru’r frawdoliaeth i gyd.—1 Pedr 2:17.
13. Pam efallai na fyddwn ni’n teimlo yr un mor agos at bawb yn y gynulleidfa?
13 Ydy dangos cariad tyner tuag at ein cyd-gredinwyr yn golygu ein bod ni’n teimlo yr un mor agos at bawb yn y gynulleidfa? Nac ydy, fyddai hynny ddim yn realistig. Mae’n naturiol i deimlo’n agosach at rai pobl nag eraill am fod ganddyn nhw ddiddordebau tebyg inni. Cyfeiriodd Iesu at ei apostolion i gyd fel “ffrindiau,” ond roedd ganddo le arbennig yn ei galon i Ioan. (Ioan 13:23; 15:15; 20:2) Ond, wnaeth Iesu ddim dangos ffafriaeth tuag at Ioan. Er enghraifft, pan ofynnodd Ioan a’i frawd Iago am safle pwysig yn Nheyrnas Dduw, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi.” (Marc 10:35-40) Fel Iesu, ddylen ninnau ddim dangos ffafriaeth tuag at ein ffrindiau agos. (Iago 2:3, 4) Byddai gwneud hynny yn achosi rhaniadau—rhywbeth na ddylai ddigwydd yn y gynulleidfa Gristnogol.—Jwd. 17-19.
14. Yn ôl Philipiaid 2:3, beth fydd yn ein helpu i osgoi ysbryd cystadleuol?
14 Pan ddangoswn gariad tyner tuag at ein gilydd, rydyn ni’n amddiffyn y gynulleidfa rhag ysbryd cystadleuol. Cofia na wnaeth Jonathan genfigennu wrth Dafydd, na cheisio cystadlu yn ei erbyn am yr orsedd. Gall pob un ohonon ni efelychu esiampl Jonathan. Paid â bod yn genfigennus o dy frodyr oherwydd eu galluoedd. Yn hytrach, “byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.” (Darllen Philipiaid 2:3.) Cofia fod gan bawb yn y gynulleidfa rywbeth i’w gyfrannu. Drwy aros yn ostyngedig, byddwn ni’n gweld rhinweddau da ein brodyr a chwiorydd ac yn elwa o’u hesiampl ffyddlon.—1 Cor. 12:21-25.
15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Tanya a’i theulu?
15 Pan wynebwn dreialon annisgwyl, mae Jehofa yn ein cysuro drwy’r cariad tyner a’r help ymarferol a gawn gan ein brodyr a chwiorydd. Ystyria beth ddigwyddodd i un teulu ar ôl bod i sesiwn dydd Sadwrn un o’r Cynadleddau Rhyngwladol “Dydy Cariad Byth yn Darfod!” yn yr Unol Daleithiau yn 2019. “Oedden ni’n gyrru’n ôl i’n gwesty,” meddai Tanya, mam o dri, “a dyma gar arall yn colli rheolaeth a chrashio mewn inni. Chafodd
neb eu brifo, ond unwaith inni ddod allan o’r car, oedden ni’n sefyll yng nghanol y lôn mewn sioc. Wnaeth rhywun ar ochr y lôn ein galw ni draw at ddiogelwch ei gar. Un o’n brodyr oedd o, oedd newydd adael y gynhadledd. A dim y fo oedd yr unig un wnaeth stopio. Wnaeth pum tyst o Sweden oedd ar eu ffordd yn ôl stopio hefyd. Rhoddodd y chwiorydd hygs mawr i fy merch a minnau, rhywbeth oedden ni wir angen! Wnes i eu sicrhau nhw y bydden ni’n iawn, ond doedden nhw ddim am ein gadael. Wnaethon nhw aros efo ni hyd yn oed ar ôl i’r parafeddygon gyrraedd, a gwneud yn siŵr fod gynnon ni bopeth oedden ni ei angen. Drwy hyn i gyd, oedden ni’n teimlo cariad Jehofa. Cryfhaodd y profiad ein cariad at ein brodyr a chwiorydd, yn ogystal â’n cariad a’n gwerthfawrogiad tuag at Jehofa.” A elli di gofio adeg pan oeddet ti mewn angen a dangosodd gyd-grediniwr gariad ffyddlon tuag atat ti?16. Pa resymau sydd gynnon ni dros ddangos cariad tyner tuag at ein gilydd?
16 Meddylia am y pethau da sy’n digwydd pan ddangoswn gariad tyner tuag at ein gilydd. Rydyn ni’n cysuro ein brodyr a chwiorydd pan maen nhw mewn angen. Rydyn ni’n cryfhau’r undod ymysg pobl Dduw. Profwn ein bod ni’n ddisgyblion i Iesu, ac mae hyn yn gwneud i bobl ddiffuant eisiau gwasanaethu Jehofa. Ac yn fwy na dim, rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa, y “Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro.” (2 Cor. 1:3) Gad i bob un ohonon ni barhau i feithrin cariad tyner a’i ddangos!
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
^ Par. 5 Dywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu hadnabod oherwydd y cariad sydd rhyngddyn nhw. Mae pob un ohonon ni’n ceisio dangos y fath gariad. Gallwn gryfhau ein cariad tuag at ein brodyr drwy feithrin cariad tyner—y math o gariad sy’n cael ei ddangos gan deulu agos. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i garu ein brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa yn fwy byth.
^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Henuriad iau sy’n elwa ar brofiad henuriad hŷn yn cael croeso cynnes yng nghartref yr henuriad hŷn. Maen nhw a’u gwragedd yn dangos lletygarwch hael i’w gilydd.