Oeddet Ti’n Gwybod?
Sut mae arysgrif hynafol yn cefnogi’r Beibl?
YN AMGUEDDFA’R Bible Lands yn Jerwsalem, mae ’na garreg ac arysgrif arni sy’n dyddio’n ôl i tua 700-600 COG. Cafodd y garreg ei chymryd o feddrod mewn ogof ddim yn bell o Hebron yn Israel. Mae’r arysgrif yn dweud: “Melltith ar Hagaff fab Hagab gan Iahwe Sabaot.” Sut mae’r arysgrif hon yn cefnogi’r Beibl? Mae’n dangos fod enw Duw, Jehofa, wedi ei ysgrifennu IHWH mewn llythrennau Hebraeg hynafol, yn gyfarwydd iawn ac yn cael ei ddefnyddio ym mywyd bob dydd yn ystod adeg y Beibl. Mae’n ddiddorol i nodi fod ’na arysgrifau eraill yn yr ogofâu gan bobl oedd yn cyfarfod ac yn cuddio yno. Roedden nhw’n ysgrifennu enw Duw ar y waliau yn aml, ynghyd ag enwau personol oedd yn cynnwys ffurfiau ar enw Duw.
Wrth sôn am yr arysgrifau hyn, dywedodd Dr Rachel Nabulsi o Brifysgol Georgia: “Mae’r ffaith fod yr enw IHWH yn cael ei ddefnyddio’n aml yn bwysig. . . . Mae’r testunau [Beiblaidd] a’r arysgrifau yn dangos pa mor bwysig oedd IHWH ym mywyd Israel a Jwda.” Mae hyn yn cefnogi’r Beibl, lle mae enw Duw, wedi ei ysgrifennu IHWH mewn llythrennau Hebraeg, yn ymddangos filoedd o weithiau. Roedd enwau personol yn aml yn cynnwys yr enw dwyfol.
Mae’r geiriau “Iahwe Sabaot,” a gafodd eu naddu ar y garreg, yn golygu “Jehofa y Lluoedd.” Felly mae’n ymddangos bod pobl yn adeg y Beibl yn aml yn defnyddio enw Duw yn ogystal â’r ymadrodd “Jehofa y Lluoedd.” Mae hyn hefyd yn cefnogi defnydd y Beibl o’r ymadrodd “Jehofa y Lluoedd,” sy’n ymddangos 283 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg, gan amlaf yn llyfrau Eseia, Jeremeia, a Sechareia.