Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

Fydd y Rhai Sy’n Ceisio Jehofa Ddim yn Brin o Unrhyw Beth Da

Fydd y Rhai Sy’n Ceisio Jehofa Ddim yn Brin o Unrhyw Beth Da

TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2022: “Fydd y rhai sy’n ceisio Jehofa ddim yn brin o unrhyw beth da.”—SALM. 34:10, NWT.

CÂN 4 Jehofa Yw Fy Mugail

CIPOLWG *

Doedd Dafydd ddim yn teimlo ei fod “yn brin o unrhyw beth da,” hyd yn oed mewn adegau anodd (Gweler paragraffau 1-3) *

1. Pa sefyllfa anodd roedd Dafydd yn ei hwynebu?

 ROEDD Dafydd yn ffoi am ei fywyd. Roedd Saul, brenin pwerus Israel, yn benderfynol o’i ladd. Pan oedd Dafydd angen bwyd, gwnaeth ef stopio yn ninas Nob, lle gwnaeth ef ofyn am ddim ond pum torth o fara. (1 Sam. 21:1, 3) Yn hwyrach ymlaen, daeth ef a’i ddynion o hyd i loches mewn ogof. (1 Sam. 22:1) Pam roedd Dafydd yn y sefyllfa hon?

2. Sut rhoddodd Saul ei hun mewn sefyllfa beryglus? (1 Samuel 23:16, 17)

2 Roedd Saul yn ofnadwy o genfigennus o Dafydd am ei fod mor boblogaidd ac wedi ennill cymaint o frwydrau. Gwyddai Saul fod Jehofa wedi ei wrthod fel brenin Israel oherwydd ei anufudd-dod a bod Jehofa wedi dewis Dafydd fel y brenin nesaf. (Darllen 1 Samuel 23:16, 17.) Ond tra oedd Saul yn dal yn frenin Israel, roedd ganddo fyddin fawr, a llawer o gefnogwyr, felly roedd rhaid i Dafydd ffoi am ei fywyd. A oedd Saul wir yn meddwl byddai’n gallu stopio Duw rhag gwneud Dafydd yn frenin? (Esei. 55:11) Dydy’r Beibl ddim yn dweud, ond gallwn ni fod yn sicr o un peth: Roedd Saul yn rhoi ei hun mewn sefyllfa beryglus. Mae’r rhai sy’n brwydro yn erbyn Duw wastad yn colli!

3. Sut roedd Dafydd yn teimlo er gwaethaf ei amgylchiadau?

3 Roedd Dafydd yn ddyn gostyngedig. Wnaeth ef ddim dewis bod yn frenin Israel. Jehofa wnaeth ei ddewis am y rôl honno. (1 Sam. 16:1, 12, 13) Roedd Saul yn casáu Dafydd, ond wnaeth Dafydd ddim beio Jehofa am ei sefyllfa beryglus, na chwyno am ei fod yn cuddio mewn ogof heb lawer o fwyd. I’r gwrthwyneb, mae’n ddigon posib mai yn yr ogof honno gwnaeth ef gyfansoddi’r gân hyfryd o fawl sy’n cynnwys geiriau ein prif adnod: “Fydd y rhai sy’n ceisio Jehofa ddim yn brin o unrhyw beth da.”—Salm 34:10, NWT.

4. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried, a pham maen nhw’n bwysig?

4 Heddiw, mae llawer o weision Jehofa wedi bod yn brin o fwyd ac anghenion eraill bywyd. * Mae hyn wedi bod yn wir yn enwedig yn ystod y pandemig diweddar. A ninnau ar drothwy’r gorthrymder mawr, gallwn ni ddisgwyl wynebu adegau anoddach byth. (Math. 24:21) Gyda’r ffeithiau hynny mewn cof, gad inni ateb pedwar cwestiwn: Ym mha ffordd doedd Dafydd “ddim yn brin o unrhyw beth da”? Pam dylen ni ddysgu bod yn fodlon? Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn gofalu amdanon ni? A beth gallwn ni ei wneud nawr i baratoi am y dyfodol?

“MAE GEN I BOPETH DW I ANGEN”

5-6. Sut mae Salm 23:1-6 yn ein helpu ni i ddeall beth roedd Dafydd yn ei olygu pan ddywedodd fyddai gweision Duw “ddim yn brin o unrhyw beth da”?

5 Beth roedd Dafydd yn ei olygu pan ddywedodd fyddai gweision Jehofa “ddim yn brin o unrhyw beth da”? Cawn syniad drwy ystyried y geiriau tebyg sydd yn Salm 23. (Darllen Salm 23:1-6.) Mae Dafydd yn cyflwyno’r salm honno gyda’r geiriau: “Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.” Yng ngweddill y salm, mae Dafydd yn sôn am bethau sy’n wirioneddol bwysig—fel y bendithion ysbrydol di-rif a gafodd am ei fod wedi derbyn Jehofa fel ei Fugail. Dangosodd Jehofa y ffordd iawn iddo fynd a chefnogodd Dafydd yn ffyddlon mewn cyfnodau da a drwg. Gwnaeth Dafydd gydnabod na fyddai ei fywyd ym ‘mhorfa hyfryd’ Jehofa heb broblemau. Ar adegau, byddai’n digalonni, fel petai’n cerdded drwy ‘geunant tywyll dychrynllyd,’ a byddai ganddo elynion. Ond gyda Jehofa yn Fugail iddo, fyddai gan Dafydd “ddim ofn.”

6 Felly dyna’r ateb i’n cwestiwn cyntaf: Ym mha ffordd doedd Dafydd “ddim yn brin o unrhyw beth da”? Roedd ganddo bopeth roedd ei angen i aros yn agos at Jehofa. Doedd ei hapusrwydd ddim yn dibynnu ar bethau materol. Roedd Dafydd yn fodlon â’r hyn roedd Jehofa’n ei roi iddo. Y peth pwysicaf iddo oedd y ffaith fod Jehofa’n ei fendithio ac yn ei amddiffyn.

7. Yn ôl Luc 21:20-24, pa sefyllfa heriol gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf yn Jwdea ei hwynebu?

7 Gallwn ni weld o eiriau Dafydd pa mor bwysig ydy hi inni gael yr agwedd gywir tuag at bethau materol. Yn sicr, gallwn ni fwynhau’r pethau materol sydd gynnon ni, ond nid dyna ddylai fod bwysicaf yn ein bywydau. Roedd hynny’n wirionedd hanfodol daeth Cristnogion oedd yn byw yn Jwdea yn y ganrif gyntaf i’w ddeall. (Darllen Luc 21:20-24.) Wrth sôn am Jerwsalem, gwnaeth Iesu eu rhybuddio nhw y byddai amser yn dod pan fyddai ‘byddinoedd yn ei hamgylchynu.’ Pan fyddai hynny’n digwydd, byddai’n rhaid iddyn nhw “ddianc i’r mynyddoedd.” Drwy adael y ddinas, bydden nhw’n cael eu hachub, ond byddai’r gost yn uchel. Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd y Tŵr Gwylio: “Gwnaethon nhw adael eu caeau a’u cartrefi heb hyd yn oed gasglu eu heiddo o’u tai. Roedden nhw’n gwbl sicr y byddai Jehofa’n eu hamddiffyn a’u helpu. Felly, gwnaethon nhw flaenoriaethu addoli Jehofa yn hytrach nag unrhyw beth arall allai fod wedi ymddangos yn bwysig.”

8. Pa wers bwysig gallwn ni ei dysgu o’r hyn a ddigwyddodd i Gristnogion y ganrif gyntaf oedd yn byw yn Jwdea?

8 Pa wers bwysig gallwn ni ei dysgu o’r hyn a ddigwyddodd i Gristnogion y ganrif gyntaf oedd yn byw yn Jwdea? Aeth y Tŵr Gwylio ymlaen i ddweud: “Yn y dyfodol, efallai byddwn ni’n wynebu treialon sy’n dangos pa agwedd sydd gynnon ni tuag at bethau materol. Ai dyna ydy’r peth pwysicaf inni? Neu ydy hi’n bwysicach inni gael ein hachub am ein bod ni’n ffyddlon i Dduw? Pan ddaw’r diwedd, efallai bydd rhaid inni oddef caledi ac aberthu rhai pethau. Bydd rhaid inni fod yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen, yn union fel gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf wnaeth ffoi o Jwdea.” *

9. Sut mae cyngor Paul i’r Hebreaid yn dy galonogi di?

9 Elli di ddychmygu pa mor anodd oedd hi i’r Cristnogion hynny adael popeth oedd ganddyn nhw a dechrau bywyd newydd? Roedden nhw angen ffydd i ddibynnu ar Jehofa am eu hanghenion bob dydd. Ond roedd ’na rywbeth allai eu helpu nhw. Bum mlynedd cyn i’r Rhufeiniaid amgylchynu Jerwsalem, rhoddodd yr apostol Paul gyngor gwerthfawr i’r Hebreaid. “Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi!—byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, ‘Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.’ Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, ‘Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?’” (Heb. 13:5, 6) Mae’n rhaid fod y rhai a ddilynodd gyngor Paul cyn i’r Rhufeiniaid ymosod wedi ei chael hi’n haws bod yn fodlon â bywyd symlach yn eu cartref newydd. Roedden nhw’n sicr y byddai Jehofa’n gofalu am eu hanghenion bob dydd. Mae geiriau Paul yn ein sicrhau ni y gallwn ninnau hefyd drystio Jehofa i roi popeth rydyn ni ei angen.

“GADEWCH INNI FOD YN FODLON”

10. Pa “gyfrinach” gwnaeth Paul ei rhannu â ni?

10 Rhoddodd Paul gyngor tebyg i Timotheus, sydd hefyd yn berthnasol i ni heddiw. Ysgrifennodd: “Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.” (1 Tim. 6:8) Ydy hynny’n golygu na allwn ni fwynhau pryd o fwyd blasus, byw mewn tŷ braf, neu brynu dillad newydd o bryd i’w gilydd? Nid dyna ydy’r pwynt roedd Paul yn ei wneud. Roedd Paul yn dweud y dylen ni fod yn fodlon â beth bynnag sydd gynnon ni yn faterol. (Phil. 4:12) Dyna oedd ei “gyfrinach.” Y peth mwyaf gwerthfawr sydd gynnon ni ydy ein perthynas â’n Duw, nid unrhyw un o’n pethau materol.—Hab. 3:17, 18.

Roedd gan yr Israeliaid bopeth roedden nhw ei angen yn ystod y 40 mlynedd yn yr anialwch. A allwn ni fod yn fodlon â’r hyn sydd gynnon ni? (Gweler paragraff 11) *

11. Pa wers am fod yn fodlon ydyn ni’n ei dysgu o eiriau Moses i’r Israeliaid?

11 Efallai bod ’na wahaniaeth rhwng beth rydyn ni’n meddwl rydyn ni ei angen a beth mae Jehofa’n gwybod rydyn ni ei angen. Ystyria beth ddywedodd Moses wrth yr Israeliaid ar ôl iddyn nhw dreulio 40 mlynedd yn yr anialwch: “Mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi ei wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy’r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.” (Deut. 2:7) Yn ystod y 40 mlynedd hynny, gwnaeth Jehofa roi manna i’r Israeliaid fel bwyd. Sicrhaodd Jehofa nad oedd eu dillad nhw’n treulio, felly roedden nhw’n dal yn gallu defnyddio’r dillad roedd ganddyn nhw pan wnaethon nhw adael yr Aifft. (Deut. 8:3, 4) Efallai fod rhai wedi meddwl nad oedd y pethau hyn yn ddigon, ond gwnaeth Moses atgoffa’r Israeliaid fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen. Byddwn ni’n plesio Jehofa os ydyn ni’n dysgu bod yn fodlon, hynny yw, gwerthfawrogi hyd yn oed y pethau bach mae’n eu rhoi inni, deall eu bod nhw’n rhodd ganddo, a diolch iddo amdanyn nhw.

TRYSTIA Y BYDD JEHOFA’N GOFALU AMDANAT TI

12. Beth sy’n dangos bod Dafydd wedi trystio Jehofa, nid ei hun?

12 Roedd Dafydd yn gwybod bod Jehofa’n ffyddlon, ac yn caru’r rhai sy’n ei garu Ef. Er roedd ei fywyd mewn peryg pan wnaeth ef gyfansoddi Salm 34, roedd ffydd Dafydd yn Jehofa mor gryf, roedd yn hollol sicr fod “angel yr ARGLWYDD” yn gwersylla o’i gwmpas i’w “amddiffyn.” (Salm 34:7) Efallai roedd Dafydd yn cymharu angel Jehofa â milwyr yn gwersylla mewn cae sydd wastad yn gwylio am y gelyn. Er roedd Dafydd yn filwr dewr, ac roedd Jehofa wedi addo y byddai’n frenin, wnaeth ef ddim dibynnu ar ei allu ei hun i hyrddio carreg nac i drechu’r gelyn â chleddyf. (1 Sam. 16:13; 24:12) Trystiodd Dafydd yn Nuw, yn gwbl sicr bod angel Jehofa yn achub y rhai sy’n ffyddlon iddo Ef. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn disgwyl cael ein hamddiffyn mewn ffordd wyrthiol heddiw. Ond rydyn ni’n gwybod y bydd pawb sy’n trystio Jehofa yn cael byw am byth, hyd yn oed os ydyn nhw’n marw nawr.

Yn ystod y gorthrymder mawr, efallai bydd milwyr Gog o dir Magog yn trio ymosod arnon ni yn ein cartrefi. Ond cawn gysur o wybod y bydd Iesu a’i angylion yn gweld beth maen nhw’n ei wneud ac yn ein hamddiffyn ni (Gweler paragraff 13)

13. Pan fydd Gog o dir Magog yn ymosod, pam byddwn ni’n ymddangos yn darged hawdd, ond pam ddylen ni ddim ofni? (Gweler y llun ar y clawr.)

13 Yn y dyfodol agos, bydd ein hyder yng ngallu Jehofa i’n hamddiffyn ni yn cael ei brofi. Pan fydd Gog o dir Magog, cynghrair o genhedloedd, yn ymosod ar bobl Dduw, bydd yn ymddangos bod ein bywydau mewn peryg. Bydd rhaid inni fod yn gwbl sicr fod Jehofa yn gallu ein hachub ni, ac y bydd yn ein hachub ni. Bydd y cenhedloedd yn ein gweld ni fel defaid diniwed; yn gwbl agored i ymosodiad. (Esec. 38:10-12) Byddwn ni heb arfau, a byddwn ni heb gael ein hyfforddi i ymladd. Bydd y cenhedloedd yn meddwl ein bod ni’n darged hawdd. Fyddan nhw ddim yn gweld beth rydyn ni’n ei weld drwy lygaid ffydd—llu o angylion yn gwersylla o amgylch pobl Dduw yn barod i frwydro droston ni. Sut gallai’r cenhedloedd eu gweld nhw? Does ganddyn nhw ddim ffydd yn Nuw. Am sioc cân nhw pan fydd y fyddin nefol yn neidio i’r adwy!—Dat. 19:11, 14, 15.

PARATOI NAWR AR GYFER Y DYFODOL

14. Beth allwn ni ei wneud nawr i baratoi ar gyfer y dyfodol?

14 Beth gallwn ni ei wneud nawr i baratoi ar gyfer y dyfodol? Yn gyntaf, mae’n rhaid inni feithrin yr agwedd gywir tuag at bethau materol, gan sylweddoli y bydd rhaid inni gefnu ar y pethau hynny un diwrnod. Rydyn ni hefyd angen bod yn fodlon â’r hyn sydd gynnon ni, a bod yn hapus ein byd am fod gynnon ni berthynas â Jehofa. Y mwyaf rydyn ni’n dod i adnabod ein Duw, y mwyaf sicr y byddwn ni yn ei allu i’n hamddiffyn ni pan fydd Gog o dir Magog yn ymosod.

15. Pa brofiadau cynnar wnaeth ddysgu Dafydd na fyddai Jehofa byth yn ei siomi?

15 Ystyria beth arall wnaeth helpu Dafydd i baratoi ar gyfer treialon a all ein helpu ninnau hefyd. Dywedodd Dafydd: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD! Mae’r rhai sy’n troi ato am loches wedi eu bendithio’n fawr!” (Salm 34:8) Mae’r geiriau hynny yn esbonio pam roedd Dafydd yn gwybod y byddai’n gallu dibynnu ar Jehofa am ei gefnogaeth. Gwnaeth Dafydd ddibynnu ar Jehofa’n aml, a wnaeth ei Dduw erioed ei siomi. Pan oedd yn ifanc, brwydrodd Dafydd yn erbyn Goliath, cawr o Philistia, a dywedodd wrth y milwr ffyrnig hwnnw: “Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i.” (1 Sam. 17:46) Yn hwyrach yn ei fywyd, roedd Dafydd yn gwasanaethu’r brenin Saul a wnaeth drio ei ladd sawl gwaith. Ond roedd Jehofa “gyda Dafydd.” (1 Sam. 18:12) Am fod Dafydd yn gwybod bod Jehofa wedi ei helpu yn y gorffennol, gwyddai ei fod yn gallu dibynnu arno yn ystod ei dreialon presennol.

16. Ym mha ffyrdd ymarferol gallwn ni brofi daioni Jehofa droston ni’n hunain?

16 Y mwyaf rydyn ni’n dibynnu ar Jehofa nawr, y cryfaf y bydd ein hyder yn ei allu i’n hachub ni yn y dyfodol. Rydyn ni angen cael ffydd a bod yn fodlon dibynnu ar Jehofa er mwyn gofyn i’n cyflogwr am amser i ffwrdd i fynd i gynulliad neu gynhadledd, ac i ofyn am ganiatâd i addasu ein hamserlen gwaith er mwyn inni fynd i bob cyfarfod a threulio mwy o amser ar y weinidogaeth. Dyweda fod ein cyflogwr yn gwrthod, a’n bod ni’n colli ein swydd. A oes gynnon ni ffydd na fydd Jehofa byth yn ein gadael ni nac yn cefnu arnon ni, ac y bydd wastad yn gofalu am ein hanghenion? (Heb. 13:5) Gall llawer sy’n gwasanaethu’n llawn amser adrodd profiadau sy’n dangos sut gwelson nhw law Jehofa yn eu bywydau pan oedden nhw ei angen fwyaf. Mae Jehofa yn ffyddlon.

17. Beth yw testun y flwyddyn 2022, a pham mae’n briodol?

17 Gyda Jehofa ar ein hochr, does gynnon ni ddim rheswm i ofni beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Fydd ein Duw byth yn cefnu arnon ni os ydyn ni’n rhoi ei ewyllys yn gyntaf yn ein bywydau. Er mwyn ein hatgoffa ni i baratoi nawr ar gyfer y dyddiau anodd sydd i ddod, ac i drystio na fydd Jehofa byth yn cefnu arnon ni, mae’r Corff Llywodraethol wedi dewis Salm 34:10 fel testun y flwyddyn ar gyfer 2022: “Fydd y rhai sy’n ceisio Jehofa ddim yn brin o unrhyw beth da.”

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

^ Mae testun y flwyddyn ar gyfer 2022 yn dod o Salm 34:10: “Fydd y rhai sy’n ceisio Jehofa ddim yn brin o unrhyw beth da.” Does gan y rhan fwyaf o weision ffyddlon Jehofa ddim llawer o bethau materol. Felly sut gallwn ni ddweud eu bod nhw “ddim yn brin o unrhyw beth da”? A sut gall deall ystyr yr adnod hon ein helpu ni i baratoi ar gyfer yr adegau anodd sydd i ddod?

^ Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Medi 15, 2014, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Hyd yn oed tra oedd yn cuddio oddi wrth y brenin Saul mewn ogof, roedd Dafydd yn ddiolchgar am y pethau roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft, rhoddodd Jehofa manna iddyn nhw ei fwyta a chadw eu dillad rhag treulio.