Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

Gwersi Gallwn Ni eu Dysgu o Ddagrau Iesu

Gwersi Gallwn Ni eu Dysgu o Ddagrau Iesu

“Roedd Iesu yn ei ddagrau.”—IOAN 11:35.

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

CIPOLWG *

1-3. Pa heriau all wneud inni grio?

 PRYD oedd y tro diwethaf iti grio? Weithiau, rydyn ni’n gollwng dagrau o lawenydd, ond yn rhy aml o lawer rydyn ni’n crio oherwydd y boen yn ein calon. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n crio pan fydd anwylyn yn marw. Ysgrifennodd Lorilei, chwaer yn yr Unol Daleithiau: “Ar adegau roedd y boen o golli fy merch mor gryf doedd dim byd yn dod â chysur imi. Ar yr adegau hynny, o’n i’n meddwl sut alla i fynd ymlaen â nghalon i’n deilchion.” *

2 Efallai byddwn ni’n gollwng dagrau am resymau eraill. Gwnaeth Hiromi, arloeswraig yn Japan, gyfaddef: “Bob hyn a hyn dw i’n digalonni oherwydd apathi y bobl dw i’n eu cyfarfod ar y weinidogaeth. Weithiau â dagrau yn fy llygaid, dw i’n gofyn i Jehofa fy helpu i ffeindio rhywun sy’n chwilio am y gwir.”

3 Wyt ti weithiau yn teimlo’r un ffordd â’r chwiorydd hyn? Byddai llawer iawn yn dweud eu bod nhw. (1 Pedr 5:9) Rydyn ni eisiau gwasanaethu Jehofa “yn llawen,” ond efallai ein bod ni’n ei wasanaethu â dagrau oherwydd galar, digalondid, neu sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd inni aros yn ffyddlon i Dduw. (Salm 6:6; 100:2) Sut gallwn ni ymdopi pan fydd teimladau o’r fath yn ein llethu?

4. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

4 Gallwn ni ddysgu o esiampl Iesu. Ar adegau, gwnaeth yntau hefyd deimlo emosiynau mor gryf “roedd yn ei ddagrau.” (Ioan 11:35; Luc 19:41; 22:44; Heb. 5:7) Gad inni drafod yr adegau hynny. Ar yr un pryd, byddwn ni’n gweld pa wersi gallwn ni eu dysgu. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd ymarferol gallwn ni ddelio â heriau sy’n gwneud inni grio.

CRIO DROS EI FFRINDIAU

Cefnoga’r rhai sy’n galaru, fel gwnaeth Iesu (Gweler paragraffau 5-9) *

5. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanes yn Ioan 11:32-36?

5 Yng ngaeaf 32 OG, aeth Lasarus, ffrind da Iesu, yn sâl a marw. (Ioan 11:3, 14) Roedd gan Lasarus ddwy chwaer, Mair a Martha, ac roedd Iesu’n caru’r teulu yma yn fawr iawn. Roedd colli eu brawd annwyl wedi torri calonnau’r merched. Ar ôl i Lasarus farw, aeth Iesu i Bethania lle roedd Mair a Martha yn byw. Pan glywodd Martha fod Iesu yno, rhuthrodd allan i’w gyfarfod. Dychmyga’r don o emosiwn pan ddywedodd hi: “Arglwydd, . . . taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” (Ioan 11:21) Yn fuan wedyn, “roedd Iesu yn ei ddagrau” o weld Mair ac eraill yn crio.—Darllen Ioan 11:32-36.

6. Pam gwnaeth Iesu grio ar yr achlysur hwn?

6 Pam gwnaeth Iesu grio ar yr achlysur hwnnw? Mae’r llyfr Insight on the Scriptures yn dweud: “Gwnaeth marwolaeth ei ffrind Lasarus, a’r galar gwnaeth hynny achosi i chwiorydd Lasarus, wneud i Iesu riddfan a dechrau crio.” * Efallai roedd Iesu yn meddwl am y boen roedd ei ffrind annwyl Lasarus wedi mynd drwyddo, ac yn dychmygu sut roedd wedi teimlo wrth iddo sylweddoli bod ei fywyd yn llithro i ffwrdd. Ac mae’n siŵr daeth dagrau i lygaid Iesu o weld sut cafodd Mair a Martha eu heffeithio gan farwolaeth eu brawd. Os wyt ti wedi colli ffrind agos, neu aelod o dy deulu, mae’n siŵr dy fod tithau wedi teimlo rhywbeth tebyg. Ystyria dair gwers gelli di eu dysgu o’r digwyddiad hwn.

7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa o’r dagrau gwnaeth Iesu eu gollwng dros ei ffrindiau?

7 Mae Jehofa yn deall sut rwyt ti’n teimlo. Mae Iesu wedi “dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw.” (Heb. 1:3) Pan wnaeth Iesu grio, roedd yn adlewyrchu emosiynau ei Dad. (Ioan 14:9) Os wyt ti’n dioddef oherwydd dy fod ti wedi colli anwylyn, gelli di fod yn sicr fod Jehofa, nid yn unig yn sylwi ar dy alar, ond hefyd yn teimlo drostot ti. Mae ef eisiau gwella’r briw.—Salm 34:18; 147:3.

8. Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Iesu yn atgyfodi ein hanwyliaid?

8 Mae Iesu eisiau atgyfodi dy anwyliaid. Ychydig cyn iddo grio, dywedodd Iesu wrth Martha: “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” Roedd Martha’n credu Iesu. (Ioan 11:23-27) Roedd Martha yn addoli Jehofa’n ffyddlon, felly roedd hi’n gwybod bod y proffwydi Elias ac Eliseus wedi atgyfodi pobl yn y gorffennol. (1 Bren. 17:17-24; 2 Bren. 4:32-37) Ac mae’n debyg roedd hi hefyd wedi clywed am y bobl roedd Iesu wedi eu hatgyfodi. (Luc 7:11-15; 8:41, 42, 49-56) Gelli dithau hefyd fod yn sicr y byddi di’n gweld dy anwyliaid sydd wedi marw unwaith eto. Mae dagrau Iesu wrth iddo gysuro ei ffrindiau oedd yn galaru yn profi bod yr atgyfodiad yn agos at ei galon!

9. Fel Iesu, sut gelli di gysuro’r rhai sy’n galaru? Rho enghraifft.

9 Gelli di gysuro’r rhai sy’n galaru. Gwnaeth Iesu fwy na chrio gyda Martha a Mair, gwnaeth ef hefyd wrando arnyn nhw, a’u cysuro nhw. Gallwn ninnau wneud yr un fath i’r rhai sy’n galaru. Dywedodd Dan, henuriad sy’n byw yn Awstralia: “Ar ôl colli fy ngwraig, o’n i angen cefnogaeth. Oedd llawer o gyplau yn barod i wrando arna i ddydd a nos. Gwnaethon nhw adael imi alaru, a doedd y ffaith fy mod i’n crio ddim yn eu gwneud nhw’n anghyfforddus. Gwnaethon nhw hefyd helpu mewn ffyrdd ymarferol, fel golchi’r car, mynd i siopa, a choginio bwyd pan o’n i’n teimlo bod y pethau hynny’n ormod imi. A gwnaethon nhw weddïo gyda mi yn aml. Gwnaethon nhw brofi eu hunain i fod yn ffrindiau go iawn, ac yn ‘frodyr wedi eu geni i helpu mewn helbul.’”—Diar. 17:17.

CRIO DROS EI GYMDOGION

10. Disgrifia beth ddigwyddodd yn Luc 19:36-40.

10 Gwnaeth Iesu gyrraedd Jerwsalem ar Nisan 9, 33 OG. Wrth iddo agosáu at y ddinas, daeth torf o bobl at ei gilydd a dechrau rhoi eu cotiau ar y ffordd o’i flaen er mwyn ei dderbyn fel eu Brenin. Roedd hynny’n sicr yn foment hapus. (Darllen Luc 19:36-40.) Felly efallai nad oedd ei ddisgyblion yn disgwyl beth ddigwyddodd nesaf. “Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o’i flaen.” Â dagrau yn ei lygaid, rhagfynegodd Iesu y pethau ofnadwy fyddai’n digwydd i bobl Jerwsalem.—Luc 19:41-44.

11. Pam gwnaeth Iesu grio dros bobl Jerwsalem?

11 Roedd calon Iesu’n drwm oherwydd er gwaetha’r croeso cynnes roedd yn ei gael, roedd yn gwybod y byddai’r rhan fwyaf o’r Iddewon yn gwrthod neges y Deyrnas. O ganlyniad, byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio, a byddai unrhyw Iddewon oedd yn goroesi yn dod yn gaethweision. (Luc 21:20-24) Yn anffodus, fel dywedodd Iesu, gwnaeth y rhan fwyaf o bobl ei wrthod. Sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymateb i neges y Deyrnas lle rwyt ti’n byw? Os does ’na ddim llawer o bobl yn ymateb yn dda i dy ymdrechion i ddysgu’r gwir iddyn nhw, beth gelli di ei ddysgu o ddagrau Iesu? Ystyria dair gwers arall.

12. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r dagrau gwnaeth Iesu eu gollwng dros ei gymdogion?

12 Mae Jehofa yn caru pobl. Mae dagrau Iesu yn ein hatgoffa ni gymaint mae Jehofa yn caru pobl. “Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9) Heddiw, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion drwy ddal ati yn ein hymdrechion i gyrraedd eu calonnau â’r newyddion da.—Math. 22:39. *

Pregetha ar adegau gwahanol, fel gwnaeth Iesu (Gweler paragraffau 13-14) *

13-14. Sut dangosodd Iesu ei fod yn teimlo dros bobl, a sut gallwn ni ei efelychu?

13 Gweithiodd Iesu’n galed yn y weinidogaeth. Dangosodd ei fod yn caru pobl drwy gymryd pob cyfle i’w dysgu nhw. (Luc 19:47, 48) Beth roedd yn ei gymell i wneud hynny? Roedd Iesu yn teimlo drostyn nhw. Ar adegau, roedd gymaint eisiau clywed geiriau Iesu “nes bod dim cyfle i’w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed.” (Marc 3:20) A phan oedd un dyn eisiau siarad â Iesu ar ôl iddi nosi, roedd Iesu yn fodlon gwneud hynny. (Ioan 3:1, 2) Gwnaeth y rhan fwyaf o’r bobl wnaeth wrando ar Iesu ddim dod yn ddisgyblion iddo, ond cawson nhw i gyd dystiolaeth drylwyr. Heddiw, rydyn ni eisiau rhoi’r cyfle i bawb glywed y newyddion da. (Act. 10:42) I wneud hynny, efallai bydd rhaid inni addasu’r ffordd rydyn ni’n pregethu.

14 Bydda’n barod i wneud newidiadau angenrheidiol. Os ydyn ni wastad yn pregethu ar yr un adegau, efallai na fyddwn ni’n cyfarfod pobl fyddai’n hoffi clywed y newyddion da. Dywedodd arloeswraig o’r enw Matilda: “Dw i a fy ngŵr yn trio galw ar bobl ar wahanol adegau. Yn fuan yn y bore, ’dyn ni’n gwneud tiriogaeth fusnes. Tua chanol y dydd, pan mae’r strydoedd yn brysur, ’dyn ni’n defnyddio’r trolïau. Yn hwyrach yn y dydd, ’dyn ni’n cyrraedd mwy o bobl yn eu cartrefi.” Yn hytrach na glynu at amserlen sy’n gyfleus i ni, dylen ni fod yn fodlon addasu ein hamserlen i bregethu pan fyddwn ni’n fwy tebygol o gyfarfod pobl. Os gwnawn ni hynny, gallwn ni fod yn sicr y byddwn ni’n plesio Jehofa.

CRIO DROS ENW EI DAD

Gweddïa’n daer ar Jehofa mewn cyfnodau anodd, fel gwnaeth Iesu (Gweler paragraffau 15-17) *

15. Yn ôl Luc 22:39-44, beth ddigwyddodd ar noson olaf Iesu ar y ddaear?

15 Yn hwyr gyda’r nos ar Nisan 14, 33 OG, aeth Iesu i ardd Gethsemane. Yno, gwnaeth ef fwrw ei fol i Jehofa. (Darllen Luc 22:39-44.) Dyna’r adeg gwnaeth Iesu ‘weddïo gan alw’n daer ac wylo.’ (Heb. 5:7) Beth gwnaeth Iesu weddïo amdano ar y noson olaf cyn iddo farw? Gweddïodd am y nerth i aros yn ffyddlon i Jehofa ac i wneud Ei ewyllys. Clywodd Jehofa y boen yng ngweddi ei Fab, ac anfonodd angel i’w atgyfnerthu.

16. Pam roedd Iesu’n crio pan oedd yn gweddïo yng ngardd Gethsemane?

16 Roedd Iesu’n crio yng ngardd Gethsemane am ei fod yn poeni y byddai pobl yn meddwl bod ganddo ddim parch tuag at enw Duw. Roedd hefyd yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb aruthrol oedd ganddo, sef sancteiddio enw ei Dad. Os wyt ti’n wynebu sefyllfa anodd, sy’n profi dy ffyddlondeb i Jehofa, beth gelli di ei ddysgu o ddagrau Iesu? Ystyria dair gwers arall.

17. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r ffaith ei fod wedi ateb gweddïau taer Iesu?

17 Mae Jehofa yn gwrando ar dy weddïau. Gwrandawodd Jehofa ar weddïau taer Iesu. Pam? Oherwydd y peth pwysicaf i Iesu oedd aros yn ffyddlon i’w Dad a sancteiddio Ei enw. Os mai dyna sy’n bwysicaf i ninnau hefyd, bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau am help.—Salm 145:18, 19.

18. Sut mae Iesu yn cydymdeimlo â ni?

18 Mae Iesu’n cydymdeimlo â ti. Pan ydyn ni wedi ypsetio, rydyn ni’n hapus iawn o wybod bod gynnon ni ffrind sy’n cydymdeimlo â ni, yn enwedig un sydd wedi wynebu heriau tebyg i’n rhai ni. Iesu ydy’r ffrind hwnnw. Mae’n gwybod sut beth ydy teimlo’n wan ac mewn angen. Mae’n deall ein gwendidau, a bydd yn sicrhau ein bod ni’n cael help “pan mae angen.” (Heb. 4:15, 16) Yn union fel gwnaeth Iesu dderbyn help yr angel yng ngardd Gethsemane, dylen ni fod yn fodlon derbyn yr help mae Jehofa’n ei roi, boed hynny drwy gyhoeddiad, fideo, anerchiad, neu ymweliad calonogol gan henuriad neu ffrind aeddfed.

19. Sut gelli di gael nerth pan fydd dy ffydd yn cael ei phrofi? Rho enghraifft.

19 Bydd Jehofa yn rhoi ei heddwch iti. Sut bydd Jehofa yn ein hatgyfnerthu ni? Drwy weddïo, byddwn ni’n cael yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.” (Phil. 4:6, 7) Mae’r heddwch mae Jehofa’n ei roi yn tawelu ein calonnau, ac yn ein helpu i feddwl yn glir. Cafodd chwaer o’r enw Luz brofiad o hyn. Dywedodd: “Dw i’n brwydro teimladau o unigrwydd, felly weithiau dw i’n teimlo bod Jehofa ddim yn fy ngharu. Ond pan mae hynny’n digwydd, dw i’n dweud wrth Jehofa sut dw i’n teimlo yn syth. Mae gweddi yn fy helpu i reoli fy nheimladau.” Fel mae ei phrofiad yn dangos, gallwn ni gael heddwch drwy weddi.

20. Pa wersi rydyn ni wedi eu dysgu o ddagrau Iesu?

20 Mae’r gwersi rydyn ni’n eu dysgu o ddagrau Iesu yn hynod o gysurlon ac ymarferol. Rydyn ni’n cael ein hatgoffa i gefnogi ein ffrindiau sy’n galaru, ac i drystio y bydd Jehofa ac Iesu yn ein cefnogi ninnau pan fyddwn ni’n colli anwylyn. Rydyn ni’n efelychu cariad Jehofa Dduw ac Iesu Grist tuag at bobl drwy bregethu a dysgu. Ac rydyn ni’n cael cysur o wybod bod Jehofa a’i Fab annwyl yn deall sut rydyn ni’n teimlo, yn deall ein gwendidau, ac eisiau ein helpu ni i ddyfalbarhau. Gad inni barhau i roi’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu ar waith tan y diwrnod pan fydd Jehofa yn cyflawni ei addewid hyfryd i “sychu pob deigryn [o’n] llygaid”!—Dat. 21:4.

CÂN 120 Efelychu Addfwynder Crist

^ Ar adegau, gwnaeth Iesu deimlo emosiynau mor gryf gwnaeth ef grio. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri achlysur o’r fath, a’r gwersi gallwn ni eu dysgu o’i ddagrau.

^ Newidiwyd rhai enwau.

^ Mae’r gair Groeg sy’n golygu “cymydog” yn Mathew 22:39 yn gallu cynnwys mwy na dim ond y rhai sy’n byw yn agos. Mae’n gallu cyfeirio at unrhyw un rydyn ni’n ei gyfarfod.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd Iesu eisiau cysuro Mair a Martha. Gallwn ninnau wneud yr un fath i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd Iesu’n fodlon dysgu Nicodemus ar ôl iddi nosi. Dylen ni astudio’r Beibl gyda phobl pan mae’n gyfleus iddyn nhw.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Gweddïodd Iesu am y nerth i aros yn ffyddlon i Jehofa. Mae’n rhaid i ninnau wneud yr un peth yn wyneb treialon.