ERTHYGL ASTUDIO 5
Gwna’r Defnydd Gorau o Dy Amser
“Gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl—byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi.”—EFF. 5:15, 16.
CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa
CIPOLWG *
1. Sut gallwn ni dreulio amser gyda Jehofa?
RYDYN ni wrth ein boddau yn treulio amser â’r bobl rydyn ni’n eu caru. Mae cyplau priod yn mwynhau treulio nosweithiau bach distaw gyda’i gilydd. Mae pobl ifanc yn mwynhau cwmni eu ffrindiau agos. Ac rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi’r amser rydyn ni’n ei dreulio gyda’n brodyr a chwiorydd. Ond mae’r llawenydd mwyaf yn dod o dreulio amser gyda’n Duw. Gallwn ni wneud hynny drwy weddïo arno, drwy ddarllen ei Air, a drwy fyfyrio ar ei bwrpas a’i rinweddau hyfryd. Mae’r amser rydyn ni’n ei dreulio gyda Jehofa yn wirioneddol werthfawr!—Salm 139:17.
2. Pa her rydyn ni’n ei hwynebu?
2 Er ein bod ni’n mwynhau treulio amser gyda Jehofa, dydy hi ddim wastad yn hawdd. Mae’n bywydau ni’n brysur, felly mae’n gallu bod yn her i wneud amser ar gyfer pethau ysbrydol. Gall gwaith seciwlar, cyfrifoldebau teuluol, a phethau eraill angenrheidiol, gofyn am gymaint o’n hamser nes inni deimlo ein bod ni’n rhy brysur i weddïo, astudio, neu fyfyrio.
3. Beth arall all gymryd ein hamser?
3 Mae ’na rywbeth arall sy’n gallu cymryd ein hamser. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni adael i bethau sydd ddim yn anghywir ynddyn nhw eu hunain ddwyn yr amser gallwn ni fod wedi ei ddefnyddio i glosio at Jehofa. Ystyria adloniant er enghraifft. Rydyn ni i gyd angen ymlacio bob hyn a hyn. Ond gall hyd yn oed adloniant adeiladol gymryd gymaint o’n hamser nes bod ’na fawr ddim amser ar ôl i bethau ysbrydol. Rydyn ni angen cadw adloniant yn ei le.—Diar. 25:27; 1 Tim. 4:8.
4. Beth byddwn ni’n ei drafod nawr?
4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam mae angen inni ystyried beth sy’n bwysicaf i ni. Byddwn ni hefyd yn edrych ar sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’n hamser gyda Jehofa, a sut gallwn ni elwa o wneud hynny.
GWNA BENDERFYNIADAU DOETH; BLAENORIAETHA’N GALL
5. Sut gall ystyried y cyngor yn Effesiaid 5:15-17 helpu rhywun ifanc i ddewis y peth orau i’w wneud mewn bywyd?
5 Dewisa’r bywyd gorau. Mae llawer o bobl ifanc yn poeni am sut i wneud y defnydd gorau o’u bywydau. Ar un llaw, efallai bydd athrawon a theulu sydd ddim yn Dystion yn eu hannog nhw i fynd ar ôl addysg uwch er mwyn cael gyrfa lwyddiannus yn y byd. Byddai addysg o’r fath yn cymryd llawer iawn o’u hamser. Ar y llaw arall, efallai bydd rhieni a ffrindiau yn y gynulleidfa yn annog pobl ifanc i dreulio eu bywydau yng ngwasanaeth Jehofa. Beth all helpu person ifanc sy’n caru Jehofa i wneud y penderfyniad gorau? Byddai’n elwa o ddarllen a myfyrio ar Effesiaid 5:15-17. (Darllen.) Ar ôl darllen yr adnodau hyn, gallai rhywun ifanc ofyn iddo’i hun: ‘Beth mae Jehofa eisiau? Pa benderfyniad fydd yn ei blesio? Beth fydd yn fy helpu i wneud y defnydd gorau o fy amser?’ Cofia, “mae digon o ddrygioni o’n cwmpas ni,” a bydd byd Satan yn dod i ben yn fuan. Byddai’n beth doeth inni ddefnyddio ein bywydau mewn ffordd sy’n gwneud Jehofa yn hapus.
6. Pa ddewis wnaeth Mair, a pham roedd hynny’n ddewis doeth?
6 Blaenoriaetha’n ddoeth. Weithiau mae’n rhaid inni ddewis rhwng dau weithgaredd sydd ddim yn ddrwg ynddyn nhw eu hunain er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n hamser. Gwelwn hynny o hanes Mair a Martha pan aeth Iesu draw i’w tŷ. Roedd Martha wedi gwirioni gymaint bod Iesu yno, aeth hi ati i baratoi pryd mawr o fwyd. Yn y cyfamser, gwnaeth ei chwaer Mair eistedd gyda Iesu i wrando ar beth oedd ganddo i’w ddweud. Yn sicr, roedd gan Martha fwriadau da, ond dewisodd Mair beth oedd “wir yn bwysig.” (Luc 10:38-42) Dros amser, byddai Mair wedi anghofio beth roedden nhw wedi ei fwyta ar yr achlysur hwnnw, ond yn bendant fyddai hi ddim wedi anghofio beth gwnaeth hi ei ddysgu oddi wrth Iesu. Yn union fel gwnaeth Mair drysori ei hamser gyda Iesu, rydyn ni’n trysori ein hamser gyda Jehofa. Sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’r amser hwnnw?
GWNA’R DEFNYDD GORAU O DY AMSER GYDA JEHOFA
7. Pam mae gweddïo, astudio, a myfyrio yn haeddu ein hamser a’n sylw?
7 Rhaid inni ddeall bod gweddi, astudio, a myfyrio yn rhan o’n haddoliad. Pan ydyn ni’n gweddïo, rydyn ni’n cyfathrebu gyda’n Tad nefol sy’n ein caru ni’n fawr iawn. (Salm 5:7) Pan ydyn ni’n astudio, rydyn ni’n dysgu oddi wrth Dduw, sef Ffynhonnell doethineb. (Diar. 2:1-5) Pan ydyn ni’n myfyrio, rydyn ni’n meddwl am bersonoliaeth ddeniadol Jehofa a’i bwrpas anhygoel ar gyfer y greadigaeth, yn ogystal â sut rydyn ni’n rhan o hynny. Does ’na ddim ffordd well o ddefnyddio dy amser! Ond sut gallwn ni wneud y gorau o’n hamser prin?
8. Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r ffordd gwnaeth Iesu dreulio ei amser yn yr anialwch?
8 Os bosib, dewisa rywle distaw. Ystyria esiampl Iesu. Cyn iddo gychwyn ei weinidogaeth ar y ddaear, treuliodd Iesu 40 diwrnod yn yr anialwch. (Luc 4:1, 2) Yn y lle distaw hwnnw, gallai Iesu weddïo ar Jehofa a myfyrio ar ewyllys ei Dad ar ei gyfer. Mae’n debyg gwnaeth hynny baratoi Iesu ar gyfer yr heriau byddai’n eu hwynebu yn fuan. Sut gelli di elwa o esiampl Iesu? Os wyt ti’n rhan o deulu mawr, efallai nad ydy hi wastad yn bosib iti ffeindio rhywle distaw yn y cartref. Yn yr achos hwnnw, efallai gei di hyd i rywle distaw tu allan. Dyna beth mae Julie yn ei wneud pan mae hi eisiau treulio amser gyda Jehofa mewn gweddi. Mae hi a’i gŵr yn byw mewn fflat bach yn Ffrainc ac mae’n anodd iddi gael llonydd. “Felly dw i’n mynd am dro yn y parc bob dydd,” esboniodd Julie. “Yno, dw i’n gallu cael llonydd i ganolbwyntio a siarad â Jehofa.”
9. Er bod ganddo fywyd prysur, sut dangosodd Iesu fod ei berthynas â Jehofa yn werthfawr iddo?
9 Roedd gan Iesu fywyd prysur iawn. Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear roedd torfeydd o bobl yn ei ddilyn o un lle i’r llall, a phob un ohonyn nhw eisiau ei amser a’i sylw. Ar un achlysur, “roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws” er mwyn ei weld. Er hynny, trefnodd Iesu amser i ofalu am ei berthynas ei hun â Jehofa. Cyn y wawr, daeth o hyd i “le unig” lle gallai dreulio amser ar ei ben ei hun gyda’i Dad.—Marc 1:32-35.
10-11. Yn ôl Mathew 26:40, 41, pa gyngor amserol roddodd Iesu i’w ddisgyblion yng ngardd Gethsemane, a beth ddigwyddodd?
10 Ar ei noson olaf ar y ddaear, wrth i’w weinidogaeth ddod i ben, chwiliodd Iesu unwaith eto am rywle distaw i fyfyrio a gweddïo. Gardd Gethsemane oedd y lle hwnnw. (Math. 26:36) Ar yr achlysur hwnnw, rhoddodd Iesu gyngor amserol ynglŷn â gweddi i’w ddisgyblion.
11 Ystyria beth ddigwyddodd. Pan gyrhaeddon nhw ardd Gethsemane, roedd hi’n hwyr iawn, wedi hanner nos efallai. Gofynnodd Iesu i’w apostolion aros yn effro ac aeth i ffwrdd i weddïo. (Math. ) Ond tra oedd ef yn gwneud hynny, dyma nhw’n syrthio i gysgu. Pan welodd eu bod nhw’n cysgu, dywedodd wrthyn nhw: “Cadwch yn effro, a gweddïwch.” (Darllen 26:37-39Mathew 26:40, 41.) Roedd yn sylweddoli eu bod nhw wedi bod o dan straen mawr a’u bod nhw wedi blino. Yn llawn tosturi, gwnaeth Iesu gydnabod bod “y corff yn wan.” Ond ddwywaith eto aeth Iesu i weddïo, a phan aeth yn ôl gwelodd fod y disgyblion yn cysgu yn hytrach na gweddïo.—Math. 26:42-45.
12. Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni weithiau’n teimlo o dan ormod o straen neu wedi blino gormod i weddïo?
12 Dewisa’r adeg orau. Efallai weithiau rydyn ni’n teimlo o dan ormod o straen, neu wedi blino gormod i weddïo. Os ydy hynny wedi digwydd i ti, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Beth gelli di ei wneud? Mae rhai sydd fel arfer yn gweddïo ar ddiwedd y dydd wedi ffeindio ei bod hi’n well gweddïo ychydig yn gynharach gyda’r nos pan maen nhw’n llai blinedig. Mae eraill wedi sylweddoli bod sut maen nhw’n eistedd, er enghraifft, yn gallu eu helpu i ganolbwyntio’n well. Ond beth os wyt ti’n teimlo’n rhy bryderus neu wedi digalonni gormod i weddïo? Dyweda wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo. Gelli di fod yn sicr y bydd ein Tad trugarog yn deall.—Salm 139:4.
13. Sut gall ein dyfeisiau darfu ar ein hamser gyda Jehofa?
13 Canolbwyntia wrth astudio. Nid gweddi yw’r unig ffordd gallwn ni gryfhau ein perthynas â Jehofa. Gall astudio Gair Duw a mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa hefyd ein helpu ni i glosio at Dduw. Sut gelli di wneud y gorau o dy gyfnodau astudio a’r amser rwyt ti’n ei dreulio yn y cyfarfodydd? Gofynna i ti dy hun, ‘Beth sy’n tynnu fy sylw yn ystod y cyfarfodydd neu pan dw i’n trio astudio?’ Ai galwadau, e-byst, neu negeseuon ar dy ffôn neu ddyfais arall sy’n tynnu dy sylw? Heddiw, mae gan biliynau o bobl ddyfeisiau defnyddiol fel hyn. Mae rhai ymchwilwyr yn dweud bod hyd yn oed cael ffôn clyfar yn agos pan ydyn ni’n trio canolbwyntio yn gallu tynnu ein sylw. “Dwyt ti ddim yn canolbwyntio ar y dasg dan sylw,” meddai un athro seicoleg. “Mae dy feddwl di ar rywbeth arall.” Cyn cynulliadau a chynadleddau rydyn ni’n aml yn cael ein hatgoffa i osod ein dyfeisiau fel nad ydyn nhw’n tarfu ar eraill. A allwn ni wneud yr un peth pan ydyn ni ar ein pennau ein hunain fel nad ydy ein dyfeisiau yn tarfu arnon ni a’n hamser gyda Jehofa?
14. Yn ôl Philipiaid 4:6, 7, sut bydd Jehofa yn ein helpu ni i ganolbwyntio?
14 Gofynna i Jehofa dy helpu di i ganolbwyntio. Pan fyddi di’n sylwi bod dy feddwl yn crwydro yn ystod cyfnod astudio neu gyfarfod, gofynna i Jehofa dy helpu di. Os wyt ti’n poeni am rywbeth, efallai na fydd hi’n hawdd rhoi hynny o’r neilltu a chanolbwyntio ar bethau ysbrydol. Ond mae’n hanfodol dy fod ti’n gwneud hynny. Gweddïa am yr heddwch a fydd yn gwarchod, nid yn unig dy galon, ond hefyd dy feddwl.—Darllen Philipiaid 4:6, 7.
MAE TREULIO AMSER GYDA JEHOFA O LES INNI
15. Beth yw un ffordd rydyn ni’n elwa o dreulio amser gyda Jehofa?
15 Os byddi di’n cymryd yr amser i siarad â Jehofa, gwrando arno, a meddwl amdano, byddi di ar dy ennill. Sut? Yn gyntaf, byddi di’n gwneud penderfyniadau gwell. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth.” (Diar. 13:20) Felly, wrth iti dreulio amser gyda Jehofa, Ffynhonnell doethineb, byddi di’n dod yn fwy doeth. Byddi di’n deall yn well sut i’w blesio a sut i osgoi gwneud penderfyniadau sy’n ei frifo.
16. Sut mae treulio amser gyda Jehofa yn ein gwneud ni’n athrawon gwell?
16 Yn ail, byddi di’n athro gwell. Wrth inni astudio’r Beibl gyda rhywun, un o’n hamcanion pwysicaf ydy helpu ein myfyriwr i glosio at Jehofa. Y mwyaf rydyn ni’n cyfathrebu â’n Tad nefol, y mwyaf bydd ein cariad tuag ato yn tyfu, a byddwn ni mewn lle gwell i ddysgu ein myfyriwr i’w garu hefyd. Roedd hynny’n wir yn achos Iesu. Disgrifiodd ei Dad mewn ffordd mor gynnes a chariadus fel na allai ei ddilynwyr ffyddlon wneud dim ond caru Jehofa hefyd.—Ioan 17:25, 26.
17. Sut mae gweddïo ac astudio yn ein helpu ni i gryfhau ein ffydd?
17 Yn drydydd, bydd dy ffydd yn cryfhau. Meddylia am beth sy’n digwydd pan fyddi di’n gofyn i Dduw am arweiniad, cysur, neu help. Bob tro mae Jehofa yn ateb y gweddïau hynny, mae dy ffydd ynddo yn tyfu. (1 Ioan 5:15) Beth arall all gryfhau dy ffydd? Astudiaeth bersonol. Wedi’r cwbl “mae’n rhaid clywed cyn gallu credu.” (Rhuf. 10:17) Ond, er mwyn adeiladu ffydd gref, mae’n rhaid gwneud mwy na dim ond dysgu ffeithiau. Beth arall sy’n rhaid inni ei wneud?
18. Esbonia pam rydyn ni angen myfyrio.
18 Rydyn ni angen myfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddysgu. Ystyria brofiad ysgrifennwr Salm 77. Roedd yn poeni’n arw am ei fod yn teimlo ei fod ef a’r Israeliaid eraill wedi colli ffafr Jehofa. Roedd meddwl am hynny yn ei gadw’n effro yn y nos. (Adnodau 2-8) Beth wnaeth ef? Dywedodd wrth Jehofa: “Dw i’n mynd i gofio am bopeth wnest ti, a myfyrio ar y cwbl.” (Adnod 12) Wrth gwrs, roedd y salmydd yn gwybod yn iawn beth roedd Jehofa wedi ei wneud dros ei bobl yn y gorffennol, ond roedd yn dal yn poeni: “Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd? Ydy ei ddig yn gryfach na’i dosturi?” (Adnod 9) Myfyriodd y salmydd ar beth roedd Jehofa wedi ei wneud, ac ar y ffaith bod Duw wedi dangos tosturi a thrugaredd yn y gorffennol. (Adnod 11) Y canlyniad? Daeth y salmydd yn hollol sicr na fyddai Jehofa yn cefnu ar ei bobl. (Adnod 15) Yn yr un ffordd, bydd dy ffydd dithau yn cryfhau wrth iti fyfyrio ar beth mae Jehofa eisoes wedi ei wneud dros ei bobl, a drostot ti yn bersonol.
19. Sut arall byddwn ni’n elwa o dreulio amser gyda Jehofa?
19 Yn bedwerydd, ac yn bwysicaf oll, bydd dy gariad tuag at Jehofa yn cryfhau. Cariad yn fwy na dim fydd yn dy gymell i ufuddhau i Jehofa, i wneud aberthau er mwyn ei blesio, ac i oddef unrhyw dreial. (Math. 22:37-39; 1 Cor. 13:4, 7; 1 Ioan 5:3) Does dim byd mwy gwerthfawr na chael perthynas agos, llawn cariad, â Jehofa!—Salm 63:1-8.
20. Sut wyt ti’n bwriadu gwarchod dy amser gyda Jehofa?
20 Cofia fod gweddïo, astudio, a myfyrio yn rhan o’n haddoliad. Fel Iesu, chwilia am lefydd distaw i dreulio amser gyda Jehofa. Osgoi pethau all dynnu dy sylw. Gofynna i Jehofa am help i ganolbwyntio pan wyt ti’n gwneud pethau ysbrydol. Os wyt ti’n gwneud y defnydd gorau o dy amser nawr, bydd Jehofa yn dy fendithio â bywyd tragwyddol yn ei fyd newydd.—Marc 4:24.
CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa
^ Jehofa yw ein ffrind gorau. Rydyn ni’n trysori ein perthynas ag ef, ac eisiau dod i’w adnabod yn well. Mae’n cymryd amser i ddod i adnabod rhywun. Mae hynny hefyd yn wir pan ydyn ni eisiau closio’n fwy byth at Jehofa. Mae’n bywydau heddiw yn brysur iawn, felly sut gallwn ni wneud yr amser i agosáu ato, a pham mae’n dda inni?