Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 4

Pam Rydyn Ni’n Mynd i’r Goffadwriaeth

Pam Rydyn Ni’n Mynd i’r Goffadwriaeth

“Gwnewch hyn i gofio amdana i.”—LUC 22:19.

CÂN 20 Rhoist Dy Ffyddlon Fab

CIPOLWG *

1-2. (a) Pryd yn enwedig ydyn ni’n cofio ein hanwyliaid sydd wedi marw? (b) Beth gwnaeth Iesu sefydlu ar y noson cyn iddo farw?

 NI WAETH faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i un o’n hanwyliaid farw, rydyn ni’n dal yn eu cofio. Rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw’n fwy yn enwedig yn ystod yr adeg o’r flwyddyn gwnaethon nhw farw.

2 Rydyn ni ymysg miliynau o bobl ledled y byd sy’n dod at ei gilydd bob blwyddyn ar y diwrnod bu farw rhywun rydyn ni’n ei garu’n fawr—Iesu Grist. (1 Pedr 1:8) Rydyn ni’n dod at ein gilydd i gofio’r un roddodd ei fywyd fel pridwerth er mwyn ein hachub ni o bechod a marwolaeth. (Math. 20:28) A dweud y gwir, roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr gofio ei farwolaeth. Ar y noson cyn iddo farw, sefydlodd swper arbennig a gorchymyn: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.” *Luc 22:19.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Allan o bawb sy’n mynd i Goffadwriaeth marwolaeth Crist, mae gan nifer bach ohonyn nhw obaith nefol. Mae ’na filiynau â’r gobaith daearol sydd hefyd yn bresennol. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod rhesymau pam mae’r ddau grŵp yn awyddus i fynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut rydyn ni’n elwa o fod yna. Gad inni ddechrau drwy drafod rhai o’r rhesymau pam mae’r eneiniog yn mynd.

PAM MAE’R ENEINIOG YN MYNYCHU

4. Pam mae’r eneiniog yn bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn y Goffadwriaeth?

4 Bob blwyddyn, mae’r rhai eneiniog yn mynd i’r Goffadwriaeth ac yn bwyta’r bara ac yn yfed y gwin. Pam maen nhw’n gwneud hynny? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, ystyria beth ddigwyddodd ar noson olaf Iesu ar y ddaear. Ar ôl swper y Pasg, sefydlodd Iesu beth rydyn ni’n adnabod heddiw fel Swper yr Arglwydd. Pasiodd y bara a’r gwin i’w 11 apostol ffyddlon a dweud wrthyn nhw i’w bwyta ac yfed. Gwnaeth Iesu sôn wrthyn nhw am ddau ymrwymiad, neu gyfamod—y cyfamod newydd, a chyfamod y Deyrnas. * (Luc 22:19, 20, 28-30) Gwnaeth y rhain agor y ffordd i’r apostolion hynny, a nifer penodol o rai eraill, i fod yn frenhinoedd ac offeiriaid yn y nef. (Dat. 5:10; 14:1) Dim ond gweddill y rhai eneiniog, * sy’n rhan o’r ddau gyfamod hyn, sy’n cael bwyta’r bara ac yfed y gwin yn y Goffadwriaeth.

5. Beth mae’r eneiniog yn ei wybod am eu gobaith?

5 Dyma reswm arall pam mae’r eneiniog yn awyddus i fynychu’r Goffadwriaeth. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw feddwl yn ddwfn am eu gobaith. Mae Jehofa wedi rhoi gobaith rhyfeddol iddyn nhw—i fwynhau bywyd anfarwol yn y nef, i wasanaethu ochr yn ochr â Iesu Grist a’r eneiniog eraill, ac yn bennaf oll, i fod ym mhresenoldeb Jehofa Dduw ei hun! (1 Cor. 15:51-53; 1 Ioan 3:2) Mae’r eneiniog yn gwybod eu bod nhw wedi cael eu gwahodd i fwynhau’r breintiau hynny yn y nef. Ond i gael mynediad i’r nef, mae’n rhaid iddyn nhw aros yn ffyddlon hyd farwolaeth. (2 Tim. 4:7, 8) Mae’r eneiniog yn cael llawenydd mawr o feddwl am eu gobaith nefol. (Titus 2:13) Ond beth am y ‘defaid eraill’? (Ioan 10:16) Pam maen nhw’n mynd i’r Goffadwriaeth?

PAM MAE’R DEFAID ERAILL YN MYNYCHU

6. Pam mae’r defaid eraill yn mynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn?

6 Mae’r defaid eraill yn mynd i’r Goffadwriaeth hefyd, ac er eu bod nhw ddim yn bwyta’r bara nac yn yfed y gwin, maen nhw’n dal yn hapus i fod yno. Ym 1938, cafodd y rhai â’r gobaith daearol wahoddiad penodol am y tro cyntaf i fynychu’r Goffadwriaeth. Dywedodd rhifyn Mawrth 1, 1938, y Tŵr Gwylio: “Byddai’n hollol briodol i’r defaid eraill fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn i wylio. . . . Dylai hi fod yn adeg iddyn nhwthau lawenhau, a dyna yn union ydy hi.” Fel gwesteion sy’n hapus i wylio seremoni priodas, mae’r defaid eraill yn hapus i fod yn bresennol yn y Goffadwriaeth.

7. Pam mae’r defaid eraill yn edrych ymlaen at anerchiad y Goffadwriaeth?

7 Mae’r defaid eraill hefyd yn meddwl yn ddwfn am eu gobaith. Maen nhw’n edrych ymlaen at anerchiad y Goffadwriaeth, oherwydd mae llawer ohono yn canolbwyntio ar beth fydd Crist a’i 144,000 o gyd-reolwyr yn gwneud ar gyfer pobl ffyddlon yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd. O dan arweiniad eu Brenin Iesu Grist, bydd y rheolwyr nefol hynny yn helpu i droi’r ddaear yn Baradwys, ac yn helpu pobl i fod yn berffaith. Mae hi’n hynod o gyffrous i’r miliynau sy’n mynychu’r Goffadwriaeth ddychmygu sut bydd proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni yn y dyfodol. Proffwydoliaethau fel sydd yn Eseia 35:5, 6; 65:21-23; a Datguddiad 21:3, 4. Drwy weld eu hunain a’u hanwyliaid yn y byd newydd hwnnw, maen nhw’n cryfhau eu gobaith ar gyfer y dyfodol, ac yn dod yn fwy penderfynol i beidio byth â stopio gwasanaethu Jehofa.—Math. 24:13; Gal. 6:9.

8. Pa reswm arall sydd gan y defaid eraill dros fynychu’r Goffadwriaeth?

8 Ystyria reswm arall pam mae’r defaid eraill yn mynychu’r Goffadwriaeth. Maen nhw eisiau dangos eu bod nhw’n caru’r eneiniog ac yn eu cefnogi. Rhagfynegodd Gair Duw y byddai’r eneiniog a’r defaid eraill yn gweithio’n agos gyda’i gilydd. Sut felly? Gad inni drafod rhai enghreifftiau.

9. Beth mae’r broffwydoliaeth yn Sechareia 8:23 yn ei ddangos am y ffordd mae’r defaid eraill yn teimlo am yr eneiniog?

9 Darllen Sechareia 8:23. Mae’r broffwydoliaeth hon yn creu darlun hyfryd o’r ffordd mae’r defaid eraill yn teimlo am eu brodyr a chwiorydd eneiniog. Mae’r ymadroddion “Iddew” a “chi” yn cyfeirio at yr un grŵp—gweddill yr eneiniog. (Rhuf. 2:28, 29) Mae’r “deg o bobl o bob gwlad ac iaith” yn cynrychioli’r defaid eraill. Maen nhw’n “gafael yn”—glynu’n ffyddlon wrth ochr—yr eneiniog, gan ymuno â nhw mewn addoliad pur. Mae’n naturiol felly bod y defaid eraill yn dangos eu bod nhw’n caru’r eneiniog drwy fod yn bresennol ar noson y Goffadwriaeth.

10. Beth mae Jehofa wedi ei wneud i gyflawni’r broffwydoliaeth yn Eseciel 37:15-19, 24, 25?

10 Darllen Eseciel 37:15-19, 24, 25. Mae Jehofa wedi cyflawni’r broffwydoliaeth hon drwy greu perthynas agos rhwng yr eneiniog a’r defaid arall. Mae’r broffwydoliaeth yn sôn am ddwy ffon. Mae ffon “Jwda” (y llwyth roedd brenhinoedd Israel yn cael eu dewis ohono) yn cynrychioli’r rhai â’r gobaith nefol, ac mae ffon “Effraim” yn cynrychioli’r rhai â’r gobaith daearol. * Byddai Jehofa yn uno’r ddau grŵp, a bydden nhw’n dod yn “un ffon.” Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gwasanaethu’n unedig o dan un Brenin, Iesu Grist. Bob blwyddyn, mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn mynd i’r Goffadwriaeth, nid fel dau grŵp ar wahân, ond fel “un praidd” o dan “un bugail.”—Ioan 10:16.

11. Sut yn bennaf mae’r “defaid” yn Mathew 25:31-36, 40 yn dangos eu bod nhw’n cefnogi brodyr Crist?

11 Darllen Mathew 25:31-36, 40. Mae’r “defaid” yn y ddameg hon yn cynrychioli’r rhai cyfiawn yn amser y diwedd sydd â’r gobaith daearol—hynny ydy, y defaid eraill. Maen nhw’n cefnogi brodyr eneiniog Crist yn ffyddlon, yn bennaf drwy eu helpu nhw i gyflawni cyfrifoldeb anferth—y gwaith o bregethu a gwneud disgyblion ledled y byd.—Math. 24:14; 28:19, 20.

12-13. Ym mha ffyrdd eraill mae’r defaid eraill yn dangos eu bod nhw’n cefnogi brodyr Crist?

12 Bob blwyddyn yn yr wythnosau cyn y Goffadwriaeth, mae’r defaid eraill yn dangos eu bod nhw’n cefnogi brodyr Crist drwy gael rhan lawn mewn ymgyrch fyd-eang i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth. (Gweler y blwch “ Wyt Ti’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?”) Maen nhw hefyd yn gwneud yn siŵr bod popeth yn barod ar gyfer y Goffadwriaeth, hyd yn oed os does neb yn y gynulleidfa wedi ei eneinio. Mae’r defaid eraill wrth eu boddau yn cefnogi brodyr Crist fel hyn. Maen nhw’n gwybod bod Iesu yn ystyried yr hyn maen nhw’n ei wneud dros ei frodyr eneiniog fel petasen nhw’n ei wneud drosto ef yn bersonol.—Math 25:37-40.

13 Pa resymau eraill sydd gynnon ni i fynychu’r Goffadwriaeth, ni waeth beth yw ein gobaith?

PAM RYDYN NI I GYD YN MYNYCHU

14. Sut mae Jehofa ac Iesu wedi dangos cariad mawr tuag aton ni?

14 Rydyn ni’n ddiolchgar am y cariad mae Jehofa ac Iesu wedi dangos tuag aton ni. Mae Jehofa wedi dangos ei gariad anhunanol mewn llawer o ffyrdd, ond y mwyaf oedd anfon ei Fab annwyl i ddioddef a marw droston ni. (Ioan 3:16) Rydyn ni’n gwybod bod Iesu hefyd wedi dangos cariad mawr drwy fod yn fodlon gwneud hynny. (Ioan 15:13) Allwn ni byth dalu’n ôl i Jehofa ac Iesu am y cariad maen nhw wedi ei ddangos tuag aton ni. Ond gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar drwy’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywyd bob dydd. (Col. 3:15) Ac rydyn ni’n mynychu’r Goffadwriaeth er mwyn atgoffa ein hunain eu bod nhw’n ein caru ni, ac er mwyn dangos ein bod ni’n eu caru nhwthau.

15. Pam mae rhodd y pridwerth mor werthfawr i’r eneiniog a’r defaid eraill?

15 Mae rhodd y pridwerth yn werthfawr iawn inni. (Math. 20:28) Mae’r eneiniog yn trysori’r pridwerth, am ei fod yn gwneud eu gobaith anhygoel yn bosib. Oherwydd eu ffydd yn aberth Crist, mae Jehofa wedi eu cyhoeddi’n gyfiawn, ac wedi eu mabwysiadu nhw fel ei blant. (Rhuf. 5:1; 8:15-17, 23) Mae’r defaid eraill hefyd yn ddiolchgar am y pridwerth. Ar sail aberth Crist, mae ganddyn nhw berthynas iawn â Duw, maen nhw’n gallu ei wasanaethu mewn ffordd dderbyniol, ac mae ganddyn nhw’r gobaith o oroesi’r gorthrymder mawr. (Dat. 7:13-15) Un ffordd gall yr eneiniog a’r defaid eraill ddangos eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r pridwerth yw drwy fynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn.

16. Pa reswm arall sydd gynnon ni dros fynd i’r Goffadwriaeth?

16 Rheswm arall pam rydyn ni’n mynd i’r Goffadwriaeth ydy am ein bod ni eisiau bod yn ufudd i Iesu. Ni waeth beth yw ein gobaith am y dyfodol, mae pob un ohonon ni eisiau ufuddhau i’r gorchymyn a roddodd Iesu ar y noson y sefydlodd y Goffadwriaeth: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.”—1 Cor. 11:23, 24.

SUT RYDYN NI I GYD YN ELWA O FYNYCHU

17. Sut mae’r Goffadwriaeth yn ein helpu ni i glosio at Jehofa?

17 Rydyn ni’n closio at Jehofa. (Iago 4:8) Fel rydyn ni wedi dysgu, mae’r Goffadwriaeth yn rhoi cyfle inni feddwl am y gobaith mae Jehofa wedi ei roi inni, ac i fyfyrio ar y cariad mawr mae ef wedi ei ddangos tuag aton ni. (Jer. 29:11; 1 Ioan 4:8-10) Pan ydyn ni’n meddwl am ein gobaith sicr am y dyfodol ac am gariad diddarfod Duw tuag aton ni, bydd ein cariad tuag ato ef yn cryfhau, a byddwn ni’n closio ato.—Rhuf. 8:38, 39.

18. Beth mae myfyrio ar esiampl Iesu yn ein cymell ni i’w wneud?

18 Rydyn ni’n cael ein cymell i efelychu esiampl Iesu. (1 Pedr 2:21) Yn y dyddiau cyn y Goffadwriaeth, rydyn ni’n canolbwyntio ar wythnos olaf Iesu ar y ddaear, ei farwolaeth, a’i atgyfodiad drwy ddarllen amdanyn nhw yn y Beibl. Ac wedyn ar noson y Goffadwriaeth, mae’r anerchiad yn ein hatgoffa ni am gymaint mae Iesu yn ein caru ni. (Eff. 5:2; 1 Ioan 3:16) Wrth inni ddarllen am esiampl hunanaberthol Iesu a myfyrio arno, byddwn ni’n cael ein cymell i “fyw fel oedd Iesu’n byw.”—1 Ioan 2:6.

19. Sut gallwn ni aros yng nghariad Duw?

19 Rydyn ni’n fwy penderfynol byth i aros yng nghariad Duw. (Jwd. 20, 21) Rydyn ni’n aros yng nghariad Duw drwy wneud popeth allwn ni i fod yn ufudd iddo, i sancteiddio ei enw, ac i wneud ei galon yn llon. (Diar. 27:11; Math. 6:9; 1 Ioan 5:3) Mae’r Goffadwriaeth yn ein hysgogi ni i fod yn fwy penderfynol i fyw bob dydd mewn ffordd sy’n dweud wrth Jehofa, ‘Dw i eisiau aros yn dy gariad di am byth!’

20. Pa resymau cadarn sydd gynnon ni dros fynd i’r Goffadwriaeth?

20 P’un a ydyn ni’n gobeithio byw am byth yn y nef neu ar y ddaear, mae gynnon ni resymau cadarn dros fynychu’r Goffadwriaeth. Bob blwyddyn pan ydyn ni’n dod at ein gilydd ar y dyddiad hwnnw, rydyn ni’n cofio marwolaeth rhywun rydyn ni’n ei garu, Iesu Grist. Yn fwy na dim, rydyn ni’n cofio’r peth mwyaf mae Jehofa wedi ei wneud i ddangos ei gariad tuag aton ni—rhoi ei Fab fel pridwerth. Eleni, bydd y Goffadwriaeth yn cael ei chynnal gyda’r nos ar Ddydd Gwener, Ebrill 15, 2022. Rydyn ni’n caru Jehofa a’i Fab, felly, ar y diwrnod hwnnw, allai dim arall fod yn bwysicach inni na bod yn bresennol yn y Goffadwriaeth.

CÂN 16 Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog

^ P’un a ydyn ni’n gobeithio byw yn y nef neu ar baradwys ddaear, rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhesymau ysgrythurol cadarn pam rydyn ni’n mynychu a sut rydyn ni’n elwa o wneud hynny.

^ Mae’r geiriau hyn wedi cael eu trosi “Gwnewch hyn er cof amdanaf” (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) a “Gwnewch hyn er coffa amdanaf” (Beibl Cysegr-lân).

^ Am fwy o wybodaeth am y cyfamod newydd a chyfamod y Deyrnas, gweler yr erthygl “You Will Become ‘a Kingdom of Priests’” yn rhifyn Hydref 15, 2014, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 15-17.

^ ESBONIAD: Mae’r term gweddill yr eneiniog yn cyfeirio at Gristnogion eneiniog sy’n dal yn fyw ar y ddaear.

^ Am fwy o wybodaeth am broffwydoliaeth y ddwy ffon yn Eseciel pennod 37, gweler y llyfr Addoliad Pur Jehofa—Wedi ei Adfer o’r Diwedd! tt. 130-135, par. 3-17.