Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Wyt ti’n hoffi darllen hanesion bywyd ein brodyr a’n chwiorydd?

Dywedodd cwpl sy’n darllen un hanes bywyd bob bore: “’Dyn ni wrth ein boddau â’r hanesion! Maen nhw mor galonogol, ac yn ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu bod yn ffyddlon, ni waeth beth sy’n digwydd.” Dywedodd chwaer arall rywbeth tebyg: “Dw i’n cael gymaint o gysur o’r hanesion hyn. Maen nhw wir yn cyffwrdd fy nghalon. Mae bywydau ein brodyr a’n chwiorydd yn llawn ystyr a phwrpas, ac mae darllen amdanyn nhw yn fy nghymell i wneud mwy yn y weinidogaeth. Maen nhw hefyd yn fy helpu i annog fy mhlant i wasanaethu Jehofa yn llawn amser.”

Gall hanesion bywyd dy gymell di i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, i drechu dy wendidau, ac i wynebu treialon anodd gydag urddas a llawenydd. Lle gelli di ddod o hyd i’r hanesion hyn?

  • Chwilia am “hanes bywyd” yn LLYFRGELL AR-LEIN Y Tŵr Gwylio, Llyfrgell Y Tŵr Gwylio, neu ar jw.org/cy.