Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

‘Gad i Dduw Newid y Ffordd Rwyt Ti’n Meddwl’

‘Gad i Dduw Newid y Ffordd Rwyt Ti’n Meddwl’

“Gadewch i Dduw newid y ffordd rydych chi’n meddwl, fel eich bod chi’n gallu profi i chi’ch hunain ewyllys da a derbyniol a pherffaith Duw.”—RHUF. 12:2.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

CIPOLWG a

1-2. Beth sy’n rhaid inni barhau i’w wneud ar ôl bedydd? Esbonia.

 Pa mor aml wyt ti’n glanhau’r tŷ? Efallai gwnest ti lanhau pob twll a chornel cyn symud i mewn. Ond beth petaset ti ddim wedi ei lanhau byth eto? Gan fod llwch a baw yn casglu’n gyflym, byddai’n llanast llwyr. Felly er mwyn cadw dy dŷ yn dwt, mae’n rhaid iti ei lanhau’n aml.

2 Mae’r un peth yn wir am ein ffordd o feddwl a’n personoliaeth. Mae’n rhaid inni wneud ymdrech i’w cadw yn lân. Wrth gwrs, cyn inni gael ein bedyddio, roedd rhaid inni wneud ymdrech i “lanhau ein hunain oddi wrth bob peth sy’n llygru cnawd ac ysbryd.” (2 Cor. 7:1) Ond nawr, mae’n rhaid inni ddilyn cyngor Paul i “barhau i gael eich adnewyddu.” (Eff. 4:23) Ond pam mae angen inni barhau i’n cywiro ein hunain? Oherwydd dydy hi ddim yn cymryd hir i’r byd gael dylanwad arnon ni. Felly er mwyn osgoi hynny ac aros yn lân yng ngolwg Jehofa a’i blesio, rhaid inni asesu ein ffordd o feddwl, ein personoliaeth, a’n chwantau yn aml.

PARHA I ‘NEWID Y FFORDD RWYT TI’N MEDDWL’

3. Beth mae’n ei olygu i ‘newid y ffordd rydyn ni’n meddwl’? (Rhufeiniaid 12:2)

3 Beth sydd angen inni ei wneud er mwyn newid ein ffordd o feddwl? (Darllen Rhufeiniaid 12:2.) Ffordd arall o gyfieithu’r ymadrodd Groeg sy’n golygu “newid y ffordd rydych chi’n meddwl” ydy “adnewyddu eich meddwl.” Felly dydy hi ddim yn ddigon inni wneud dim ond un neu ddau o bethau da. Yn hytrach, mae’n rhaid inni asesu’r person rydyn ni go iawn. Wedyn mae angen gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn cadw mor agos â phosib at safonau Jehofa. Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i wneud hynny yn hytrach na’i wneud unwaith yn unig.

Ydy dy benderfyniadau ynglŷn ag addysg a gwaith seciwlar yn dangos dy fod ti’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf? (Gweler paragraffau 4-5) c

4. Sut gallwn ni osgoi gadael i’r system hon ddylanwadu ar ein ffordd o feddwl?

4 Unwaith byddwn ni’n berffaith, byddwn ni’n gallu plesio Jehofa ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Ond tra ydyn ni’n amherffaith, mae’n rhaid inni ddal ati i weithio’n galed i blesio Jehofa. Fel gwelwn ni o eiriau Paul yn Rhufeiniaid 12:2, rhaid inni newid y ffordd rydyn ni’n meddwl er mwyn gwybod beth ydy ewyllys Duw i ni. Felly, y peth cyntaf dylen ni ei wneud ydy asesu pwy sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ein ffordd o feddwl ar hyn o bryd—un ai Duw neu’r byd. Wedyn byddwn ni’n gallu osgoi gadael i’r byd ddylanwadu ar ein hamcanion a’n penderfyniadau.

5. Sut gallwn ni asesu ein ffordd o feddwl am ba mor agos ydy dydd Jehofa? (Gweler y llun.)

5 Meddylia am enghraifft o sut gallwn ni wneud hynny. Mae Jehofa eisiau inni ‘gofio bob amser am bresenoldeb dydd Jehofa.’ (2 Pedr 3:12) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy’r ffordd dw i’n byw yn dangos mod i’n deall pa mor agos ydyn ni at ddiwedd y system hon? Ydy fy mhenderfyniadau o ran addysg uwch a gwaith yn dangos mai gwasanaethu Jehofa ydy’r peth pwysicaf yn fy mywyd? Ydw i’n poeni’n ormodol am bethau materol, neu a oes gen i ffydd y bydd Jehofa yn gofalu amdana i a fy nheulu?’ Meddylia pa mor hapus ydy Jehofa o’n gweld ni’n gwneud ein gorau i wneud ei ewyllys ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.—Math. 6:25-27, 33; Phil. 4:12, 13.

6. Beth mae angen inni barhau i’w wneud?

6 Rhaid inni asesu ein ffordd o feddwl yn aml ac wedyn gwneud y newidiadau angenrheidiol. Dywedodd Paul wrth y Corinthiaid: “Daliwch ati i chwilio eich hunain i weld a ydych chi yn y ffydd; daliwch ati i brofi pa fath o berson ydych chi.” (2 Cor. 13:5) Mae bod “yn y ffydd” yn golygu mwy na mynd i’r cyfarfodydd a phregethu bob hyn a hyn. Mae hefyd yn cynnwys ein meddyliau, ein dymuniadau, a’n cymhellion. Felly mae’n rhaid inni ddal ati i newid ein ffordd o feddwl drwy ddarllen Gair Duw. Wrth wneud hynny, byddwn ni’n dysgu i efelychu ei ffordd o feddwl ac wedyn byddwn ni’n gallu gwneud unrhyw beth sydd ei angen er mwyn ei blesio.—1 Cor. 2:14-16.

‘RHO AMDANAT TI’R BERSONOLIAETH NEWYDD’

7. Yn ôl Effesiaid 4:31, 32, beth arall sydd rhaid inni ei wneud, a pham mae hyn yn gallu bod yn her?

7 Darllen Effesiaid 4:31, 32. Mae’n rhaid inni wneud mwy na newid ein ffordd o feddwl. Rhaid inni hefyd roi’r “bersonoliaeth newydd” amdanon ni. (Eff. 4:24) Dydy hynny ddim bob tro’n hawdd oherwydd weithiau mae’n gofyn am gael gwared ar deimladau chwerw a dicter. Os ydy’r agweddau hynny wedi gwreiddio’n ddwfn, gall fod yn her cael gwared arnyn nhw. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod rhai pobl yn dueddol o fod yn ‘fyr eu tymer’ a ‘gwylltio’n hawdd.’ (Diar. 29:22) Mae’n debyg y bydd rhai sydd â natur felly yn gorfod gweithio’n galed iawn i newid, hyd yn oed ar ôl bedydd. Dewch inni weld enghraifft o hynny.

8-9. Sut mae profiad Stephen yn dangos pa mor bwysig ydy parhau i roi heibio’r hen bersonoliaeth?

8 Roedd brawd o’r enw Stephen yn ei chael hi’n anodd rheoli ei dymer. Dywedodd: “Hyd yn oed ar ôl i mi gael fy medyddio, roedd rhaid i mi ddal ati i reoli fy nhymer. Er enghraifft, un tro pan o’n i’n mynd o dŷ i dŷ yn y weinidogaeth, wnaeth rhywun ddwyn radio fy nghar. Rhedais ar ei ôl ond cyn i mi ei ddal, gollyngodd y radio a rhedeg i ffwrdd. Pan esboniais i’r lleill sut ces i fy radio yn ôl, gofynnodd un o’r henuriaid i mi, ‘Stephen, beth fyddet ti wedi’i wneud petaset ti wedi ei ddal?’ Gwnaeth ei gwestiwn wneud i mi feddwl, a sylweddoli bod angen i mi ddal ati i fod yn heddychlon.” b

9 Fel mae profiad Stephen yn dangos, mae agwedd negyddol yn gallu codi’n annisgwyl, hyd yn oed os ydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi cael gwared arni. Os ydy hynny yn digwydd i ti, paid â digalonni. Dydy hi ddim yn golygu dy fod ti’n Gristion gwael. Roedd hyd yn oed yr apostol Paul yn cyfaddef: “Pan ydw i eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n ddrwg sydd y tu mewn imi.” (Rhuf. 7:21-23) Am ein bod ni’n amherffaith, bydd agweddau negyddol wastad yn codi, fel mae llwch a baw wastad yn casglu yn ein tai. Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddal ati i weithio arno. Sut?

10. Sut gallwn ni frwydro yn erbyn tueddiadau anghywir? (1 Ioan 5:14, 15)

10 Pan wyt ti’n cael trafferth newid rhyw dueddiad penodol, gweddïa ar Jehofa, a bydd yn siŵr o dy helpu di. (Darllen 1 Ioan 5:14, 15.) Er na fydd yn cael gwared ar yr agwedd yn wyrthiol, bydd Jehofa yn rhoi’r nerth iti beidio ag ildio iddi. (1 Pedr 5:10) Gelli di weithio’n unol â dy weddïau drwy beidio â gwneud pethau fel gwylio ffilmiau a rhaglenni teledu, neu ddarllen straeon a fydd yn dod â’r agweddau hynny allan ynot ti. Mae hefyd yn bwysig i beidio â gadael i feddyliau anweddus droelli yn dy ben.—Phil. 4:8; Col. 3:2.

11. Pa gamau gallwn ni eu cymryd i barhau i wisgo’r bersonoliaeth newydd?

11 Mae’n hynod o bwysig dy fod ti’n meithrin y bersonoliaeth newydd, er dy fod ti wedi tynnu’r hen un. Beth am wneud hynny drwy osod y nod o efelychu Jehofa wrth iti ddysgu am ei rinweddau? (Eff. 5:1 2) Er enghraifft, pan wyt ti’n darllen am faddeuant Jehofa, gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i’n maddau i eraill?’ Pan wyt ti’n darllen am dosturi Jehofa, gofynna i ti dy hun, ‘Oes gen i’r un fath o gonsýrn dros fy mrodyr a chwiorydd mewn angen ac ydy hynny yn amlwg?’ Dalia ati i newid dy ffordd o feddwl drwy wisgo’r bersonoliaeth newydd, a bydda’n amyneddgar â ti dy hun wrth iti wneud hynny.

12. Sut mae profiad Stephen yn dangos bod y Beibl yn gallu newid bywydau?

12 Sylwodd Stephen, gwnaethon ni sôn amdano gynt, ei fod wedi llwyddo i wisgo’r bersonoliaeth newydd, er bod hynny wedi cymryd amser. Dywedodd: “Dros y blynyddoedd, rydw i wedi wynebu llawer o sefyllfaoedd a allai fod wedi troi’n dreisgar. Rydw i wedi dysgu naill ai i gerdded i ffwrdd, neu i dawelu’r sefyllfa. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fy ngwraig, wedi fy nghanmol i am y ffordd rydw i wedi ymateb. Rydw i hyd yn oed wedi synnu fy hun! Ond nid fi sy’n haeddu’r clod am y newidiadau yn fy mhersonoliaeth. I mi, mae hyn yn profi bod y Beibl yn gallu newid pobl yn llwyr.”

DALIA ATI I FRWYDRO YN ERBYN CHWANTAU DRWG

13. Beth fydd yn ein helpu ni i frwydro yn erbyn chwantau drwg? (Galatiaid 5:16)

13 Darllen Galatiaid 5:16. I’n helpu ni i ennill y frwydr i wneud beth sy’n iawn, mae Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân yn hael inni. Rydyn ni’n gadael i’r ysbryd hwnnw ddylanwadu arnon ni drwy astudio Gair Duw a mynd i’r cyfarfodydd. Cofia, mae dy frodyr a chwiorydd hefyd yn brwydro i wneud beth sy’n iawn. Bydd treulio amser gyda nhw yn y cyfarfodydd yn codi dy galon. (Heb. 10:24, 25; 13:7) Fydd Jehofa ddim yn dy adael di ar dy ben dy hun chwaith. Os wyt ti’n erfyn arno am ei help gyda rhyw wendid, bydd yn rhoi’r nerth iti allu dal ati i frwydro. Er na fydd gwneud y pethau hyn i gyd yn cael gwared ar chwantau drwg, bydd yn ein helpu ni i beidio ag ildio iddyn nhw. Fel mae Galatiaid 5:16 yn dweud, fydd y rhai sy’n cael eu harwain gan yr ysbryd ddim yn “cyflawni chwant cnawdol o gwbl.”

14. Pam mae’n bwysig dy fod ti’n dal ati i frwydro yn erbyn chwantau drwg.

14 Unwaith inni sefydlu rwtîn ysbrydol, mae’n hollbwysig inni gadw ato a dal ati i frwydro yn erbyn chwantau drwg. Wedi’r cwbl, mae’r temtasiwn i wneud pethau drwg yn elyn sydd byth yn cysgu. Hyd yn oed ar ôl bedydd, efallai bydd pethau fel gamblo, pornograffi, neu gamddefnyddio alcohol yn dal i apelio aton ni. (Eff. 5:3, 4) Mae un brawd ifanc yn cyfaddef: “Un o’r pethau anoddaf dw i wedi brwydro yn ei erbyn ydy atyniad cryf tuag at ddynion eraill. O’n i’n meddwl byddai’r teimladau hynny ond yn para dros dro, ond maen nhw’n parhau.” Beth all dy helpu di os oes gen ti chwant drwg sy’n arbennig o gryf?

Os ydy chwant drwg yn codi, dydy hi ddim yn ddiwedd y byd. Mae eraill wedi brwydro yn erbyn yr un peth ac wedi ei drechu (Gweler paragraffau 15-16)

15. Pam mae gwybod bod chwantau drwg “yn gyffredin i ddynion” yn galonogol? (Gweler y llun.)

15 Pan wyt ti yn ei chanol hi’n brwydro yn erbyn chwant drwg sy’n arbennig o gryf, cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun. Fel mae’r Beibl yn dweud: “Does yr un temtasiwn wedi dod arnoch chi heblaw am yr hyn sy’n gyffredin i ddynion.” (1 Cor. 10:13a) Mae cyfieithiad arall yn dweud: “Dydy’r temtasiynau dych chi’n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall.” Cafodd hynny ei ysgrifennu at ddynion a merched yng nghynulleidfa Corinth. Roedd rhai ohonyn nhw yn arfer bod yn odinebwyr, yn hoyw, neu’n feddwon. (1 Cor. 6:9-11) Wyt ti’n meddwl bod y chwantau drwg hynny wedi diflannu ar ôl iddyn nhw gael eu bedyddio? Ddim o gwbl, oherwydd roedden nhw’n dal yn amherffaith er eu bod nhw’n Gristnogion eneiniog. Onid ydy hynny yn galonogol? Mae’n dangos bod rhywun arall wedi brwydro’n llwyddiannus yn erbyn yr un chwant â ti, ni waeth beth ydy hynny. Felly yn sicr, gelli di aros “yn gadarn yn y ffydd, gan wybod bod yr holl frawdoliaeth drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un math o bethau.”—1 Pedr 5:9.

16. Sut fath o feddylfryd dylen ni ei osgoi?

16 Paid â mynd i lawr y lôn o feddwl nad oes neb yn deall yr her rwyt ti’n ei hwynebu. Bydd hynny ond yn gwneud iti ddigalonni’n llwyr a meddwl does gen ti ddim gobaith trechu dy wendid. Mae’r Beibl yn dweud fel arall: “Mae Duw yn ffyddlon, ac ni fydd yn gadael ichi gael eich temtio y tu hwnt i’r hyn rydych chi’n gallu ei oddef, ond bydd hefyd yn dangos y ffordd allan er mwyn ichi allu dyfalbarhau.” (1 Cor. 10:13b) Felly, hyd yn oed pan fydd chwant drwg yn gryf, gallwn ni ei frwydro’n llwyddiannus. Gyda help Jehofa gallwn ni osgoi ildio i’r chwant.

17. Er na allwn ni rwystro chwantau drwg rhag codi, beth gallwn ni ei reoli?

17 Paid byth ag anghofio hyn: Am dy fod ti’n berson amherffaith, elli di ddim stopio chwantau drwg rhag codi. Ond mae’n bosib iti eu gwrthod ar unwaith, fel gwnaeth Joseff pan redodd i ffwrdd oddi wrth wraig Potiffar. (Gen. 39:12) Does dim rhaid iti ildio i dy chwantau drwg!

DALIA ATI I WEITHIO’N GALED

18-19. Pa gwestiynau gallwn ni ofyn i ni’n hunain wrth inni weithio’n galed i newid ein ffordd o feddwl?

18 Mae newid ein ffordd o feddwl yn golygu ein bod ni’n dal ati i sicrhau bod y ffordd rydyn ni’n meddwl a gweithredu yn plesio Jehofa. Felly byddai’n werth gofyn iti dy hun yn aml: ‘Ydw i’n ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos mod i’n sylweddoli pa mor agos ydyn ni at y diwedd? Ydw i’n gwneud cynnydd o ran gwisgo’r bersonoliaeth newydd? Ydw i’n gadael i ysbryd Jehofa fy arwain i, ac i fy helpu i beidio ag ildio i chwantau drwg?’

19 Wrth iti asesu dy hun, chwilia am gynnydd, nid perffeithrwydd. Os oes lle i wella, paid â digalonni. Yn hytrach, cofia’r cyngor yn Philipiaid 3:16: “Pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.” Wrth iti wneud hynny, bydd Jehofa yn sicr o fendithio dy ymdrechion i newid dy ffordd o feddwl.

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

a Gwnaeth yr apostol Paul egluro pa mor bwysig oedd hi i frodyr a chwiorydd beidio â chael eu mowldio gan y system hon. Mae hyn yn gyngor da iawn inni heddiw. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw’r byd hwn yn cael unrhyw ddylanwad arnon ni. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni gywiro ein ffordd o feddwl os ydyn ni’n sylweddoli nad yw’n plesio Duw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni wneud hynny.

b Gweler yr erthygl “Roedd fy Mywyd yn Mynd o Ddrwg i Waeth” yn rhifyn Gorffennaf 1, 2015, y Tŵr Gwylio.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd ifanc yn pendroni p’un ai i fynd i’r brifysgol neu i arloesi’n llawn amser.