Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 4

Mae Jehofa yn Bendithio Ein Hymdrechion i Fynd i’r Goffadwriaeth

Mae Jehofa yn Bendithio Ein Hymdrechion i Fynd i’r Goffadwriaeth

“Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.”—LUC 22:19.

CÂN 19 Swper yr Arglwydd

CIPOLWG a

1-2. Pam rydyn ni’n mynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn?

 BRON i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, rhoddodd Iesu ei fywyd droston ni a’i gwneud hi’n bosib inni fyw am byth. Y noson cyn iddo farw, dywedodd wrth ei ddilynwyr i gofio ei aberth gyda seremoni syml oedd yn cynnwys bara a gwin.—1 Cor. 11:23-26.

2 Rydyn ni’n gwneud fel mae Iesu yn gofyn gan ein bod ni’n ei garu’n fawr. (Ioan 14:15) Ar yr adeg honno bob blwyddyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi beth mae Iesu wedi ei wneud drwy gymryd amser i weddïo ac i fyfyrio ar beth mae ei farwolaeth yn ei olygu inni. Rydyn ni hefyd yn gwahodd cymaint o bobl â phosib i ymuno â ni ar y noson arbennig honno. Ar ben hynny, rydyn ni’n benderfynol o beidio â gadael i unrhyw beth ein rhwystro ni rhag mynd i’r Goffadwriaeth.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Dros y blynyddoedd, mae pobl Jehofa wedi gwneud ymdrech arbennig i goffáu marwolaeth Iesu. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair ffordd maen nhw wedi gwneud hynny: (1) drwy ailsefydlu’r patrwm a osododd Iesu, (2) drwy wahodd eraill i’r Goffadwriaeth, a (3) drwy gynnal y Goffadwriaeth er gwaethaf amgylchiadau anodd.

AILSEFYDLU’R PATRWM A OSODODD IESU

4. Pa gwestiynau sy’n cael eu hateb bob blwyddyn yn y Goffadwriaeth, a pham ddylen ni ddim cymryd y cwestiynau hyn yn ganiataol? (Luc 22:19, 20)

4 Bob blwyddyn yn y Goffadwriaeth, mae anerchiad yn ateb sawl cwestiwn yn glir o’r Beibl, cwestiynau fel: ‘Pam roedd rhaid i Iesu aberthu ei fywyd dros ddynolryw?’ ‘Sut mae marwolaeth un dyn yn talu am ein holl bechodau?’ ‘Beth mae’r bara a’r gwin yn ei gynrychioli a phwy sy’n cael bwyta ac yfed y gwin?’ (Darllen Luc 22:19, 20.) Ac mae’r rhai sy’n gobeithio byw am byth ar y ddaear yn myfyrio ar y dyfodol hyfryd sydd o’u blaenau. (Esei. 35:5, 6; 65:17, 21-23) Ddylen ni ddim cymryd y gwirioneddau hyn yn ganiataol, oherwydd dydy biliynau o bobl y byd ddim yn eu deall, nac yn gwerthfawrogi pa mor arbennig ydy aberth Iesu. Dydyn nhw ddim chwaith yn cofio marwolaeth Iesu yn y ffordd wnaeth ef ddangos inni. Gad inni weld pam.

5. Sut gwnaeth pobl ddechrau cofio marwolaeth Iesu ar ôl i’r rhan fwyaf o’r apostolion farw?

5 Fe wnaeth gau Gristnogion sleifio i mewn i’r gynulleidfa yn fuan ar ôl i’r rhan fwyaf o apostolion Iesu farw. (Math. 13:24-27, 37-39) Roedden nhw’n “dweud pethau llygredig i ddenu’r disgyblion ar eu holau.” (Act. 20:29, 30) Un o’r “pethau llygredig” roedden nhw’n ei ddysgu oedd bod Iesu heb aberthu ei gorff “unwaith ac am byth i gario pechodau llawer o bobl,” fel mae’r Beibl yn ei ddweud. (Heb. 9:27, 28) Yn hytrach, roedden nhw’n dysgu bod rhaid i’w aberth gael ei ail-adrodd drosodd a throsodd. A dyna mae llawer o bobl yn ei gredu hyd heddiw. Maen nhw’n mynd i’r eglwys bob wythnos—weithiau bob diwrnod—i gofio aberth Iesu. Dyna mae Catholigion yn ei alw’n “Aberth yr Offeren.” b Mae crefyddau eraill yn cofio marwolaeth Iesu yn llai aml, ond dydy’r rhan fwyaf o’u haelodau ddim yn deall yn iawn beth mae ei aberth yn ei olygu. Mae rhai’n gofyn, ‘Ydy marwolaeth Iesu wir yn golygu mod i’n cael maddeuant am fy mhechodau?’ Pam maen nhw’n gofyn hynny? Am fod cymaint o bobl wedi dweud wrthyn nhw nad ydy aberth Iesu wedi gwneud unrhyw wahaniaeth. Sut mae gwir ddilynwyr Iesu wedi helpu pobl i ddeall ystyr ei aberth a beth ydy’r ffordd iawn i’w gofio?

6. Erbyn 1872, pa gasgliad roedd grŵp o fyfyrwyr y Beibl wedi ei gyrraedd?

6 Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd grŵp o fyfyrwyr y Beibl eisiau gwybod y gwir am werth aberth Iesu a’r ffordd gywir o gofio ei farwolaeth. Felly dyma’r grŵp hwnnw, wedi ei arwain gan Charles Taze Russell, yn dechrau astudio’r Beibl yn drylwyr. Erbyn 1872, roedden nhw wedi dod i’r casgliad bod Iesu wedi talu’r pris i achub y ddynoliaeth unwaith ac am byth. Yna aethon nhw ati i rannu beth roedden nhw wedi ei ddysgu â phawb drwy lyfrau, papurau newydd, a chylchgronau. Yn fuan wedyn, dyma nhw’n dechrau cynnal y Goffadwriaeth unwaith y flwyddyn, yn union fel gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf.

7. Sut rydyn ni’n elwa o ymchwil myfyrwyr cynnar y Beibl?

7 Rydyn ni’n elwa o ymchwil y Cristnogion hynny hyd heddiw. Sut? Mae Jehofa wedi ein helpu ni i ddeall y gwir am aberth Iesu a sut rydyn ni’n elwa ohono. (1 Ioan 2:1, 2) Rydyn ni hefyd wedi dysgu bod y Beibl yn sôn am ddau obaith gwahanol i bobl ffyddlon Duw. Bydd rhai yn cael bywyd anfarwol yn y nef a bydd miliynau o rai eraill yn byw am byth ar y ddaear. Mae meddwl am gymaint mae Jehofa yn ein caru ni, ac am gymaint mae aberth Iesu yn ei olygu i ni’n bersonol yn ein closio ni at Jehofa. (1 Pedr 3:18; 1 Ioan 4:9) Felly yn union fel ein brodyr ffyddlon yn y gorffennol, rydyn ni’n gwahodd eraill i ymuno â ni wrth inni gynnal y Goffadwriaeth yn ôl y patrwm a osododd Iesu.

GWAHODD ERAILL I’R GOFFADWRIAETH

Sut gelli di gael rhan lawn yn ymgyrch y Goffadwriaeth? (Gweler paragraffau 8-10) e

8. Beth mae pobl Jehofa wedi ei wneud i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth dros y blynyddoedd? (Gweler y llun.)

8 Mae pobl Jehofa wedi bod yn gwahodd eraill i’r Goffadwriaeth am flynyddoedd. Mor fuan â 1881, cafodd brodyr a chwiorydd eu gwahodd i fynd i’r Goffadwriaeth yn nhŷ brawd yn Allegheny, Pensylfania. Yn hwyrach ymlaen, roedd y Goffadwriaeth yn cael ei chynnal ym mhob cynulleidfa. Ym mis Mawrth 1940, cafodd cyhoeddwyr eu hannog i wahodd unrhyw un yn y diriogaeth oedd yn dangos diddordeb. Ym 1960, dechreuodd y Bethel argraffu gwahoddiadau i’r cynulleidfaoedd eu defnyddio. Ers hynny, mae biliynau o wahoddiadau i’r Goffadwriaeth wedi cael eu dosbarthu. Pam rydyn ni’n mynd i gymaint o drafferth i wahodd eraill?

9-10. Pwy sy’n elwa o’n hymdrechion i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth? (Ioan 3:16)

9 Rydyn ni eisiau i’r rhai sy’n dod i’r Goffadwriaeth am y tro cyntaf ddysgu’r gwir am beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni i gyd. Dyna pam rydyn ni’n eu gwahodd i’r Goffadwriaeth. (Darllen Ioan 3:16.) Rydyn ni’n gobeithio bydd yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed yn y Goffadwriaeth yn eu hysgogi nhw i ddysgu mwy, ac i wasanaethu Jehofa yn y pen draw. Ond mae eraill yn elwa o ddod i’r Goffadwriaeth hefyd.

10 Rydyn ni hefyd yn gwahodd y rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa bellach, er mwyn eu hatgoffa nhw bod Duw yn dal i’w caru. Ac rydyn ni wrth ein boddau i weld llawer ohonyn nhw yn derbyn y gwahoddiad. Mae hynny’n eu hatgoffa nhw gymaint roedden nhw’n mwynhau gwasanaethu Jehofa gynt. Dyna ddigwyddodd yn achos Monica. c Yn ystod y pandemig COVID-19, daeth hi’n weithredol fel cyhoeddwraig unwaith eto. Ar ôl y Goffadwriaeth yn 2021, dywedodd: “Mae’r Goffadwriaeth hon wedi bod yn un arbennig iawn i mi. Am y tro cyntaf ers ugain mlynedd, dw i wedi gallu pregethu a gwahodd pobl i’r Goffadwriaeth. Oherwydd fy mod i mor ddiolchgar am bopeth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drosto i, fe wnes i bopeth o’n i’n gallu i wahodd eraill.” (Salm 103:1-4) Rydyn ni’n gwahodd pobl i’r Goffadwriaeth p’un a ydyn nhw’n ei dderbyn neu ddim, gan wybod bod Jehofa yn gwerthfawrogi pob ymdrech rydyn ni’n ei wneud.

11. Sut mae Jehofa wedi bendithio ein hymdrechion i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth? (Haggai 2:7)

11 Mae Jehofa yn sicr wedi bendithio ein hymdrechion i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth. Meddylia am y cyfyngiadau COVID-19 yn 2021. Er gwaethaf hynny, daeth mwy nag erioed i’r Goffadwriaeth—21,367,603. Mae hynny bron i ddwywaith a hanner y nifer o Dystion Jehofa yn y byd! Ond nid rhifau sy’n bwysig i Jehofa. Mae ganddo ddiddordeb ym mhob unigolyn. (Luc 15:7; 1 Tim. 2:3, 4) Wrth inni wahodd eraill i’r Goffadwriaeth, gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa yn ein helpu ni i gael hyd i’r rhai sydd â chalonnau da.—Darllen Haggai 2:7.

MYND I’R GOFFADWRIAETH ER GWAETHAF HERIAU

Mae Jehofa yn bendithio ein hymdrechion i gofio marwolaeth Iesu (Gweler paragraff 12) f

12. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni fynd i’r Goffadwriaeth? (Gweler y llun.)

12 Wrth sôn am y dyddiau diwethaf, dywedodd Iesu y bydden ni’n wynebu heriau fel gwrthwynebiad gan aelodau teulu, erledigaeth, rhyfeloedd, a salwch, i enwi ond ychydig. (Math. 10:36; Marc 13:9; Luc 21:10, 11) Os ydyn ni’n wynebu heriau tebyg, gall fod yn anodd inni fynd i’r Goffadwriaeth. Beth mae rhai o’n brodyr a’n chwiorydd wedi ei wneud i ddelio â’r fath heriau, a sut mae Jehofa wedi eu helpu nhw?

13. Sut gwnaeth Jehofa fendithio dewrder Artem a’i ymdrech i gynnal y Goffadwriaeth tra oedd yn y carchar?

13 Yn y carchar. Mae rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yn y carchar dros eu ffydd. Ond maen nhw’n gwneud beth allan nhw i gofio marwolaeth Iesu. Yn ystod adeg y Goffadwriaeth yn 2020, cafodd brawd o’r enw Artem ei garcharu mewn cell 17 metr sgwâr, gyda hyd at bedwar carcharor arall. Er gwaethaf ei sefyllfa, llwyddodd i gasglu pethau i’w defnyddio fel elfennau ar gyfer y Goffadwriaeth. Penderfynodd roi anerchiad y Goffadwriaeth er ei gyfer ei hun. Ond roedd y carcharorion eraill yn ysmygu ac yn rhegi yn aml. Felly beth wnaeth Artem? Gofynnodd iddyn nhw beidio ag ysmygu na rhegi am un awr. Er mawr syndod i Artem, fe wnaethon nhw gytuno! Dywedodd: “Wnes i gynnig dweud wrthyn nhw am y Goffadwriaeth.” Er nad oedd ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb i ddechrau, unwaith i Artem gynnal y Goffadwriaeth, roedden nhw eisiau gwybod popeth am yr achlysur.

14. Sut gwnaeth pobl Jehofa gynnal y Goffadwriaeth er gwaethaf y pandemig COVID-19?

14 Yn ystod y pandemig COVID-19. Er nad oedd pobl Jehofa yn gallu mynd i’r Goffadwriaeth wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod hwnnw, wnaeth hynny ddim eu stopio nhw rhag ei chynnal. d Roedd llawer o gynulleidfaoedd yn gallu ei chynnal drwy fideo-gynadledda. Ond mae miliynau o bobl ledled y byd heb fynediad i’r We. Felly beth wnaethon nhw? Mewn rhai gwledydd, cafodd y Goffadwriaeth ei darlledu ar y teledu neu ar y radio. Ar ben hynny, roedd canghennau wedi recordio’r Goffadwriaeth mewn mwy na 500 o ieithoedd, ac roedd brodyr ffyddlon yn mynd â’r recordiadau hynny i’r rhai sy’n byw mewn llefydd anghysbell. Roedd hynny’n golygu eu bod nhwthau hefyd yn gallu gwylio’r Goffadwriaeth.

15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Sue?

15 Er gwaethaf gwrthwynebiad gan y teulu. Dyma’r her anoddaf i rai pobl o ran mynd i’r Goffadwriaeth. Roedd hynny’n wir yn achos Sue, oedd yn astudio’r Beibl. Y diwrnod cyn y Goffadwriaeth yn 2021, dywedodd hi wrth y chwaer oedd yn ei helpu hi i astudio’r Beibl na fyddai hi’n gallu mynd oherwydd gwrthwynebiad yn y cartref. Gwnaeth y chwaer ddarllen Luc 22:44 iddi, ac esbonio y dylen ni droi at Jehofa mewn gweddi a’i drystio’n llwyr pan fydd heriau yn codi, yn union fel wnaeth Iesu. Y diwrnod wedyn, aeth Sue ati i baratoi’r elfennau a gwylio’r rhaglen Addoliad y Bore arbennig ar jw.org. Y noson honno, aeth i fyny i’w hystafell i wrando ar y Goffadwriaeth ar ei phen ei hun dros y ffôn. Yn nes ymlaen, ysgrifennodd Sue at y chwaer sy’n astudio’r Beibl gyda hi a dweud: “Wnest ti fy nghalonogi gymaint ddoe, felly wnes i bopeth roeddwn i’n medru i fynd i’r Goffadwriaeth ac mi wnaeth Jehofa y gweddill. Fedra i ddim dweud wrthot ti pa mor hapus a diolchgar ydw i!” Wyt ti’n meddwl bydd Jehofa yn gallu dy helpu di os wyt ti mewn sefyllfa debyg?

16. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn bendithio ein hymdrechion i fynd i’r Goffadwriaeth? (Rhufeiniaid 8:31, 32)

16 Mae pob ymdrech rydyn ni’n ei gwneud i gofio marwolaeth Iesu yn arbennig iawn i Jehofa. Pan fyddwn ni’n dangos gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi popeth mae ef wedi ei wneud droston ni, fe fydd yn ein bendithio ni. (Darllen Rhufeiniaid 8:31, 32.) Felly gad inni fod yn benderfynol, nid yn unig i fod yn bresennol yn y Goffadwriaeth eleni, ond hefyd i wneud mwy i Jehofa yn ystod y cyfnod hwnnw.

CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth

a Bydd miliynau ledled y byd yn mynd i Goffadwriaeth marwolaeth Iesu ar nos Fawrth, Ebrill 4, 2023. Bydd llawer yno am y tro cyntaf. Bydd eraill heb fod yno ers blynyddoedd am eu bod nhw wedi mynd yn anweithredol. Bydd eraill eto wedi trechu heriau anodd er mwyn bod yno. Sut bynnag mae hi yn dy achos di, gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn hapus dy fod ti wedi gwneud yr ymdrech i fod yn bresennol.

b Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y ddefod hon yn credu bod y bara a’r gwin yn troi’n llythrennol yn gorff a gwaed Iesu. Maen nhw’n credu bod corff a gwaed Iesu yn cael eu haberthu bob tro mae rhywun yn cymryd rhan.

c Newidiwyd rhai enwau.

d Gweler hefyd yr erthyglau “2021 Memorial Commemoration” ar wefan Saesneg jw.org.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae gwahoddiadau i’r Goffadwriaeth wedi gwella ers y 1960au. Maen nhw bellach ar gael yn electronig ac ar bapur.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun yn dangos brodyr a chwiorydd yn cynnal y Goffadwriaeth yn ystod cyfnod o aflonyddwch sifil.