Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 5

“Mae’r Cariad Sydd Gan y Crist yn Ein Cymell Ni”

“Mae’r Cariad Sydd Gan y Crist yn Ein Cymell Ni”

“Mae’r cariad sydd gan y Crist yn ein cymell ni . . . er mwyn i’r rhai sy’n byw beidio â byw iddyn nhw eu hunain mwyach.”—2 COR. 5:14, 15.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG a

1-2. (a) Pa deimladau all godi wrth inni fyfyrio ar fywyd a gweinidogaeth Iesu? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

 MAE’N naturiol inni hiraethu am anwylyn rydyn ni wedi ei golli. Gall fod yn boenus iawn meddwl yn ôl ar ei ddyddiau olaf, yn enwedig os oedd ef wedi dioddef. Ond dros amser, mae’n bosib inni deimlo’n hapus unwaith eto o gofio rhywbeth roedd wedi ei wneud neu ei ddweud i’n dysgu ni, i’n hannog ni, neu i wneud inni wenu.

2 Mewn ffordd debyg, mae’n ein gwneud ni’n drist i ddarllen am Iesu’n dioddef ac yn marw. Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, rydyn ni’n cymryd yr amser i fyfyrio ar ba mor werthfawr ydy ei aberth. (1 Cor. 11:24, 25) Ond rydyn ni’n cael llawenydd o feddwl am yr holl bethau roedd Iesu wedi eu gwneud a’u dweud tra oedd ar y ddaear. Ac mae meddwl am beth mae’n ei wneud nawr, a beth bydd yn ei wneud droston ni yn y dyfodol, yn hynod o gyffrous. Fel cawn weld yn yr erthygl hon, bydd myfyrio ar y pethau hyn, ac ar ei gariad, yn ein cymell ni i ddangos ein bod ni’n ddiolchgar.

MAE DIOLCHGARWCH YN EIN CYMELL NI I DDILYN IESU

3. Pa resymau sydd gynnon ni dros fod yn ddiolchgar am aberth Iesu?

3 Tra oedd Iesu ar y ddaear, fe ddysgodd bobl am yr holl fendithion fydd yn dod o dan Deyrnas Dduw. Hefyd, rhoddodd ei fywyd droston ni fel ein bod ni’n gallu cael perthynas agos ag ef ac â Jehofa. Ac oherwydd beth wnaeth ef, mae gan y rhai sy’n dangos ffydd yn Iesu y gobaith o fyw am byth, ac o weld eu hanwyliaid sydd wedi marw unwaith eto. Felly pan ydyn ni’n meddwl am fywyd a marwolaeth Iesu, rydyn ni’n gweld cymaint sydd gynnon ni i ddiolch amdano. (Ioan 5:28, 29; Rhuf. 6:23) Y ffaith amdani yw, dydy’r un ohonon ni’n haeddu’r fath fendithion nac yn gallu talu yn ôl i Dduw a Christ am beth maen nhw wedi ei wneud droston ni. (Rhuf. 5:8, 20, 21) Ond mae’n bosib i bob un ohonon ni ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni. Gad inni weld sut.

Sut mae myfyrio ar esiampl Mair Magdalen yn dy gymell di i ddangos dy fod ti’n ddiolchgar? (Gweler paragraffau 4-5)

4. Sut dangosodd Mair Magdalen ei bod hi’n ddiolchgar am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud drosti? (Gweler y llun.)

4 Meddylia am y ddynes Iddewig, Mair Magdalen. Roedd saith cythraul yn ei thormentio hi ac roedd hi’n dioddef gymaint nes iddi anobeithio’n llwyr. Ond dyma Iesu yn ei rhyddhau hi o afael y cythreuliaid. Roedd hi mor ddiolchgar am hynny a dechreuodd ddilyn Iesu a defnyddio ei hamser, ei hegni a’i phethau materol i’w gefnogi yn ei weinidogaeth. (Luc 8:1-3) Roedd Mair ar ben ei digon oherwydd beth roedd Iesu wedi ei wneud drosti hi’n bersonol, ond efallai nad oedd hi wedi sylweddoli y byddai Iesu yn gwneud rhywbeth gwell byth yn y dyfodol. Roedd am roi ei fywyd dros ddynolryw “er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo” gael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Er hynny, roedd Mair yn glynu’n ffyddlon wrth Iesu. Hyd yn oed tra oedd Iesu yn dioddef ar y stanc, dewisodd Mair fod yno am ei bod yn caru Iesu ac eisiau cysuro eraill a oedd yno hefyd. (Ioan 19:25) Ar ôl i Iesu farw, aeth Mair a dwy ddynes arall â sbeisys i’r beddrod. (Marc 16:1, 2) Cafodd Mair ei bendithio’n fawr am ei ffyddlondeb i Iesu. Cafodd hi’r fraint arbennig o gyfarfod Iesu a siarad ag ef ar ôl iddo gael ei atgyfodi—rhywbeth na chafodd y rhan fwyaf o’i ddisgyblion gyfle i’w wneud.—Ioan 20:11-18.

5. Sut gallwn ni ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni am bopeth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni?

5 Gallwn ninnau ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni i Jehofa ac Iesu drwy ddefnyddio ein hamser, ein hegni, a’n pethau materol ar gyfer y Deyrnas. Er enghraifft, gallwn ni wirfoddoli i adeiladu mannau addoli a’u cynnal.

MAE CARIAD TUAG AT JEHOFA AC IESU YN EIN CYMELL NI I GARU ERAILL

6. Pam gallwn ni ddweud bod aberth Iesu yn anrheg bersonol?

6 Pan ydyn ni’n meddwl am gymaint mae Jehofa ac Iesu yn ein caru ni, allwn ni ddim peidio â’u caru nhw. (1 Ioan 4:10, 19) Ac unwaith inni sylweddoli bod Iesu wedi marw droston ni’n bersonol, rydyn ni’n eu caru nhw’n fwy byth. Yn amlwg, roedd yr apostol Paul yn deall hyn ac yn ei werthfawrogi oherwydd dywedodd yn ei lythyr at y Galatiaid fod Mab Duw wedi “fy ngharu i a rhoi ei fywyd drosto i.” (Gal. 2:20) Ar sail aberth Iesu, mae Jehofa wedi dy ddenu di ato. (Ioan 6:44) Meddylia am hynny. Mae Jehofa wedi gweld rhywbeth da ynot ti, ac roedd yn fodlon talu’r pris uchaf fel dy fod ti’n gallu bod yn ffrind iddo. Onid ydy hynny’n hynod o arbennig? Ond gofynna i ti dy hun, ‘Beth fydd y cariad hwnnw yn fy nghymell i’w wneud?’

Mae ein cariad tuag at Jehofa ac Iesu yn ein cymell ni i rannu neges y Deyrnas â phob math o bobl (Gweler paragraff 7)

7. Fel mae’r llun yn dangos, sut gall pob un ohonon ni ddangos ein bod ni’n caru Jehofa ac Iesu? (2 Corinthiaid 5:14, 15; 6:1, 2)

7 Mae’r cariad hwnnw yn ein cymell ni i ddangos cariad tuag at eraill. (Darllen 2 Corinthiaid 5:14, 15; 6:1, 2) Un ffordd gallwn ni ddangos hynny ydy drwy bregethu’n selog. Rydyn ni’n siarad â phawb ni waeth beth ydy eu llwyth, eu hil, eu cefndir, neu eu statws ariannol. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n gwneud ewyllys Duw am ei fod ef eisiau gweld “pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir.”—1 Tim. 2:4.

8. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd?

8 Ffordd arall rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru Duw a Christ ydy drwy garu ein brodyr a’n chwiorydd. (1 Ioan 4:21) Sut? Rydyn ni wir eisiau eu cefnogi nhw yn ystod eu treialon, rydyn ni’n eu cysuro nhw pan maen nhw wedi colli anwylyn, yn mynd i’w gweld nhw pan maen nhw’n sâl, ac yn gwneud ein gorau i godi eu calonnau pan maen nhw’n ddigalon. (2 Cor. 1:3-7; 1 Thes. 5:11, 14) Rydyn ni hefyd yn eu cadw nhw yn ein gweddïau, gan gofio bod “erfyniad dyn cyfiawn yn cael effaith bwerus.”—Iago 5:16.

9. Ym mha ffordd arall gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd?

9 Ffordd arall rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd ydy drwy drio ein gorau i geisio heddwch â nhw, ac efelychu maddeuant Jehofa. Wedi’r cwbl, roedd Jehofa yn fodlon gadael i’w Fab farw dros ein pechodau ni, felly oni ddylen ni fod yn barod i faddau i’n brodyr a’n chwiorydd pan maen nhw’n pechu yn ein herbyn ni? Gwnaeth Iesu adrodd hanes caethwas wnaeth wrthod maddau dyled fach un o’i gyd-gaethweision, er ei fod ef ei hun wedi cael maddeuant am ei ddyled anferth. Yn sicr, fydden ni ddim eisiau bod fel y caethwas drwg hwnnw. (Math. 18:23-35) Os wyt ti a rhywun arall yn y gynulleidfa wedi camddeall eich gilydd, a elli di gymryd y cam cyntaf i wneud heddwch cyn mynd i’r Goffadwriaeth? (Math. 5:23, 24) Drwy wneud hynny, byddi di’n profi dy fod ti’n caru Jehofa ac Iesu.

10-11. Sut gall henuriaid ddangos eu bod nhw’n caru Jehofa ac Iesu? (1 Pedr 5:1, 2)

10 Beth am yr henuriaid? Gallan nhw ddangos eu bod nhw’n caru Jehofa ac Iesu drwy ofalu am anghenion defaid Iesu. (Darllen 1 Pedr 5:1, 2.) Daeth hynny drosodd yn glir pan siaradodd Iesu â’r apostol Pedr. Roedd Pedr wedi gwadu Iesu dair gwaith, ac ar ôl hynny, mae’n debyg roedd yn torri ei fol eisiau profi ei fod yn caru Iesu. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, gofynnodd i Pedr: “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Wrth gwrs roedd Pedr yn ei garu, a byddai wedi gwneud unrhyw beth i brofi hynny. Felly pan ddywedodd Iesu wrtho: “Bugeilia fy nefaid bach,” dyna’n union wnaeth Pedr am weddill ei fywyd.—Ioan 21:15-17.

11 Felly henuriaid, sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n cymryd geiriau Iesu wrth Pedr o ddifri yn ystod adeg y Goffadwriaeth? Drwy wneud yr amser i fugeilio eich brodyr a’ch chwiorydd yn rheolaidd, a drwy wneud ymdrech arbennig i helpu’r rhai anweithredol i droi yn ôl at Jehofa. (Esec. 34:11, 12) Gallwch chi hefyd annog y rhai sy’n astudio’r Beibl, a’r rhai sy’n dod i’r Goffadwriaeth am y tro cyntaf. Mae’n bwysig estyn croeso cynnes iddyn nhw, oherwydd rydyn ni’n gobeithio y byddan nhwthau hefyd yn dilyn Iesu ryw ddydd.

MAE CARIAD AT IESU YN EIN CYMELL NI I FOD YN DDEWR

12. Sut mae geiriau Iesu yn Ioan 16:32, 33 yn ein helpu ni i fod yn ddewr?

12 Ar y noson cyn iddo farw, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Yn y byd fe fyddwch chi’n wynebu treialon, ond byddwch yn ddewr! Rydw i wedi concro’r byd.” (Darllen Ioan 16:32, 33.) Llwyddodd Iesu i fod yn ddewr yn wyneb ei elynion, ac i aros yn ffyddlon hyd farwolaeth am ei fod yn dibynnu ar Jehofa. Roedd yn gwybod y byddai ei ddilynwyr yn wynebu heriau tebyg, felly gofynnodd i Jehofa wylio drostyn nhw. (Ioan 17:11) Sut mae hynny’n ein helpu ni i fod yn ddewr? Oherwydd mae Jehofa yn gryfach nag unrhyw un o’n gelynion. (1 Ioan 4:4) Ac mae’n gweld popeth sy’n mynd ymlaen. Os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa, gallwn ni drechu ein hofnau a bod yn ddewr.

13. Sut gwnaeth Joseff o Arimathea ddangos dewrder?

13 Meddyliwch am esiampl Joseff o Arimathea, aelod o’r Sanhedrin, goruchaf lys yr Iddewon. Roedd yn uchel ei barch yn y gymdeithas, ac roedd pawb yn gwybod pwy oedd ef. Ond, tra oedd Iesu ar y ddaear, doedd Joseff ddim yn ddewr iawn. Dywedodd Ioan ei fod yn “ddisgybl i Iesu ond yn cadw’r peth yn gyfrinachol oherwydd ei fod yn ofni’r Iddewon.” (Ioan 19:38) Felly, roedd gan Joseff ffydd yn Iesu, ond doedd ef ddim eisiau i neb arall wybod. Efallai roedd yn poeni y byddai’n colli ei statws a’i barch yn y gymuned. Ond newidiodd pethau ar ôl i Iesu farw. Mae’r Beibl yn dweud y gwnaeth Joseff “fagu plwc a mynd i mewn o flaen Peilat a gofyn am gorff Iesu.” (Marc 15:42, 43) Felly doedd y ffaith ei fod yn cefnogi Iesu ddim yn gyfrinach ddim mwy.

14. Beth dylet ti ei wneud os ydy ofn dyn yn dy ddal di yn ôl?

14 A elli di gydymdeimlo â Joseff? Ydy ofn dyn erioed wedi dy stopio di rhag cyfaddef dy fod ti’n un o Dystion Jehofa yn yr ysgol neu’r gweithle? A wyt ti’n dal yn ôl rhag bod yn gyhoeddwr, neu gael dy fedyddio am dy fod ti’n poeni beth bydd eraill yn meddwl ohonot ti? Paid â gadael i’r fath deimladau dy rwystro di rhag gwneud beth sy’n iawn. Gweddïa ar Jehofa am y dewrder i wneud ei ewyllys. Wrth iti weld Jehofa yn ateb dy weddïau, byddi di’n dod yn gryfach ac yn fwy dewr.—Esei. 41:10, 13.

MAE LLAWENYDD YN EIN CYMELL NI I DDAL ATI I WASANAETHU JEHOFA

15. Ar ôl i Iesu ymddangos i’w ddisgyblion, beth wnaeth eu llawenydd eu cymell nhw i’w wneud? (Luc 24:52, 53)

15 Dychmyga pa mor drist oedd y disgyblion pan wnaeth Iesu farw. Nid yn unig roedden nhw wedi colli eu ffrind annwyl, roedden nhw hefyd yn dechrau anobeithio. (Luc 24:17-21) Ond pan wnaeth Iesu ymddangos iddyn nhw, cymerodd yr amser i esbonio sut roedd yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl, yn ogystal â rhoi gwaith pwysig iddyn nhw. (Luc 24:26, 27, 45-48) Pa effaith gafodd hynny arnyn nhw? Erbyn i Iesu fynd yn ôl i’r nef 40 diwrnod wedyn, roedden nhw’n hapus dros ben o wybod bod Iesu yn fyw, a’i fod am eu helpu nhw i wneud y gwaith roedd wedi ei roi iddyn nhw. Y llawenydd hwnnw wnaeth eu cymell nhw i ddal ati i wasanaethu Jehofa.—Darllen Luc 24:52, 53; Act. 5:42.

16. Sut gallwn ni efelychu disgyblion Iesu?

16 Gallwn ni efelychu disgyblion Iesu drwy fwynhau ein gwasanaeth i Jehofa nid yn unig yn ystod adeg y goffadwriaeth, ond drwy gydol y flwyddyn. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni roi’r Deyrnas yn gyntaf. Mae rhai wedi gwneud hynny drwy newid eu horiau gwaith er mwyn gwneud mwy yn y weinidogaeth, mynd i’r cyfarfodydd, a gwneud addoliad teuluol yn rheolaidd. Mae rhai hyd yn oed wedi dewis mynd heb bethau materol mae eraill yn eu hystyried yn angenrheidiol fel eu bod nhw’n gallu gwneud mwy yn y gynulleidfa, neu wasanaethu lle mae’r angen yn fwy. Mae gwasanaethu Jehofa yn gofyn am ddyfalbarhad, ond mae’n addo ein bendithio ni’n fawr os ydyn ni’n rhoi ei Deyrnas yn gyntaf yn ein bywydau.—Diar. 10:22; Math. 6:32, 33.

Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, cymera amser i fyfyrio ar beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drostot ti yn bersonol (Gweler paragraff 17)

17. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud yn ystod adeg y Goffadwriaeth eleni? (Gweler y llun.)

17 Bydd y Goffadwriaeth ar nos Fawrth, Ebrill 4 eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn ati. Ond paid â disgwyl tan y diwrnod hwnnw i fyfyrio ar fywyd a marwolaeth Iesu, a’r cariad sydd ganddo ef a Jehofa tuag aton ni. Yn yr wythnosau cyn ac ar ôl y Goffadwriaeth, achuba ar bob cyfle gei di i wneud hynny. Beth am ddarllen a myfyrio ar y digwyddiadau sydd yn siart 16, “Wythnos Olaf Bywyd Iesu ar y Ddaear,” yn y llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw. Wrth iti wneud hynny, bydda’n effro i adnodau sy’n cryfhau dy gariad, dy ddewrder, a dy lawenydd, ac sydd hefyd yn dy wneud di’n fwy diolchgar. Wedyn, meddylia am ffyrdd penodol y gelli di ddangos pa mor ddiolchgar wyt ti. A does dim dwywaith amdani, bydd Iesu yn gwerthfawrogi pob ymdrech rwyt ti’n ei gwneud i’w gofio yn ystod adeg y Goffadwriaeth.—Dat. 2:19.

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

a Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, rydyn ni’n cael ein hannog i fyfyrio ar fywyd a marwolaeth Iesu ac ar y cariad mawr mae ef a’i Dad wedi ei ddangos tuag aton ni. Mae gwneud hynny yn ein cymell ni i ddangos gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod ffyrdd ymarferol gallwn ni wneud hynny, yn ogystal â sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd, dangos dewrder, a chael llawenydd yn ein gwasanaeth.