Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

Bydd Jehofa yn Dy Helpu Di yn Ystod Amseroedd Anodd

Bydd Jehofa yn Dy Helpu Di yn Ystod Amseroedd Anodd

“[Jehofa] sy’n rhoi sicrwydd . . . bob amser.”ESEI. 33:6.

PWRPAS

Sut gallwn ni elwa o help Jehofa yn ystod amseroedd anodd.

1-2. Pa heriau gall gweision ffyddlon Jehofa eu hwynebu?

 GALL trychineb effeithio arnon ni’n sydyn. Er enghraifft, cafodd brawd ffyddlon o’r enw Luis a ei ddiagnosio gyda chanser anghyffredin. Dywedodd y doctor wrtho fod ganddo ond rhai misoedd ar ôl i fyw. Roedd Monika a’i gŵr yn brysur gyda gweithgareddau ysbrydol. Yna un diwrnod, dysgodd Monika fod ei gŵr a oedd yn henuriad wedi bod yn byw bywyd dwbl am flynyddoedd. Roedd chwaer sengl o’r enw Olivia yn gorfod dianc o’i chartref yn gyflym oherwydd corwynt peryglus. Gwnaeth hi ddychwelyd i weld bod y storm wedi dinistrio ei thŷ. Mewn chwinciad, newidiodd bywydau yr unigolion hyn. Wyt ti’n gallu cydymdeimlo â’u profiadau nhw? Ydy rhywbeth wedi digwydd yn dy fywyd di sydd wedi troi popeth wyneb i waered?

2 Fel gweision ffyddlon Jehofa, rydyn ni’n wynebu treialon ac afiechydon sy’n gyffredin i bawb. Efallai byddwn ni’n dioddef erledigaeth gan rai sy’n casáu pobl Dduw. Er nad ydy Jehofa yn ein gwarchod ni rhag pob anhawster, mae’n addo ein helpu ni. (Esei. 41:10) Gyda’i help, gallwn ni gadw’n llawen, gwneud penderfyniadau da, a chadw’n ffyddlon iddo yn wyneb unrhyw beth. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried pedair ffordd mae Jehofa’n ein helpu ni yn ystod amseroedd anodd. Byddwn ni hefyd yn gweld sut gallwn ni elwa’n llawn o’r help y mae’n ei roi.

BYDD JEHOFA YN DY WARCHOD DI

3. Pan fyddwn ni’n mynd trwy adeg drychinebus, beth gall fod yn anodd inni ei wneud?

3 Yr her. Wrth wynebu trychineb, efallai bydd yn anodd inni feddwl yn glir a gwneud penderfyniadau. Pam? Efallai bydd y boen yn dorcalonnus. Efallai bydd pryderon yn pwyso ar dy feddwl. Efallai byddi di’n teimlo fel dy fod yn cerdded trwy niwl, heb wybod lle i droi nesaf. Sut roedd Olivia a Monika yn teimlo am eu treialon? Dywedodd Olivia: “Ar ôl i’r storm ddinistrio’r tŷ, o’n i’n teimlo ar goll ac fel bod pethau’n ormod imi.” Dywedodd Monika ar ôl i’w gŵr ei bradychu hi: “O’n i’n teimlo’n hynod o siomedig. Teimlais boen enfawr yn fy nghalon. Roedd pethau syml pob dydd yn teimlo’n rhy anodd imi. Doeddwn i erioed yn disgwyl i hyn ddigwydd imi.” Sut mae Jehofa’n addo ein helpu ni pan ydyn ni’n cael ein llethu?

4. Yn ôl Philipiaid 4:​6, 7, beth mae Jehofa yn ei addo?

4 Yr hyn mae Jehofa yn ei wneud. Mae’n addo rhoi inni beth mae’r Beibl yn ei alw’n “heddwch Duw.” (Darllen Philipiaid 4:​6, 7.) Mae’r heddwch hwn yn cyfeirio at dawelwch meddwl ac emosiynol sy’n dod o berthynas agos â Jehofa. Mae’r heddwch hwn “y tu hwnt i bob deall” ac yn fwy grymus nag y gallwn ni ei ddychmygu. Wyt ti erioed wedi profi heddwch meddwl o’r fath ar ôl gweddïo’n daer ar Jehofa? Dyna ydy “heddwch Duw.”

5. Sut mae heddwch Duw yn gwarchod ein meddyliau a’n calonnau?

5 Mae’r un adnodau yn dweud bydd heddwch Duw “yn gwarchod,” neu’n amddiffyn, “eich calonnau a’ch meddyliau.” Roedd y gair gwreiddiol am ‘warchod’ yn derm milwrol am filwyr a oedd yn gwarchod dinas rhag ymosodiad. Roedd pobl y ddinas yn gallu cysgu’n braf o wybod bod milwyr yn gwarchod y giatiau. Yn debyg, pan fydd heddwch Duw yn ein gwarchod, byddwn ni’n teimlo tawelwch meddwl ac emosiynol oherwydd byddwn ni’n saff. (Salm 4:8) Fel yn achos Hanna, hyd yn oed os nad ydy ein sefyllfa yn newid yn sydyn, gallwn ni deimlo’n hapusach. (1 Sam. 1:​16-18) O ganlyniad, bydd yn haws inni feddwl yn glir a gwneud penderfyniadau da.

Gweddïa nes dy fod ti’n profi “heddwch Duw” yn gwarchod dy galon a dy feddwl (Gweler paragraffau 4-6)


6. Beth gallen ni ei wneud i gael heddwch Duw? (Gweler hefyd y llun.)

6 Yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud. Pan wyt ti o dan straen, galwa ar y gwarchodwr, fel petai. Sut? Gweddïa nes dy fod ti’n profi heddwch Duw. (Luc 11:9; 1 Thes. 5:17) Esboniodd Luis sut roedd ei wraig ac ef yn gallu ymdopi ar ôl clywed na fyddai ef yn byw yn hir: “Ar foment fel hon, gall fod mor anodd gwneud penderfyniadau am ofal iechyd a materion eraill. Mae gweddi wedi bod yn hanfodol i gael heddwch yn ystod y broses.” Gweddïodd Luis a’i wraig yn daer dro ar ôl tro yn gofyn i Jehofa am heddwch meddyliol ac emosiynol, a doethineb i wneud penderfyniadau da. Cawson nhw help gan Jehofa. Os wyt ti’n wynebu treial, dal ati i weddïo a byddi di’n profi heddwch Duw yn gwarchod dy galon a dy feddwl.—Rhuf. 12:12.

BYDD JEHOFA YN DY SEFYDLOGI DI

7. Sut gallwn ni deimlo yn ystod treial?

7 Yr her. Yn ystod treial anodd, gall ein teimladau, ein meddyliau, a’r ffordd rydyn ni’n ymateb fod yn llai cytbwys nag arfer. Gallwn ni deimlo ein bod ni’n cael ein taflu o un emosiwn cryf i’r nesaf. Ar ôl i Luis farw, teimlodd Ana amrywiaeth o emosiynau cryf. Dywedodd hi: “Weithiau o’n i’n teimlo’n isel a dechrau teimlo’n sori drosto i fy hun. O’n i hefyd yn grac fod e wedi mynd.” Hefyd, roedd Ana’n teimlo’n unig ac yn ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau ar faterion roedd Luis wedi delio â nhw. Ar adegau, roedd hi’n teimlo fel ei bod hi mewn storm ar y môr. Sut gall Jehofa ein helpu ni wrth inni deimlo emosiynau cryf?

8. Pa sicrwydd mae Jehofa yn ei roi inni yn ôl Eseia 33:6?

8 Yr hyn mae Jehofa yn ei wneud. Mae’n addo ein cadw ni’n sefydlog. (Darllen Eseia 33:6.) Mewn storm, gall llong ddechrau siglo’n beryglus o ochr i ochr. I wrthsefyll hyn, mae gan nifer o longau adenydd sy’n gallu estyn allan o dan y dŵr. Gall yr adenydd hyn leihau y siglo yn fawr iawn. Mae hyn yn ei gwneud hi’n saffach ac yn fwy cyfforddus i’r rhai ar y llong. Yn ddiddorol, mae’r adenydd hyn yn gweithio mwyaf effeithiol wrth i’r llong symud yn ei flaen. Mewn ffordd debyg, bydd Jehofa yn dy sefydlogi di wrth iti symud ymlaen yn ffyddlon yn ystod amseroedd anodd.

Gwna dy hun yn sefydlog gan ddefnyddio ein hadnoddau astudio (Gweler paragraffau 8-9)


9. Sut gall ein hadnoddau ymchwil ein helpu ni i gadw cydbwysedd? (Gweler hefyd y llun.)

9 Yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud. Yng nghanol storm emosiynol, gwna dy orau i gadw at dy rwtîn ysbrydol. Yn wir, efallai na fyddi di’n gallu gwneud cymaint ag oeddet ti o’r blaen, ond cofia fod Jehofa yn rhesymol. (Cymhara Luc 21:​1-4.) Fel rhan o dy rwtîn ysbrydol, neilltua amser i astudio a myfyrio. Pam? Mae Jehofa wedi darparu bwyd ysbrydol anhygoel drwy ei gyfundrefn a all ein helpu ni i gael cydbwysedd. I ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnat ti, gelli di ddefnyddio adnoddau ymchwil mewn iaith rwyt ti’n ei deall, fel yr ap JW Library®, Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa, a’r Watch Tower Publications Index. Dywedodd Monika ei bod hi wedi defnyddio’r adnoddau ymchwil hyn wrth iddi deimlo storm emosiynol yn agosáu. Er enghraifft, chwiliodd hi am eiriau fel “dicter.” Wedyn, roedd hi’n chwilio am “bradychu” neu “ffyddlondeb.” Yna, roedd hi’n darllen nes iddi deimlo’n well. Dywedodd hi: “Pan ddechreuais wneud ymchwil, o’n i’n teimlo’n llawn pryder. Ond wrth imi ddal ati i ddarllen, teimlais fel bod Jehofa yn rhoi hyg mawr imi. Wrth imi ddarllen, sylweddolais fod Jehofa yn deall fy nheimladau i gyd ac roedd yn fy helpu i.” Gall cymorth o’r fath gan Jehofa dy helpu di i gadw cydbwysedd nes iti gyrraedd dŵr llonydd.—Salm 119:​143, 144.

BYDD JEHOFA YN DY GEFNOGI DI

10. Sut gallet ti deimlo ar ôl dioddef trawma?

10 Yr her. Ar ôl dioddef trawma, efallai byddwn ni’n teimlo’n wan yn gorfforol neu’n emosiynol ar adegau. Gallwn ni deimlo fel athletwr sydd wedi ei anafu, a oedd yn arfer yn rhedeg yn gyflym ond sydd nawr yn cerdded yn gloff. Efallai bydd rhai tasgau a oedd yn arfer bod yn hawdd yn anodd inni, neu efallai fyddwn ni ddim yn teimlo fel gwneud pethau roedden ni’n arfer eu mwynhau. Fel Elias, gallwn ni deimlo ein bod ni eisiau cysgu a bod codi o’r gwely yn rhy anodd inni. (1 Bren. 19:​5-7) Beth mae Jehofa’n addo ei wneud pan ydyn ni’n teimlo’n wan?

11. Pa ffordd arall mae Jehofa yn ein helpu ni? (Salm 94:18)

11 Yr hyn mae Jehofa yn ei wneud. Mae’n addo ein cynnal ni. (Darllen Salm 94:18.) Yn union fel mae athletwr sydd wedi ei anafu angen help i symud o gwmpas, efallai bydd angen help arnon ni i ddal ati yng ngwasanaeth Duw. Ar yr adegau hynny, mae Jehofa yn ein cysuro ni: “Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’” (Esei. 41:13) Gwnaeth y Brenin Dafydd brofi’r help hwn. Wrth wynebu ei dreialon a’i elynion, dywedodd wrth Jehofa: “Mae dy law gref yn fy nghynnal.” (Salm 18:35) Ond sut mae Jehofa yn rhoi cymorth inni?

Bydda’n agored i help gan dy deulu, dy ffrindiau, a’r henuriaid (Gweler paragraffau 11-13)


12. Sut mae Jehofa’n defnyddio eraill i’n helpu ni pan ydyn ni’n wan?

12 Yn aml, mae Jehofa yn ysgogi eraill i’n helpu ni. Er enghraifft, ar un adeg pan oedd Dafydd yn teimlo’n wan, gwnaeth ei ffrind Jonathan ymweld ag ef i roi help emosiynol ac i rannu geiriau calonogol. (1 Sam. 23:​16, 17) Yn debyg, gwnaeth Jehofa anfon Eliseus i roi help ymarferol i Elias. (1 Bren. 19:​16, 21; 2 Bren. 2:2) Heddiw, efallai bydd Jehofa yn defnyddio ein teulu, ein ffrindiau, neu’r henuriaid i’n cynnal ni. Ond, pan ydyn ni’n teimlo’n ddigalon, mae’n naturiol inni ynysu ein hunain, heb eisiau cwmni eraill. Mae hynny’n ymateb normal. Beth gallwn ni ei wneud i dderbyn help gan Jehofa?

13. Beth mae’n rhaid inni ei wneud i dderbyn help gan Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

13 Yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud. Brwydra yn erbyn yr awydd i ynysu dy hun. Pan ydyn ni’n cadw draw oddi wrth bobl eraill, yn aml byddwn ni’n meddwl amdanon ni’n hunain a’n problemau yn unig. Gall y meddylfryd hwn effeithio ar ein penderfyniadau. (Diar. 18:1) Wrth gwrs, rydyn ni i gyd angen amser ar ein pennau ein hunain, yn enwedig yn ystod amseroedd anodd. Ond, petasen ni’n ynysu ein hunain am gyfnod hir, gallen ni wthio yn erbyn yr help mae Jehofa yn ei ddarparu. Felly, er gwaethaf amseroedd anodd, bydda’n barod i dderbyn help gan dy deulu, dy ffrindiau, a’r henuriaid. Dyma sut mae Jehofa eisiau dy helpu di.—Diar. 17:17; Esei. 32:​1, 2.

BYDD JEHOFA YN DY GYSURO DI

14. Pa sefyllfaoedd gall godi ofn arnon ni?

14 Yr her. Gallwn ni deimlo’n ofnus ar adegau. Mae’r Beibl yn sôn am weision ffyddlon yn cael eu dychryn a’u llethu gan ofn o ganlyniad i’w gelynion neu eu problemau. (Salm 18:4; 55:​1, 5) Yn debyg, gallwn ni wynebu erledigaeth yn yr ysgol, yn y gwaith, yn y teulu, neu gan y llywodraeth. Efallai gall hyd yn oed problemau iechyd wneud inni ofni marw. Yn ystod amseroedd fel hyn, gallwn deimlo fel plentyn bach sydd ddim yn gallu newid y sefyllfa. Sut mae Jehofa yn ein helpu ar adegau felly?

15. Pa sicrwydd mae Salm 94:19 yn ei roi?

15 Yr hyn mae Jehofa yn ei wneud. Mae’n ein cysuro ni ac yn lleddfu ein poen. (Darllen Salm 94:19.) Efallai bydd y Salm hon yn gwneud inni feddwl am ferch fach sy’n poeni ac sy’n methu cysgu oherwydd storm tu allan. Dychmyga ei thad yn dod i mewn, yn pigo hi i fyny, a dal hi nes iddi syrthio i gysgu. Er gwaetha’r storm tu allan, mae breichiau ei thad yn gwneud iddi deimlo’n saff. Wrth wynebu treialon brawychus, efallai bydd yn rhaid inni adael i’n Tad nefol ein dal ni nes bod y teimladau cryf yn pasio heibio. Sut gallwn ni dderbyn y fath gysur gan Jehofa?

Gad i dy dad nefol dy gysuro di drwy eiriau’r Beibl (Gweler paragraffau 15-16)


16. Beth gallwn ni ei wneud i dderbyn cysur gan Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

16 Yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud. Treulia amser gyda Jehofa yn rheolaidd—yn gweddïo arno a darllen ei Air. (Salm 77:​1, 12-14) Yna, pan wyt ti o dan straen, mae’n debyg byddi di’n troi at dy Dad nefol heb oedi. Dyweda wrtho am dy bryderon. Gad iddo siarad â ti a dy gysuro drwy’r Ysgrythurau. (Salm 119:28) Efallai byddi di’n gweld bod rhannau penodol o’r Beibl yn dod â chysur pan wyt ti’n teimlo’n ofnus. Er enghraifft, byddai’n bosib iti gael dy gysuro drwy ddarllen llyfr Job, y Salmau, a llyfr Diarhebion, yn ogystal â geiriau Iesu ym Mathew pennod 6. Wrth iti weddïo ar Jehofa a darllen ei Air, bydd ef yn dy gysuro.

17. Pa sicrwydd gallwn ni ei gael?

17 Gallwn ni fod yn hyderus bydd Jehofa yn ein helpu ni yn ystod amseroedd anodd yn ein bywydau. Fyddwn ni byth ar ein pennau ein hunain. (Salm 23:4; 94:14) Mae Jehofa yn addo ein gwarchod ni, ein sefydlogi ni, ein cefnogi ni, a’n cysuro ni. Wrth sôn am Jehofa, mae Eseia 26:3 yn dweud: “Mae’r rhai sy’n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.” Felly, trystia Jehofa, a bydda’n barod i dderbyn y ffyrdd mae’n eu defnyddio i dy helpu di. Os byddi di’n gwneud hyn, byddi di’n cael dy nerth yn ôl yn ystod amseroedd anodd.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pryd bydden ni’n wir angen help Jehofa?

  • Pa bedair ffordd mae Jehofa yn ein helpu ni yn ystod amseroedd anodd?

  • Beth mae’n rhaid inni ei wneud i dderbyn help Jehofa?

CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa

a Newidiwyd rhai enwau.