AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Syniadau ar Gyfer Addoliad Teuluol neu Astudiaeth Bersonol
Rydyn ni’n addoli Jehofa nid yn unig fel grwpiau mawr yn ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau ond hefyd fel unigolion a theuluoedd. Dyma rai syniadau ar gyfer dy addoliad teuluol neu dy astudiaeth bersonol:
-
Paratoa ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa. Gelli di gynnwys ymarfer y caneuon a helpu pawb yn y teulu i baratoi ateb.
-
Darllena hanes o’r Beibl. Wedyn, tynna lun o ddigwyddiad yn yr hanes neu ysgrifennu rhywbeth rwyt ti wedi ei ddysgu.
-
Darllena un o’r gweddïau yn y Beibl, a thrafod sut gall y weddi honno wella safon dy weddïau.
-
Gwylia fideo theocrataidd ac yna ei drafod gydag eraill neu ysgrifennu paragraff amdano.
-
Paratoa ar gyfer y weinidogaeth, a chael sesiwn ymarfer.
-
Edrycha ar greadigaeth ac yna trafod neu fyfyrio ar beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrthi am Jehofa. a
a Gweler yr erthygl “Dysga Fwy am Jehofa o’i Greadigaeth” yn rhifyn Mawrth 2023 Y Tŵr Gwylio.