Helpodd Gaius Ei Frodyr
ROEDD Gaius a Christnogion eraill yn y ganrif gyntaf yn wynebu anawsterau. Roedd unigolion yn lledaenu gau ddysgeidiaethau ac yn ceisio gwanhau a rhannu’r gynulleidfa. (1 Ioan 2:18, 19; 2 Ioan 7) Roedd dyn o’r enw Diotreffes yn “lledu nonsens maleisus” am yr apostol Ioan ac eraill, yn gwrthod cynnig lletygarwch i Gristnogion diarth, ac yn ceisio perswadio pobl eraill i ddilyn ei esiampl. (3 Ioan 9, 10) Dyna oedd y sefyllfa pan ysgrifennodd Ioan at Gaius. Enw llythyr yr apostol, a ysgrifennwyd tua 98 OG, yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yw Trydydd Ioan.
Er gwaetha’r anawsterau a wynebodd Gaius, daliodd ati i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon. Sut dangosodd ef ei ffyddlondeb? Pam rydyn ni eisiau dilyn esiampl Gaius heddiw? Sut gall llythyr Ioan ein helpu yn hyn o beth?
LLYTHYR AT FFRIND ANNWYL
Mae ysgrifennwr Trydydd Ioan yn ei alw ei hun “yr arweinydd.” Felly, roedd ei fab ysbrydol annwyl Gaius yn sicr mai’r apostol Ioan oedd yn ysgrifennu ato. Cyfeiriodd Ioan ato fel “fy ffrind annwyl Gaius, yr un dw i’n ei garu go iawn.” Yna, dywedodd Ioan ei fod yn gobeithio bod Gaius yn iach yn gorfforol ac yn ysbrydol. Am rywbeth hyfryd i’w ddweud!—3 Ioan 1, 2, 4.
Efallai roedd Gaius yn arolygwr yn y gynulleidfa, ond nid yw’r llythyr yn dweud hynny’n benodol. Rhoddodd Ioan ganmoliaeth i Gaius am iddo groesawu’r brodyr er nad oedd yn eu hadnabod. Ystyriodd Ioan hyn yn dystiolaeth o ffyddlondeb Gaius, oherwydd bod lletygarwch yn wastad wedi bod yn un o rinweddau gweision Duw.—Gen. 18:1-8; 1 Tim. 3:2; 3 Ioan 5.
Mae’r ffaith fod Ioan yn gwerthfawrogi lletygarwch Gaius tuag at y brodyr yn dangos fod Cristnogion yn aml yn teithio rhwng lleoliad Ioan a’r cynulleidfaoedd, ac yn amlwg, roedd y teithwyr hynny yn adrodd i Ioan yr hyn a ddigwyddodd. Efallai dyna sut cafodd Ioan y newyddion am y cynulleidfaoedd hynny.
Yn sicr, byddai’r Cristnogion a oedd yn teithio eisiau aros gyda’u cyd-gredinwyr. Roedd gan y gwestyau enw drwg, roedd y gwasanaeth yno’n ofnadwy, ac roedd pobl yn ymddwyn yn anfoesol. Felly, pan oedd hi’n bosibl, arhosodd teithwyr doeth gyda ffrindiau; ac roedd y Cristnogion a oedd yn teithio yn aros mewn cartrefi eu brodyr.
“MAEN NHW WEDI MYND ALLAN I WEITHIO DROS IESU”
Cafodd Gaius ei annog gan Ioan i ddangos lletygarwch unwaith eto, oherwydd bod yr apostol wedi gofyn iddo i ddal ati i’w “helpu nhw [y teithwyr] ar eu ffordd.” Yn yr achos hwn, roedd helpu’r teithwyr yn golygu cwrdd â’u hanghenion ar gyfer y rhan nesaf o’u siwrnai a darparu beth bynnag oedd ei angen arnyn nhw i gyrraedd pen y daith. Mae’n amlwg fod Gaius eisoes wedi gwneud hyn ar gyfer ei ymwelwyr diwethaf, oherwydd eu bod nhw wedi sôn wrth Ioan am ei gariad a’i ffydd.—3 Ioan 3, 6.
Efallai fod yr ymwelwyr yn genhadon, yn negeswyr i Ioan, neu’n arolygwyr teithiol. Pwy bynnag oedden nhw, roedden nhw’n teithio oherwydd y newyddion da. Dywedodd Ioan: “Maen nhw wedi mynd allan i weithio dros Iesu.” (3 Ioan 7) Roedd Ioan newydd gyfeirio at Dduw (gweler adnod 6), a dweud bod gwaith Gaius o helpu’r teithwyr yn plesio Jehofa. Felly, roedd y brodyr hyn yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol ac yn haeddu croeso cynnes. Mae geiriau Ioan yn wir: “Dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn ni’n eu helpu nhw i rannu’r gwirionedd wrth wneud hynny.”—3 Ioan 8.
CYMORTH MEWN SEFYLLFA ANODD
Nid er mwyn dweud diolch i Gaius oedd yr unig reswm dros ysgrifennu ato. Roedd Ioan hefyd eisiau ei helpu gyda phroblem ddifrifol. Am ryw reswm, doedd un aelod o’r gynulleidfa, Diotreffes, ddim yn fodlon dangos lletygarwch i’r teithwyr Cristnogol. Roedd hyd yn oed yn ceisio rhwystro eraill rhag bod yn lletygar.—3 Ioan 9, 10.
Ni fyddai Cristnogion ffyddlon wedi bod eisiau aros gyda Diotreffes hyd yn oed petai hynny’n bosibl. Roedd ef eisiau bod yn geffyl blaen yn y gynulleidfa, doedd ef ddim yn gwrando ar unrhyw beth roedd Ioan yn ei ddweud, ac roedd yn dweud pethau cas am yr apostol ac eraill. Er nad oedd Ioan yn ei alw’n athro gau, roedd Diotreffes yn gwrthod awdurdod yr apostol. Oherwydd bod Diotreffes yn ceisio amlygrwydd ac oherwydd ei agwedd anghristnogol, nid oedd pobl yn sicr o’i ffyddlondeb. Mae esiampl Diotreffes yn dangos sut mae unigolion blaengar a balch yn gallu dylanwadu’n ddrwg ar y gynulleidfa gan geisio ei rhannu. Felly, dywedodd Ioan wrth Gaius, ac wrthyn ninnau hefyd, am osgoi “dilyn ei esiampl ddrwg e.”—3 Ioan 11.
RHESWM DA DROS WNEUD DAIONI
Yn wahanol i Diotreffes, mae Cristion arall o’r enw Demetrius yn cael ei gyfeirio ato gan Ioan fel esiampl dda. “Mae pawb yn siarad yn dda am Demetrius . . . Dŷn ni’n ei ganmol e hefyd,” ysgrifennodd Ioan, “ac rwyt yn gwybod y gelli di ddibynnu ar beth dyn ni’n ddweud.” (3 Ioan 12) Efallai fod angen help Gaius ar Demetrius, a bod Trydydd Ioan yn llythyr o gymeradwyaeth gan yr apostol i gyflwyno Demetrius. Mae’n bosibl fod Demetrius ei hun wedi rhoi’r llythyr i Gaius. Fel un o negeswyr Ioan, neu efallai fel arolygwr teithiol, mae’n debyg fod Demetrius wedi cadarnhau’r hyn a ysgrifennodd Ioan.
Pam gwnaeth Ioan annog Gaius i fod yn lletygar pan oedd eisoes yn gwneud hynny? A oedd angen rhoi mwy o hyder i Gaius? A oedd yr apostol yn poeni y byddai Gaius yn dal yn ôl oherwydd bod Diotreffes yn ceisio lluchio Cristnogion lletygar allan o’r gynulleidfa? Beth bynnag oedd y rheswm, fe wnaeth Ioan annog Gaius drwy ddweud: “Y rhai sy’n gwneud daioni sy’n blant i Dduw.” (3 Ioan 11) Dyna reswm ardderchog dros ddal ati i wneud daioni.
A wnaeth llythyr Ioan annog Gaius i barhau i ddangos lletygarwch? Mae’r ffaith fod Trydydd Ioan yn rhan o’r Beibl a’i fod yn
cael ei ddefnyddio i annog eraill i wneud daioni yn dangos bod hynny’n wir.GWERSI O DRYDYDD IOAN
Nid ydyn ni’n gwybod dim mwy am ein brawd annwyl, Gaius. Ond, mae’r cipolwg hwn ar ei fywyd yn dysgu nifer o wersi inni.
Yn gyntaf, mae’r rhan fwyaf ohonon ni, i ryw raddau, wedi derbyn gwybodaeth am y gwirionedd oddi wrth rywun a oedd yn fodlon teithio er mwyn siarad â ni. Wrth gwrs, nid yw pob aelod o’r gynulleidfa Gristnogol heddiw yn teithio pellterau mawr er mwyn rhannu’r newyddion da. Ond, fel Gaius, gallwn gefnogi ac annog y rhai sydd yn teithio, fel arolygwr y gylchdaith a’i wraig. Neu efallai gallwn ni roi cefnogaeth ymarferol i frodyr a chwiorydd sydd wedi symud i ardal wahanol o fewn y wlad, neu hyd yn oed dramor, er mwyn gwasanaethu lle mae angen mwy o gyhoeddwyr y Deyrnas. Felly gad inni “roi croeso i ymwelwyr.”—Rhuf. 12:13; 1 Tim. 5:9, 10.
Yn ail, ddylen ni ddim synnu petai rhywun, ar yr adegau prin hynny, yn ceisio dwyn awdurdod iddo’i hun yn y gynulleidfa heddiw. Cafodd awdurdod Ioan ei herio; ac awdurdod yr apostol Paul hefyd. (2 Cor. 10:7-12; 12:11-13) Sut, felly, dylen ni ymateb petaen ninnau’n wynebu problem debyg yn y gynulleidfa? Cyngor Paul i Timotheus oedd: “Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro’r rhai sy’n tynnu’n groes iddo.” Pan ydyn ni’n aros yn dawel, hyd yn oed pan gawn ni ein pryfocio, efallai bydd rhai unigolion beirniadol yn newid eu hagwedd yn raddol. Wedyn, efallai bydd Jehofa “yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu’r gwir.”—2 Tim. 2:24, 25.
Yn drydydd, mae’r rhai sy’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon er gwaethaf gwrthwynebiad angen cydnabyddiaeth a chanmoliaeth am eu ffyddlondeb. Yn bendant, gwnaeth Ioan galonogi Gaius a’i sicrhau ei fod yn gwneud y peth iawn. Mewn ffordd debyg, dylai henuriaid heddiw ddilyn esiampl Ioan drwy galonogi eu brodyr a’u chwiorydd er mwyn iddyn nhw beidio â blino.—Esei. 40:31; 1 Thes. 5:11.
Llyfr byrraf y Beibl yw’r llythyr oddi wrth Ioan at Gaius, sy’n cynnwys dim ond 219 o eiriau yn y testun Groeg gwreiddiol. Ond, mae’n werthfawr iawn i Gristnogion heddiw.