Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Paid â Gadael i Dy Gariad Oeri

Paid â Gadael i Dy Gariad Oeri

“Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri.”—MATH. 24:12.

CANEUON: 60, 135

1, 2. (a) Yn y lle cyntaf, am bwy roedd geiriau Iesu yn Mathew 24:12 yn sôn? (b) Sut mae llyfr yr Actau yn dangos bod y rhan fwyaf o’r Cristnogion cynnar wedi parhau i ddangos cariad? (Gweler y llun agoriadol.)

UN RHAN o’r arwydd a roddodd Iesu ynglŷn â “diwedd y byd” oedd y byddai “cariad y rhan fwyaf yn oeri.” (Math. 24:3, 12) Yn y ganrif gyntaf, gadawodd yr Iddewon, a oedd yn honni eu bod nhw’n bobl Dduw, i’w cariad tuag at Dduw oeri.

2 Ar y llaw arall, roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn cadw’n brysur drwy “gyhoeddi’r newyddion da mai Iesu ydy’r Meseia” a thrwy ddangos cariad tuag at Dduw, eu cyd-Gristnogion, ac anghredinwyr. (Act. 2:44-47; 5:42) Serch hynny, gadawodd rhai o ddilynwyr Iesu yr adeg honno i’w cariad oeri.

3. Beth achosodd i gariad rhai Cristnogion oeri?

3 Yn dilyn ei atgyfodiad, dywedodd Iesu wrth y gynulleidfa Gristnogol yn Effesus yn y ganrif gyntaf: “Mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.” (Dat. 2:4) Pam y dywedodd Iesu hyn? Oherwydd bod agwedd hunanol y byd wedi dylanwadu ar ddisgyblion cynnar Crist. (Eff. 2:2, 3) Fel llawer o ddinasoedd heddiw, roedd Effesus y ganrif gyntaf yn llawn drygioni, yn hynod o gyfoethog, ac roedd pobl yn rhoi pwyslais mawr ar adloniant ac ar fyw bywyd moethus. Roedd pleserau hunanol wedi cau’r drws ar gariad anhunanol. Ar ben hynny, roedd pobl yn ymddwyn heb gywilydd ac roedd anfoesoldeb difrifol wedi mynd yn rhemp.

4. (a) Ym mha ffyrdd mae cariad wedi oeri yn ein dyddiau ni? (b) Ym mha dair agwedd gall ein cariad gael ei brofi?

4 Mae proffwydoliaeth Iesu am gariad yn oeri yn berthnasol i’n dyddiau ni. Mae gan bobl heddiw lai o gariad tuag at Dduw. Mae miliynau wedi cefnu arno ac yn troi at sefydliadau’r byd i ddatrys problemau dynolryw. Felly, ymhlith pobl sydd ddim yn addoli Jehofa Dduw, mae cariad yn parhau i oeri. Ond eto, fel dangosodd sefyllfa’r gynulleidfa yn Effesus yn y ganrif gyntaf, gall gwir Gristnogion heddiw fod yn hunanfodlon a chaniatáu i’w cariad wanhau. Gad inni ystyried tair agwedd ar ein cariad a all gael eu profi: (1) Cariad tuag at Jehofa, (2) cariad tuag at wirioneddau’r Beibl, (3) a chariad tuag at ein brodyr.

CARIAD TUAG AT JEHOFA

5. Pam mae’n rhaid inni gael cariad tuag at Dduw?

5 Ar yr un diwrnod y rhybuddiodd Iesu y byddai cariad yn oeri, pwysleisiodd y cariad pwysicaf oll: “‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica.” (Math. 22:37, 38) Yn wir, mae cariad dwfn tuag at Dduw yn ein helpu i gadw gorchmynion Jehofa, i ddyfalbarhau, ac i gasáu drygioni. (Darllen Salm 97:10.) Sut bynnag, mae Satan a’i fyd yn ymdrechu i danseilio ein cariad tuag at Dduw.

6. Beth yw canlyniadau’r diffyg cariad hwn tuag at Dduw?

6 Agwedd wyrdroëdig sydd gan y byd tuag at gariad. Yn hytrach na chariad tuag at ein Creawdwr, mae pobl yn “byw i’w plesio nhw eu hunain.” (2 Tim. 3:2) Mae’r byd hwn a reolir gan Satan yn meithrin “blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni.” (1 Ioan 2:16) Rhybuddiodd yr Apostol Paul ei gyd-Gristnogion rhag plesio’r cnawd, trwy ddweud: “Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. . . . Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw.” (Rhuf. 8:6, 7) Yn wir, mae’r rhai sydd wedi byw eu bywydau trwy geisio pethau materol neu drwy foddhau chwantau rhywiol wedi cael eu siomi a’u brifo.—1 Cor. 6:18; 1 Tim. 6:9, 10.

7. Pa beryglon y mae dilynwyr Crist heddiw yn eu hwynebu?

7 Mewn rhai gwledydd, mae anffyddwyr, agnosticiaid, ac esblygwyr uchel eu llais yn hyrwyddo syniadau sy’n erydu nid yn unig gariad tuag at Dduw ond cred pobl ynddo. Maen nhw wedi perswadio llawer i feddwl bod person yn gorfod bod naill ai’n ddiniwed neu’n dwp i gredu mewn Creawdwr. Ar yr un pryd, mae gwyddonwyr yn cael eu clodfori, rhywbeth sy’n tynnu sylw pobl oddi ar ein Creawdwr. (Rhuf. 1:25) Os ydyn ni’n gwrando ar y fath ddysgeidiaethau, y perygl yw inni ymbellhau oddi wrth Jehofa, ac i’n cariad oeri.—Heb. 3:12.

8. (a) Pa amgylchiadau anodd y mae llawer o bobl Jehofa yn eu hwynebu? (b) Pa sicrwydd a gawn ni yn Salm 136?

8 Gall ildio i ddigalondid wanhau ein ffydd ac achosi i’n cariad tuag at Dduw oeri. Ym myd drwg Satan, mae pob un ohonon ni ar adegau yn wynebu amgylchiadau anodd. (1 Ioan 5:19) Efallai ein bod ni ar hyn o bryd yn wynebu problemau oherwydd henaint, iechyd gwael, neu bwysau ariannol. Neu efallai fod rhywun yn stryffaglu oherwydd iddo deimlo’n annigonol, neu oherwydd na chafodd ei ddisgwyliadau eu gwireddu, neu oherwydd ffaeleddau personol. Ond, ni ddylen ni byth adael i amgylchiadau neu deimladau o’r fath ein perswadio ni i feddwl bod Jehofa wedi cefnu arnon ni. Yn hytrach, mae’n rhaid inni fyfyrio ar gariad tragwyddol Jehofa tuag aton ni. Er enghraifft, mae Salm 136:23 yn dweud: “Cofiodd amdanon ni pan oedden ni’n isel, mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Yn wir, mae cariad ffyddlon Jehofa tuag at ei weision yn barhaol. Felly, gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau ac yn eu hateb.—Salm 116:1; 136:24-26.

9. Beth a roddodd y cryfder i Paul gadw ei gariad tuag at Dduw yn gryf?

9 Yn debyg i’r salmydd, cafodd Paul gryfder wrth iddo fyfyrio ar gefnogaeth gyson Jehofa. Ysgrifennodd Paul: “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” (Heb. 13:6) Roedd gwybod bod Jehofa yn gofalu amdano yn helpu Paul i ddelio â phroblemau bywyd. Ni chaniataodd i amgylchiadau anodd ei ddigalonni. Yn wir, pan oedd yn garcharor, ysgrifennodd Paul nifer o lythyrau calonogol. (Eff. 4:1; Phil. 1:7; Philem. 1) Hyd yn oed o dan y pwysau mwyaf ofnadwy, parhaodd Paul i garu Duw. Beth roddodd iddo’r nerth i wneud hynny? Daliodd ati i ddibynnu ar y “Duw sy’n cysuro,” yr un sy’n “ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.” (2 Cor. 1:3,4) Sut gallwn ni efelychu esiampl Paul a chadw ein cariad tuag at Jehofa’n gryf?

Dangos cariad tuag at Jehofa (Gweler paragraff 10)

10. Sut gallwn ni gadw ein cariad tuag at Jehofa’n gryf?

10 Un brif ffordd o gadw ein cariad tuag at Jehofa yn gryf yw trwy ddilyn cyngor Paul: “Daliwch ati i weddïo.” Mae Paul yn pwysleisio’r pwynt hwn fwy nag unwaith. (1 Thes. 5:17; Rhuf. 12:12) Cyfathrebu trwy weddi yw sylfaen perthynas agos â Jehofa. (Salm 86:3) Wrth inni gymryd yr amser i fynegi ein meddyliau a’n teimladau dyfnion i Jehofa, ni allwn ond agosáu yn fwy byth at ein Tad nefol, “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Yn ogystal â hynny, pan welwn fod Jehofa yn ateb ein gweddïau, mae ein cariad tuag ato yn cryfhau. Yn fwy nag erioed, rydyn ni’n dod i sylweddoli bod yr “ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno.” (Salm 145:18) Bydd yr hyder hwn yng nghymorth cariadus Jehofa yn ein helpu ni i ymdopi â mwy o dreialon ar ein ffydd.

CARIAD TUAG AT WIRIONEDDAU’R BEIBL

11, 12. Sut gallwn ni feithrin cariad tuag at wirioneddau’r Beibl?

11 Fel Cristnogion, rydyn ni’n trysori’r gwirionedd. Gair Duw yw ffynhonnell pob gwirionedd. Wrth weddïo ar ei Dad, dywedodd Iesu: “Dy neges di ydy’r gwir.” (Ioan 17:17) Felly, mae caru gwirionedd yn dechrau wrth i’n dealltwriaeth gywir am Dduw gynyddu. (Col. 1:10) Ond, mae mwy i hynny na chasglu ffeithiau’n unig. Sylwa ar sut mae ysgrifennydd Salm 119 yn ein helpu ni i ddeall beth mae’n ei olygu i garu gwirioneddau’r Beibl. (Darllen Salm 119:97-100.) A ydyn ni’n cymryd ein hamser i fyfyrio ar rai adnodau o’r Beibl yn ystod y dydd? Bydd ein gwerthfawrogiad tuag at wirioneddau’r Beibl yn cryfhau wrth inni fyfyrio ar y buddion sy’n dod inni o’u rhoi nhw ar waith yn ein bywydau.

12 Aeth y salmydd ymlaen i ddweud: “Mae’r pethau rwyt ti’n eu dweud mor dda, maen nhw’n felys fel mêl.” (Salm 119:103) Yn yr un modd, gallwn ni gymryd ein hamser i flasu’r bwyd ysbrydol rydyn ni’n ei dderbyn gan gyfundrefn Duw. Gallwn ni adael i’r blas aros ar ein tafod, fel petai, er mwyn inni ddwyn i gof eiriau melys y Beibl a’u defnyddio i helpu eraill.—Preg. 12:10.

13. Beth helpodd Jeremeia i garu gwirioneddau’r Beibl, a sut effeithiodd hynny arno?

13 Roedd y proffwyd Jeremeia yn caru gwirioneddau Ysgrythurol. Sylwa ar sut effeithiodd geiriau Duw arno. “Wrth i ti siarad rôn i’n llyncu pob gair; roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus—rôn i wrth fy modd! I ti dw i’n perthyn O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.” (Jer. 15:16) Yn ffigurol, gwnaeth Jeremeia fwyta a threulio geiriau gwerthfawr Duw trwy fyfyrio arnyn nhw. O wneud hynny, daeth i werthfawrogi’r fraint o berthyn i Jehofa. A ydy ein cariad tuag at wirioneddau’r Beibl wedi ein hannog ni i sylweddoli pa mor unigryw yw ein braint o ddwyn enw Jehofa ac o gyhoeddi ei Deyrnas yn y dyddiau diwethaf hyn?

Dangos cariad tuag at wirioneddau’r Beibl (Gweler paragraff 14)

14. Sut gallwn ni gryfhau ein cariad tuag at wirioneddau’r Beibl?

14 Heblaw am ddarllen y Beibl a’n cyhoeddiadau, ym mha ffordd arall gallwn ni feithrin cariad dwfn tuag at wirioneddau’r Beibl? Gallwn ni gryfhau ein cariad tuag at wirioneddau’r Beibl drwy fynychu’r cyfarfodydd. Yr astudiaeth Feiblaidd wythnosol sy’n seiliedig ar y Tŵr Gwylio yw’r brif ffordd o gael ein dysgu. Er mwyn gwneud synnwyr o’r pwnc sy’n cael ei ystyried, mae’n rhaid inni baratoi’n dda ar gyfer pob Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Un ffordd o wneud hynny yw darllen pob un o’r adnodau y cyfeirir ati. Heddiw, gellir lawrlwytho’r Tŵr Gwylio oddi ar jw.org neu ei ddarllen ar yr ap JW Library mewn llawer o ieithoedd. Mae rhai fformatiau electronig yn ein galluogi ni i weld yn gyflym yr adnodau y cyfeirir atyn nhw ym mhob un o’r erthyglau astudio. Ond, pa bynnag ddull rydyn ni’n ei ddefnyddio, wrth inni ddarllen yr Ysgrythurau yn ofalus a myfyrio arnyn nhw rydyn ni’n dyfnhau ein cariad tuag at wirioneddau’r Beibl.—Darllen Salm 1:1, 2.

CARIAD TUAG AT EIN BRODYR

15, 16. (a) Yn ôl Ioan 13:34,35, beth sy’n rhaid i ni ei wneud? (b) Sut mae’r cariad sydd gennyn ni tuag at ein brodyr yn gysylltiedig â’r cariad sydd gennyn ni tuag at Dduw a gwirioneddau’r Beibl?

15 Yn ystod ei noson olaf ar y ddaear, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”—Ioan 13:34, 35.

16 Mae’r cariad sydd gennyn ni tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gysylltiedig â’r cariad sydd gennyn ni tuag at Jehofa. Yn wir, ni allwn gael yr un heb y llall. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r Duw dydy e erioed wedi ei weld?” (1 Ioan 4:20) Yn ogystal â hynny, mae’r cariad sydd gennyn ni tuag at Jehofa a’n brodyr a’n chwiorydd yn gysylltiedig â’r cariad sydd gennyn ni tuag at wirioneddau’r Beibl. Sut felly? Oherwydd bod cariad tuag at wirioneddau’r Beibl yn ein hysgogi ni i ufuddhau i’r gorchmynion Ysgrythurol i garu Duw a’n cyd-Gristnogion.—1 Pedr 1:22; 1 Ioan 4:21.

Dangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd (Gweler paragraff 17)

17. Beth yw rhai o’r ffyrdd a allwn ni ddangos cariad?

17 Darllen 1 Thesaloniaid 4:9, 10Sut gallwn ni ddangos cariad yn y gynulleidfa? Efallai fod brawd neu chwaer hŷn eisiau lifft i’r cyfarfodydd. Efallai fod gŵr neu wraig weddw eisiau help llaw i wneud gwaith atgyweirio yn y cartref. (Iago 1:27) Boed yn hen neu’n ifanc, mae brodyr a chwiorydd sy’n ddigalon, neu sy’n wynebu treialon, angen ein sylw, ein hanogaeth, a’n cysur. (Diar. 12:25; Col. 4:11) Rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru ein brodyr pan ydyn ni’n dangos drwy ein geiriau a’n gweithredoedd ein bod ni’n pryderu am ein “teulu o gredinwyr.”—Gal. 6:10.

18. Beth fydd yn ein helpu ni i ddatrys gwahaniaethau a all godi?

18 Rhagfynegodd y Beibl y byddai ysbryd hunanol a barus yn llenwi’r byd drwg hwn yn ystod “y cyfnod olaf.” (2 Tim. 3:1, 2) Fel Cristnogion, dylen ni weithio’n galed i gryfhau ein cariad tuag Dduw, tuag at wirioneddau’r Beibl, a thuag at ein gilydd. Y gwir yw bod anghytundebau bach yn gallu codi yn y gynulleidfa. Mae pawb yn y gynulleidfa yn cael eu bendithio pan fydd cariad yn ein cymell ni i ddatrys gwahaniaethau mewn ffordd gariadus. (Eff. 4:32; Col. 3:14) Felly, peidiwn byth â gadael i’n cariad oeri! Yn hytrach, gad i ni barhau i garu Jehofa, ei Air, a’n brodyr.