Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Wyt Ti Wir yn Fy Ngharu i Fwy Na’r Rhain?”

“Wyt Ti Wir yn Fy Ngharu i Fwy Na’r Rhain?”

“Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?”—IOAN 21:15.

CANEUON: 128, 45

1, 2. Ar ôl treulio noson yn pysgota, pa brofiad a gafodd Pedr?

ROEDD saith o ddisgyblion Iesu newydd dreulio’r noson gyfan yn pysgota ym Môr Galilea ond heb ddal unrhyw beth. O’r traeth, roedd Iesu, a oedd wedi ei atgyfodi, yn gwylio’r grŵp. Wedyn, “dwedodd Iesu, ‘Taflwch y rhwyd ar ochr dde’r cwch, a byddwch yn dal rhai.’ Dyma nhw’n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw’n methu tynnu’r rhwyd yn ôl i’r cwch.”—Ioan 21:1-6.

2 Ar ôl paratoi brecwast iddyn nhw, trodd Iesu at Pedr a dweud: “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?” At beth roedd Iesu’n cyfeirio? Roedd Pedr yn hoff iawn o bysgota. Felly, mae’n debyg fod Iesu’n gofyn beth oedd yn bwysicach iddo. A oedd ganddo wir gariad tuag at bysgod a physgota neu tuag at Iesu a’r hyn roedd ef yn ei ddysgu? “Ydw, Arglwydd,” atebodd Pedr, “rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” (Ioan 21:15) Yn sicr, dangosodd Pedr fod hynny’n wir. O’r foment honno, profodd Pedr ei fod yn caru Crist drwy fod yn brysur yn y gwaith o wneud disgyblion, a daeth yn un o bileri’r gynulleidfa Gristnogol yn y ganrif gyntaf.

3. Pa beryglon sy’n rhaid i Gristnogion fod yn ymwybodol ohonyn nhw?

3 Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hyn a ddywedodd Iesu wrth Pedr? Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gadael i’n cariad tuag at Grist wanhau na gadael i’n sylw gael ei dynnu oddi ar faterion y Deyrnas. Roedd Iesu’n gwybod yn iawn am y pwysau sy’n gysylltiedig â phryderon y system hon. Yn ei ddameg am yr heuwr, dywedodd Iesu y byddai rhai yn derbyn y “neges am y deyrnas” ac yn gwneud cynnydd, ond y byddan nhw wedyn yn “rhy brysur yn poeni am hyn a’r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau” ac felly byddai’r “neges yn cael ei thagu.” (Math. 13:19-22; Marc 4:19) Yn wir, os nad ydyn ni’n ofalus, gall pryderon bywyd bob dydd ein denu ni ac achosi inni arafu’n ysbrydol. Felly, rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion: “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu’ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi, a phoeni am bethau materol.”—Luc 21:34.

4. Beth fydd yn ein helpu i fesur dyfnder ein cariad tuag at Grist? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Fel y gwnaeth Pedr ar ôl ei brofiad gyda Iesu, rydyn ninnau’n dangos dyfnder ein cariad tuag at Grist drwy roi’r gwaith mae ef wedi ei roi inni yn gyntaf yn ein bywydau. Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud hynny? O bryd i’w gilydd, mae’n rhaid inni ofyn i ni’n hunain: ‘Lle mae fy nghalon? Beth sy’n rhoi’r llawenydd mwyaf imi, gweithgareddau cyffredin neu weithgareddau ysbrydol?’ Gad inni drafod tair agwedd ar ein bywyd a all wanhau ein cariad tuag at Grist a phethau ysbrydol os nad ydyn ni’n eu cadw yn eu lle priodol, sef, gwaith seciwlar, amser hamdden, a phethau materol.

CADW GWAITH YN EI LE PRIODOL

5. Pa gyfrifoldeb Ysgrythurol sydd gan ben y teulu?

5 I Pedr, roedd pysgota yn fwy na hobi yn unig—dyna oedd ei fywoliaeth. Mae penteuluoedd heddiw yn gwybod bod ganddyn nhw gyfrifoldeb Ysgrythurol i ofalu am eu teuluoedd yn faterol. (1 Tim. 5:8) Maen nhw’n gorfod gweithio’n galed i gyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Ond, yn y dyddiau diwethaf hyn, mae gwaith seciwlar yn aml yn achosi pryder.

6. Pa bethau sy’n achosi straen yn y gweithle?

6 O ganlyniad i’r gystadleuaeth ffyrnig am nifer bychan o swyddi, mae llawer o weithwyr yn teimlo eu bod nhw’n gorfod gweithio mwy o oriau, ac weithiau am lai o arian. Hefyd, oherwydd bod cwmnïau’n ceisio cynhyrchu mwy a mwy ar hyd yr amser, mae pobl yn dod o dan bwysau meddyliol, corfforol, ac emosiynol. Mae gweithwyr sy’n gwrthod gwneud aberthau o’r fath mewn perygl o golli eu swyddi.

7, 8. (a) I bwy dylen ni fod yn ffyddlon yn gyntaf? (b) Pa wers a ddysgodd brawd o Wlad Thai ynglŷn â gwaith seciwlar?

7 Fel Cristnogion, rydyn ni’n ffyddlon i Jehofa Dduw yn gyntaf, nid i’n cyflogwyr. (Luc 10:27) Modd i gyflawni ein gweinidogaeth a gofalu am ein hanghenion materol yw gwaith seciwlar. Fodd bynnag, os nad ydyn ni’n ofalus, gall ein gwaith ymyrryd yn ein haddoliad. Er enghraifft, dywedodd brawd o Wlad Thai: “Roedd fy ngwaith o drwsio cyfrifiaduron yn hynod o ddiddorol, ond roedd yn golygu gweithio oriau hir. O ganlyniad, doedd gen i bron ddim amser ar gyfer pethau ysbrydol. Yn y diwedd, sylweddolais fod rhaid imi newid fy swydd os oeddwn i am roi pethau’r Deyrnas yn gyntaf.” Beth wnaeth y brawd?

8 “Ar ôl cynllunio am tua blwyddyn,” meddai, “penderfynais werthu hufen iâ ar y stryd. Ar y cychwyn, roedd yn anodd ennill digon o arian, a theimlais yn ddigalon. Pan welais fy hen gyd-weithwyr, roedden nhw’n chwerthin am fy mhen ac yn gofyn pam roeddwn ni’n meddwl ei bod yn syniad da i werthu hufen iâ yn lle gweithio mewn adeilad cyfforddus. Gweddïais ar Jehofa, a gofyn iddo fy helpu i ymdopi ac i gyrraedd fy nod o gael mwy o amser ar gyfer pethau ysbrydol. Cyn bo hir, dechreuodd pethau wella. Gwnes i ddysgu beth oedd fy nghwsmeriaid eisiau, a chyflymu’r ffordd roeddwn i’n paratoi’r hufen iâ. Yn fuan wedyn, roeddwn i’n gwerthu fy holl hufen iâ bob dydd. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n ennill mwy o arian nawr nag yr oeddwn i o’r blaen. Rydw i’n hapusach oherwydd dydw i ddim o dan y straen yr oeddwn i yn ei ddioddef yn fy hen swydd. Ac, yn bwysicach, rydw i nawr yn teimlo’n agosach at Jehofa.”—Darllen Mathew 5:3, 6.

9. Sut gallwn ni gadw cydbwysedd ynglŷn â’n gwaith seciwlar?

9 Mae gweithio’n galed yn rhinwedd dduwiol sy’n dod â boddhad. (Diar. 12:14) Ond eto, fel y dysgodd y brawd y soniwyd amdano uchod, mae’n rhaid cadw gwaith yn ei le priodol. Dywedodd Iesu: “Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd [pethau materol sylfaenol].” (Math. 6:33) I’n helpu i weld a ydyn ni’n gytbwys o ran pethau materol a phethau ysbrydol, peth da fyddai gofyn: ‘Ydw i’n mwynhau fy ngwaith ond yn diflasu ar bethau ysbrydol?’ Bydd myfyrio ar sut rydyn ni’n teimlo am ein gwaith ac am bethau ysbrydol yn ein helpu i weld lle mae ein calon ni.

10. Pa wers bwysig a ddysgodd Iesu ynglŷn â blaenoriaethu?

10 Gosododd Iesu’r esiampl orau o ran cadw cydbwysedd rhwng pethau seciwlar a phethau ysbrydol. Ar un achlysur, aeth Iesu i dŷ Mair a’i chwaer, Martha. Tra oedd Martha’n rhuthro o gwmpas yn paratoi bwyd, dewisodd Mair eistedd wrth draed Iesu a gwrando arno. Pan gwynodd Martha oherwydd nad oedd Mair yn helpu, dywedodd Iesu wrth Martha: “Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw [y peth pwysicaf], a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.” (Luc 10:38-42) Roedd Iesu’n dysgu gwers bwysig i Martha. Er mwyn peidio â chaniatáu i bethau materol dynnu ein sylw ac inni ddangos ein cariad tuag at Grist, mae’n rhaid i ninnau ddewis y peth pwysicaf, hynny yw, rhoi blaenoriaeth i bethau ysbrydol.

AMSER HAMDDEN AC ADLONIANT

11. Beth mae’r Ysgrythurau’n ei ddweud am orffwys ac ymlacio?

11 Mae angen rhywfaint o amser i ymlacio a gorffwys ar ôl gweithio’n galed. Yn ôl y Beibl: “Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith.” (Preg. 2:24) Roedd Iesu’n gwybod bod angen ymlacio weithiau. Ar ôl ymgyrch bregethu fawr, dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”—Marc 6:31, 32.

12. Pam mae angen bod yn ofalus ynglŷn ag amser hamdden ac adloniant? Rho esiampl.

12 Yn wir, mae amser hamdden ac adloniant yn angenrheidiol. Ond, y perygl yw bod cael amser da yn dod yn flaenoriaeth yn ein bywyd. Yn y ganrif gyntaf, agwedd llawer o bobl oedd, “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!” (1 Cor. 15:32) Mae’r un agwedd yn bodoli mewn llawer o lefydd heddiw. Er enghraifft, flynyddoedd yn ôl, dechreuodd dyn ifanc yng Ngorllewin Ewrop fynychu’r cyfarfodydd. Ond, roedd adloniant mor bwysig iddo nes ei fod wedi rhoi’r gorau i gymdeithasu â phobl Jehofa. Ond, mewn amser, gwelodd fod canolbwyntio ar adloniant wedi achosi problemau a siomedigaeth. Felly dechreuodd astudio’r Beibl unwaith eto ac, yn y pen draw, daeth yn gymwys i fod yn gyhoeddwr. Ar ôl ei fedydd, dywedodd: “Yr unig beth dw i’n ei ddifaru ydy colli cymaint o amser cyn imi sylweddoli bod gwasanaethu Jehofa yn dod â llawer iawn mwy o hapusrwydd nag unrhyw adloniant yn y byd.”

13. (a) Eglura’r peryglon sydd ynghlwm wrth amser hamdden ac adloniant. (b) Beth all ein helpu i gadw cydbwysedd ynglŷn ag amser hamdden ac adloniant?

13 Pwrpas amser hamdden ydy ein hadfywio ni. Faint o amser sydd ei angen er mwyn gwneud hynny? Er enghraifft, mae llawer ohonon ni’n mwynhau bwyta pwdin o bryd i’w gilydd, ond rydyn ni’n gwybod y byddai bwyta gormod o gacennau a fferins yn ein gwneud ni’n sâl. Felly, ar y cyfan, rydyn ni’n bwyta bwyd iachus. Mewn ffordd debyg, byddai cael gormod o amser hamdden ac adloniant yn ein gwanhau yn ysbrydol. I osgoi hynny, rydyn ni’n gwneud pethau ysbrydol yn rheolaidd. Sut gallwn ni wybod a ydyn ni’n gytbwys o ran amser hamdden? Gallwn ddewis wythnos, a nodi faint o oriau rydyn ni’n eu treulio yn gwneud pethau ysbrydol, fel mynychu’r cyfarfodydd, mynd ar y weinidogaeth, ac astudio’n bersonol a chyda’r teulu. Yna, gallwn gymharu’r rhif hwnnw â’r nifer o oriau rydyn ni’n eu treulio yn ystod yr un wythnos ar bethau hamddenol, fel ymarfer corff, mwynhau hobïau, gwylio’r teledu, neu chwarae gemau fideo. O gymharu, beth rydyn ni’n ei weld? Oes angen inni fwyta llai o “bwdin”?—Darllen Effesiaid 5:15, 16.

14. Beth ddylai lywio ein dewisiadau o ran amser hamdden ac adloniant?

14 Mae unigolion a phenteuluoedd yn rhydd i ddewis pa bethau hamddenol maen nhw’n eu mwynhau, cyhyd ag eu bod nhw’n unol â safonau Jehofa. * “Rhodd Duw” yw amser hamdden. (Preg. 3:12, 13) Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod bod dewisiadau pawb yn wahanol. (Gal. 6:4, 5) Pa bynnag adloniant rydyn ni’n ei ddewis, rydyn ni eisiau ei gadw yn ei le priodol. Dywedodd Iesu: “Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.” (Math. 6:21) Felly, bydd ein cariad tuag at Iesu yn ein hysgogi i gadw ein meddyliau, ein sgyrsiau, a’n gweithredoedd ar bethau’r Deyrnas yn hytrach nag ar bethau bywyd bob dydd.—Phil. 1:9, 10.

EIN BRWYDR YN ERBYN MATEROLIAETH

15, 16. (a) Ym mha ffordd y gall materoliaeth fod yn fagl i Gristnogion? (b) Pa gyngor doeth a roddodd Iesu ynglŷn â phethau materol?

15 Mae llawer o bobl heddiw wedi mopio eu pennau ar y dillad a’r teclynnau electronig diweddaraf. Felly, mae’n bwysig i bob Cristion chwilio ei ddymuniadau ei hun yn rheolaidd drwy ofyn cwestiynau fel: ‘Ydy pethau materol mor bwysig imi fel fy mod i’n treulio mwy o amser yn ymchwilio’r ceir neu’r ffasiynau diweddaraf nag yr ydw i’n ei dreulio yn paratoi ar gyfer y cyfarfodydd? Ydy materion bob dydd yn gwneud imi dreulio llai o amser yn gweddïo neu’n darllen y Beibl?’ Os ydyn ni’n sylweddoli bod ein cariad tuag at bethau materol yn taflu ein cariad tuag at Grist i’r cysgod, dylen ni fyfyrio ar eiriau Iesu: “Mae’r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus.” (Luc 12:15) Pam rhoddodd Iesu’r rhybudd difrifol hwnnw?

16 Yn ôl Iesu, “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr.” Ychwanegodd: “Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” Mae hynny’n wir oherwydd bod y ddau “feistr” yn gofyn am ymroddiad llwyr. Felly, “mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall,” meddai Iesu. (Math. 6:24) A ninnau’n bobl amherffaith, mae’n rhaid i bob un ohonon ni osgoi “byw i blesio’r hunan pechadurus,” gan gynnwys y tueddiad tuag at fateroliaeth.—Eff. 2:3.

17. (a) Pam mae pobl sydd â meddylfryd cnawdol yn ei chael hi’n anodd bod yn gytbwys ynglŷn â phethau materol? (b) Beth sy’n ein helpu i frwydro yn erbyn chwantau materol?

17 Mae pobl â meddylfryd cnawdol yn ei chael hi’n anodd cadw’n gytbwys ynglŷn â phethau materol. Pam? Oherwydd, yn ysbrydol, maen nhw’n ddideimlad. (Darllen 1 Corinthiaid 2:14.) Unwaith i’r gallu i feddwl yn glir gael ei fygwth, mae’n anoddach i’r bobl hynny wahaniaethu rhwng da a drwg. (Heb. 5:11-14) O ganlyniad, mae rhai yn meithrin chwant aruthrol am bethau materol—chwant na allan nhw ei lenwi. (Preg. 5:10) Ond mae yna ffisig ar gyfer yr afiechyd hwnnw: darllen Gair Duw, y Beibl, yn rheolaidd. (1 Pedr 2:2) Yn union fel y gwnaeth myfyrio ar wirioneddau dwyfol atgyfnerthu Iesu i wrthod temtasiynau, mae rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein helpu ni i frwydro yn erbyn chwantau materol. (Math. 4:8-10) Drwy wneud hynny, dangoswn ein bod ni’n caru Iesu yn fwy nag unrhyw beth materol.

Beth sy’n flaenoriaeth yn dy fywyd di? (Gweler paragraff 18)

18. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Pan ofynnodd Iesu i Pedr: “Wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?” roedd yn atgoffa Pedr o’r angen i roi pethau ysbrydol yn gyntaf mewn bywyd. Mae’r enw Pedr yn golygu “Darn o Graig,” ac fe wnaeth Pedr fyw yn unol â’i enw drwy ddangos rhinweddau cadarn. (Act. 4:5-20) Rydyn ninnau heddiw yn benderfynol o garu Iesu, o gadw ein gwaith, ein hadloniant, a’n pethau materol yn eu lle cywir. Gad i’n dewisiadau ni efelychu geiriau Pedr, a ddywedodd wrth Iesu: “Rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.”

^ Par. 14 Gweler yr erthygl “Is Your Recreation Beneficial?” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Hydref 2011, tt. 9-12, par. 6-15.