Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

O Garpiau i Gyfoeth

O Garpiau i Gyfoeth

Ces i fy ngeni mewn caban coed un ystafell mewn tref fechan iawn o’r enw Liberty, Indiana, UDA. Roedd gan fy rhieni fab a dwy ferch yn barod pan ddes i i’r byd. Yn ddiweddarach, gwnaeth fy mam roi genedigaeth i fy nau frawd a fy chwaer iau.

Y caban coed lle ces i fy ngeni

TRA oeddwn i yn yr ysgol, ni wnaeth llawer newid. Y plant oedd gyda mi yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd yr un rhai a oedd yn gorffen yr ysgol gyda mi. Roeddwn i’n gwybod enw’r rhan fwyaf o’r bobl yn y dref, a nhwythau’n gwybod fy enw i.

Roeddwn i’n un o saith o blant, a dysgais wneud gwaith fferm pan oeddwn i’n ifanc

Roedd tref Liberty wedi ei hamgylchynu gan ffermydd bychain, a’r prif gnwd oedd corn melys. Pan ges i fy ngeni, roedd fy nhad yn gweithio i ffermwr lleol. Yn fy arddegau, dysgais sut i yrru tractor a gwneud gwaith arall o gwmpas y fferm.

Doedd fy nhad ddim yn ifanc pan ges i fy ngeni. Roedd dad yn 56 mlwydd oed a mam yn 35. Ond eto roedd fy nhad yn gryf ac yn iach. Roedd Dad yn hoff iawn o waith caled, a gwnaeth ein dysgu ni i deimlo’r un ffordd. Doedd ganddo byth lawer o arian, ond diolch iddo ef, roedd gennyn ni do uwch ein pennau, dillad i’w gwisgo, a digon o fwyd i’w fwyta. Ac roedd yn wastad yn treulio amser gyda ni. Roedd fy nhad yn 93 pan fuodd farw, a gwnaeth fy mam farw pan oedd hi’n 86. Wnaeth yr un ohonyn nhw wasanaethu Jehofa. Ond, mae un o fy mrodyr wedi bod yn henuriad ffyddlon ers 1972.

Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

Roedd fy mam yn grefyddol iawn. Aeth hi â ni i Eglwys y Bedyddwyr bob dydd Sul. Deuddeg oed oeddwn i pan glywais i am ddysgeidiaeth y Drindod am y tro cyntaf. Felly gofynnais i Mam: “Sut gall Iesu fod yn Fab ac yn Dad ar yr un pryd?” Dw i’n cofio ei hateb: “Mae’n ddirgelwch ’ngwas i. Dydyn ni ddim i fod i’w ddeall.” Wel, roedd yn bendant yn ddirgelwch i mi. Er hynny, ces i fy medyddio mewn afon fechan leol pan oeddwn i’n 14. Ces i fy nhrochi deirgwaith, unwaith ar gyfer y Tad, unwaith ar gyfer y Mab, ac unwaith ar gyfer yr ysbryd glân!

1952—Pan oeddwn i’n 17, cyn mynd i’r fyddin

Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, roedd gen i ffrind oedd yn focsiwr, ac mi ges i fy mherswadio ganddo i roi cynnig ar focsio. Felly, dechreuais gael hyfforddiant, ac ymaelodi â chymdeithas focsio’r Golden Gloves. Doeddwn i ddim yn rhyw dda iawn, felly, ar ôl ambell ornest, mi wnes i roi’r ffidil yn y to. Yn ddiweddarach, ces i fy ngalw i fyddin yr Unol Daleithiau, a chael fy ngyrru i’r Almaen. Tra oeddwn i’n gwasanaethu yno, dyma fy uwch-swyddogion yn fy ngyrru i academi filwrol, oherwydd eu bod nhw’n meddwl y gallwn fod yn arweinydd da. Roedden nhw’n fy annog i wneud y fyddin yn yrfa. Ond, doeddwn i ddim eisiau aros yn y fyddin, felly mi wnes i adael y fyddin yn 1956 ar ôl gorffen fy nyletswydd o ddwy flynedd. Ond, yn fuan wedyn, des i’n rhan o fyddin hollol wahanol.

1954-1956—Treuliais ddwy flynedd ym myddin UDA

CYCHWYN BYWYD NEWYDD

Cyn imi ddysgu’r gwirionedd, roedd gen i syniad anghywir o beth mae’n ei olygu i fod yn ddyn go iawn. Roedd ffilmiau, a’r rhai o’m cwmpas, wedi dylanwadu arna’ i. Doeddwn i ddim yn meddwl bod dynion oedd yn siarad am y Beibl yn wrol iawn. Ond, dechreuais ddysgu pethau a newidiodd fy mywyd. Un diwrnod, pan oeddwn i’n gyrru fy nghar coch ffansi drwy’r dref, dyma ddwy ddynes ifanc yn codi llaw arna’ i imi fynd atyn nhw. Roedden nhw’n chwiorydd iau i’r dyn a briododd fy chwaer hŷn, a’r ddwy yn Dystion Jehofa. Roeddwn i wedi cael y Tŵr Gwylio a Deffrwch! ganddyn nhw o’r blaen, ond roeddwn i’n teimlo bod y Tŵr Gwylio ychydig yn rhy anodd ei ddeall. Ond, y tro hwn, dyma nhw’n fy ngwahodd i un o Astudiaethau Llyfr eu cynulleidfa, cyfarfod bach yn eu tŷ ar gyfer astudio a thrafod y Beibl. Dywedais y byddwn i’n meddwl amdano. Dyma nhw’n gwenu gan ofyn “Wyt ti’n addo?” Atebais innau, “Dw i’n addo.”

Mi wnes i ddifaru dweud hynny, ond doeddwn i ddim eisiau torri fy addewid. Felly, mi es i i’r cyfarfod y noson honno. Y plant a wnaeth yr argraff fwyaf arna’ i. Roeddwn i’n methu coelio faint oedden nhw’n ei wybod am y Beibl! Er fy mod i wedi mynd i’r eglwys efo Mam bob dydd Sul, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y Beibl. Ond erbyn hyn, roedd gen i wir awydd i ddysgu mwy, felly cytunais i gael astudiaeth Feiblaidd. Un o’r pethau cyntaf imi ei ddysgu oedd enw’r Duw Hollalluog, sef Jehofa. Flynyddoedd ynghynt, pan ofynnais i Mam am bwy oedd Tystion Jehofa, yr unig ateb ges i oedd: “O, maen nhw’n addoli ryw hen ddyn o’r enw Jehofa.” Ond, erbyn hynny roeddwn i’n teimlo bod fy llygaid yn dechrau agor!

Mi wnes i gynnydd cyflym, achos roedd hi’n amlwg imi fy mod i wedi dod o hyd i’r gwirionedd. Ces i fy medyddio ym mis Mawrth 1957, dim ond naw mis wedi’r cyfarfod cyntaf hwnnw. Roedd fy agwedd wedi newid. Dw i mor falch fy mod i wedi dysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am wroldeb go iawn. Roedd Iesu yn ddyn perffaith, gyda mwy o nerth a gallu nac unrhyw ddyn arall. Ond, doedd Iesu ddim yn dreisgar o gwbl. Yn hytrach, gadawodd iddo ef ei hun gael “ei gam-drin a’i boenydio,” yn union fel y rhagfynegwyd. (Eseia 53:2, 7) Dysgais fod rhaid i wir ddilynwr Iesu “fod yn garedig at bawb.”—2 Timotheus 2:24.

Cychwynnais arloesi’r flwyddyn ganlynol, yn 1958. Ond yn fuan wedyn, roedd rhaid imi stopio am ychydig. Pam? Roeddwn i wedi penderfynu priodi Gloria, un o’r ddwy ddynes ifanc a roddodd wahoddiad imi i’r astudiaeth! Dw i erioed wedi difaru’r penderfyniad hwnnw. Roedd Gloria yn drysor bryd hynny, ac mae hi’n drysor hyd heddiw. I mi, mae hi’n fwy gwerthfawr na’r Hope Diamond, a dw i mor hapus fy mod i wedi ei phriodi! Gad iddi ddweud ychydig amdani hi ei hun:

“Roedd gen i 16 o frodyr a chwiorydd. Roedd fy mam yn Dyst ffyddlon. Bu farw hithau pan oeddwn i’n 14. Ar ôl hynny, dechreuodd fy nhad astudio’r Beibl. Gan ein bod ni wedi colli Mam, gwnaeth fy nhad drefniant gyda phennaeth yr ysgol. Ar y pryd, roedd fy chwaer hŷn yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd, a gwnaeth Dad ofyn a oedd hi’n bosib iddi fynd i’r ysgol bob yn ail ddiwrnod. Byddai hynny’n galluogi un ohonon ni i aros adref i warchod y plant bach. Hefyd, bydden ni’n paratoi pryd o fwyd ar gyfer y teulu, a byddai hwnnw’n barod erbyn i Dad ddod yn ôl o’i waith. Cytunodd pennaeth yr ysgol, ac roedden ni’n dilyn y trefniant hwnnw nes i fy chwaer adael yr ysgol. Astudiodd dau deulu o Dystion gyda ni, a daeth 11 ohonon ni blant yn Dystion Jehofa. Dw i’n wastad wedi mwynhau’r gwaith pregethu, er fy mod i’n swil iawn. Mae fy ngŵr, Sam, wedi fy helpu gyda hynny dros y blynyddoedd.”

Priodais i Gloria ym mis Chwefror 1959. Gwnaethon ni fwynhau arloesi gyda’n gilydd. Ym mis Gorffennaf o’r un flwyddyn, gwnaethon ni gais i wasanaethu yn y Bethel. Roedd gennyn ni wir eisiau gwasanaethu yn y pencadlys. Cawson ni ein cyfweld gan frawd annwyl, Simon Kraker, a ddywedodd wrthon ni nad oedd y Bethel yn cymryd cyplau priod ar y pryd. Roedden ni’n dal eisiau gwasanaethu yn y Bethel, ond roedd rhaid inni ddisgwyl llawer o flynyddoedd cyn hynny.

Dyma ni’n ysgrifennu at y pencadlys i ofyn i gael ein gyrru i diriogaeth lle roedd angen mwy o gyhoeddwyr. Cawson ni ond un dewis: Pine Bluff, Arkansas. Bryd hynny, dwy gynulleidfa oedd yn Pine Bluff. Cyhoeddwyr croenwyn oedd yn un gynulleidfa, a chyhoeddwyr croenddu yn y llall. Cawson ni ein gyrru i gynulleidfa’r brodyr croenddu, lle roedd ond 14 o gyhoeddwyr.

ANAWSTERAU OHERWYDD HILIAETH

Efallai dy fod yn gofyn pam byddai Tystion Jehofa yn gwahanu cyhoeddwyr duon oddi wrth y rhai gwynion. A’r ateb? Doedd gennyn ni ddim dewis bryd hynny. Roedd hi’n anghyfreithlon i’r ddwy hil gymysgu, ac roedd trais yn broblem hefyd. Mewn llawer lle, roedd y brodyr yn ofni y byddai eu Neuadd y Deyrnas yn cael ei dinistrio petai’r ddwy hil yn dod at ei gilydd i addoli. Roedd y fath bethau yn wir yn digwydd. Petai Tystion croenddu yn pregethu o ddrws i ddrws yng nghymdogaeth pobl wynion, bydden nhw’n cael eu harestio, ac yn fwy na thebyg yn cael eu curo. Felly, er mwyn inni allu pregethu, roedd rhaid inni ildio i’r gyfraith a gobeithio y byddai pethau’n newid er gwell.

Roedd ein gwaith pregethu’n gallu bod yn anodd. Pan oedden ni’n pregethu yng nghymdogaeth pobl dduon, roedden ni weithiau’n cnocio ar ddamwain ar ddrws teulu gwyn. Roedd rhaid penderfynu’n gyflym: A ddylen ni roi cyflwyniad Beiblaidd byr neu jest ymddiheuro a mynd drws nesaf? Felly yr oedd hi yn y dyddiau hynny.

Wrth gwrs, fel arloeswyr, roedd rhaid inni ennill arian i fyw. Tair doler y dydd roedd y rhan fwyaf o’n swyddi yn ei dalu. Gwaith Gloria oedd glanhau tai. Er mwyn iddi allu gorffen mewn hanner yr amser, roeddwn i’n cael ei helpu hi mewn un lle. Roedden ni’n cael cinio gan y teulu, TV dinner, sef cinio parod o’r rhewgell, ac roeddwn i a Gloria yn ei rannu cyn gadael. Roedd Gloria yn smwddio i un teulu bob wythnos, a minnau’n garddio, yn glanhau ffenestri, ac yn gwneud pethau eraill o amgylch y tŷ. Yng nghartref un teulu gwyn, roedden ni’n golchi’r ffenestri. Gloria oedd yn eu glanhau o’r tu mewn, a minnau o’r tu allan. Roedd yn cymryd diwrnod cyfan, felly, roedden ni’n cael cinio ganddyn nhw. Roedd Gloria yn bwyta yn y tŷ, ond roedd rhaid iddi gadw ar wahân i’r teulu. Roedd rhaid i mi fwyta y tu allan yn y garej, ond doedd dim ots gen i, roedd y bwyd yn flasus iawn. Roedden nhw’n deulu hoffus iawn, ond roedd y bobl o’u cwmpas yn dylanwadu arnyn nhw. Dw i’n cofio un tro pan stopion ni mewn gorsaf betrol. Ar ôl llenwi tanc y car, dyma fi’n gofyn i’r gwasanaethydd a fyddai Gloria yn cael defnyddio’r tŷ bach. Edrychodd arna i’n ddig, gan ddweud “Mae wedi cloi.”

CAREDIGRWYDD BYTHGOFIADWY

Ar y llaw arall, cawson ni amser hyfryd gyda’r brodyr, ac roedden ni wrth ein boddau gyda’n gweinidogaeth! Pan gyrhaeddon ni Pine Bluff am y tro cyntaf, roedden ni’n byw gyda’r brawd a oedd yn arolygwr i’n cynulleidfa ar y pryd. Doedd ei wraig ddim yn y gwirionedd yr adeg honno, ac fe gychwynnodd Gloria astudiaeth Feiblaidd gyda hi. Yn y cyfamser, cychwynnais innau astudiaeth gyda merch y cwpl, a’i gŵr hithau. Penderfynodd y fam a’r ferch i wasanaethu Jehofa a chael eu bedyddio.

Roedd gennyn ni ffrindiau annwyl yng nghynulleidfa’r brodyr gwynion. Bydden nhw’n ein gwahodd ni i’w tai am bryd o fwyd, ond roedd rhaid inni ddisgwyl tan iddi dywyllu, fel nad oedd neb yn ein gweld ni gyda’n gilydd. Bryd hynny, roedd cyfundrefn sy’n hyrwyddo hiliaeth a thrais, y Ku Klux Klan (KKK), yn weithgar iawn. Dwi’n cofio gweld dyn yn eistedd o flaen ei dŷ un Nos Galan Gaeaf yn gwisgo mwgwd a gwisg wen, fel roedd y rhai yn y KKK yn arfer ei wneud, a hynny’n llawn balchder. Ond, doedd y brodyr ddim yn gadael i brofiadau negyddol eu hatal rhag bod yn garedig. Un haf, roedden ni angen arian i fynd i’r gynhadledd, a chytunodd un brawd i brynu ein hen gar, Ford 1950, er mwyn inni gael digon o arian i fynd. Un diwrnod, fis yn ddiweddarach, roedden ni wedi blino’n lân ar ôl cynnal llawer o astudiaethau Beiblaidd a cherdded o ddrws i ddrws yn y gwres. Yna, daethon ni adref ac er mawr syndod inni, dyna lle roedd ein car, yn ein disgwyl o flaen y tŷ! Roedd nodyn ar y ffenestr flaen: “Dyma chi eich car yn ei ôl yn anrheg gen i. Eich brawd.”

Cyffyrddwyd â’m calon gan weithred garedig arall. Yn 1962, ces i wahoddiad i Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas yn South Lansing, Efrog Newydd. Roedd yn fis cyfan o hyfforddiant ar gyfer arolygwyr cynulleidfaoedd, cylchdeithiau, a rhanbarthau. Ar y pryd, doedd gen i ddim gwaith, a doedd gennyn ni fawr ddim o arian. Fodd bynnag, roedd cwmni ffôn yn Pine Bluff wedi fy nghyfweld am swydd. Petawn i wedi ei chael, fi fyddai’r dyn du cyntaf i weithio ar gyfer y cwmni hwnnw. O’r diwedd, gwnaethon nhw gynnig y swydd imi. Beth fyddwn i’n ei wneud? Doedd gen i ddim arian i deithio i Efrog Newydd. Mi wnes i ystyried o ddifri derbyn y swydd a gwrthod y gwahoddiad i’r ysgol. Roeddwn i ar fin ysgrifennu i’r Bethel pan ddigwyddodd rhywbeth wna i byth ei anghofio.

Un ben bore daeth cnoc ar y drws. Chwaer o’n cynulleidfa ni oedd yno a doedd ei gŵr hi ddim yn y gwirionedd. Rhoddodd amlen imi, a honno’n llawn arian. Roedd hithau a sawl un o’i phlant ifanc wedi bod yn codi gyda’r wawr i chwynnu’r caeau cotwm. A hyn oll er mwyn ennill digon o arian i mi allu mynd i Efrog Newydd. Dyma hi’n dweud “Dos i’r ysgol a dysga gymaint ag y gelli di, ac wedyn tyrd yn dy ôl i’n dysgu ni!” Yn ddiweddarach, gofynnais i’r cwmni ffôn a fyddwn i’n cael cychwyn fy ngwaith yno pum wythnos yn hwyrach nag y cynlluniwyd. “Na!” reit swta oedd yr ateb, ond doedd dim ots. Roeddwn i wedi gwneud fy mhenderfyniad. Dw i mor falch na chymerais i mo’r swydd honno!

Dyma sut mae Gloria yn cofio ein hamser yn Pine Bluff: “Roeddwn i’n hoff iawn o’r diriogaeth! Roedd gen i rhwng 15 a 20 o astudiaethau Beiblaidd. Felly bydden ni’n pregethu o ddrws i ddrws yn y bore ac yna’n cynnal astudiaethau Beiblaidd am weddill y diwrnod, weithiau tan 11 o’r gloch yn y nos. Roedd cymaint o hwyl i’w chael yn y weinidogaeth! Byddwn i wedi bod yn hapus iawn i aros yno. Rhaid imi gyfaddef, doeddwn i ddim wir eisiau newid fy aseiniad a gwneud y gwaith cylch, ond roedd gan Jehofa gynlluniau eraill.” Oedd wir.

ASEINIAD NEWYDD

Tra oedden ni’n arloesi yn Pine Bluff, gwnaethon ni gais am fod yn arloeswyr arbennig. Roedden ni wir yn disgwyl cael ein penodi. Pam? Oherwydd roedden ni’n gwybod bod arolygwr ein rhanbarth eisiau inni helpu cynulleidfa yn Texas, a’i fod eisiau inni wasanaethu fel arloeswyr arbennig yno. Roedden ni’n hoffi’r syniad. Felly, dyma ni’n disgwyl ac yn disgwyl, gan obeithio cael ateb, ond gwag oedd y blwch post o hyd. O’r diwedd, daeth llythyr. Aseiniad i’r gwaith arolygu teithiol! Roedd hyn ym mis Ionawr 1965. Ar yr un pryd, cafodd y Brawd Leon Weaver, sydd bellach yn gydlynydd Pwyllgor Cangen yr Unol Daleithiau, ei benodi fel arolygwr cylchdaith.

Roeddwn i’n pryderu am fod yn arolygwr cylchdaith. Tua blwyddyn ynghynt, roedd arolygwr y rhanbarth, James A. Thompson, Jr., wedi mynd trwy fy nghymwysterau â chrib mân. Esboniodd yn garedig sut y gallwn wella, gan drafod sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo fel arolygwr cylchdaith. Wnaeth hi ddim cymryd llawer wedi imi gychwyn fel arolygwr cylchdaith tan wnes i weld faint roeddwn i wir angen y cyngor hwnnw. Y Brawd Thompson oedd yr arolygwr rhanbarth cyntaf imi weithio gydag ef wedi imi gael fy mhenodi. Dysgais i lawer gan y brawd ffyddlon hwnnw.

Dw i’n trysori’r cymorth ges i gan frodyr profiadol

Doedd arolygwyr cylchdaith ddim yn cael llawer o hyfforddiant yn y cyfnod hwnnw. Gwnes i wylio arolygwr cylchdaith am wythnos wrth iddo ymweld â chynulleidfa. Wedyn, gwnaeth yntau fy ngwylio innau am wythnos wrth i mi ymweld â chynulleidfa arall. Ces i awgrymiadau a chyngor ganddo, ond wedyn roedden ni ar ein pennau ein hunain. Dw i’n cofio dweud wrth Gloria, “Oes wir raid iddo adael rŵan?” Ond ymhen amser, sylweddolais rywbeth pwysig. Mae ’na wastad frodyr da sy’n gallu dy helpu, ond dim ond os wyt ti’n gadael iddyn nhw dy helpu. Dw i’n dal i drysori’r help ges i gan frodyr profiadol fel J. R. Brown, a oedd ar y pryd yn arolygwr teithiol, a Fred Rusk o deulu’r Bethel.

Roedd hiliaeth ym mhobman yn y cyfnod hwnnw. Un tro, roedd y KKK yn cynnal gorymdaith mewn tref yr oedden ni’n ymweld â hi yn Tennessee. Dw i’n cofio tro arall pan stopion ni mewn bwyty am egwyl fach tra oedden ni yn y gwaith pregethu. Pan es i i’r tŷ bach, daeth dyn a golwg blin arno i mewn ar fy ôl a hwnnw’n datŵs hiliol i gyd. Ond yna, daeth brawd gwyn i mewn, a oedd yn llawer mwy na’r un ohonon ni. “Ydy popeth yn iawn, Brawd Herd?” gofynnodd. Gadawodd y cwsmer arall yn gyflym, heb ddefnyddio’r tŷ bach. Dros y blynyddoedd, dw i wedi dod i ddeall nad lliw’r croen yw gwir achos hiliaeth, ond y pechod sy’n llechu ynon ni i gyd. A dw i wedi dysgu bod brawd yn frawd, ni waeth befo lliw ei groen, ac y bydd yn fodlon marw drosot ti os bydd rhaid.

DIWEDD CYFOETHOG

Roedden ni yn y gwaith cylch am 12 mlynedd, ac yn y gwaith rhanbarth am 21 mlynedd. Cawson ni amser hapus yn llawn bendithion a phrofiadau calonogol. Ond roedd bendith arall ar y ffordd. Ym mis Awst 1997, cafodd hen freuddwyd inni ei wireddu. Cawson ni wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel yn yr Unol Daleithiau, 38 o flynyddoedd wedi inni lenwi ein cais cyntaf. Y mis canlynol, cychwynnon ni ar ein gwaith yn y Bethel. Doeddwn i ddim yn meddwl bod y brodyr eisiau imi wasanaethu am gyfnod hir, ond roeddwn i’n anghywir.

Roedd Gloria’n drysor pan briodon ni, ac mae hi’n drysor hyd heddiw

Roedd fy aseiniad cyntaf yn yr Adran Wasanaeth. Dysgais i gymaint! Mae’r brodyr yno yn derbyn llawer o gwestiynau anodd a sensitif gan arolygwyr cylchdaith a chyrff henuriaid ledled y wlad. Dw i’n ddiolchgar iawn i’r brodyr am eu help ac am eu hamynedd wrth iddyn nhw fy hyfforddi. Petawn i’n cael aseiniad i weithio yno eto, byddai gen i lawer i’w ddysgu o hyd gan y brodyr hynny.

Mi ydw i a Gloria wrth ein boddau gyda’r bywyd Bethel. Rydyn ni’n wastad wedi hoffi codi’n fore, arferiad sydd o help mawr yn y Bethel! Ar ôl blwyddyn neu ddwy, cychwynnais wasanaethu fel cynorthwywr i Bwyllgor Gwasanaeth Corff Llywodraethol Tystion Jehofa. Yna, yn 1999, ces i fy mhenodi yn aelod o’r Corff Llywodraethol. Dw i wedi dysgu llawer yn yr aseiniad hwn, ond y peth pwysicaf dw i wedi ei ddysgu ydy mai Iesu Grist yw pen y Gynulleidfa Gristnogol, ac nid unrhyw ddyn.

Ers 1999, dw i wedi cael y fraint o wasanaethu ar y Corff Llywodraethol

Wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, dw i weithiau’n teimlo fel y proffwyd Amos. Sylwodd Jehofa ar y bugail gostyngedig hwnnw er mai gwaith syml o drin ffigys gwylltion oedd ganddo, bwyd oedd ond yn cael ei fwyta gan bobl dlawd. Er hynny, cafodd Amos ei benodi gan Jehofa yn broffwyd, a bendithiodd Jehofa Amos yn helaeth yn yr aseiniad hwnnw. (Amos 7:14, 15) Mewn ffordd debyg, sylwodd Jehofa arnaf finnau, mab i ffermwr tlawd yn Liberty, Indiana. Ac mae Jehofa wedi fy mendithio yn helaeth, gormod o fendithion i’w rhestru yma! (Diarhebion 10:22) Cychwynnodd fy mywyd yn dlawd yn faterol, ond mae’r diwedd yn llawn cyfoeth, cyfoeth y tu hwnt i fy nychymyg!