Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Adnabod Dy Elyn

Adnabod Dy Elyn

“Dŷn ni’n gwybod yn iawn am ei gastiau e!”—2 CORINTHIAID 2:11.

CANEUON: 150, 32

1. Ar ôl i Adda ac Efa bechu, beth ddatgelodd Jehofa am ein gelyn?

ROEDD Adda yn gwybod dydy nadroedd ddim yn gallu siarad. Felly, pan glywodd fod neidr wedi siarad ag Efa, efallai ei fod wedi sylweddoli mai ysbryd oedd yn siarad mewn gwirionedd. (Genesis 3:1-6) Doedd Adda ac Efa ddim yn gwybod pwy oedd yr ysbryd hwnnw. Ond, dewisodd Adda ymuno â’r gwrthryfelwr hwn yn erbyn ei Dad nefol cariadus. (1 Timotheus 2:14) Yn syth bin, dechreuodd Jehofa ddatgelu mwy am y gelyn drwg hwn ac addawodd y byddai’n cael ei ddinistrio ymhen amser. Ond, yn y cyfamser, rhybuddiodd Jehofa y byddai’r ysbryd a siaradodd drwy gyfrwng y neidr yn gwrthwynebu pawb sy’n caru Duw.—Genesis 3:15.

2, 3. Beth efallai ydy’r rheswm na wnaeth Jehofa ddatgelu llawer am Satan cyn i’r Meseia ddod?

2 Dydy Jehofa byth wedi dweud wrthyn ni beth ydy enw personol yr angel a wnaeth wrthryfela yn ei erbyn. * (Gweler y troednodyn.) Arhosodd Jehofa 2,500 o flynyddoedd ar ôl y gwrthryfel yn Eden cyn datgelu pwy oedd y gwrthryfelwr. (Job 1:6) Ei deitl ydy “Satan,” sy’n golygu “Y Gwrthwynebwr.” Dim ond tri llyfr yn yr Ysgrythurau Hebraeg sy’n sôn am Satan, sef 1 Cronicl, Job, a Sechareia. Pam roedd cyn lleied wedi cael ei ddatgelu am y gelyn hwn cyn i’r Meseia ddod?

3 Ni wnaeth Jehofa gynnwys llawer o fanylion yn yr Ysgrythurau Hebraeg am Satan ac am yr hyn y mae’n ei wneud. Wedi’r cwbl, pwrpas yr Ysgrythurau Hebraeg oedd helpu’r bobl i adnabod y Meseia a’i ddilyn. (Luc 24:44; Galatiaid 3:24) Pan ddaeth y Meseia, gwnaeth Jehofa ei ddefnyddio ef a’i ddisgyblion i ddatgelu llawer o’r hyn rydyn ni’n ei wybod am Satan a’r angylion a ymunodd ag ef. * (Gweler y troednodyn.) Priodol iawn yw hyn oherwydd bydd Jehofa yn defnyddio Iesu a’r eneiniog i ddinistrio Satan a’i ddilynwyr.—Rhufeiniaid 16:20; Datguddiad 17:14; 20:10.

Gyda chymorth Jehofa, Iesu, a’r angylion ffyddlon gallwn wrthsefyll ein gelyn

4. Pam na ddylen ni ofni’r Diafol?

4 Mae’r apostol Pedr yn disgrifio Satan y Diafol fel “llew yn rhuo,” ac mae Ioan yn ei alw’n “sarff” ac yn “ddraig.” (1 Pedr 5:8; Datguddiad 12:9) Ond, ni ddylai’r Diafol godi ofn arnon ni. Mae ’na derfyn i’w rym. (Darllen Iago 4:7.) Mae Jehofa, Iesu, a’r angylion ffyddlon yn ein hamddiffyn. Gyda’u cymorth nhw, gallwn wrthsefyll ein gelyn. Ond eto, mae angen inni wybod yr atebion i dri chwestiwn pwysig: Faint o ddylanwad sydd gan Satan? Sut mae’n ceisio dylanwadu ar bobl? A beth yw’r pethau na allai eu gwneud? Gad inni ateb y cwestiynau hyn a gweld pa wersi y gallwn ni eu dysgu.

FAINT O DDYLANWAD SYDD GAN SATAN?

5, 6. Pam dydy llywodraethau dynol ddim yn gallu dod â’r newidiadau sydd eu hangen ar ddynolryw?

5 Gwnaeth llawer o angylion ymuno â Satan a gwrthryfela yn erbyn Duw. Cyn y Dilyw, temtiodd Satan o leiaf rai ohonyn nhw i gael perthynas rywiol â merched. Mae’r Beibl yn disgrifio hyn mewn ffordd symbolaidd drwy ddweud bod y ddraig a ddisgynnodd o’r nefoedd wedi llusgo traean o’r sêr gydag ef. (Genesis 6:1-4; Jwdas 6; Datguddiad 12:3, 4) Pan gefnodd yr angylion hynny ar deulu Duw, gwnaethon nhw eu gosod eu hunain o dan reolaeth Satan. Ddylen ni ddim meddwl am yr angylion gwrthryfelgar hyn fel grŵp anhrefnus. Yn yr ysbryd fyd anweledig, mae Satan wedi sefydlu ei lywodraeth ei hun ar ddelw Teyrnas Dduw. Mae wedi ei benodi ei hun yn frenin, trefnu’r cythreuliaid, a rhoi grym iddyn nhw fel eu bod nhw’n rheoli’r byd.—Effesiaid 6:12.

6 Mae Satan yn defnyddio ei gyfundrefn i reoli pob llywodraeth ddynol. Gallwn fod yn sicr o hyn oherwydd iddo ddangos “holl wledydd y byd” i Iesu, a dywedodd: “Gwna i adael i ti reoli’r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae’r cwbl wedi eu rhoi i mi, ac mae gen i hawl i’w rhoi nhw i bwy bynnag dw i’n ei ddewis.” (Luc 4:5, 6) Wrth gwrs, mae llawer o lywodraethau yn gwneud pethau da ar gyfer eu dinasyddion, ac mae rhai rheolwyr yn ddiffuant wrth geisio helpu pobl. Ond, ni all unrhyw reolwr dynol ddod â’r newidiadau sydd eu hangen arnon ni.—Salm 146:3, 4; Datguddiad 12:12.

7. Yn ogystal â defnyddio llywodraethau, sut mae Satan yn defnyddio gau grefydd a’r byd busnes? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Mae Satan a’r cythreuliaid hefyd yn defnyddio gau grefydd a’r byd busnes i dwyllo’r “byd i gyd,” sef yr holl ddynoliaeth. (Datguddiad 12:9) Mae Satan yn defnyddio gau grefydd i ledaenu celwyddau am Jehofa, ac mae hyd yn oed wedi ceisio cuddio enw Duw. (Jeremeia 23:26, 27, BCND) O ganlyniad, mae rhai pobl ddiffuant sy’n meddwl eu bod nhw’n addoli Duw mewn gwirionedd yn addoli’r cythreuliaid. (1 Corinthiaid 10:20; 2 Corinthiaid 11:13-15) Mae Satan hefyd yn defnyddio’r byd busnes i ledaenu celwyddau, fel, er enghraifft, y celwydd fod arian a phethau materol yn gwneud pobl yn hapus. (Diarhebion 18:11) Mae’r bobl sy’n credu’r celwydd hwnnw yn treulio eu bywydau yn gwasanaethu “arian” yn hytrach na Duw. (Mathew 6:24) Hyd yn oed os oedden nhw’n caru Duw ar un adeg, mae eu cariad tuag at bethau materol wedi dod mor gryf nes i’w cariad tuag at Dduw ddiflannu.—Mathew 13:22; 1 Ioan 2:15, 16.

Mae’n rhaid inni ddewis bod ar ochr Jehofa neu ar ochr Satan

8, 9. (a) Pa ddwy wers gallwn ni eu dysgu oddi wrth ymddygiad Adda, Efa, a’r cythreuliaid? (b) Pam mae gwybod bod Satan yn rheoli’r byd o fudd inni?

8 Mae ’na ddwy wers bwysig y gallwn ni eu dysgu oddi wrth ymddygiad Adda, Efa, a’r angylion gwrthryfelgar. Yn gyntaf, rydyn ni’n dysgu mai dim ond dwy ochr sy’n bodoli a bod rhaid inni ddewis un ohonyn nhw. Gallwn ni fod naill ai ar ochr Jehofa neu ar ochr Satan. (Mathew 7:13) Yn ail, dim ond buddion a chyfyngiadau arnyn nhw sy’n disgwyl y rhai sy’n ymuno â Satan. Cafodd Adda ac Efa’r cyfle i ddewis drostyn nhw eu hunain beth oedd yn dda a beth oedd yn ddrwg. A chafodd y cythreuliaid rywfaint o rym dros lywodraethau dynol. (Genesis 3:22) Ond, mae ochri gyda Satan yn dod â chanlyniadau drwg bob amser. Does ’na ddim buddion go iawn!—Job 21:7-17; Galatiaid 6:7, 8.

9 Pam mae gwybod bod Satan yn rheoli’r byd o fudd inni? Mae’n ein helpu i gadw’r safbwynt cywir tuag at lywodraethau ac mae’n ein hannog i bregethu’r newyddion da. Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau inni barchu’r llywodraethau. (1 Pedr 2:17) Mae’n disgwyl inni ufuddhau i ddeddfau’r llywodraethau cyn belled nad ydyn nhw’n mynd yn groes i’w safonau Ef. (Rhufeiniaid 13:1-4) Ond, rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhaid inni aros yn niwtral a gwrthod cefnogi unrhyw blaid wleidyddol neu arweinydd dynol. (Ioan 17:15, 16; 18:36) Oherwydd ein bod ni’n gwybod bod Satan yn ceisio cuddio enw Jehofa a difetha Ei enw da, rydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i ddysgu’r gwirionedd am ein Duw i bobl eraill. Rydyn ni’n falch o gael ein hadnabod wrth ei enw ac o ddefnyddio’r enw hwnnw. Mae cariad tuag at Dduw yn llawer mwy gwerthfawr na chariad tuag at arian neu bethau materol.—Eseia 43:10; 1 Timotheus 6:6-10.

SUT MAE SATAN YN CEISIO DYLANWADU AR ERAILL?

10-12. (a) Sut efallai y gwnaeth Satan ddefnyddio abwyd i demtio rhai o’r angylion? (b) Beth ydyn ni’n ei ddysgu o’r hyn a wnaeth yr angylion hynny?

10 Mae Satan yn defnyddio dulliau effeithiol i ddylanwadu ar eraill. Er mwyn achosi iddyn nhw wneud yr hyn y mae eisiau iddyn nhw ei wneud, mae weithiau’n defnyddio abwyd i’w temtio ac ar adegau eraill mae’n ceisio eu bwlio.

11 Defnyddiodd Satan abwyd i demtio nifer fawr o angylion. Mae’n debyg fod Satan wedi bod yn eu gwylio nhw am yn hir er mwyn dod i wybod beth fyddai’n eu temtio. Llyncodd rhai o’r angylion yr abwyd a chael rhyw gyda merched. Cewri treisgar oedd eu plant a oedd yn greulon tuag at y bobl o’u cwmpas. (Genesis 6:1-4) Yn ogystal â defnyddio anfoesoldeb i demtio’r angylion hynny, efallai fod Satan wedi addo y byddan nhw’n cael rheoli dros fodau dynol i gyd. Drwy wneud hyn, efallai fod Satan yn ceisio ymyrryd yng nghyflawniad proffwydoliaeth Jehofa am had y wraig. (Genesis 3:15) Ond, ni wnaeth Jehofa ganiatáu iddo lwyddo. Achosodd Jehofa’r Dilyw, a wnaeth ddifetha cynlluniau Satan a’r cythreuliaid.

Mae Satan yn ceisio ein temtio gan anfoesoldeb, balchder, a’r goruwchnaturiol (Gweler paragraffau 12, 13)

12 Beth ydyn ni’n ei ddysgu o hyn? Mae anfoesoldeb a balchder yn fathau effeithiol iawn o abwyd. Roedd yr angylion a ymunodd â Satan wedi treulio llawer o flynyddoedd yn y nefoedd gyda Duw ei hun! Er hynny, caniataodd llawer ohonyn nhw i chwantau drwg ddatblygu ynddyn nhw, a daeth y chwantau hynny’n gryf iawn. Mae’n rhaid inni gofio y gall chwantau drwg ymwreiddio yn ein calon, dim ots faint o flynyddoedd rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa. (1 Corinthiaid 10:12) Dyna pam mae’n bwysig inni chwilio ein calonnau drwy’r amser a chael gwared ar unrhyw feddyliau anfoesol a balchder hunanol!—Galatiaid 5:26; darllen Colosiaid 3:5.

13. Pa fath arall o abwyd y mae Satan yn ei ddefnyddio, a sut gallwn ni ei osgoi?

13 Math arall o abwyd y mae Satan yn ei ddefnyddio ydy’r awydd i wybod mwy am y goruwchnaturiol. Heddiw, mae’n ceisio codi diddordeb pobl yn y cythreuliaid drwy ddefnyddio gau grefydd ac adloniant. Gall ffilmiau, gemau electronig, a mathau eraill o adloniant wneud i’r goruwchnaturiol ymddangos yn gyffrous. Sut gallwn ni osgoi’r abwyd hwn? Ddylen ni ddim disgwyl i gyfundrefn Duw restru pa adloniant sy’n dda neu’n ddrwg. Mae’n rhaid inni hyfforddi ein cydwybod fel ein bod ni’n gallu gwneud dewisiadau da yn seiliedig ar egwyddorion Jehofa. (Hebreaid 5:14) Ac os ydy ein “cariad yn ddiragrith” tuag at Dduw, byddwn ni’n dewis yn ddoeth. (Rhufeiniaid 12:9, BCND) Mae person rhagrithiol yn dweud un peth ond yn gwneud rhywbeth arall. Felly, pan fyddwn ni’n dewis adloniant, gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n dilyn yr un egwyddorion rydw i’n annog eraill i’w dilyn? Beth fyddai’r bobl rydw i’n astudio gyda nhw neu’n galw arnyn nhw’n ei feddwl o weld yr adloniant dw i’n ei ddewis?’ Pan fyddwn ni’n dilyn yr egwyddorion rydyn ni’n annog eraill i’w dilyn, mae’n haws inni wrthod abwyd Satan.—1 Ioan 3:18.

Mae Satan yn ceisio ein bwlio gan ddefnyddio gwaharddiadau llywodraethol, pwysau yn yr ysgol, a gwrthwynebiad oddi wrth y teulu (Gweler paragraff 14)

14. Sut gall Satan geisio ein bwlio ni, a sut gallwn ni sefyll yn gadarn?

14 Mae Satan hefyd yn ceisio ein bwlio a’n dychryn er mwyn achosi inni fod yn anffyddlon i Jehofa. Er enghraifft, gallai ddylanwadu ar lywodraethau i wahardd ein gwaith pregethu. Gall Satan ddylanwadu ar ein cyd-weithwyr neu ein ffrindiau ysgol i wneud sbort am ein pennau am ddilyn egwyddorion y Beibl. (1 Pedr 4:4) Gall hyd yn oed ddylanwadu ar aelodau ein teulu sydd ddim yn credu yn Jehofa, sydd efallai ag amcanion da ond sy’n ceisio ein stopio ni rhag mynd i’r cyfarfodydd. (Mathew 10:36) Sut gallwn ni sefyll yn gadarn pan fydd Satan yn ceisio ein bwlio? Ni ddylai’r ymosodiadau hyn ein synnu, gan ein bod ni’n gwybod bod Satan yn rhyfela yn ein herbyn. (Datguddiad 2:10; 12:17) Hefyd, mae’n rhaid inni gofio’r brif ddadl: Mae Satan yn honni ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa dim ond pan fydd gwneud hynny’n hawdd, ac y byddan ni’n gwrthod Duw petai pethau’n mynd yn anodd. (Job 1:9-11; 2:4, 5) Yn olaf, mae’n bwysig ein bod ni bob amser yn gofyn am nerth oddi wrth Jehofa. Cofia, fydd Jehofa byth yn cefnu arnon ni.—Hebreaid 13:5.

BETH NA ALL SATAN EI WNEUD?

15. Ydy Satan yn gallu ein gorfodi ni i wneud unrhyw beth dydyn ni ddim eisiau ei wneud? Esbonia.

15 Dydy Satan ddim yn gallu gorfodi pobl i wneud unrhyw beth dydyn nhw ddim eisiau ei wneud. (Iago 1:14) Dydy llawer o bobl yn y byd ddim hyd yn oed yn sylweddoli eu bod nhw ar ochr Satan. Ond, pan fydd rhywun yn dysgu’r gwirionedd, mae’n rhaid iddo ddewis bod ar ochr Jehofa neu ar ochr Satan. (Actau 3:17; 17:30) Os ydyn ni’n benderfynol o ufuddhau i Dduw, fydd Satan ddim yn gallu ein gorfodi ni i fod yn anffyddlon.—Job 2:3; 27:5.

16, 17. (a) Beth arall dydy Satan a’r cythreuliaid ddim yn gallu ei wneud? (b) Pam na ddylen ni ofni gweddïo’n uchel ar Jehofa?

16 Mae ’na bethau eraill dydy Satan a’r cythreuliaid ddim yn gallu eu gwneud. Er enghraifft, dydy’r Beibl ddim yn dweud eu bod nhw’n gallu gwybod beth sydd yn ein meddwl a’n calon. Dim ond Jehofa ac Iesu sy’n gallu gwneud hynny. (1 Samuel 16:7; Marc 2:8, BCND) Felly a ddylen ni ofni siarad neu weddïo yn uchel rhag ofn i’r Diafol a’r cythreuliaid ein clywed ni a defnyddio’r wybodaeth yn ein herbyn ni? Na ddylen ni! Pam ddim? Meddylia am y gymhariaeth hon: Dydyn ni ddim yn ofni gwneud pethau da yn ein gwasanaeth i Jehofa rhag ofn i’r Diafol ein gweld ni. Mewn ffordd debyg, ddylen ni ddim ofni gweddïo’n uchel rhag ofn i’r Diafol ein clywed ni. Hefyd, mae’r Beibl yn sôn lawer gwaith am weision Duw yn gweddïo’n uchel, a dydyn ni byth yn darllen amdanyn nhw’n ofni y byddai’r Diafol yn eu clywed. (1 Brenhinoedd 8:22, 23; Ioan 11:41, 42; Actau 4:23, 24) Os ydyn ni’n gwneud ein gorau i siarad ac ymddwyn fel mae Duw eisiau inni ei wneud, gallwn fod yn sicr fydd Jehofa ddim yn gadael i’r Diafol ein niweidio mewn unrhyw ffordd barhaol.—Darllen Salm 34:7.

17 Mae’n rhaid inni adnabod ein gelyn, ond does dim rhaid inni ei ofni. Er ein bod ni’n amherffaith, gallwn drechu Satan gyda chymorth Jehofa! (1 Ioan 2:14) Os ydyn ni’n ei wrthwynebu, fe fydd yn ffoi oddi wrthyn ni. (Iago 4:7; 1 Pedr 5:9) Heddiw, mae’n ymddangos bod Satan yn ymosod ar bobl ifanc yn enwedig. Sut gallan nhw wrthsefyll ymosodiadau’r Diafol? Byddwn yn trafod hyn yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 2 Mae’r Beibl yn datgelu enwau personol rhai angylion. (Barnwyr 13:18; Daniel 8:16; Luc 1:19; Datguddiad 12:7) Mae hefyd yn dweud bod Jehofa wedi rhoi enw ar bob un o’r sêr. (Salm 147:4) Felly, mae’n gwneud synnwyr i feddwl y byddai Jehofa wedi rhoi enw ar bob un o’r angylion, gan gynnwys yr un a ddaeth yn Satan.

^ Par. 3 Dim ond 18 o weithiau y mae’r teitl “Satan” yn ymddangos yn yr Ysgrythurau Hebraeg, ond mae’n ymddangos dros 30 o weithiau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.