Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc—Safwch yn Gadarn yn Erbyn y Diafol

Bobl Ifanc—Safwch yn Gadarn yn Erbyn y Diafol

“Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.”—EFFESIAID 6:11.

CANEUON: 79, 140

1, 2. (a) Pam mae Cristnogion ifanc yn ennill y frwydr yn erbyn Satan a’r cythreuliaid? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod?

GWNAETH yr apostol Paul gymharu Cristnogion â milwyr. Rydyn ni yng nghanol rhyfel, ac mae ein gelynion yn rhai go iawn! Ond, dydyn ni ddim yn rhyfela yn erbyn pobl; rydyn ni’n rhyfela yn erbyn Satan a’r cythreuliaid. Maen nhw wedi bod yn rhyfelwyr am filoedd o flynyddoedd ac yn dda iawn yn ymladd. Ar y wyneb, gallai ymddangos yn amhosib inni ennill y rhyfel hwn, yn enwedig os ydyn ni’n ifanc. Ydy hi’n bosib i bobl ifanc ennill rhyfel yn erbyn gelynion mor gryf? Ydy, ac ennill y maen nhw! Pam? Oherwydd eu bod nhw’n cael nerth oddi wrth Jehofa. Hefyd, yn debyg i filwyr sydd wedi eu hyfforddi’n dda, maen nhw’n gwisgo’r holl “arfwisg” mae Duw’n ei rhoi er mwyn bod yn barod ar gyfer y rhyfel.—Darllen Effesiaid 6:10-12.

2 Pan ddefnyddiodd Paul yr eglureb honno, efallai ei fod wedi bod yn meddwl am yr arfwisg roedd y milwyr Rhufeinig yn ei gwisgo. (Actau 28:16) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod eglureb effeithiol Paul. Byddwn ni hefyd yn trafod beth mae rhai pobl ifanc yn ei ddweud am yr heriau a’r buddion sy’n dod o wisgo pob rhan o’n harfwisg ysbrydol.

Wyt ti’n gwisgo pob darn o dy arfwisg?

BELT Y GWIRIONEDD

3, 4. Sut mae gwirionedd y Beibl yn debyg i felt milwrol y Rhufeiniaid?

3 Darllen Effesiaid 6:14. Roedd gan felt y milwr Rhufeinig blatiau metel a oedd yn amddiffyn y milwr o gwmpas ei ganol ac yn cadw’r llurig, neu’r ddwyfronneg, drom yn ei lle. Hefyd, roedd gan rai beltiau glipiau cryf er mwyn cario cleddyf. Gyda’i felt wedi ei glymu’n dynn, byddai milwr yn teimlo’n hyderus wrth fynd allan i frwydro.

Mae’r gwirioneddau rydyn ni’n eu dysgu o Air Duw yn ein hamddiffyn rhag gau ddysgeidiaethau

4 Yn debyg i felt, mae’r gwirioneddau rydyn ni’n eu dysgu o Air Duw yn ein hamddiffyn rhag gau ddysgeidiaethau. (Ioan 8:31, 32; 1 Ioan 4:1) Y mwyaf yn y byd rydyn ni’n dysgu i garu’r gwirioneddau yng Ngair Duw, y hawsaf yn y byd y bydd hi inni fyw yn ôl safonau Duw, neu i wisgo ein “llurig.” (Salm 111:7, 8; 1 Ioan 5:3) Hefyd, y mwyaf rydyn ni’n deall y gwirioneddau hyn, y gorau y gallwn ni eu hamddiffyn rhag ein gelynion.—1 Pedr 3:15.

5. Pam dylen ni ddweud y gwir drwy’r amser?

5 Gan fod gwirioneddau Gair Duw yn bwysig inni, rydyn ni’n ufudd i’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud ac rydyn ni bob amser yn dweud y gwir. Celwyddau ydy un o arfau mwyaf llwyddiannus Satan. Mae celwyddau yn brifo’r person sy’n eu dweud nhw yn ogystal â’r person sy’n credu ynddyn nhw. (Ioan 8:44) Felly, er nad ydyn ni’n berffaith, rydyn ni’n trio ein gorau i beidio â dweud celwyddau. (Effesiaid 4:25) Gall hyn fod yn anodd. Mae Abigail, sy’n 18, yn dweud: “Weithiau, dydy dweud y gwir ddim yn ymddangos fel ei fod yn werth y drafferth, yn enwedig pan fydd dweud celwydd yn gallu dy gael di allan o sefyllfa anodd.” Felly pam mae hi’n wastad yn ceisio bod yn onest? Mae hi’n dweud: “Pan ydw i’n dweud y gwir, mae gen i gydwybod lân o flaen Jehofa. Ac mae fy rhieni a fy ffrindiau yn gwybod eu bod nhw’n gallu fy nhrystio i.” Mae Victoria, sy’n 23, yn dweud: “Pan fyddi di’n dweud y gwir ac yn amddiffyn dy ddaliadau, mae’n bosib iti gael dy fwlio. Ond, rwyt ti bob amser yn cael buddion anhygoel: Rwyt ti’n dod yn fwy hyderus, yn dod yn agosach at Jehofa, ac yn ennill parch y rhai sy’n dy garu.” Wyt ti’n gweld pa mor bwysig ydy gwisgo’r gwirionedd “fel belt” ar hyd yr amser?

Belt y gwirionedd (Gweler paragraffau 3-5)

“CYFIAWNDER DUW YN LLURIG”

6, 7. Pam mae cyfiawnder yn cael ei gymharu â llurig?

6 Roedd llurig y milwr Rhufeinig yn aml wedi ei gwneud o stribedi o haearn a oedd yn cael eu plygu i ffitio o gwmpas ei frest. Roedd y stribedi haearn yn sownd wrth strapiau lledr drwy ddefnyddio bachau a byclau metel. Roedd ei ysgwyddau’n cael eu gorchuddio gan fwy o stribedi haearn a oedd hefyd wedi eu cysylltu â lledr. Roedd yn anoddach iddo symud o gwmpas yn y llurig, ac roedd rhaid iddo sicrhau bod y platiau yn y lle iawn drwy’r amser. Ond, roedd y llurig honno yn gwarchod ei galon a’i organau eraill rhag miniogrwydd y cleddyf a’r saeth!

Y ffaith yw, dydyn ni ddim yn ddigon doeth i warchod ein calonnau ein hunain

7 Gallwn gymharu’r llurig â safonau cyfiawn Jehofa, sy’n gwarchod y “galon,” neu’r person rydyn ni y tu mewn. (Diarhebion 4:23) Fyddai milwr byth yn ffeirio ei lurig haearn am un a oedd wedi ei gwneud o fetel gwannach. Yn yr un modd, fyddwn ninnau byth yn ffeirio safonau Jehofa ynglŷn â beth sy’n iawn am ein syniadau ni’n hunain ynglŷn â beth sy’n iawn. Y ffaith yw, dydyn ni ddim yn ddigon doeth i warchod ein calonnau ein hunain. (Diarhebion 3:5, 6) Dyna pam mae’n rhaid inni sicrhau bod ein “llurig” yn dal yn gwarchod ein calon.

8. Pam dylen ni ddilyn safonau Jehofa?

8 Wyt ti weithiau’n teimlo bod safonau Jehofa yn dwyn dy ryddid neu’n dy stopio rhag gwneud pethau rwyt ti eisiau eu gwneud? Mae Daniel, sy’n 21, yn dweud: “Roedd athrawon a chyd-ddisgyblion yn gwneud hwyl am fy mhen oherwydd fy mod i’n byw yn ôl safonau’r Beibl. Am gyfnod, collais fy hyder a theimlais yn isel.” Ond sut mae’n teimlo nawr? Mae’n dweud: “Yn y diwedd, gwelais y buddion sy’n dod o fyw yn ôl safonau Jehofa. Dechreuodd rhai o fy ‘ffrindiau’ gymryd cyffuriau; gwnaeth rhai eraill stopio mynd i’r ysgol yn gyfan gwbl. Trist oedd gweld beth ddigwyddodd iddyn nhw yn y diwedd. Yn sicr, mae Jehofa yn ein hamddiffyn ni.” Mae Madison, sy’n 15, yn dweud: “Mae’n anodd imi gadw at safonau Jehofa a gwrthod gwneud y pethau mae fy ffrindiau ysgol yn meddwl sy’n cŵl neu’n hwyl.” Felly, beth mae hi’n ei wneud? “Dw i’n fy atgoffa fy hun fy mod i’n dwyn enw Jehofa a bod Satan yn ceisio fy saethu efo temtasiynau. Pan dw i’n ennill brwydr, dw i’n teimlo’n well amdanaf fi fy hun.”

Llurig cyfiawnder (Gweler paragraffau 6-8)

BRWDFRYDEDD “YN ESGIDIAU AR EICH TRAED”

9-11. (a) Pa esgidiau symbolaidd y mae Cristnogion yn eu gwisgo? (b) Beth sy’n gallu ein helpu i deimlo’n fwy cyfforddus wrth bregethu?

9 Darllen Effesiaid 6:15. Allai milwr Rhufeinig ddim mynd i ryfel heb ei esgidiau. Roedden nhw wedi eu gwneud o dri darn o ledr un ar ben y llall, felly, roedden nhw’n gryf iawn. Ond, roedd yr esgidiau hyn yn gyfforddus hefyd, fel y gall y milwyr gerdded yn hyderus heb lithro.

10 Tra oedd esgidiau’r milwyr Rhufeinig wedi eu helpu i ennill rhyfel, mae’r esgidiau symbolaidd rydyn ni’n eu gwisgo yn ein helpu i “rannu’r newyddion da am heddwch.” (Eseia 52:7; Rhufeiniaid 10:15) Ond, weithiau mae pregethu yn gofyn am gryn dipyn o ddewrder. Mae Bo, sy’n 20, yn dweud: “Roeddwn i’n ofni pregethu i fy nghyd-ddisgyblion. Efallai roedd cywilydd arnaf i. O edrych yn ôl, doedd gen i ddim rheswm dros deimlo felly. Nawr, dw i’n hapus i dystiolaethu i fy nghyfoedion.”

11 Mae llawer o Gristnogion ifanc wedi darganfod eu bod nhw’n fwy cyfforddus yn pregethu os ydyn nhw wedi paratoi ymlaen llaw. Sut gelli di baratoi? Mae Julia, sy’n 16, yn dweud: “Dw i’n cadw llenyddiaeth yn fy mag ysgol, a dw i’n gwrando ar farn a daliadau fy nghyd-ddisgyblion. Wedyn, dw i’n gallu meddwl am beth fydd yn eu helpu nhw. Pan dw i wedi paratoi, dw i’n gallu siarad â nhw am rywbeth a fydd yn eu helpu nhw yn benodol.” Mae Makenzie, sy’n 23, yn dweud: “Os byddi di’n garedig ac yn gwrando ar bobl, byddi di’n cael gwybod beth sydd ar feddyliau dy gyfoedion. Rydw i’n gwneud yn siŵr fy mod i’n darllen popeth rydyn ni’n ei gynhyrchu ar gyfer pobl ifanc. Wedyn, dw i’n gallu cyfeirio fy nghyfoedion at rywbeth yn y Beibl neu ar jw.org a fydd yn eu helpu.” Mae paratoi ar gyfer pregethu yn debyg i wisgo “esgidiau” sy’n ffitio’n dda.

Brwdfrydedd yn esgidiau am dy draed (Gweler paragraffau 9-11)

TARIAN FFYDD

12, 13. Beth yw rhai o “saethau tanllyd” Satan?

12 Darllen Effesiaid 6:16. Roedd y milwr Rhufeinig yn cario tarian mawr hirsgwar. Roedd yn cuddio ei gorff o’i ysgwyddau i lawr at ei liniau ac yn ei amddiffyn rhag cleddyfau, gwaywffyn, a saethau.

13 Pa “saethau tanllyd” gall Satan eu saethu atat ti? Efallai bydd yn ymosod arnat ti gyda chelwyddau am Jehofa. Mae Satan eisiau iti deimlo nad ydy Jehofa yn dy garu a does gan neb unrhyw ots amdanat ti. Mae Ida, sy’n 19, yn dweud: “Yn aml, dw i wedi teimlo bod Jehofa yn bell i ffwrdd oddi wrthyf fi, a dydy ef ddim eisiau bod yn Ffrind imi.” Beth mae hi’n ei wneud pan fydd hi’n teimlo fel hyn? “Mae’r cyfarfodydd yn rhoi hwb mawr i fy ffydd. Roeddwn i’n arfer eistedd yno heb roi unrhyw ateb, gan feddwl fyddai neb eisiau clywed yr hyn sydd gen i i’w ddweud. Ond, nawr, rydw i’n paratoi ar gyfer y cyfarfodydd ac yn ceisio ateb ddwy neu dair gwaith. Mae’n anodd, ond, rydw i’n teimlo cymaint yn well pan ydw i’n gwneud hynny. Ac mae’r brodyr a’r chwiorydd yn hynod o gefnogol. Rydw i’n wastad yn dod o’r cyfarfodydd yn gwybod bod Jehofa yn fy ngharu i.”

14. Beth ydyn ni’n ei ddysgu o brofiad Ida?

14 Mae tarian milwr yn wastad yn aros yr un maint. Ond, fel y gwelon ni ym mhrofiad Ida, dydy ein ffydd ddim fel hynny. Gall ein ffydd dyfu neu leihau, mynd yn gryfach neu’n wannach. Ein dewis ni ydy hyn. (Mathew 14:31; 2 Thesaloniaid 1:3) Er mwyn i’n tarian ffydd ein hamddiffyn, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein ffydd yn tyfu ac yn cryfhau!

Tarian ffydd (Gweler paragraffau 12-14)

“ACHUBIAETH YN HELMED”

15, 16. Sut mae ein gobaith yn debyg i helmed?

15 Darllen Effesiaid 6:17. Roedd milwr Rhufeinig yn gwisgo helmed i warchod ei ben, ei wddf, a’i wyneb. Weithiau roedd gan yr helmed handlen er mwyn i’r milwr allu ei chario yn ei law.

16 Yn union fel mae helmed yn gwarchod ymennydd y milwr, mae’r “gobaith sicr y cawn ein hachub” yn gwarchod ein meddwl. (1 Thesaloniaid 5:8; Diarhebion 3:21) Mae gobaith yn ein helpu i ganolbwyntio ar addewidion Duw ac i beidio â digalonni oherwydd ein problemau. (Salm 27:1, 14; Actau 24:15) Ond, os ydyn ni eisiau i’n gobaith ein gwarchod ni, mae’n rhaid iddo fod yn real inni. Rhaid inni wisgo ein “helmed” am ein pen, nid ei chario yn ein llaw!

17, 18. (a) Sut gallai Satan ein twyllo ni i dynnu ein helmed oddi ar ein pen? (b) Sut gallwn ni brofi dydyn ni ddim wedi cael ein twyllo gan Satan?

17 Sut gallai Satan ein twyllo ni i dynnu ein helmed oddi ar ein pen? Meddylia am yr hyn gwnaeth Satan geisio ei wneud i Iesu. Roedd Satan yn gwybod y byddai Iesu yn rheoli dros ddynolryw yn y dyfodol. Ond, yn gyntaf, byddai Iesu’n gorfod dioddef a marw. Wedyn, byddai’n rhaid iddo aros am amser penodol Jehofa cyn iddo fod yn Frenin. Felly, gwnaeth Satan roi’r cyfle iddo i ddechrau rheoli’n gynharach. Petai Iesu’n gwneud un weithred o addoliad, addawodd Satan y byddai Iesu yn cael rheoli’r byd yn syth bin. (Luc 4:5-7) Mae Satan hefyd yn gwybod bod Jehofa wedi addo pethau arbennig i ninnau yn y byd newydd. Ond, mae angen inni aros cyn i’r addewid hwnnw ddod yn wir ac, yn y cyfamser, efallai byddwn ni’n wynebu llawer o broblemau. Felly, mae Satan yn cynnig bywyd cyfforddus inni nawr. Mae Satan eisiau inni ganolbwyntio ar gael bywyd hawdd yn hytrach nag ar Deyrnas Dduw.—Mathew 6:31-33.

18 Mae ’na lawer o bobl ifanc sydd ddim wedi cael eu twyllo gan Satan. Er enghraifft, mae Kiana, sy’n 20, yn dweud: “Dw i’n gwybod yr unig obaith ar gyfer datrys ein problemau i gyd ydy Teyrnas Dduw.” Sut mae ei gobaith hi yn effeithio ar y ffordd y mae hi’n meddwl ac yn byw? Mae’n ei helpu hi i gofio mai dros dro yn unig ydy pethau y byd hwn. Yn hytrach nag ymdrechu i geisio gyrfa yn y system hon, mae Kiana yn defnyddio ei hamser a’i hegni i wasanaethu Jehofa.

Helmed achubiaeth (Gweler paragraffau 15-18)

“CLEDDYF YR YSBRYD,” GAIR DUW

19, 20. Sut gallwn ni ddysgu i ddefnyddio’r Beibl yn well?

19 Roedd milwyr Rhufeinig yn defnyddio cleddyfau tua 50 centimetr o hyd. Roedd y milwyr hynny yn gallu defnyddio eu cleddyfau yn dda iawn oherwydd eu bod nhw’n ymarfer gyda nhw bob dydd.

20 Dywedodd yr apostol Paul fod Gair Duw yn debyg i gleddyf. Mae Jehofa wedi ei roi inni. Ond, mae’n rhaid inni ddysgu sut i’w ddefnyddio’n dda i amddiffyn ein ffydd neu i gywiro’r ffordd rydyn ni’n meddwl. (2 Corinthiaid 10:4, 5; 2 Timotheus 2:15) Sut gelli di hogi dy sgiliau? Mae Sebastian, sy’n 21, yn dweud: “Dw i wedi bod yn nodi un adnod o bob pennod yn fy narlleniad o’r Beibl. Dw i’n creu rhestr o fy hoff adnodau.” Mae hyn yn ei helpu i ddeall sut mae Jehofa yn meddwl. Mae Daniel yn ychwanegu: “Wrth imi wneud fy narlleniad o’r Beibl, dw i’n dewis adnodau dw i’n meddwl fydd yn helpu pobl yn y weinidogaeth. Dw i wedi darganfod bod pobl yn ymateb yn dda o weld ein bod ni’n caru’r Beibl ac yn gwneud ein gorau i’w helpu nhw.”

Cleddyf yr ysbryd (Gweler paragraffau 19-20)

21. Pam na ddylen ni ofni Satan a’r cythreuliaid?

21 Fel y dysgon ni o brofiadau’r bobl ifanc yn yr erthygl hon, does dim rhaid inni ofni Satan na’r cythreuliaid. Mae’n wir eu bod nhw’n bwerus, ond dydyn nhw ddim yn fwy pwerus na Jehofa. A fyddan nhw ddim yn byw am byth. Byddan nhw’n cael eu carcharu a fyddan nhw ddim yn gallu niweidio neb yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist ac, ar ôl hynny, byddan nhw’n cael eu dinistrio. (Datguddiad 20:1-3, 7-10) Rydyn ni’n adnabod ein gelyn, ac yn gwybod am ei driciau a’i fwriadau. Gyda help Jehofa, gallwn ni ei wrthsefyll!