Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Jehofa yn Caru’r Rhai Sy’n “Dwyn Ffrwyth Trwy Ddyfalbarhad”

Mae Jehofa yn Caru’r Rhai Sy’n “Dwyn Ffrwyth Trwy Ddyfalbarhad”

“Ond hwnnw yn y tir da, dyna’r sawl sy’n . . . dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.”—LUC 8:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CANEUON: 68, 72

1, 2. (a) Pam rydyn ni’n cael ein calonogi gan frodyr a chwiorydd sy’n dal ati i bregethu mewn ardaloedd lle nad oes llawer yn gwrando? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth ddywedodd Iesu am bregethu “yn y dre lle cafodd ei fagu”? (Gweler y troednodyn.)

CWPL ydy Sergio ac Olinda sy’n arloesi yn yr Unol Daleithiau. Mae’r ddau ohonyn nhw dros eu hwyth deg. Yn ddiweddar, mae eu coesau yn brifo ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gerdded. Ond, fel maen nhw wedi ei wneud am flynyddoedd, maen nhw’n cerdded i sgwâr prysur yn y dref am saith o’r gloch yn y bore. Maen nhw’n mynd i’w lle wrth y safle bws ac yn cynnig ein cyhoeddiadau i bobl sy’n cerdded heibio. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu hanwybyddu, ond mae Sergio ac Olinda yn aros yn y lle hwnnw ac yn gwenu ar bawb sy’n edrych arnyn nhw. Hanner dydd, maen nhw’n cerdded adref yn araf deg. Trannoeth, am saith o’r gloch, maen nhw yn eu holau wrth y safle bws. Maen nhw’n pregethu chwech bore bob wythnos, drwy gydol y flwyddyn.

2 Mae ’na lawer o frodyr a chwiorydd ffyddlon fel Sergio ac Olinda sydd wedi bod yn pregethu yn eu milltir sgwâr am flynyddoedd maith, er nad ydy’r rhan fwyaf o bobl yn gwrando. Efallai dy fod tithau yn pregethu mewn tiriogaeth o’r fath. Os felly, rydyn ni’n dy ganmol am iti ddal ati i bregethu er ei bod hi’n anodd. * (Gweler y troednodyn.) Mae dy esiampl yn calonogi llawer o frodyr a chwiorydd, hyd yn oed y rhai sydd â blynyddoedd o brofiad. Sylwa ar beth mae rhai arolygwyr cylchdaith wedi ei ddweud: “Pan fydda i’n gweithio gyda brodyr a chwiorydd ffyddlon yn y weinidogaeth, mae eu hesiampl yn rhoi egni imi.” “Mae eu ffyddlondeb yn fy annog i ddyfalbarhau a bod yn ddewr wrth bregethu.” “Mae eu hesiampl yn eli i’r galon.”

3. Pa dri chwestiwn byddwn ni’n eu hystyried, a pham?

3 Bydd yr erthygl hon yn ateb tri chwestiwn: Pam rydyn ni o bryd i’w gilydd yn digalonni? Beth mae dwyn ffrwyth yn ei olygu? Beth fydd yn ein helpu i ddwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhau? Bydd gwybod yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein hannog i ddal ati yn y gwaith pregethu y mae Iesu wedi gofyn inni ei wneud.

PAM EFALLAI RYDYN NI’N DIGALONNI?

4. (a) Sut roedd ymateb negyddol y rhan fwyaf o’r Iddewon yn gwneud i Paul deimlo? (b) Pam roedd Paul yn teimlo felly?

4 Wyt ti erioed wedi teimlo’n ddigalon oherwydd bod pobl yn dy ardal ddim eisiau gwrando ar neges y Deyrnas? Os wyt ti, byddi di’n cydymdeimlo â’r apostol Paul. Treuliodd tua 30 o flynyddoedd yn pregethu, a gwnaeth helpu llawer o bobl i ddod yn Gristnogion. (Actau 14:21; 2 Corinthiaid 3:2, 3) Ond, er hynny, doedd Paul ddim yn gallu helpu llawer o Iddewon i ddod yn Gristnogion. Gwnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw wrthod gwrando ar Paul, a gwnaeth rhai ohonyn nhw ei erlid hyd yn oed. (Actau 14:19; 17:1, 4, 5, 13) Sut roedd Paul yn teimlo am hynny? Dywedodd ei fod yn ddigalon ac yn poeni ar hyd yr amser. (Rhufeiniaid 9:1-3) Pam roedd yn teimlo felly? Oherwydd ei fod wrth ei fodd yn pregethu ac yn caru pobl. Roedd Paul yn wirioneddol yn caru’r Iddewon ac roedd yn teimlo’n drist pan wnaethon nhw wrthod trugaredd Duw.

5. (a) Beth sy’n dy gymell di i bregethu? (b) Pam mae hi’n naturiol i deimlo’n ddigalon ar brydiau?

5 Fel Paul, rydyn ninnau hefyd yn pregethu i bobl oherwydd ein bod ni’n eu caru nhw ac eisiau eu helpu. (Mathew 22:39; 1 Corinthiaid 11:1) Rydyn ni’n gwybod o’n profiad ni’n hunain mai gwasanaethu Jehofa ydy’r ffordd orau o fyw. Ac rydyn ni eisiau helpu eraill i weld cymaint yn well y gallai eu bywydau fod! Dyna pam rydyn ni’n dal i’w hannog nhw i ddysgu’r gwirionedd am Jehofa a’i fwriad ar gyfer dynolryw. Mae fel petawn ni’n cynnig anrheg iddyn nhw ac yn erfyn arnyn nhw i’w chymryd. Felly, pan fyddan nhw’n gwrthod yr anrheg honno, mae hi’n naturiol i deimlo’n ddigalon fel yr oedd Paul yn ei wneud. Rydyn ni’n teimlo’r boen, nid oherwydd bod gennyn ni ddiffyg ffydd, ond oherwydd ein bod ni’n wirioneddol yn caru pobl. Felly, er ein bod ni weithiau’n teimlo’n ddigalon, rydyn ni’n dal ati i bregethu. Efallai ein bod ni’n cytuno ag Elena sydd wedi bod yn arloesi am 25 o flynyddoedd ac sy’n dweud: “Rydw i’n ei chael hi’n anodd pregethu. Ond eto does ’na ddim gwaith arall y byddai’n well gen i ei wneud.”

BETH MAE DWYN FFRWYTH YN EI OLYGU?

6. Pa gwestiwn y byddwn yn ei ateb nawr?

6 Pam gallwn fod yn sicr ei bod hi’n bosib inni lwyddo yn ein gweinidogaeth le bynnag rydyn ni’n pregethu? Er mwyn ateb y cwestiwn pwysig hwnnw, gad inni drafod dwy o eglurebau Iesu lle mae’n siarad am bwysigrwydd “dwyn ffrwyth.” (Mathew 13:23, BCND) Mae’r eglureb gyntaf yn sôn am winwydden.

7. (a) Yn eglureb Iesu, pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y “garddwr,” y “winwydden,” a’r “canghennau”? (b) Pa gwestiwn sydd eto heb ei ateb?

7 Darllen Ioan 15:1-5, 8Yn yr eglureb hon, esboniodd Iesu mai Jehofa ydy’r “garddwr,” mai Iesu Grist ydy’r “winwydden,” ac mai ei ddisgyblion ydy’r “canghennau.” * (Gweler y troednodyn.) Yna dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.” Felly, beth mae bywyd sy’n dwyn ffrwyth yn ei olygu? Yn yr eglureb hon, wnaeth Iesu ddim dweud yn benodol beth oedd y ffrwyth, ond fe wnaeth roi cliw sy’n ein helpu i ddod o hyd i’r ateb.

8. (a) Yn eglureb Iesu, pam nad ydy “dwyn ffrwyth” yn golygu gwneud disgyblion newydd? (b) Beth sy’n wir am bopeth y mae Jehofa yn gofyn inni ei wneud?

8 Dywedodd Iesu am ei Dad: “Mae’n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni.” Felly, rydyn ni’n cael bod yn weision i Jehofa dim ond os ydyn ni’n dwyn ffrwyth. (Mathew 13:23, BCND; 21:43) Felly, yn yr eglureb hon dydy dwyn ffrwyth ddim yn golygu gwneud disgyblion newydd. (Mathew 28:19) Petai’n golygu hynny, byddai Tystion ffyddlon sydd heb helpu rhywun i ddod yn ddisgybl i Iesu yn debyg i’r canghennau hynny sydd heb dwyn ffrwyth. Ond ni all hynny fod yn wir! Pam? Oherwydd ni allwn orfodi pobl i ddod yn ddisgyblion. Mae Jehofa yn llawn cariad. Byddai byth yn gofyn inni wneud rhywbeth nad ydyn ni’n gallu ei wneud. Mae’n gofyn inni wneud dim ond yr hyn rydyn ni’n gallu.—Deuteronomium 30:11-14.

9. (a) Sut rydyn ni’n dwyn ffrwyth? (b) Pa eglureb y byddwn ni’n ei thrafod nesaf?

9 Beth, felly, mae dwyn ffrwyth yn ei olygu? Mae’n rhaid iddo olygu rhywbeth y gall pob un ohonon ni ei wneud. Pa waith mae Jehofa wedi ei roi i bob un o’i weision? Pregethu’r newyddion da. * (Gweler y troednodyn.) (Mathew 24:14) Mae dameg Iesu am yr heuwr yn gwneud hyn yn glir. Gad inni ei thrafod nesaf.

10. (a) Beth ydy’r had a’r tir yn nameg Iesu? (b) Beth mae gwellt gwenith yn ei gynhyrchu?

10 Darllen Luc 8:5-8, 11-15. (BCND) Yn nameg yr heuwr, mae Iesu yn esbonio mai’r “had yw gair Duw,” neu’r neges am y Deyrnas. Y tir ydy calon person. Gwnaeth yr had a syrthiodd ar dir da wreiddio, tyfu, a “chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Petai’r planhigyn hwnnw’n welltyn gwenith, pa fath o ffrwyth y byddai yn ei gynhyrchu? Mwy o wellt gwenith? Na fyddai, oherwydd y byddai’n cynhyrchu hadau, a fydd ymhen amser yn tyfu’n wenith. Yn y ddameg hon, mae un hedyn yn cynhyrchu 100 o hadau. Beth mae hyn yn ein dysgu am ein gweinidogaeth?

Sut rydyn ni’n “dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad”? (Gweler paragraff 11)

11. (a) Beth mae dameg yr heuwr yn ei ddysgu am ein gweinidogaeth? (b) Sut rydyn ni’n cynhyrchu had newydd?

11 Pan wnaeth ein rhieni neu Dystion eraill ein dysgu ni am Deyrnas Dduw am y tro cyntaf, roedd fel petaen nhw wedi plannu hedyn mewn tir da. Roedden nhw’n hapus pan welon nhw ein bod ni wedi derbyn y neges. Gwnaeth yr hedyn hwnnw dyfu a thyfu nes iddo fod yn barod i ddwyn ffrwyth. Fel yn achos y gwelltyn gwenith sydd ddim yn cynhyrchu gwellt gwenith newydd, ond hadau newydd, dydyn ninnau ddim yn cynhyrchu disgyblion newydd, ond hadau newydd. * (Gweler y troednodyn.) Sut rydyn ni’n gwneud hynny? Bob amser rydyn ni’n dweud wrth eraill am Deyrnas Dduw, mae fel petawn ni’n amlhau ac yn gwasgaru’r had a blannwyd yn ein calon ni. (Luc 6:45; 8:1) Cyn belled â’n bod ni’n dal i bregethu’r neges, rydyn ni’n “dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.”

12. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eglurebau Iesu am y winwydden a’r heuwr? (b) Sut mae’r wers honno yn gwneud iti deimlo?

12 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eglurebau Iesu sy’n sôn am y winwydden a’r heuwr? Rydyn ni’n dysgu tydi “dwyn ffrwyth” ddim yn dibynnu ar bobl yn gwrando neu beidio. Mae’n dibynnu arnon ninnau’n parhau i bregethu. Dywedodd Paul rywbeth tebyg pan esboniodd: “Mae’r plannwr a’r dyfriwr eisiau’r un peth. A bydd y ddau yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain.” (1 Corinthiaid 3:8) Bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni am ein gwaith, nid am ganlyniadau ein gwaith. Mae Matilda, sydd wedi bod yn arloesi am 20 mlynedd, yn dweud: “Mae gwybod bod Jehofa yn gwobrwyo ein hymdrechion yn rhoi llawenydd mawr imi.”

SUT MAE DWYN FFRWYTH TRWY DDYFALBARHAD?

13, 14. Yn ôl Rhufeiniaid 10:1, 2, pam na wnaeth Paul byth stopio pregethu?

13 Beth fydd yn ein helpu ni i “ddwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad”? Gad inni edrych ar esiampl Paul yn fanylach. Rydyn ni’n gwybod bod Paul wedi digalonni oherwydd bod yr Iddewon wedi gwrthod y neges am y Deyrnas. Fodd bynnag, ni wnaeth Paul byth stopio pregethu iddyn nhw. Eglurodd sut roedd yn teimlo am yr Iddewon hynny pan ddywedodd: “Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. Galla i dystio eu bod nhw’n frwdfrydig dros Dduw, ond dyn nhw ddim wedi deall y gwirionedd.” (Rhufeiniaid 10:1, 2) Pam felly y gwnaeth Paul ddal ati i bregethu?

14 Yn gyntaf, dywedodd Paul ei fod yn cael ei gymell i bregethu i’r Iddewon oherwydd ei fod yn “dyheu o waelod calon” i wneud hynny. Roedd eisiau iddyn nhw gael eu hachub. (Rhufeiniaid 11:13, 14) Yn ail, soniodd ei fod wedi bod yn “gweddïo ar Dduw” drostyn nhw. Erfyniodd Paul ar Jehofa i helpu Iddewon unigol i dderbyn y neges am y Deyrnas. Yn drydydd, dywedodd Paul “eu bod nhw’n frwdfrydig dros Dduw.” Roedd Paul yn gweld y daioni mewn pobl a’u potensial i wasanaethu Jehofa. Roedd yn gwybod y gallai’r Iddewon selog hynny ddod yn ddisgyblion selog i Grist, fel y gwnaeth yntau.

15. Sut gallwn ni efelychu Paul? Rho esiamplau.

15 Sut gallwn ni efelychu Paul? Yn gyntaf, mae’n rhaid inni fod eisiau dod o hyd i’r rhai sydd eisiau cael bywyd tragwyddol. Yn ail, rydyn ni’n erfyn ar Jehofa er mwyn iddo helpu pobl ddiffuant i wrando pan fyddwn ni’n pregethu iddyn nhw. (Actau 13:48; 16:14) Dyna beth mae Silvana, sydd wedi bod yn arloesi am 30 mlynedd bron, wedi ei wneud. Mae hi’n dweud: “Cyn imi fynd i’r tŷ cyntaf, dw i’n gweddïo ar Jehofa ac yn gofyn iddo roi agwedd bositif imi.” Rydyn ni hefyd yn gweddïo er mwyn i’r angylion ein helpu ni i ddod o hyd i bobl sy’n fodlon gwrando. (Mathew 10:11-13; Datguddiad 14:6) Mae Robert, sydd wedi bod yn arloesi am 30 mlynedd a mwy, yn dweud: “Mae cydweithio ag angylion sy’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen ym mywydau pobl yn gyffrous.” Yn drydydd, rydyn ni’n ceisio gweld y daioni mewn pobl a’u potensial i wasanaethu Jehofa. Mae Carl, henuriad a gafodd ei fedyddio dros 50 mlynedd yn ôl, yn dweud: “Dw i’n edrych am yr arwydd lleiaf fod gan y person ddiddordeb, sef gwên, natur garedig, neu gwestiwn gonest.” Os ydyn ni’n gwneud hyn, rydyn ni’n gallu “dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad,” fel y gwnaeth Paul.

PAID Â SEGURA

16, 17. (a) Beth yw’r wers y mae Pregethwr 11:6 yn ei ddysgu inni? (b) Pa effaith y gall ein pregethu ei chael ar y rhai sy’n ein gwylio?

16 Ddylen ni byth anghofio bod ein pregethu yn gallu cael effaith ar bobl, hyd yn oed os ydy hi’n ymddangos fel nad oes neb yn gwrando. (Darllen Pregethwr 11:6.) Mae pobl yn ein gwylio. Maen nhw’n sylwi ein bod ni’n gwisgo’n smart, a’n bod ni’n gwrtais ac yn gyfeillgar. Gall hyn wneud argraff dda arnyn nhw ac, ymhen amser, gall rhai sydd ag agwedd negyddol tuag aton ni ddechrau cael agwedd bositif tuag aton ni. Gwnaeth Sergio ac Olinda sylweddoli bod hyn yn wir.

17 Dywedodd Sergio: “Oherwydd salwch, aethon ni ddim i’r sgwâr am gyfnod. Ar ôl dod yn ôl, dyma rywun yn gofyn: ‘Beth ddigwyddodd? Mae hi wedi bod yn chwith hebddach chi.’” Mae Olinda yn gwenu wrth ddweud: “Gwnaeth y gyrwyr bysus godi llaw arnon ni a dyma ambell un yn gweiddi o’r bws, ‘Gwaith da!’ Gwnaethon nhw ofyn am ein cylchgronau hyd yn oed.” Roedd Sergio ac Olinda yn syfrdan pan ddaeth dyn at y troli llyfrau a rhoi tusw o flodau iddyn nhw, gan ddiolch iddyn nhw am eu gwaith.

18. Pam rwyt ti’n benderfynol o fod yn “dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad”?

18 Cyhyd â’n bod ni’n peidio â gorffwys rhag dweud wrth eraill am Deyrnas Dduw, mae gennyn ni ran bwysig yn y gwaith o dystiolaethu “drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Yn bennaf oll, mae gwybod dy fod ti’n gwneud Jehofa yn hapus yn dod â llawenydd mawr iti. Mae Duw yn caru pawb sy’n “dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad”!

^ Par. 2 Dywedodd Iesu fod pregethu “yn y dre lle cafodd ei fagu” wedi bod yn anodd. Cofnodwyd hyn ym mhob un o’r pedair efengyl.—Mathew 13:57; Marc 6:4; Luc 4:24; Ioan 4:44.

^ Par. 7 Er bod y canghennau yn yr eglureb hon yn cyfeirio at Gristnogion sy’n mynd i’r nefoedd, mae’r eglureb yn gallu dysgu gwersi i bob un o weision Duw.

^ Par. 9 Gall yr ymadrodd “dwyn ffrwyth” hefyd gyfeirio at feithrin ffrwyth yr ysbryd. Fodd bynnag, mae’r erthygl hon a’r un nesaf yn canolbwyntio ar “ffrwyth gwefusau,” neu bregethu am Deyrnas Dduw.—Galatiaid 5:22, 23; Hebreaid 13:15, BCND.

^ Par. 11 Ar adegau eraill, gwnaeth Iesu ddefnyddio hau a medi i egluro’r gwaith o wneud disgyblion.—Mathew 9:37; Ioan 4:35-38.