Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Rydyn Ni’n Parhau i Ddwyn Ffrwyth?

Pam Rydyn Ni’n Parhau i Ddwyn Ffrwyth?

“Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.”—IOAN 15:8.

CANEUON: 53, 60

1, 2. (a) Beth wnaeth Iesu ei drafod â’i ddisgyblion y noson cyn iddo farw? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pam mae’n bwysig inni gofio’r rhesymau dros bregethu? (c) Beth fyddwn ni’n ei drafod?

Y NOSON cyn i Iesu farw, siaradodd â’i apostolion am yn hir. Dywedodd wrthyn nhw ei fod yn eu caru yn fawr iawn. Hefyd, soniodd wrthyn nhw am eglureb y winwydden, a drafodwyd yn yr erthygl flaenorol. Roedd Iesu eisiau i fywydau ei ddisgyblion fod yn “llawn ffrwyth,” hynny yw, iddyn nhw barhau i bregethu’r neges am Deyrnas Dduw.—Ioan 15:8.

2 Ond, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion nid yn unig yr hyn yr oedd rhaid iddyn nhw ei wneud ond hefyd pam roedd rhaid iddyn nhw ei wneud. Rhoddodd iddyn nhw resymau dros barhau i bregethu. Pwysig yw cofio pam mae angen parhau i bregethu. Bydd meddwl am hyn yn ein hysgogi i ddyfalbarhau wrth bregethu’r newyddion da fel bod “pob gwlad yn ei glywed.” (Mathew 24:13, 14) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedwar rheswm ysgrythurol dros bregethu. Byddwn ni hefyd yn trafod pedair anrheg oddi wrth Jehofa sy’n ein helpu i ddal ati i ddwyn ffrwyth.

CLODFORI JEHOFA

3. (a) Yn ôl Ioan 15:8, beth ydy’r rheswm pwysicaf dros bregethu? (b) Beth mae’r grawnwin yn eglureb Iesu yn ei gynrychioli, a pham mae’r gymhariaeth hon yn briodol?

3 Y rheswm pwysicaf dros bregethu ydy ein bod ni eisiau clodfori Jehofa a sancteiddio ei enw. (Darllen Ioan 15:1, 8.) Pan soniodd am y winwydden, gwnaeth Iesu gymharu Jehofa â garddwr sy’n tyfu grawnwin. Dywedodd Iesu mai ef ei hun oedd y winwydden a’i ddilynwyr oedd y canghennau. (Ioan 15:5) Felly, yn yr eglureb hon, mae’r grawnwin yn cynrychioli’r ffrwyth mae dilynwyr Iesu yn ei gynhyrchu, neu’r gwaith pregethu maen nhw’n ei wneud. Dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth . . . a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.” Pan fydd gwinwydden yn cynhyrchu grawnwin da, mae’n dod â chlod i’r garddwr. Yn yr un modd, pan ydyn ni’n gwneud ein gorau i bregethu’r neges, rydyn ni’n clodfori Jehofa.—Mathew 25:20-23.

4. (a) Sut rydyn ni’n sancteiddio enw Duw? (b) Sut rwyt ti’n teimlo am gael y fraint o sancteiddio enw Duw?

4 Mae enw Duw eisoes yn sanctaidd. Does dim modd inni ei wneud yn fwy sanctaidd. Felly, sut rydyn ni’n sancteiddio enw Duw wrth inni bregethu? Sylwa ar eiriau’r proffwyd Eseia: “Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy’r un i’w barchu.” (Eseia 8:13) Rydyn ni’n sancteiddio enw Duw, Jehofa, pan ydyn ni’n cydnabod mai’r enw hwnnw yw’r enw gorau a fu erioed a phan ydyn ni’n helpu eraill i ddeall ei fod yn sanctaidd. (Mathew 6:9) Er enghraifft, pan ydyn ni’n dysgu eraill am rinweddau hyfryd Jehofa ac am ei bwrpas ar gyfer dynolryw, rydyn ni’n eu helpu nhw i weld bod yr holl bethau drwg a ddywedodd Satan am Jehofa yn gelwyddau. (Genesis 3:1-5) Hefyd, sancteiddiwn enw Duw drwy helpu pobl i weld bod Jehofa yn “deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth.” (Datguddiad 4:11) Mae Rune, sydd wedi bod yn arloesi am 16 mlynedd, yn dweud: “Mae gwybod fy mod i wedi cael y cyfle i fod yn un o Dystion Creawdwr y bydysawd yn fy ngwneud i’n ddiolchgar. Mae’n gwneud i mi eisiau dal ati i bregethu.”

CARU JEHOFA A’I FAB

5. (a) Pa resymau dros bregethu sy’n cael eu trafod yn Ioan 15:9, 10? (b) Sut helpodd Iesu ei ddisgyblion i ddeall y byddai’n rhaid iddyn nhw ddyfalbarhau?

5 Darllen Ioan 15:9, 10. Yr ail reswm dros bregethu’r neges am y Deyrnas ydy ein bod ni’n caru Jehofa ac Iesu. (Marc 12:30; Ioan 14:15) Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Arhoswch yn fy nghariad i.” Pam dywedodd Iesu hyn? Oherwydd roedd yn gwybod y byddai angen dyfalbarhad ar ei ddilynwyr er mwyn iddyn nhw allu byw fel gwir Gristnogion. Yn wir, yn Ioan 15:4-10, rydyn ni’n gweld bod Iesu wedi defnyddio ffurfiau o’r gair “aros” lawer o weithiau i helpu ei ddisgyblion i ddeall y byddai’n rhaid iddyn nhw ddyfalbarhau.

6. Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni eisiau aros yng nghariad Crist?

6 Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni eisiau aros yng nghariad Crist a chael ei gymeradwyaeth? Trwy fod yn ufudd iddo. Mae Iesu yn gofyn inni wneud dim ond yr hyn a wnaeth ef ei hun. Dywedodd: “Dw i wedi bod yn ufudd i’m Tad ac wedi aros yn ei gariad e.” Mae Iesu yn gosod yr esiampl ar ein cyfer.—Ioan 13:15.

7. Sut mae bod yn ufudd yn gysylltiedig â chariad?

7 Gwnaeth Iesu ddangos yn glir fod ufuddhau yn gysylltiedig â chariad pan ddywedodd: “Y rhai sy’n derbyn beth dw i’n ddweud ac yn gwneud hynny ydy’r rhai sy’n fy ngharu i.” (Ioan 14:21) Mae gorchmynion Iesu yn dod oddi wrth ei Dad, felly, pan ydyn ni’n ufuddhau i orchymyn Iesu i bregethu, rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni’n caru Jehofa. (Mathew 17:5; Ioan 8:28) A phan ydyn ni’n dangos i Jehofa ac Iesu ein bod ni yn eu caru, maen nhw’n ein cadw ninnau yn eu cariad.

RHYBUDDIO ERAILL

8, 9. (a) Pa reswm arall sydd gennyn ni dros bregethu? (b) Sut mae geiriau Jehofa yn Eseciel 3:18, 19 ac 18:23 yn ein hysgogi i ddal ati i bregethu?

8 Y trydydd rheswm dros bregethu ydy i rybuddio eraill am ddydd Jehofa. Mae’r Beibl yn disgrifio Noa yn “galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.” (Darllen 2 Pedr 2:5.) Cyn i’r Dilyw ddod, mae’n debyg fod neges Noa i’r bobl wedi cynnwys rhybudd am y dinistr a oedd am ddod. Pam rydyn ni’n dweud hynny? Oherwydd dywedodd Iesu: “Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad * (Gweler y troednodyn.) beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna’n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.” (Mathew 24:38, 39) Er bod y rhan fwyaf o’r bobl wedi anwybyddu Noa, parhaodd yn ffyddlon i bregethu’r neges o rybudd a roddodd Jehofa iddo.

9 Heddiw, rydyn ni’n pregethu am y Deyrnas er mwyn rhoi cyfle i bobl ddysgu am beth fydd Duw yn ei wneud ar gyfer bodau dynol yn y dyfodol. Fel Jehofa, rydyn ni wir eisiau i bobl wrando ar y neges “a chael byw.” (Eseciel 18:23) Pan ydyn ni’n pregethu o dŷ i dŷ ac mewn mannau cyhoeddus, rydyn ni’n rhybuddio cymaint o bobl â phosib y bydd Teyrnas Dduw yn dod ac yn dinistrio’r byd drwg hwn.—Eseciel 3:18, 19; Daniel 2:44; Datguddiad 14:6, 7.

RYDYN NI’N CARU POBL

10. (a) Pa resymau dros bregethu sy’n cael eu trafod yn Mathew 22:39? (b) Sut gwnaeth Paul a Silas helpu swyddog y carchar yn Philipi?

10 Y pedwerydd rheswm dros barhau i bregethu ydy ein bod ni’n caru pobl. (Mathew 22:39) Mae’r cariad hwn yn ein helpu i ddal ati i bregethu oherwydd rydyn ni’n gwybod y gall pobl newid eu hagwedd pan fydd eu hamgylchiadau’n newid. Er enghraifft, gwnaeth gwrthwynebwyr daflu Paul a Silas i’r carchar yn Philipi. Ond yng nghanol y nos, dyma ddaeargryn yn ysgwyd y carchar ac yn agor y drysau. Roedd swyddog y carchar wedi ofni gymaint fel ei fod eisiau ei ladd ei hun oherwydd iddo feddwl bod y carcharorion wedi dianc. Ond gwnaeth Paul ei stopio a gweiddi: “Paid!” Gofynnodd swyddog y carchar: “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?” Dywedodd Paul a Silas wrtho: “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub.”—Actau 16:25-34.

Rydyn ni’n pregethu oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, Iesu, a phobl (Gweler paragraffau 5, 10)

11, 12. (a) Beth mae’r hanes am swyddog y carchar yn ein dysgu am ein gweinidogaeth? (b) Pam rydyn ni eisiau dal ati i bregethu?

11 Beth mae’r hanes hwn yn ein dysgu am y gwaith pregethu? Sylwa mai dim ond ar ôl y daeargryn gwnaeth swyddog y carchar newid ei agwedd a gofyn am help. Yn yr un ffordd, efallai bydd rhai pobl sydd ddim eisiau gwrando ar neges y Beibl yn newid eu hagwedd ac yn ceisio help pan fydd trasiedi yn digwydd. Er enghraifft, efallai bydd rhai mewn sioc oherwydd iddyn nhw gael ysgariad neu golli eu swydd. Gall eraill deimlo’n drist ar ôl cael gwybod bod ganddyn nhw salwch difrifol neu fod rhywun annwyl iddyn nhw wedi marw. Pan fydd y fath bethau’n digwydd, efallai bydd pobl yn dechrau gofyn cwestiynau am fywyd nad oedden nhw wedi eu gofyn o’r blaen. Efallai byddan nhw’n meddwl, ‘Beth sy’n rhaid imi ei wneud er mwyn cael fy achub?’ Efallai byddan nhw eisiau gwrando ar ein neges o obaith am y tro cyntaf yn eu bywydau.

12 Felly, os ydyn ni’n parhau i bregethu’n ffyddlon, byddwn ni ar gael pan fydd pobl yn barod i gael eu cysuro. (Eseia 61:1) Mae Charlotte, sydd wedi bod yn arloesi am 38 o flynyddoedd, yn dweud: “Mae pobl heddiw ar goll. Maen nhw angen y cyfle i glywed y newyddion da.” Mae Ejvor, sydd wedi bod yn arloesi am 34 o flynyddoedd, yn dweud: “Heddiw, yn fwy nag erioed, mae llawer o bobl yn teimlo’n isel. Rydw i wir eisiau eu helpu. Mae hynny yn fy ysgogi i bregethu.” Felly, mae’n amlwg fod cariad tuag at bobl yn rheswm arbennig dros barhau i bregethu!

ANRHEGION SY’N EIN HELPU I DDYFALBARHAU

13, 14. (a) Pa anrheg sy’n cael ei thrafod yn Ioan 15:11? (b) Sut rydyn ni’n gallu cael yr un llawenydd â Iesu? (c) Sut mae llawenydd yn ein helpu yn ein gweinidogaeth?

13 Yn ystod y noson cyn iddo farw, soniodd Iesu hefyd am anrhegion a fyddai yn helpu ei apostolion i ddal ati i ddwyn ffrwyth. Beth ydy’r anrhegion hyn, a sut gallan nhw ein helpu heddiw?

14 Llawenydd. A ydy pregethu yn faich inni? Nac ydy. Ar ôl i Iesu adrodd yr eglureb am y winwydden, dywedodd byddwn ni’n rhannu yn ei lawenydd drwy bregethu. (Darllen Ioan 15:11.) Sut mae hynny’n bosib? Cofia, yn yr eglureb, gwnaeth Iesu ei gymharu ei hun â gwinwydden a’i ddisgyblion â changhennau. Mae’r canghennau yn cael y dŵr a’r maeth maen nhw’n eu hangen dim ond os ydyn nhw wedi eu cysylltu â’r winwydden. Yn yr un modd, os ydyn ni’n aros yn unedig â Iesu a dilyn ei esiampl, bydd gennyn ni’r un llawenydd ag ef, y llawenydd sy’n dod o wneud ewyllys Duw. (Ioan 4:34; 17:13; 1 Pedr 2:21) Mae Hanne, sydd wedi bod yn arloesi am dros 40 mlynedd, yn dweud: “Mae’r llawenydd rydw i’n ei deimlo ar ôl bod ar y weinidogaeth yn rhoi hwb imi i ddal ati yng ngwasanaeth Jehofa.” Bydd llawenydd yn rhoi’r cryfder inni i barhau i bregethu hyd yn oed pan na fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwrando.—Mathew 5:10-12.

15. (a) Pa anrheg sy’n cael ei thrafod yn Ioan 14:27? (b) Sut mae heddwch yn ein helpu i ddal ati i bregethu?

15 Heddwch. (Darllen Ioan 14:27.) Yn gynharach yn ystod y noson cyn i Iesu farw, dywedodd wrth ei apostolion: “Dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i.” Sut gall heddwch Iesu ein helpu i barhau i bregethu? Pan ydyn ni’n parhau i bregethu, rydyn ni’n teimlo heddwch oherwydd inni wybod ein bod ni’n gwneud Jehofa ac Iesu’n hapus. (Salm 149:4; Rhufeiniaid 5:3, 4; Colosiaid 3:15) Mae Ulf, sydd wedi bod yn arloesi am 45 mlynedd, yn dweud: “Mae’r gwaith pregethu yn flinedig, ond, mae’n dod â boddhad ac yn gwneud fy mywyd yn ystyrlon.” Rydyn ni mor ddiolchgar ein bod ni, o’r diwedd, wedi dod o hyd i heddwch!

16. (a) Pa anrheg sy’n cael ei thrafod yn Ioan 15:15? (b) Sut gallai’r apostolion aros yn ffrindiau i Iesu?

16 Cyfeillgarwch. Ar ôl i Iesu ddweud wrth ei apostolion ei fod eisiau iddyn nhw fod yn llawen, soniodd am bwysigrwydd cariad anhunanol. (Ioan 15:11-13) Yna dywedodd: “Ffrindiau i mi ydych chi.” Braint fawr ydy cael bod yn ffrind i Iesu! Ond, sut gallai’r apostolion aros yn ffrindiau iddo? Dywedodd Iesu wrthyn nhw i “fynd allan a byw bywydau ffrwythlon.” (Darllen Ioan 15:14-16.) Hynny yw, dal ati i bregethu. Tua dwy flynedd cyn hynny, dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Dyma’r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.’” (Mathew 10:7) Dyna pam, ar y noson cyn ei farwolaeth, anogodd Iesu ei ddisgyblion i ddyfalbarhau yn y gwaith pregethu. (Mathew 24:13; Marc 3:14) Wrth gwrs, roedd Iesu yn gwybod na fyddai ufuddhau i’r gorchymyn hwn yn hawdd. Ond roedden nhw’n gallu gwneud hyn ac aros yn ffrindiau iddo. Sut? Gyda chymorth anrheg arall.

17, 18. (a) Pa anrheg sy’n cael ei thrafod yn Ioan 15:7? (b) Sut gwnaeth yr anrheg honno helpu disgyblion Iesu? (c) Pa anrhegion sy’n ein helpu ni heddiw?

17 Cael atebion i’n gweddïau. Dywedodd Iesu: “Gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael.” (Ioan 15:7, 16) Mae’n debyg fod addewid Iesu wedi cryfhau’r apostolion! * (Gweler y troednodyn.) Doedd yr apostolion ddim wir yn deall y byddai Iesu yn marw’n fuan. Ond ni fyddai ei farwolaeth yn golygu na fyddan nhw’n cael help. Roedd Jehofa yn barod i ateb eu gweddïau a’u helpu yn eu gwaith pregethu. A dyna wnaeth Jehofa. Yn fuan ar ôl marwolaeth Iesu, erfyniodd yr apostolion ar Jehofa am anogaeth, ac atebodd Jehofa eu gweddïau.—Actau 4:29, 31.

Gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa’n ateb ein gweddïau am help (Gweler paragraff 18)

18 Mae’r un peth yn wir heddiw. Wrth ddal ati yn y gwaith pregethu, rydyn ni’n aros yn ffrindiau i Iesu. A gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn barod i ateb ein gweddïau am help pan fydd pregethu yn anodd. (Philipiaid 4:13, BCND) Rydyn ni mor ddiolchgar fod Jehofa’n ateb ein gweddïau a bod gennyn ni Iesu’n ffrind. Mae’r anrhegion hyn oddi wrth Jehofa yn ein cryfhau i ddal ati i ddwyn ffrwyth.—Iago 1:17.

19. (a) Pam rydyn ni’n parhau i bregethu? (b) Beth sy’n ein helpu i orffen y gwaith a roddwyd inni gan Dduw?

19 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi dysgu am bedwar rheswm dros barhau i bregethu: clodfori Jehofa a sancteiddio ei enw, dangos ein cariad tuag at Jehofa ac Iesu, rhybuddio eraill, a dangos ein bod ni’n caru pobl. Rydyn ni hefyd wedi dysgu am bedair anrheg: llawenydd, heddwch, cyfeillgarwch, ac atebion i’n gweddïau. Mae’r anrhegion hyn yn ein cryfhau i orffen y gwaith a roddwyd inni gan Dduw. Mae Jehofa mor hapus pan fydd yn ein gweld ni’n gweithio’n galed i fyw bywydau sy’n “llawn ffrwyth.”

^ Par. 8 Yn ôl Y Deonglydd Beirniadol, sef esboniad ar y Testament Newydd gan John Jones, gall yr ymadrodd hwn yn y Groeg gwreiddiol gael ei gyfieithu “‘nid ystyriasant;’ hynny yw, ni osodasant rybudd Noa at eu calonnau, hyd onid oedd yn rhy ddiweddar i gael budd oddi wrtho.”

^ Par. 17 Yn ystod ei sgwrs â’r apostolion, gwnaeth Iesu eu hatgoffa lawer o weithiau y byddai Jehofa yn ateb eu gweddïau.—Ioan 14:13; 15:7, 16; 16:23.