Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

Cariad a Chyfiawnder yn Wyneb Drygioni

Cariad a Chyfiawnder yn Wyneb Drygioni

“Dwyt ti ddim yn Dduw sy’n mwynhau drygioni; dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni.”—SALM 5:4.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

CIPOLWG *

1-3. (a) Yn ôl Salm 5:4-6, sut mae Jehofa yn teimlo am ddrygioni? (b) Pam gallwn ddweud bod cam-drin plant yn rhywiol yn groes i “Gyfraith Crist”?

MAE Jehofa Dduw yn casáu pob ffurf ar ddrygioni. (Darllen Salm 5:4-6.) Mae’n wir yn casáu cam-drin plant yn rhywiol—trosedd ffiaidd a chreulon! Fel Tystion, rydyn ni’n efelychu Jehofa ac yn casáu cam-drin plant yn rhywiol a dydyn ni ddim yn ei oddef yn y gynulleidfa Gristnogol.—Rhuf. 12:9; Heb. 12:15, 16, BCND.

2 Mae unrhyw weithred o gamdriniaeth rywiol yn hollol groes i “Gyfraith Crist”! (Gal. 6:2, BCND) Pam gallwn ddweud hynny? Fel y dysgon ni yn yr erthygl flaenorol, mae cyfraith Crist—hynny yw, popeth a ddysgodd Iesu inni mewn gair a gweithred—wedi ei hadeiladu ar gariad ac yn hyrwyddo cyfiawnder. Oherwydd bod gwir Gristnogion yn ufudd i’r gyfraith hon, maen nhw’n trin plant mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n saff a bod eraill yn wir yn eu caru. Ond mae cam-drin plant yn rhywiol yn weithred hunanol, anghyfiawn, sy’n gwneud i blant deimlo nad oes neb yn eu hamddiffyn nac yn eu caru.

3 Yn drist iawn, mae cam-drin plant yn rhywiol yn bla byd-eang, ac mae’r pla hwn wedi effeithio ar wir Gristnogion. Pam? Oherwydd bod “pobl ddrwg a thwyllwyr” yn rhemp, a gall rhai geisio dod i mewn i’r gynulleidfa. (2 Tim. 3:13) Ar ben hynny, mae rhai sy’n honni bod yn rhan o’r gynulleidfa wedi ildio i’w chwantau cnawdol gwyrdroëdig ac wedi cam-drin plant yn rhywiol. Gad inni drafod pam mae cam-drin plant yn rhywiol yn bechod mor ddifrifol. Yna, byddwn ni’n ystyried sut mae’r henuriaid yn delio ag achosion o ddrwgweithredu difrifol, gan gynnwys cam-drin plant yn rhywiol, a sut gall rhieni amddiffyn eu plant. *

PECHOD DIFRIFOL

4-5. Ym mha ffordd mae cam-drin plant yn rhywiol yn pechu’n erbyn y dioddefwr?

4 Mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio ar bobl am yn hir iawn. Mae’n effeithio ar y dioddefwyr a’r rhai sy’n gofalu am y dioddefwyr—aelodau’r teulu a’u brodyr a’u chwiorydd Cristnogol. Pechod difrifol iawn yw cam-drin plant yn rhywiol.

5 Pechu’n erbyn y dioddefwr. * Os yw rhywun yn brifo eraill ac yn achosi iddyn nhw ddioddef, maen nhw’n pechu. Fel y gwelwn ni yn yr erthygl nesaf, mae camdriniwr plant yn gwneud yr union beth hwnnw—mae’n brifo plentyn yn y ffordd fwyaf dinistriol. Mae’n bradychu hyder y plentyn ac yn chwalu ei ddiogelwch. Mae’n rhaid inni amddiffyn plant rhag gweithred mor ofnadwy, ac mae angen cysur a help ar y dioddefwyr.—1 Thes. 5:14.

6-7. Sut mae cam-drin plant yn rhywiol yn pechu’n erbyn y gynulleidfa ac yn erbyn yr awdurdodau seciwlar?

6 Pechu’n erbyn y gynulleidfa. Pan fydd rhywun sy’n rhan o’r gynulleidfa yn euog o gam-drin plant yn rhywiol, mae’n dwyn gwarth ar y gynulleidfa. (Math. 5:16; 1 Pedr 2:12) Annheg iawn yw hyn i’r miliynau o Gristnogion ffyddlon sy’n brwydro’n galed i “wneud safiad dros y ffydd”! (Jwd. 3) Dydyn ni ddim yn caniatáu i neb aros yn y gynulleidfa sy’n drwgweithredu heb edifarhau ac sy’n pardduo enw da’r gynulleidfa.

7 Pechu’n erbyn yr awdurdodau seciwlar. Mae Cristnogion “yn atebol i awdurdod y llywodraeth.” (Rhuf. 13:1) Dangoswn hyn drwy barchu deddfau gwlad. Os yw rhywun yn y gynulleidfa yn torri’r gyfraith, er enghraifft, drwy gam-drin plant yn rhywiol, mae’n pechu’n erbyn yr awdurdodau seciwlar. (Cymharer Act. 25:8) Er nad oes gan yr henuriaid yr hawl i weithredu cyfraith gwlad, dydyn nhw ddim yn gwarchod unrhyw un sydd wedi cam-drin plant rhag cael ei gosbi yn ôl y gyfraith. (Rhuf. 13:4) Mae’r pechadur yn medi’r hyn y mae wedi ei hau.—Gal. 6:7.

8. Sut mae Jehofa yn teimlo am unigolyn sy’n pechu’n erbyn unigolyn arall?

8 Yn fwy na dim, pechu’n erbyn Duw. (Salm 51:4) Pan fydd unigolyn yn pechu’n erbyn unigolyn arall, mae’n pechu hefyd yn erbyn Jehofa. Ystyria esiampl o’r Gyfraith a roddodd Duw i Israel. Yn ôl y Gyfraith, roedd dyn a fu’n twyllo ei gymydog neu’n dwyn oddi arno “yn troseddu” yn erbyn Jehofa. (Lef. 6:2-4) Felly, pan fydd rhywun sy’n rhan o’r gynulleidfa yn cam-drin plentyn yn rhywiol, mae’n dwyn diogelwch y plentyn oddi arno ac yn troseddu’n erbyn Duw. Yr hyn mae’r camdriniwr yn ei wneud ydy dod â chywilydd mawr ar enw Jehofa. Am y rheswm hwnnw, mae’n rhaid inni gondemnio cam-drin plant yn rhywiol oherwydd ei fod yn bechod difrifol yn erbyn Duw.

9. Pa wybodaeth Ysgrythurol y mae cyfundrefn Jehofa wedi ei darparu dros y blynyddoedd, a pham?

9 Dros y blynyddoedd, mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu toreth o wybodaeth Ysgrythurol ar y pwnc o gam-drin plant yn rhywiol. Er enghraifft, mae erthyglau yn y Tŵr Gwylio a Deffrwch! wedi trafod sut gall y rhai sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ddelio â’r creithiau emosiynol, sut gall eraill eu helpu a’u hannog, a sut gall rhieni amddiffyn eu plant. Mae henuriaid wedi derbyn hyfforddiant Ysgrythurol manwl ar sut i ddelio â’r pechod o gam-drin plant yn rhywiol. Mae’r gyfundrefn yn parhau i adolygu’r ffordd y mae cynulleidfaoedd yn delio â’r pechod hwn. Pam? Er mwyn sicrhau ein bod ni’n delio â’r sefyllfa mewn ffordd sy’n unol â chyfraith Crist.

DELIO Â DRWGWEITHREDU DIFRIFOL

10-12. (a) Wrth ddelio ag unrhyw ddrwgweithredu difrifol, beth mae’n rhaid i’r henuriaid ei gadw mewn cof, a beth yw eu prif nod? (b) Yn ôl Iago 5:14, 15, beth mae’r henuriaid yn ceisio ei wneud?

10 Pan fydd henuriaid yn delio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â drwgweithredu difrifol, maen nhw’n cadw mewn cof fod cyfraith Crist yn gofyn iddyn nhw drin y praidd â chariad ac iddyn nhw wneud yr hyn sy’n gyfiawn yng ngolwg Duw. O ganlyniad, mae’n rhaid iddyn nhw feddwl am nifer o bethau ar ôl dod i wybod bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol. Prif nod yr henuriaid yw anrhydeddu Jehofa ac amddiffyn ei enw da. (Lef. 22:31, 32; Math. 6:9) Yr hyn sydd o bwys mawr iddyn nhw hefyd yw lles ysbrydol eu brodyr a’u chwiorydd yn y gynulleidfa ac maen nhw eisiau helpu unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn rhywiol.

11 Yn ogystal, os yw’r drwgweithredwr yn rhan o’r gynulleidfa, bydd yr henuriaid yn ceisio adfer ei berthynas â Duw os yw hynny’n bosib. (Darllen Iago 5:14, 15.) Mae Cristion sy’n ildio i chwantau anghywir ac yn pechu’n ddifrifol yn sâl yn ysbrydol. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo mwyach berthynas iach â Jehofa. * Ar un olwg, mae’r henuriaid yn feddygon ysbrydol. Maen nhw’n ymdrechu er mwyn gweld “y claf [yn yr achos hwn, y drwgweithredwr] yn cael ei iacháu.” Gall eu cyngor Ysgrythurol ei helpu i adfer ei berthynas â Duw, ond mae hyn ond yn bosib os yw’n wir yn edifeiriol.—Act. 3:19; 2 Cor. 2:5-10.

12 Yn amlwg, mae’r henuriaid yn ysgwyddo cyfrifoldeb mawr. Mae ganddyn nhw gariad mawr tuag at y praidd y mae Duw wedi ei roi yn eu gofal. (1 Pedr 5:1-3) Maen nhw eisiau i’w brodyr a’i chwiorydd deimlo’n saff yn y gynulleidfa. Oherwydd hynny, maen nhw’n gweithredu’n brydlon pan fyddan nhw’n dod i wybod am unrhyw ddrwgweithredu difrifol, gan gynnwys cam-drin plant yn rhywiol. Rho sylw i’r cwestiynau sy’n ymddangos ar ddechrau paragraffau  13 15, ac  17.

13-14. Ydy’r henuriaid yn dilyn cyfreithiau seciwlar ynglŷn ag adrodd cyhuddiadau o gam-drin plant? Esbonia.

 13 A yw’r henuriaid yn ufuddhau i ddeddfau seciwlar ynglŷn â rhoi gwybod i’r awdurdodau seciwlar am gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol? Ydy, maen nhw. Mewn gwledydd lle mae cyfreithiau o’r fath yn bodoli, mae’r henuriaid yn ceisio bod yn ufudd i’r cyfreithiau seciwlar ynglŷn ag adrodd cyhuddiadau o gamdriniaeth. (Rhuf. 13:1) Dydy cyfreithiau o’r fath ddim yn tynnu’n groes i gyfraith Duw. (Act. 5:28, 29) Felly, pan fydd yr henuriaid yn dod i wybod am gyhuddiad, maen nhw’n cysylltu â’r swyddfa gangen yn syth i ofyn am arweiniad ar sut i ddilyn cyfraith y wlad a gadael i’r awdurdodau seciwlar wybod amdano.

14 Mae’r henuriaid yn atgoffa’r dioddefwyr, eu rhieni, ac eraill sy’n gwybod am y sefyllfa eu bod nhw’n rhydd i adrodd y cyhuddiad o gamdriniaeth i’r awdurdodau seciwlar. Ond, beth os ydy’r cyhuddiad am rywun sy’n rhan o’r gynulleidfa ac wedyn mae’r gymuned yn dod i wybod am y mater? A ddylai’r Cristion a wnaeth adrodd y cyhuddiad deimlo ei fod wedi pardduo enw Duw? Na. Y camdriniwr ydy’r un sydd wedi pardduo enw Duw.

15-16. (a) Yn ôl 1 Timotheus 5:19, pam mae’n rhaid cael o leiaf ddau dyst cyn i’r henuriaid ffurfio pwyllgor barnwrol? (b) Beth mae’r henuriaid yn ei wneud pan fyddan nhw’n dod i wybod bod rhywun yn y gynulleidfa wedi cael ei gyhuddo o gam-drin plant?

 15 Yn y gynulleidfa, cyn i’r henuriaid weithredu’n farnwrol, pam mae’n rhaid cael o leiaf ddau dyst? Mae’r gofyniad hwn yn rhan o safonau uchel y Beibl ynglŷn â chyfiawnder. Pan fydd rhywun yn cael ei gyhuddo o bechu’n ddifrifol, ond nid yw’n cyffesu, mae’n rhaid cael o leiaf ddau dyst cyn i’r henuriaid allu ffurfio pwyllgor barnwrol. (Deut. 19:15; Math. 18:16; darllen 1 Timotheus 5:19.) Ydy hyn yn golygu bod rhaid cael o leiaf ddau dyst cyn i unrhyw un allu rhoi gwybod i’r awdurdodau fod rhywun efallai wedi cam-drin plant yn rhywiol? Nac ydy. Does dim rhaid i’r henuriaid nac eraill gael dau dyst er mwyn rhoi gwybod i’r awdurdodau am y drosedd.

16 Pan fydd yr henuriaid yn dod i wybod bod rhywun yn y gynulleidfa wedi ei gyhuddo o gam-drin plant, mae’r henuriaid yn ceisio ufuddhau i unrhyw ddeddfau seciwlar sy’n ymwneud â’r mater, ac yna’n ymchwilio i’r sefyllfa mewn ffordd Ysgrythurol. Os ydy’r unigolyn yn gwadu’r cyhuddiad, mae’r henuriaid yn gwrando ar beth sydd gan unrhyw dystion i’w ddweud. Os yw’r cyhuddwr ac o leiaf un person arall yn dweud bod yr unigolyn wedi cam-drin y plentyn hwn neu unrhyw blentyn arall ar adeg wahanol, yna mae gan yr henuriaid ddigon o dystiolaeth i ffurfio pwyllgor barnwrol. * Hyd yn oed os na ddaeth ail dyst ymlaen, dydy hyn ddim yn golygu bod y sawl sy’n gwneud y cyhuddiad yn dweud celwydd. Er nad yw cyhuddiad o bechu difrifol yn gallu cael ei gadarnhau gan ddau dyst, mae’r henuriaid yn cydnabod y posibilrwydd fod pechod difrifol wedi digwydd, un sydd wedi brifo pobl yn arw. Mae’r henuriaid yn parhau i gefnogi a chysuro’r rhai sydd wedi cael eu brifo. Hefyd, mae’r henuriaid yn cadw golwg ar yr un sydd wedi cael ei gyhuddo o gamdriniaeth er mwyn amddiffyn y gynulleidfa rhag peryglon posib.—Act. 20:28.

17-18. Esbonia rôl y pwyllgor barnwrol.

 17 Beth yw rôl y pwyllgor barnwrol? Dydy’r term “barnwrol” ddim yn golygu bod yr henuriaid yn barnu, neu’n penderfynu, a ddylai’r camdriniwr gael ei gosbi gan yr awdurdodau am dorri’r gyfraith. Dydy’r henuriaid ddim yn ymyrryd â gweithredu’r gyfraith; maen nhw’n gadael materion troseddol i’r awdurdodau. (Rhuf. 13:2-4; Titus 3:1) Yn hytrach, mae’r henuriaid yn barnu, neu’n penderfynu, a allai’r pechadur aros yn y gynulleidfa neu beidio.

18 Pan fydd henuriaid yn gwasanaethu ar bwyllgor barnwrol, rôl ysbrydol neu grefyddol yw hi. Maen nhw’n defnyddio’r Ysgrythurau i benderfynu a yw’r camdriniwr yn edifar neu ddim. Os nad yw’n edifar, mae’n cael ei ddiarddel, ac mae’r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi i’r gynulleidfa. (1 Cor. 5:11-13) Os yw’n edifar, gall yr unigolyn aros yn y gynulleidfa. Ond, bydd yr henuriaid yn gadael iddo wybod na fydd ef yn cael unrhyw freintiau yn y gynulleidfa am lawer o flynyddoedd, efallai am weddill ei oes. Er mwyn gofalu am y plant, efallai bydd yr henuriaid yn rhybuddio rhieni yn y gynulleidfa yn breifat fod angen iddyn nhw fod yn ofalus pan fydd eu plant yng nghwmni’r pechadur. Wrth i’r henuriaid gymryd y camau hyn, maen nhw’n ofalus i barchu preifatrwydd y rhai sydd wedi cael eu brifo gan y pechod.

SUT I AMDDIFFYN DY BLANT

Mae rhieni yn gwarchod eu plant rhag camdriniaeth rywiol drwy rannu gwybodaeth briodol â nhw am ryw. Er mwyn gwneud hynny, mae rhieni yn defnyddio’r wybodaeth mae cyfundrefn Duw yn ei darparu. (Gweler paragraffau 19-22)

19-22. Sut gall rhieni amddiffyn eu plant? (Gweler y llun ar y clawr.)

19 Pwy sy’n gyfrifol am amddiffyn plant rhag niwed? Y rhieni. * “Yr ARGLWYDD sy’n rhoi meibion i bobl,” maen nhw’n etifeddiaeth oddi wrtho. (Salm 127:3) Dy gyfrifoldeb di yw amddiffyn dy blant. Sut gelli di amddiffyn dy blant rhag camdriniaeth?

20 Yn gyntaf, dysga dy hun am gamdriniaeth. Dysga am y math o unigolion sy’n cam-drin plant a’r tactegau maen nhw’n eu defnyddio i’w twyllo. Bydda’n effro i beryglon. (Diar. 22:3; 24:3) Cofia fod plant yn cael eu cam-drin gan rywun maen nhw eisoes yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo yn y rhan fwyaf o achosion.

21 Yn ail, cyfathreba’n dda â dy blant drwy’r amser. (Deut. 6:6, 7) Mae hynny’n cynnwys bod yn wrandawr da. (Iago 1:19) Cofia fod plant yn aml yn ofni dweud wrth rywun am y gamdriniaeth. Efallai eu bod nhw’n poeni na fydd neb yn eu coelio nhw, neu efallai fod y camdriniwr wedi eu bygwth i gadw’r gamdriniaeth yn gyfrinach. Os wyt ti’n meddwl bod rhywbeth drwg wedi digwydd, gofynna gwestiynau mewn ffordd garedig i’w helpu nhw i siarad, ac yna gwranda’n amyneddgar ar eu hatebion.

22 Yn drydydd, dysga dy blant. Dysga wybodaeth iddyn nhw am ryw yn ôl eu hoedran. Dysga iddyn nhw beth i’w ddweud a beth i’w wneud petai rhywun yn ceisio cyffwrdd â nhw mewn ffordd amhriodol. Defnyddia’r wybodaeth mae cyfundrefn Duw wedi ei darparu am sut i amddiffyn dy blant.—Gweler y blwch “ Dysga Dy Hun a Dy Blant.”

23. Beth yw ein hagwedd ni tuag at gam-drin plant yn rhywiol, a pha gwestiwn byddwn ni’n ei ateb yn yr erthygl nesaf?

23 I ni, Dystion Jehofa, mae cam-drin plant yn rhywiol yn bechod ffiaidd ac yn drosedd ddifrifol. Gan ddilyn cyfraith Crist, dydy ein cynulleidfaoedd ddim yn amddiffyn camdrinwyr rhag canlyniadau eu pechodau. Beth allwn ni ei wneud i helpu’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gellir amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol. Byddwn yn dysgu am sut mae’r henuriaid yn amddiffyn y gynulleidfa a sut gall rhieni amddiffyn eu plant.

^ Par. 3 ESBONIADAU: Cam-drin plentyn yn rhywiol yw pan fydd oedolyn yn defnyddio plentyn i fodloni ei chwantau rhywiol. Gall gynnwys cyfathrach rywiol, rhyw geneuol neu refrol, cyffwrdd â’r organau rhywiol, y bronnau, y pen-ôl, neu unrhyw weithredoedd gwyrdroëdig eraill. Genethod yw’r rhan fwyaf o’r dioddefwyr, ond mae llawer o fechgyn hefyd yn cael eu cam-drin. Er mai dynion yw’r rhan fwyaf o gamdrinwyr, mae rhai merched hefyd yn cam-drin plant yn rhywiol.

^ Par. 5 ESBONIAD: Yn yr erthygl hon ac yn yr un sy’n dilyn, mae’r gair “dioddefwr” yn cyfeirio at rywun a gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yn blentyn. Defnyddir y term hwn i ddangos yn glir fod y plentyn wedi cael ei frifo a’i dwyllo a bod y plentyn, ef neu hi, yn ddieuog.

^ Par. 11 Dydy salwch ysbrydol ddim yn esgusodi pechod difrifol. Mae’r pechadur yn llawn gyfrifol am ei ddewisiadau a’i weithredoedd anghywir ac mae’n atebol i Jehofa.—Rhuf. 14:12.

^ Par. 16 Fydd yr henuriaid byth yn gofyn i blentyn wynebu’r un sydd wedi cael ei gyhuddo o’i gam-drin. Gall rhiant neu rywun arall mae’r plentyn yn ymddiried ynddo adael i’r henuriaid wybod am y cyhuddiad er mwyn amddiffyn y plentyn rhag mwy o boen emosiynol.

^ Par. 19 Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud am rieni hefyd yn berthnasol i warcheidwaid cyfreithiol ac eraill sydd â chyfrifoldeb rhieni ar gyfer plentyn.