Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

Gwella Dy Arferion Astudio

Gwella Dy Arferion Astudio

“Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—PHIL. 1:10.

CÂN 35 Pwyso Gwerth y Pethau Pwysicaf

CIPOLWG *

1. Pam efallai nad ydy rhai eisiau astudio?

MAE’N gofyn am ymdrech fawr i ennill bywoliaeth heddiw. Mae llawer o’n brodyr yn gweithio oriau hir i ddarparu’n faterol ar gyfer eu teuluoedd. Mae llawer o bobl eraill yn treulio oriau mawr bob dydd yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. Mae llawer yn eu cynnal eu hunain drwy wneud gwaith corfforol caled iawn. Erbyn diwedd y diwrnod, mae’r brodyr a’r chwiorydd hyn wedi ymlâdd! Y peth olaf maen nhw eisiau ei wneud ydy astudio.

2. Pa bryd rwyt ti’n ffeindio’r amser i astudio?

2 Er hynny, mae’n rhaid inni ffeindio’r amser i astudio—astudio o ddifri—y Beibl a’n cyhoeddiadau Cristnogol. Mae ein perthynas â Jehofa ac ein bywyd tragwyddol yn dibynnu arno! (1 Tim. 4:15) Mae rhai’n codi’n gynnar bob dydd ac yn astudio pan fydd y cartref yn dawel a’r meddwl yn ffres ar ôl noson dda o gwsg. Mae eraill yn manteisio ar ychydig o funudau o dawelwch ar ddiwedd y diwrnod i’w bwydo eu hunain yn ysbrydol ac i fyfyrio ar y deunydd.

3-4. Pa newidiadau sydd wedi digwydd i’r nifer o bethau y mae’n rhaid inni eu darllen a’u gwylio, a pham?

3 Mae’n debyg y byddi di’n cytuno bod dod o hyd i’r amser i astudio yn bwysig. Ond beth ddylen ni ei astudio? ‘Mae ’na gymaint i’w ddarllen,’ meddet ti. ‘Dw i’n ei chael hi’n anodd darllen popeth.’ Mae rhai yn gallu manteisio ar bob un ddarpariaeth ysbrydol, ond mae llawer o’n brodyr yn cael trafferth i ddod o hyd i’r amser ar gyfer gwneud hynny. Mae’r Corff Llywodraethol yn ymwybodol o hyn. Am y rheswm hwnnw, fe benderfynwyd yn ddiweddar leihau faint o ddeunydd sy’n cael ei gynhyrchu, naill ai’n brintiedig neu’n ddigidol.

4 Er enghraifft, dydyn ni ddim mwyach yn cyhoeddi’r Yearbook of Jehovah’s Witnesses, oherwydd bod nifer o brofiadau calonogol ar gael ar jw.org® a hefyd ar raglenni misol JW Broadcasting®. Dim ond tair gwaith y flwyddyn y mae’r rhifyn cyhoeddus o’r Tŵr Gwylio a’r Deffrwch! yn cael eu cyhoeddi. Nid er mwyn inni fedru treulio amser yn gwneud pethau eraill yw’r rheswm dros y newidiadau hyn. Y rheswm yw inni fedru canolbwyntio mwy ar y pethau mwyaf pwysig. (Phil. 1:10) Gad inni drafod sut y gelli di flaenoriaethu a sut gelli di elwa’n fwy ar dy astudiaeth bersonol o’r Beibl.

BLAENORIAETHU

5-6. Pa gyhoeddiadau dylen ni’n bendant eu hastudio’n ofalus?

5 Beth ddylen ni gynnwys wrth flaenoriaethu? Fe ddylen ni’n bendant dreulio amser bob dydd yn astudio Gair Duw. Mae nifer yr adnodau ar gyfer darlleniad wythnosol y gynulleidfa wedi ei leihau er mwyn rhoi mwy o amser inni i fyfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddarllen ac i wneud mwy o ymchwil. Ein nod yw, nid darllen y deunydd sydd wedi cael ei aseinio yn unig, ond gadael i neges y Beibl gyffwrdd â’n calonnau—er mwyn inni agosáu at Jehofa.—Salm 19:14.

6 Beth arall ddylen ni ei astudio’n ofalus? Wrth gwrs, rydyn ni eisiau paratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio ac Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa yn ogystal â’r deunydd arall ar gyfer y cyfarfod canol wythnos. Dylen ni hefyd ddarllen pob rhifyn o’r Tŵr Gwylio a’r Deffrwch!

7. A ddylen ni ddigalonni os nad ydyn ni’n gallu darllen yr holl bethau sy’n ymddangos ar ein gwefan ac ar JW Broadcasting?

7 ‘Iawn,’ meddet ti, ‘ond beth am yr holl bethau sydd ar ein gwefan, jw.org, yn ogystal â’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno ar JW Broadcasting? Mae ’na gymaint o bethau!’ Meddylia am yr eglureb hon: Dydy cwsmeriaid mewn tŷ bwyta byth yn gallu blasu popeth sydd ar gael. Felly, maen nhw’n dewis bwyta ychydig o bethau blasus yn unig. Yn yr un modd, os nad ydyn ni’n gallu darllen neu wylio popeth digidol, paid â digalonni. Darllena a gwylia beth fedri di. Gad inni nawr drafod beth mae’n ei olygu i astudio a sut i gael y budd mwyaf o’n hastudio.

MAE ASTUDIO’N GOFYN AM YMDRECH!

8. Pa gamau y gallet ti eu cymryd wrth astudio’r Tŵr Gwylio, a sut byddi di ar dy ennill o wneud hyn?

8 Mae astudio’n golygu canolbwyntio ar beth rwyt ti’n ei ddarllen er mwyn dysgu rhywbeth pwysig. Nid mater o fwrw golwg gyflym drwy’r deunydd a thanlinellu’r atebion yw astudio. Wrth baratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, er enghraifft, sylwa’n gyntaf ar y cipolwg ar ddechrau’r erthygl. Nesaf, ystyria deitl yr erthygl, ynghyd â’r is-benawdau a’r cwestiynau adolygu. Yna, darllena’r erthygl yn araf ac yn ofalus. Rho sylw i’r frawddeg bwnc, fel arfer y frawddeg gyntaf ym mhob paragraff. Bydd y frawddeg bwnc yn aml yn dy helpu i weld beth yw pwynt y paragraff. Wrth iti ddarllen yr erthygl, meddylia am sut mae pob paragraff yn ategu’r is-bennawd ac yn berthnasol i thema ganolog yr erthygl. Noda unrhyw eiriau anghyfarwydd yn ogystal â’r pwyntiau rwyt ti eisiau dysgu mwy amdanyn nhw.

9. (a) Pam a sut dylen ni dalu sylw arbennig i’r adnodau pan fyddwn ni’n astudio’r Tŵr Gwylio? (b) Fel y nodwyd yn Josua 1:8, beth ddylen ni ei wneud yn ogystal â darllen adnodau?

9 Astudiaeth o’r Beibl yw’r Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Felly, rho sylw i’r adnodau, yn enwedig y rhai a fydd yn cael eu darllen wrth i’r gynulleidfa ystyried y deunydd. Rho sylw penodol i’r ffordd y mae’r geiriau a’r ymadroddion allweddol yn yr adnodau yn cefnogi prif bwynt y paragraff. Ar ben hynny, cymer dy amser i fyfyrio ar yr adnodau rwyt ti’n eu darllen, gan feddwl yn ofalus am sut gelli di eu rhoi nhw ar waith yn dy fywyd.—Darllen Josua 1:8.

Rieni, dysgwch eich plant sut i astudio (Gweler paragraff 10) *

10. Yn ôl Hebreaid 5:14, pam dylai rhieni dreulio amser yn ystod yr addoliad teuluol yn dysgu eu plant sut i astudio ac ymchwilio?

10 Yn naturiol ddigon, mae rhieni eisiau i’r Addoliad Teuluol wythnosol fod yn brofiad pleserus i’r plant. Er y dylai rhieni bob amser gynllunio’r hyn yr hoffen nhw ei drafod ar gyfer yr addoliad teuluol, ni ddylen nhw deimlo o dan bwysau i drefnu gweithgareddau arbennig neu brosiectau cyffrous bob un wythnos. Er ei bod hi’n iawn i ddefnyddio’r Addoliad Teuluol i wylio’r rhaglen fisol ar JW Broadcasting neu i weithio ar brosiect arbennig bob hyn a hyn, fel er enghraifft adeiladu model o arch Noa, mae hefyd yn bwysig i blant gael eu dysgu sut i astudio. Mae angen iddyn nhw ddysgu sut i baratoi ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa, neu sut i wneud ymchwil ar bwnc sydd wedi codi yn yr ysgol. (Darllen Hebreaid 5:14.) Os ydyn nhw’n treulio amser gartref ar brosiectau astudio, byddan nhw’n gallu canolbwyntio’n well yn y cyfarfod, yn y cynulliad, neu’r gynhadledd, hyd yn oed pan na fydd fideo yn cael ei ddangos. Wrth gwrs, mae hyd pob cyfnod o astudio yn dibynnu ar oedran a phersonoliaeth y plant.

11. Pam mae hi’n bwysig inni ddysgu ein myfyrwyr sut i astudio’n effeithiol ar eu pennau eu hunain?

11 Hefyd, mae angen i’n myfyrwyr y Beibl ddysgu sut i astudio. Pan fyddan nhw’n dechrau astudio, rydyn ni’n hapus yn eu gweld nhw’n tanlinellu’r atebion wrth baratoi ar gyfer eu hastudiaeth Feiblaidd neu ar gyfer y cyfarfodydd. Ond mae’n rhaid inni ddysgu ein myfyrwyr i wneud ymchwil a sut i astudio mewn ffordd ystyrlon ar eu pennau eu hunain. Yna, pan fydd problemau yn codi, yn hytrach na mynd yn syth i ofyn i eraill yn y gynulleidfa am help, byddan nhw’n gwybod sut i gael cyngor ymarferol drostyn nhw eu hunain drwy wneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau.

CAEL NOD WRTH ASTUDIO

12. Pa nod allwn ni ei osod i ni’n hunain wrth astudio?

12 Os nad wyt ti’n berson sy’n hoffi astudio, efallai dy fod ti’n meddwl na fyddi di byth yn gallu mwynhau astudio. Ond mae hyn yn bosib. Dechreua drwy astudio am gyfnodau byr ac, o dipyn i beth, astudia am gyfnodau hirach. Pwysig yw anelu at nod penodol. Wrth gwrs, ein nod pwysicaf yw agosáu yn fwy byth at Jehofa. Nod y gallwn ni ei gyrraedd yn syth yw ateb cwestiwn y mae rhywun wedi ei ofyn neu ymchwilio problem rydyn ni’n ei hwynebu.

13. (a) Esbonia’r camau y gallai person ifanc eu cymryd er mwyn amddiffyn ei ddaliadau yn yr ysgol. (b) Sut gelli di roi ar waith y cyngor yn Colosiaid 4:6?

13 Er enghraifft, wyt ti’n berson ifanc ac yn yr ysgol? Efallai fod dy gyd-ddisgyblion yn credu mewn esblygiad. Byddet ti’n hoffi amddiffyn dysgeidiaethau’r Beibl, ond dwyt ti ddim efallai yn teimlo dy fod ti’n gallu. Mae hyn yn gofyn am brosiect astudio! Gelli di gyflawni dau beth drwy wneud hyn: (1) Cryfhau dy ffydd dy hun mai Duw a greodd bopeth a (2) Gwella yn dy allu i amddiffyn y gwirionedd. (Rhuf. 1:20; 1 Pedr 3:15) Gelli di ofyn i ti dy hun yn gyntaf: ‘Pa ddadleuon mae fy nghyd-ddisgyblion wedi eu defnyddio i gefnogi esblygiad?’ Yna, drwy ddefnyddio ein cyhoeddiadau, gwna ymchwil drylwyr. Gall esbonio dy ddaliadau fod yn haws nag yr wyt ti’n ei feddwl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu mewn esblygiad dim ond oherwydd bod rhywun maen nhw’n ei barchu yn dweud ei fod yn wir. Os gelli di sôn wrthyn nhw am un neu ddau o bwyntiau yn unig, efallai y byddi di’n medru helpu rhywun sydd yn wir yn edrych am atebion.—Darllen Colosiaid 4:6.

YR AWYDD I DDYSGU MWY

14-16. (a) Sut byddet ti’n gallu dod i wybod mwy am un o lyfrau’r Beibl nad wyt ti’n gyfarwydd iawn ag ef? (b) Trwy ddefnyddio’r adnodau y cyfeiriwyd atyn nhw, esbonia sut y gallet ti gael darlun cliriach o lyfr y proffwyd Amos. (Gweler hefyd y blwch “ Gwna i’r Beibl Fyw!”)

14 Dychmyga y byddwn ni yn ein cyfarfod nesaf yn mynd i drafod llyfr o’r Beibl gan un o’r proffwydi byrion, fel maen nhw’n cael eu galw, efallai un o’r proffwydi nad wyt ti’n gyfarwydd ag ef. Y cam cyntaf efallai fyddai meithrin diddordeb yn yr hyn a ysgrifennodd y proffwyd. Sut medri di wneud hynny?

15 Yn gyntaf, gofynna i ti dy hun: ‘Beth rydw i’n ei wybod am ysgrifennwr y llyfr? Pwy oedd y proffwyd, yn lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith?’ Gall cefndir yr ysgrifennwr esbonio pam roedd yn dewis rhai geiriau ac eglurebau. Wrth iti ddarllen y Beibl, edrycha am ymadroddion sy’n adlewyrchu personoliaeth yr ysgrifennwr.

16 Nesaf, defnyddiol dros ben fyddai gwybod pa bryd y cafodd y llyfr ei ysgrifennu. Gelli di wneud hynny’n hawdd drwy edrych ar y “Table of the Books of the Bible” yng nghefn y New World Translation of the Holy Scriptures. Hefyd, gallet ti adolygu’r siart o broffwydi a brenhinoedd yn rhan 3 o’r llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw. Os yw’r llyfr yn un proffwydol, peth da fyddai dysgu pa fath o fywyd oedd gan bobl pan ysgrifennwyd y llyfr. Pa agweddau neu arferion drwg roedd y proffwyd yn gobeithio eu cywiro? Pwy oedd ei gyfoedion? I gael darlun cliriach, efallai y bydd rhaid iti ddarllen sawl ffynhonnell. Er enghraifft, i ddeall yn well beth oedd yn digwydd yn ystod oes y proffwyd Amos, peth da fyddai darllen yr adnodau yn 2 Brenhinoedd ac 2 Cronicl sy’n cael eu rhestru yn y cyfeiriadau ar gyfer Amos 1:1 ar ymyl y ddalen yn y New World Translation. Hefyd, gallet ti adolygu gwaith yr ysgrifennwr Hosea, a oedd efallai’n cydoesi ag Amos. Mae’r ffynonellau hyn i gyd yn bwrw goleuni ar y cyfnod roedd Amos yn byw ynddo.—2 Bren. 14:25-28; 2 Cron. 26:1-15; Hos. 1:1-11; Amos 1:1.

RHO SYLW I’R MANYLION

17-18. Trwy ddefnyddio’r enghreifftiau yn y paragraff neu dy enghraifft dy hun, esbonia sut gall talu sylw hyd yn oed i’r manylion bach hynny wneud ein hastudio o’r Beibl yn fwy pleserus.

17 Peth da yw darllen y Beibl yn llawn chwilfrydedd. Dychmyga, er enghraifft, dy fod ti’n darllen y 12fed bennod o broffwydoliaeth Sechareia, sy’n rhagddweud marwolaeth y Meseia. (Sech. 12:10) Pan ddoi di i adnod 12, rwyt ti’n darllen y byddai “teulu Nathan” yn galaru’n fawr iawn dros farwolaeth y Meseia. Yn hytrach nag anwybyddu’r manylyn hwn, gallet ti ofyn y cwestiwn: ‘Beth yw’r cysylltiad rhwng teulu Nathan a theulu’r Meseia? Oes ’na ffordd o gael mwy o wybodaeth?’ Gwna ychydig o waith “ditectif.” Mae’r cyfeiriad ar ymyl y ddalen yn dy arwain i 2 Samuel 5:13, 14, lle’r wyt ti’n dysgu bod Nathan yn un o feibion y Brenin Dafydd. Mae’r ail gyfeiriad ar ymyl y ddalen, Luc 3:23, 31, yn datgelu bod Iesu yn ddisgynnydd uniongyrchol i Nathan drwy Mair. (Gweler “Joseph, son of Heli,” y nodyn astudio ar Luc 3:23.) Yn fwyaf sydyn, rwyt ti eisiau gwybod mwy! Roeddet ti’n gwybod i’r Beibl ragfynegi y byddai Iesu yn ddisgynnydd i Dafydd. (Math. 22:42) Ond roedd gan Dafydd fwy nag 20 o feibion. Onid yw’n rhyfeddol fod Sechareia yn enwi teulu Nathan yn benodol gan ddweud mai’r teulu hwnnw a fydd yn galaru dros farwolaeth Iesu?

18 Ystyria esiampl arall. Ym mhennod gyntaf Luc, darllenwn ni am yr angel Gabriel yn ymweld â Mair ac yn cyhoeddi’r canlynol am y mab roedd hi am roi genedigaeth iddo: ‘Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth.’ (Luc 1:32, 33) Byddai’n naturiol ddigon inni ganolbwyntio ar y rhan gyntaf o neges Gabriel, hynny yw, y byddai Iesu’n cael ei alw yn “Fab y Duw Goruchaf.” Ond, rhagfynegodd Gabriel hefyd y byddai Iesu “yn teyrnasu.” Felly, gallwn ofyn beth oedd arwyddocâd y geiriau hynny i Mair. A oedd hi’n meddwl y byddai Iesu yn disodli’r Brenin Herod, neu un o’i olynwyr, fel rheolwr Israel? Petai Iesu yn dod yn frenin, Mair fyddai’r fam frenhines, a byddai ei theulu yn byw mewn palas brenhinol. Ond eto, does dim cofnod fod Mair wedi dweud rhywbeth o’r fath wrth Gabriel; a dydyn ni byth yn darllen am Mair yn gofyn am safle arbennig yn y Deyrnas, fel y gwnaeth dau o ddisgyblion Iesu. (Math. 20:20-23) Mae’r manylyn hwn yn ategu’r ffaith fod Mair yn ddynes hynod o ostyngedig!

19-20. Fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Iago 1:22-25 a 4:8, beth yw ein nod wrth astudio?

19 Cofia, ein nod pwysicaf wrth astudio Gair Duw a’n cyhoeddiadau Cristnogol yw agosáu at Jehofa. Rydyn ni eisiau hefyd gweld yn glir “sut olwg” sydd arnon ni a pha newidiadau sy’n rhaid inni eu gwneud i blesio Duw. (Darllenwch Iago 1:22-25; 4:8.) Ar ddechrau pob sesiwn astudio, felly, dylen ni ofyn i Jehofa am ei ysbryd. Dylen erfyn arno i’n helpu ni i elwa’n llawn ar y deunydd ac i’n gweld ni’n hunain fel y mae ef yn ein gweld ni.

20 Boed i bob un ohonon ni fod yn debyg i’r dyn a ddisgrifir gan y salmydd fel ‘yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos. . . . Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.’—Salm 1:2, 3.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

^ Par. 5 Yn ei haelioni, mae Jehofa yn rhoi digonedd o ddeunydd inni i’w wylio, i’w ddarllen, ac i’w astudio. Bydd yr erthygl hon yn dy helpu i benderfynu beth i’w astudio, ac yn rhoi awgrymiadau ymarferol ynglŷn â gwneud y gorau o dy astudiaeth bersonol.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Rhieni yn dangos i’w plant sut i baratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio wythnosol.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd yn gwneud ymchwil ar yr ysgrifennwr Beiblaidd Amos. Mae’r lluniau yn y cefndir yn cynrychioli’r hyn mae’r brawd yn ei weld yn ei ddychymyg wrth iddo ddarllen hanesion y Beibl a myfyrio arnyn nhw.