Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

Paid â Chael Dy Dwyllo Gan ‘Ddoethineb y Byd’

Paid â Chael Dy Dwyllo Gan ‘Ddoethineb y Byd’

“Mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw.”—1 COR. 3:19, BCND.

CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw

CIPOLWG *

1. Beth mae Gair Duw yn ei roi inni?

GALLWN wynebu unrhyw her—oherwydd bod Jehofa yn Addysgwr Mawr. (Esei. 30:20, 21) Drwy ei Air, mae gennyn ni “bopeth sydd ei angen” er mwyn inni “wneud pob math o bethau da.” (2 Tim. 3:17) Pan fyddwn ni’n byw yn ôl dysgeidiaethau’r Beibl, byddwn yn dod yn ddoethach na’r rhai sy’n hyrwyddo “doethineb y byd.”—1 Cor. 3:19, BCND; Salm 119:97-100.

2. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Fel y byddwn ni’n gweld, mae doethineb y byd yn aml yn apelio at ein chwantau cnawdol. Felly, efallai y byddwn ni’n ei chael hi’n anodd gwrthod meddwl ac ymddwyn fel pobl sy’n rhan o’r byd. Am reswm da felly, mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol.” (Col. 2:8) Yn yr erthygl hon, byddwn yn gweld sut daeth dau gelwydd gwag yn boblogaidd. Ym mhob achos, byddwn yn gweld pam mae doethineb y byd yn ffolineb a sut mae’r doethineb yng Ngair Duw yn llawer gwell nag unrhyw beth mae’r byd yn ei gynnig.

AGWEDDAU’N NEWID TUAG AT FOESOLDEB

3-4. Pa newidiadau o ran moesoldeb a ddigwyddodd yn gynnar yn yr 20fed ganrif yn yr Unol Daleithiau?

3 Yn gynnar yn yr 20fed ganrif yn yr Unol Daleithiau, newidiodd agweddau pobl tuag at foesoldeb gryn dipyn. O’r blaen, roedd llawer yn credu bod rhyw ar gyfer pobl briod yn unig ac nid oedd yn bwnc i’w drafod o flaen pobl eraill. Ond gwnaeth y safonau hynny ostwng, a daeth safonau pobl yn fwy llac.

4 Gelwir trydydd degawd yr 20fed ganrif y Dauddegau Gwyllt, ac mae’n adnabyddus am lawer o newidiadau cymdeithasol mawr. “Roedd ffilmiau, dramâu ar y llwyfan, caneuon, llyfrau, a hysbysebion i gyd yn dechrau cynnwys themâu rhywiol,” meddai un ymchwilwraig. Yn ystod y degawd hwnnw, daeth steiliau dawnsio’n fwy rhywiol-awgrymog a steiliau dillad yn llai gwylaidd. Fel gwnaeth y Beibl ragfynegi am y dyddiau diwethaf, byddai pobl i raddau helaeth “yn caru pleser.”—2 Tim. 3:4.

Dydy moesau llac y byd ddim yn dylanwadu ar bobl Jehofa (Gweler paragraff 5) *

5. Beth sydd wedi digwydd i agwedd y byd tuag at safonau moesol ers y 1960au?

5 Yn y 1960au, daeth hi’n fwy cyffredin i bobl fyw gyda’i gilydd heb briodi, bod mewn perthynas hoyw, ac ysgaru’n hawdd. Roedd llawer o fathau o adloniant yn dangos rhyw yn fwy agored. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae canlyniadau drwg y safonau llac hynny wedi effeithio ar bobl mewn llawer o ffyrdd. Ysgrifennodd un awdures fod llawer o ganlyniadau drwg yn digwydd oherwydd i bobl stopio dilyn safonau moesol. Er enghraifft, teuluoedd lle nad yw’r rhieni yn byw gyda’i gilydd neu lle mae un o’r rhieni wedi cefnu ar y teulu, a phobl yn dioddef problemau emosiynol neu’n gaeth i bornograffi. Mae’r ffaith fod clefydau cysylltiad rhywiol mor gyffredin, fel AIDS, yn dangos bod doethineb y byd yn ffolineb.—2 Pedr 2:19.

6. Sut mae agwedd y byd tuag at ryw yn adlewyrchu beth mae Satan eisiau?

6 Mae agwedd y byd tuag at ryw yn adlewyrchu yn union beth mae Satan eisiau. Yn wir, mae Satan wrth ei fodd yn gweld pobl mewn perthynas rywiol sy’n mynd yn groes i ewyllys Duw ac yn amharchu priodas, sy’n rhodd oddi wrth Jehofa. (Eff. 2:2) Nid yn unig y mae anfoesoldeb rhywiol yn dangos diffyg gwerthfawrogiad am y rhodd o genhedlu sy’n dod oddi wrth Jehofa, mae hefyd yn gallu atal pobl rhag etifeddu bywyd tragwyddol.—1 Cor. 6:9, 10.

AGWEDD Y BEIBL TUAG AT FOESOLDEB RHYWIOL

7-8. Pa agwedd anrhydeddus ac iach tuag at ryw sy’n cael ei chyflwyno yn y Beibl?

7 Mae pobl sy’n derbyn doethineb y byd hwn yn chwerthin am ben safonau moesol y Beibl, gan ddweud eu bod nhw’n afresymol. Gallai pobl o’r fath ofyn, ‘Pam byddai Duw yn ein creu ni gyda chwantau rhywiol ac yna’n dweud wrthyn ni am beidio â gweithredu arnyn nhw?’ Mae’r cwestiwn hwnnw’n seiliedig ar y gred wallus fod rhaid i bobl weithredu ar bob chwant maen nhw’n ei deimlo. Ond mae’r Beibl yn dweud yn wahanol. Mae’n ein hanrhydeddu ni drwy ddysgu ein bod ni’n gallu rheoli chwantau anghywir. (Col. 3:5) Ar ben hynny, mae Jehofa wedi ei gwneud hi’n bosib inni fodloni chwantau rhywiol priodol o fewn y briodas. (1 Cor. 7:8, 9) O fewn y drefn honno, gall gŵr a gwraig fwynhau rhyw heb ddifaru a heb boeni, sy’n digwydd yn aml o ganlyniad i anfoesoldeb.

8 Yn wahanol i ddoethineb y byd hwn, mae’r Beibl yn hyrwyddo agwedd iach tuag at ryw. Mae’n cydnabod bod rhyw yn gallu dod â phleser. (Diar. 5:18, 19) Ond, mae’r Beibl yn dweud: “Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol—parchu eich corff a bod yn gyfrifol—yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy’n gadael i’w chwantau redeg yn wyllt.”—1 Thes. 4:4, 5.

9. (a) Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, sut cafodd pobl Jehofa eu hannog i ddilyn y doethineb uwch sydd yng Ngair Duw? (b) Pa gyngor doeth rydyn ni’n ei weld yn 1 Ioan 2:15, 16? (c) Fel y rhestrir yn Rhufeiniaid 1:24-27, pa ymddygiad anfoesol y dylen ni beidio â’i fabwysiadu?

9 Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ni chafodd pobl Jehofa eu twyllo gan bobl a oedd yn “gwneud dim byd ond byw’n anfoesol.” (Eff. 4:19) Ceision nhw lynu’n agos wrth safonau Jehofa. Dywedodd y Tŵr Gwylio, 15 Mai 1926, y “dylai dyn neu ddynes fod yn bur mewn gair a gweithred, yn enwedig wrth ymwneud ag aelodau o’r rhyw arall.” Er gwaetha’r hyn oedd yn digwydd yn y byd o’u cwmpas, dilynodd pobl Jehofa y doethineb uwch sydd yng Ngair Duw. (Darllen 1 Ioan 2:15, 16.) Mor ddiolchgar ydyn ni fod gennyn ni Air Duw! Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar fod Jehofa yn darparu bwyd ysbrydol yn ei bryd i’n helpu ni i wrthod doethineb y byd ynglŷn â moesoldeb. *Darllen Rhufeiniaid 1:24-27.

AGWEDDAU’N NEWID TUAG AT HUNANOLDEB

10-11. Beth oedd rhybudd y Beibl am y dyddiau diwethaf?

10 Rhybuddiodd y Beibl y byddai pobl “yn byw i’w plesio nhw eu hunain” yn ystod y dyddiau diwethaf. (2 Tim. 3:1, 2) Nid yw’n syndod bod y byd yn hyrwyddo agweddau hunanol. Mae un cyfeirlyfr yn dweud bod “y nifer o lyfrau hunangymorth wedi lluosogi” yn ystod y 1970au. Roedd rhai o’r llyfrau hynny’n “annog y darllenwyr i’w hadnabod eu hunain, i’w derbyn eu hunain, ac i feddwl nad oes unrhyw beth yn bod â’r ffordd maen nhw’n byw.” Ystyria, er enghraifft, y datganiad hwn sydd mewn un llyfr o’r fath: “Câr y person mwyaf hyfryd, cyffrous, haeddiannol erioed—ti dy hun.” Mae’r llyfr yn hyrwyddo “crefydd yr hunan lle mae unigolyn yn seilio ei ymddygiad ar ei gydwybod ei hun ac ar ddeddfau ei ddiwylliant sy’n gweithio iddo ef.”

11 Ydy’r syniad hwnnw’n gyfarwydd iti? Anogodd Satan i Efa wneud rhywbeth tebyg. Dywedodd ei bod hi’n gallu “gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.” (Gen. 3:5) Heddiw, mae llawer yn meddwl cymaint ohonyn nhw eu hunain fel nad ydyn nhw’n fodlon gwrando ar neb—gan gynnwys Duw—sy’n ceisio dweud wrthyn nhw beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Er enghraifft, mae’r agwedd honno wedi dod yn amlwg iawn yn y ffordd mae pobl yn ystyried priodas.

Mae Cristion yn rhoi anghenion pobl eraill yn gyntaf—yn enwedig anghenion ei gymar (Gweler paragraff 12) *

12. Pa agwedd tuag at briodas y mae’r byd yn ei hyrwyddo?

12 Mae’r Beibl yn gorchymyn y gŵr a’r wraig i barchu ei gilydd ac addunedau eu priodas. Mae’n eu hannog nhw i ymrwymo i’w gilydd, gan ddweud: “Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.” (Gen. 2:24) Ar y llaw arall, mae’r rhai sydd o dan ddylanwad doethineb y byd yn hyrwyddo safbwynt gwahanol, gan ddweud y dylai pob cymar ganolbwyntio ar ei anghenion ei hun. “Mewn rhai seremonïau,” meddai un llyfr am ysgaru, “mae’r adduned draddodiadol i aros yn briod ‘cyhyd ag y byddwn fyw’ wedi cael ei disodli gan adduned fwy cyfyng i aros yn briod ‘cyhyd ag y byddwn mewn cariad.’” Mae agwedd mor llac tuag at briodas wedi achosi i lawer o deuluoedd wahanu ac wedi achosi llawer o niwed emosiynol. Yn sicr, mae agwedd amharchus y byd tuag at briodas yn ffolineb.

13. Beth yw un rheswm pam mae Jehofa’n casáu pobl falch?

13 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch.” (Diar. 16:5) Pam mae Jehofa’n casáu pobl falch? Un rheswm yw bod pobl sy’n meithrin ac yn hyrwyddo cariad hunanol yn adlewyrchu balchder Satan ei hun. Dychmyga, roedd Satan yn credu y dylai Iesu—yr un y gwnaeth Duw ei ddefnyddio i greu pob dim—blygu o’i flaen a’i addoli! (Math. 4:8, 9; Col. 1:15, 16, BCND) Mae’r rhai sy’n meddwl gormod ohonyn nhw eu hunain yn cadarnhau bod doethineb y byd yn ffolineb yng ngolwg Duw.

AGWEDD Y BEIBL TUAG AT HUNANBWYSIGRWYDD

14. Sut mae Rhufeiniaid 12:3 yn ein helpu i gael agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain?

14 Mae’r Beibl yn ein helpu i gael agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain. Mae’n cydnabod bod rhywfaint o gariad tuag aton ni’n hunain yn briodol. Dywedodd Iesu: “Caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun,” sy’n awgrymu y dylen ni roi sylw rhesymol i’n hanghenion. (Math. 19:19) Ond, dydy’r Beibl ddim yn dweud y dylen ni ein codi ein hunain uwchben pobl eraill. Yn hytrach, mae’n dweud: “Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.”—Phil. 2:3; darllen Rhufeiniaid 12:3.

15. Pam rwyt ti’n meddwl bod cyngor y Beibl am hunanbwysigrwydd yn ymarferol?

15 Heddiw, byddai llawer o bobl sy’n ddoeth yng ngolwg y byd yn chwerthin am ben cyngor y Beibl i beidio â bod yn hunanbwysig. Bydden nhw’n dweud y byddai ystyried eraill yn well na thi yn dy wneud di’n wan, ac y byddai pobl eraill yn manteisio’n annheg arnat ti. Ond, beth yw gwir ganlyniadau’r agwedd hunanol sy’n cael ei hyrwyddo gan fyd Satan? Beth rwyt ti wedi ei weld? Ydy pobl hunanol yn hapus? Ydy eu teuluoedd nhw’n hapus? Oes ganddyn nhw wir ffrindiau? Oes ganddyn nhw berthynas agos â Duw? O’r hyn rwyt ti wedi ei weld, pa un sy’n dod â’r canlyniadau gorau—dilyn doethineb y byd hwn neu ddilyn y doethineb sydd yng Ngair Duw?

16-17. Beth allwn ni fod yn ddiolchgar amdano, a pham?

16 Mae rhywun sy’n dilyn cyngor pobl sy’n ddoeth yng ngolwg y byd yn debyg i deithiwr sy’n gofyn i deithiwr arall am gyfeiriadau, ond eto mae’r ddau ohonyn nhw ar goll. Dywedodd Iesu am bobl “ddoeth” yr oes honno: “Arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda’i gilydd.” (Math. 15:14) Yn wir, mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw.

Mae gweision Duw yn edrych yn ôl yn hapus ar eu bywyd yng ngwasanaeth Jehofa (Gweler paragraff 17) *

17 Mae cyngor doeth y Beibl yn wastad yn “dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn.” (2 Tim. 3:16) Mor ddiolchgar ydyn ni fod Jehofa, drwy ei gyfundrefn, wedi ein hamddiffyn rhag doethineb y byd hwn! (Eff. 4:14) Mae’r bwyd ysbrydol mae’n ei ddarparu yn rhoi’r nerth inni i lynu wrth safonau ei Air. Am fraint yw cael ein harwain gan y doethineb dibynadwy sydd yn y Beibl!

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn gwneud inni deimlo’n fwy sicr byth mai Jehofa yw’r unig un sy’n rhoi arweiniad dibynadwy inni. Hefyd, bydd yn dangos bod canlyniadau trychinebus yn dod o ddilyn doethineb y byd, a bod rhoi doethineb Gair Duw ar waith yn llesol inni.

^ Par. 50 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwelwn adegau penodol ym mywyd cwpl priod sy’n Dystion. Mae’r brawd a’r chwaer yn rhannu yn y gwaith pregethu yn ystod y 1960au hwyr.

^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn y 1980au, mae’r gŵr yn gofalu am ei wraig tra ei bod hi’n sâl wrth i ferch y cwpl wylio.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Heddiw, mae’r cwpl yn edrych yn ôl yn hapus ar eu bywyd o wasanaeth i Jehofa. Mae eu merch, sydd bellach yn oedolyn, a’i theulu hithau yn cyd-lawenhau â’r cwpl hŷn.