Y TŴR GWYLIO—RHIFYN ASTUDIO Mai 2020
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys yr erthyglau astudio ar gyfer Gorffennaf 6–Awst 2, 2020.
“Brenin y Gogledd” yn Amser y Diwedd
Erthygl astudio 19: Gorffennaf 6-12, 2020. Rydyn ni’n gweld tystiolaeth fod proffwydoliaeth Daniel ynglŷn â “brenin y gogledd” a “brenin y de” yn dal i gael ei chyflawni. Pam gallwn ni fod mor sicr? A pham mae angen inni ddeall manylion y broffwydoliaeth hon?
Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd
Mae proffwydoliaeth “brenin y gogledd” a “brenin y de” yn gorgyffwrdd â phroffwydoliaethau eraill. Sut mae’r proffwydoliaethau hyn yn profi y bydd y system hon yn dod i ben yn fuan?
Pwy Yw “Brenin y Gogledd” Heddiw?
Erthygl astudio 20: Gorffennaf 13-19, 2020. Pwy yw “brenin y gogledd” heddiw, a sut bydd yn cwrdd â’i ddiwedd? Gall gwybod yr ateb gryfhau ein ffydd a’n helpu ni i baratoi am y treialon a ddaw yn y dyfodol agos.
A Wyt Ti’n Gwerthfawrogi Rhoddion Duw?
Erthygl astudio 21: Gorffennaf 20-26, 2020. Bydd yr erthygl hon yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad tuag at Jehofa a rhai o’i roddion i ni. Bydd hefyd yn ein helpu i resymu â’r rhai sy’n amau nad ydy Duw yn bodoli.
Dangosa Dy Werthfawrogiad am Drysorau Anweledig
Erthygl astudio 22: Gorffennaf 27–Awst 2, 2020. Yn yr erthygl gyntaf, gwnaethon ni ystyried sawl trysor gan Dduw y gallwn ni ei weld. Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar drysorau na allwn ni eu gweld a sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n eu gwerthfawrogi. Bydd hefyd yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad am Ffynhonnell y fath drysorau, Jehofa Dduw.