Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd

Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd

Mae’r proffwydoliaethau yn y siart hwn yn gorgyffwrdd. Maen nhw’n profi mewn sawl ffordd ein bod ni’n byw yn amser y diwedd.—Dan. 12:4.

  • Adnodau Dat. 11:7; 12:13, 17; 13:1-8, 12

    Proffwydoliaeth Mae “yr anghenfil” yn crwydro’r ddaear am ganrifoedd lawer. Yn amser y diwedd, mae ei seithfed pen yn cael anaf. Yn hwyrach, mae’r pen hwnnw yn gwella ac mae “pobl y byd i gyd” yn dilyn yr anghenfil. Mae Satan yn defnyddio’r anghenfil hwnnw “i ryfela yn erbyn” y rhai sy’n weddill.

    Cyflawniad Ar ôl y Dilyw, ymddangosodd llywodraethau dynol a oedd yn gwrthwynebu Jehofa. Wedi canrifoedd maith, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, collodd yr Ymerodraeth Brydeinig lawer o’i grym. Cafodd ei hatgyfnerthu pan ymunodd yr Unol Daleithiau â hi. Yn enwedig yn amser y diwedd, mae Satan wedi bod yn defnyddio ei system wleidyddol gyfan i erlid pobl Dduw.

  • Adnodau Dan. 11:25-45

    Proffwydoliaeth Mae brenin y gogledd a brenin y de yn cystadlu am rym yn amser y diwedd.

    Cyflawniad Yr Almaen yn brwydro yn erbyn Prydain ac America. Ym 1945 mae’r Undeb Sofietaidd a’i gynghreiriaid yn dod yn frenin y gogledd. Ym 1991, mae’r Undeb Sofietaidd yn cwympo, ac ymhen amser, mae Rwsia a’i chynghreiriaid yn dod yn frenin y gogledd.

  • Adnodau Esei. 61:1; Mal. 3:1; Luc 4:18

    Proffwydoliaeth Jehofa yn anfon “ei negesydd” er mwyn “paratoi’r ffordd” cyn sefydlu’r Deyrnas Feseianaidd. Dechreuodd y grŵp yma “gyhoeddi newyddion da” i’r addfwyn.

    Cyflawniad O 1870 ymlaen, C. T. Russell ac eraill gydag ef yn gweithio’n selog i esbonio gwirioneddau’r Beibl. Yn ystod y 1880au, maen nhw’n dechrau pwysleisio’r angen i weision Duw bregethu. Maen nhw’n cyhoeddi erthyglau fel “Yn Eisiau—1,000 o Bregethwyr” ac “Eneiniwyd i Bregethu.”

  • Adnodau Math. 13:24-30, 36-43

    Proffwydoliaeth Gelyn yn hau chwyn dros gae o wenith, ac mae’r chwyn yn cael tyfu a chuddio’r gwenith tan amser y cynhaeaf; yna mae’r chwyn yn cael eu gwahanu oddi wrth y gwenith.

    Cyflawniad O 1870 ymlaen, mae’r gwahaniaeth rhwng gwir Gristnogion a gau Gristnogion yn dechrau dod i’r amlwg. Yn ystod amser y diwedd, mae gwir Gristnogion yn cael eu casglu a’u gwahanu oddi wrth gau Gristnogion.

  • Adnodau Dan. 2:31-33, 41-43

    Proffwydoliaeth Mae’r traed o haearn a chlai yn perthyn i ddelw o wahanol fetelau.

    Cyflawniad Mae’r clai yn cynrychioli’r bobl gyffredin o dan reolaeth y Grym Byd Eingl-Americanaidd sy’n gwrthryfela yn erbyn y grym hwnnw. Mae’r bobl hyn yn gwanhau gallu’r grym byd hwn i weithredu â nerth haearnaidd.

  • Adnodau Math. 13:30; 24:14, 45, BCND; 28:19, 20

    Proffwydoliaeth Mae’r “gwenith” yn cael ei gasglu i’r “ysgubor” ac mae’r “gwas ffyddlon a chall” yn cael ei benodi “dros weision y tŷ.” Mae’r gwaith o bregethu “y newyddion da am deyrnasiad Duw” yn dechrau lledaenu “drwy’r byd i gyd.”

    Cyflawniad Ym 1919, mae’r gwas ffyddlon yn cael ei benodi dros bobl Dduw. O hynny ymlaen, mae Myfyrwyr y Beibl yn cynyddu eu gwaith pregethu. Heddiw, mae Tystion Jehofa yn pregethu mewn dros 200 o wledydd ac yn cynhyrchu llenyddiaeth Feiblaidd mewn dros 1,000 o ieithoedd.

  • Adnodau Dan. 12:11; Dat. 13:11, 14, 15

    Proffwydoliaeth Mae anghenfil deugorn yn cymryd y blaen wrth “godi delw er anrhydedd i’r anghenfil” seithben, ac yn rhoi “anadl i’r ddelw.”

    Cyflawniad Mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd yn cymryd y blaen wrth sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd. Mae’r gyfundrefn hon yn cael ei chefnogi gan genhedloedd eraill. Yn y pen draw, mae brenin y gogledd yn ymuno â’r Gynghrair hefyd—dim ond rhwng 1926 a 1933. Yn debyg i’r Cenhedloedd Unedig (CU) a ddaeth ar ei hôl, mae’r Gynghrair yn cael clod sy’n perthyn i Deyrnas Dduw.

  • Adnodau Dan. 8:23, 24

    Proffwydoliaeth Mae brenin ffyrnig ei olwg “yn achosi’r dinistr mwyaf ofnadwy.”

    Cyflawniad Mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd wedi achosi dinistr mawr. Er enghraifft, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, achosodd yr Unol Daleithiau ddinistr ofnadwy ar raddfa na welwyd o’r blaen pan ollyngodd ddau fom atomig ar un o elynion Prydain ac America.

  • Adnodau Dan. 11:31; Dat. 17:3, 7-11

    Proffwydoliaeth Mae’r “anghenfil ysgarlad” â deg corn yn codi o’r pydew yn wythfed brenin. Mae llyfr Daniel yn cyfeirio at y brenin hwn fel yr “eilun ffiaidd sy’n dinistrio.”

    Cyflawniad Mae Cynghrair y Cenhedloedd yn stopio bodoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, mae’r CU “yn codi.” Mae’r CU, fel y Gynghrair o’i flaen, yn cael clod sy’n perthyn i Deyrnas Dduw. Bydd yr CU yn ymosod ar grefydd.

  • Adnodau 1 Thes. 5:3; Dat. 17:16

    Proffwydoliaeth Mae’r cenhedloedd yn gwneud datganiad o heddwch a diogelwch, ac mae’r “deg corn” a’r “anghenfil” yn ymosod ar “y butain” ac yn ei dinistrio. Wedyn, mae’r cenhedloedd yn cael eu dinistrio.

    Cyflawniad Bydd y cenhedloedd yn honni eu bod nhw wedi llwyddo i gael heddwch a diogelwch. Yna, bydd y cenhedloedd sy’n cefnogi’r CU yn dinistrio sefydliadau gau grefydd. Dyma fydd cychwyn y gorthrymder mawr. Bydd y gorthrymder hwnnw yn dod i ben pan fydd byd Satan yn cael ei ddinistrio yn ystod Armagedon.

  • Adnodau Esec. 38:11, 14-17; Math. 24:31

    Proffwydoliaeth Mae Gog yn ymosod ar wlad pobl Dduw. Wedyn, mae angylion yn casglu’r “rhai mae [Duw] wedi eu dewis.”

    Cyflawniad Bydd brenin y gogledd, ynghyd â gweddill llywodraethau’r byd, yn ymosod ar bobl Dduw. Rywdro ar ôl cychwyn yr ymosodiad hwn, bydd gweddill yr eneiniog yn cael eu casglu i’r nef.

  • Adnodau Esec. 38:18-23; Dan. 2:34, 35, 44, 45; Dat. 6:2; 16:14, 16; 17:14; 19:20

    Proffwydoliaeth Mae “marchog” y “ceffyl gwyn” yn “ennill y frwydr” drwy ddinistrio Gog a’i fyddin. Mae “yr anghenfil” yn cael ei ‘daflu yn fyw i’r llyn tân,’ ac mae’r ddelw anferth yn cael ei chwalu.

    Cyflawniad Bydd Iesu, Brenin Teyrnas Dduw, yn achub pobl Dduw. Ynghyd â’i 144,000 o gyd-reolwyr a’i luoedd o angylion, fe fydd yn dinistrio’r gynghrair o genhedloedd, sef holl system wleidyddol Satan.