Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

“Brenin y Gogledd” yn Amser y Diwedd

“Brenin y Gogledd” yn Amser y Diwedd

‘Yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn erbyn brenin y gogledd.’—DAN. 11:40.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

CIPOLWG *

1. Beth mae proffwydoliaeth y Beibl yn ei ddatgelu inni?

BETH fydd yn digwydd i bobl Jehofa yn y dyfodol agos? Does dim rhaid inni ddyfalu. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni pa bethau pwysig fydd yn effeithio ar bawb yn fuan. Mae ’na un broffwydoliaeth yn arbennig sy’n caniatáu inni weld beth bydd rhai o lywodraethau mwyaf pwerus y byd yn ei wneud. Mae’r hanesyn hwnnw, yn Daniel pennod 11, yn disgrifio dau frenin sy’n brwydro yn erbyn ei gilydd, sef brenin y gogledd a brenin y de. Mae’r rhan fwyaf o’r broffwydoliaeth honno eisoes wedi ei chyflawni, felly gallwn fod yn hyderus y bydd y gweddill ohoni hefyd yn dod yn wir.

2. Yn ôl Genesis 3:15 a Datguddiad 11:7 a 12:17, pa ffeithiau dylen ni eu cofio wrth astudio proffwydoliaeth Daniel?

2 Er mwyn inni ddeall proffwydoliaeth Daniel pennod 11, mae’n rhaid inni gofio ei bod yn cyfeirio dim ond at reolwyr a llywodraethau sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar bobl Dduw. Er mai rhan fach o boblogaeth y byd sy’n weision Duw, byddan nhw’n aml yn cael eu targedu gan y llywodraethau hyn. Pam? Oherwydd bod gan Satan a’i system gyfan un prif nod—cael gwared â’r rhai sy’n gwasanaethu Jehofa ac Iesu. (Darllen Genesis 3:15 a Datguddiad 11:7; 12:17.) Ar ben hynny, mae’n rhaid i broffwydoliaeth Daniel gytuno â phroffwydoliaethau eraill yng Ngair Duw. Mewn gwirionedd, dim ond drwy gymharu proffwydoliaeth Daniel â rhannau eraill o’r Ysgrythurau y gallwn ni ei deall yn gywir.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon a’r un nesaf?

3 Gyda hynny mewn cof, byddwn ni nawr yn trafod Daniel 11:25-39. Cawn ni weld pwy oedd brenin y gogledd a brenin y de o 1870 hyd 1991, a chawn weld pam y mae’n rhesymol inni addasu ein dealltwriaeth o ran benodol o’r broffwydoliaeth. Yn yr erthygl ganlynol, byddwn ni’n trafod Daniel 11:40–12:1, a byddwn yn esbonio beth mae’r rhan honno o’r broffwydoliaeth yn ei ddatgelu am y cyfnod o 1991 hyd at ryfel Armagedon. Wrth iti astudio’r ddwy erthygl hon, fe fydd o gymorth i gyfeirio at y siart “Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd.” Ond yn gyntaf, mae angen gwybod pwy yw’r ddau frenin yn y broffwydoliaeth hon.

ADNABOD BRENIN Y GOGLEDD A BRENIN Y DE

4. Pa dri pheth fydd yn ein helpu i ddeall pwy yw brenin y gogledd a brenin y de?

4 Yn wreiddiol cafodd y teitlau “brenin y gogledd” a “brenin y de” eu rhoi i rymoedd gwleidyddol a oedd i’r gogledd ac i’r de o wlad Israel. Pam rydyn ni’n dweud hynny? Am fod yr angel wedi dweud wrth Daniel: “Dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy’n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol.” (Dan. 10:14) Hyd at adeg Pentecost 33 OG, cenedl Israel oedd pobl Dduw. Ond o hynny ymlaen, dangosodd Jehofa yn eglur mai disgyblion ffyddlon Iesu oedd ei bobl. Felly, mae’r rhan fwyaf o’r broffwydoliaeth yn Daniel pennod 11 yn cyfeirio at ddisgyblion Iesu, nid cenedl lythrennol Israel. (Act. 2:1-4; Rhuf. 9:6-8; Gal. 6:15, 16) A dros amser, daeth rheolwyr neu lywodraethau gwahanol yn frenin y gogledd a brenin y de. Er hynny, roedd gan bob un ohonyn nhw rywbeth yn gyffredin. Yn gyntaf, cafodd y brenhinoedd effaith arwyddocaol ar bobl Dduw. Yn ail, roedd eu ffordd o drin pobl Dduw yn dangos eu bod nhw’n casáu y gwir Dduw, Jehofa. Ac yn drydydd, cystadlodd y ddau frenin yn erbyn ei gilydd am rym.

5. A oedd ’na frenin y gogledd a brenin y de o’r ail ganrif OG hyd at ran olaf y 19eg ganrif? Esbonia.

5 Rhywbryd yn ystod yr ail ganrif OG, daeth mwy a mwy o gau Gristnogion i’r gynulleidfa Gristnogol. Fe wnaethon nhw ledaenu syniadau crefyddol paganaidd a chuddio gwirioneddau Gair Duw. O’r cyfnod hwnnw hyd at ran olaf y 19eg ganrif, doedd gan Dduw ddim cyfundrefn ddaearol. Tyfodd nifer y gau Gristnogion fel chwyn ac felly daeth yn anodd adnabod y gwir Gristnogion. (Math. 13:36-43) Pam mae hynny’n arwyddocaol? Am ei fod yn dangos na allai brenin y gogledd a brenin y de fod yn rheolwyr neu deyrnasoedd oedd mewn grym o rywbryd yn yr ail ganrif hyd at ail hanner y 19eg ganrif. Doedd ’na ddim cyfundrefn o bobl Dduw iddyn nhw ymosod arni. * Sut bynnag, mae hi’n rhesymol i ddisgwyl y byddai brenin y gogledd a brenin y de yn ailymddangos yn hwyr yn y 19eg ganrif. Pam felly?

6. Pryd oedd hi’n bosib adnabod pobl Dduw unwaith eto? Esbonia.

6 O 1870 ymlaen, dechreuodd pobl Dduw ddod at ei gilydd mewn ffordd drefnus. Y flwyddyn honno, ffurfiodd Charles T. Russell ac eraill ddosbarth astudio’r Beibl, gan weithredu fel y negesydd cafodd ei broffwydo amdano a fyddai’n “paratoi’r ffordd” cyn i’r Deyrnas Feseianaidd gael ei sefydlu. (Mal. 3:1) Felly, roedd hi’n bosib adnabod pobl Dduw fel grŵp unwaith eto! A oedd ’na unrhyw rymoedd byd ar y pryd a fyddai’n cael effaith sylweddol ar weision Duw? Gad inni weld.

PWY YDY BRENIN Y DE?

7. Hyd at 1917, pwy oedd brenin y de?

7 Erbyn 1870, Prydain oedd ymerodraeth fwyaf y byd, a ganddi hi oedd y fyddin gryfaf. Cafodd yr ymerodraeth honno ei darlunio fel corn bach a orchfygodd dri chorn arall—Ffrainc, Sbaen, a’r Iseldiroedd. (Dan. 7:7, 8) A hi oedd brenin y de hyd at 1917. Hefyd erbyn hynny, Unol Daleithiau America oedd gwlad gyfoethocaf y byd, ac roedd yn dechrau cydweithio’n agos â Phrydain.

8. Pwy sydd wedi bod yn frenin y de drwy gydol y dyddiau diwethaf?

8 Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd yr Unol Daleithiau a Phrydain â’i gilydd mewn cynghrair milwrol pwerus, gan ffurfio’r Grym Byd Eingl-Americanaidd. Fel rhagddywedodd Daniel, casglodd y brenin hwn fyddin enfawr a phwerus. (Dan. 11:25) Drwy gydol y dyddiau diwethaf, y cynghrair Eingl-Americanaidd sydd wedi bod yn frenin y de. * Ond, pwy ddaeth yn frenin y gogledd?

BRENIN Y GOGLEDD YN AILYMDDANGOS

9. Pryd ailymddangosodd brenin y gogledd, a sut cafodd Daniel 11:25 ei chyflawni?

9 Ym 1871, flwyddyn ar ôl i Russell a’i ffrindiau ffurfio eu grŵp astudio’r Beibl, ailymddangosodd brenin y gogledd. Y flwyddyn honno Otto von Bismarck oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Ymerodraeth Almaenig. Y Brenin Wilhelm I o Prwsia oedd ei hymerawdwr cyntaf, a dewisodd Bismarck i arwain y llywodraeth. * Dros y degawdau nesaf, cipiodd yr Almaen reolaeth dros rai o wledydd Affrica a’r Môr Tawel, a dechreuodd herio grym Prydain. (Darllen Daniel 11:25.) Casglodd yr Ymerodraeth Almaenig fyddin bwerus a’r ail lynges fwyaf yn y byd. Defnyddiodd yr Almaen y grym milwrol hwn yn erbyn ei gelynion yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

10. Sut cafodd Daniel 11:25b, 26 ei chyflawni?

10 Yna rhagfynegodd Daniel beth fyddai’n digwydd i’r Ymerodraeth Almaenig a’i byddin. Yn ôl y broffwydoliaeth, fydd brenin y gogledd “ddim yn llwyddo.” Pam ddim? “Am fod cynllwyn yn ei erbyn. Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri.” (Dan. 11:25b, 26a) Yn ôl yn nyddiau Daniel, roedd yr uchel-swyddogion yn cynnwys rhai oedd yn “gweithio i’r brenin.” (Dan. 1:5) At bwy mae’r broffwydoliaeth hon yn cyfeirio? Mae’n cyfeirio at uchel-swyddogion yr Ymerodraeth Almaenig—gan gynnwys cadfridogion a chynghorwyr milwrol yr ymerawdwr. Yn y pen draw, y nhw a helpodd i ddymchwel y frenhiniaeth. * Yn ogystal â hynny, rhagfynegodd y broffwydoliaeth ganlyniad y rhyfel yn erbyn brenin y de. Wrth sôn am frenin y gogledd, mae’n dweud: “Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd.” (Dan. 11:26b) Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd byddin yr Almaen “ei hysgubo i ffwrdd” a chafodd ‘llawer iawn eu lladd,’ yn union fel y rhagfynegwyd. A bu farw mwy o bobl yn y rhyfel hwnnw nag yn unrhyw ryfel o’i flaen.

11. Beth wnaeth brenin y gogledd a brenin y de?

11 Gan ddisgrifio’r cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, dywed Daniel 11:27, 28 y byddai brenin y gogledd a brenin y de “yn cyfarfod wrth y bwrdd . . . a fyddan nhw’n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd.” Mae hefyd yn dweud y byddai brenin y gogledd yn casglu “llwythi o gyfoeth.” Eto, dyna’n union beth ddigwyddodd. Dywedodd Prydain a’r Almaen wrth ei gilydd eu bod eisiau heddwch, ond pan ddechreuon nhw ymladd yn erbyn ei gilydd ym 1914, roedd hi’n amlwg mai celwydd oedd y cwbl. Ac erbyn 1914, yr Almaen oedd ail economi fwyaf y byd. Yna, brwydrodd yr Almaen yn erbyn brenin y de a chael ei threchu, gan gyflawni Daniel 11:29 a rhan gyntaf adnod 30.

Y BRENHINOEDD YN YMLADD YN ERBYN POBL DDUW

12. Beth wnaeth brenin y gogledd a brenin y de yn y Rhyfel Byd Cyntaf?

12 O 1914 ymlaen, mae’r ddau frenin wedi parhau i ymladd â’i gilydd a phobl Dduw yn fwy ac yn fwy. Er enghraifft yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gwnaeth llywodraeth yr Almaen a llywodraeth Prydain erlid gweision Duw, a oedd yn gwrthod mynd i ryfel. A chafodd y rhai oedd yn arwain y gwaith pregethu eu taflu i’r carchar gan lywodraeth yr Unol Daleithiau. Roedd yr erledigaeth hon yn cyflawni’r broffwydoliaeth yn Datguddiad 11:7-10.

13. Yn y 1930au ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, beth wnaeth brenin y gogledd?

13 Yna, yn y 1930au ac yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ymosododd brenin y gogledd ar bobl Dduw yn ddidrugaredd. Pan ddaeth y blaid Natsïaidd i rym yn yr Almaen, rhoddodd Hitler a’i ddilynwyr waith pobl Dduw o dan waharddiad. Lladdodd brenin y gogledd gannoedd o bobl Jehofa ac anfon miloedd mwy i wersylloedd crynhoi. Cafodd y digwyddiadau hynny eu rhagfynegi gan Daniel. Llwyddodd brenin y gogledd i ‘fynd i mewn i’r deml, ei halogi,’ a “stopio’r aberthu dyddiol” drwy gyfyngu ar ryddid gweision Jehofa i foli ei enw yn gyhoeddus. (Dan. 11:30b, 31a) Addawodd ei arweinydd, Hitler, y byddai’n lladd pob un o bobl Dduw yn yr Almaen.

BRENIN NEWYDD Y GOGLEDD YN CODI

14. Pwy ddaeth yn frenin y gogledd ar ôl yr Ail Ryfel Byd? Esbonia.

14 Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd llywodraeth Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd reoli dros lawer o diriogaeth yr oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaen a dod yn frenin y gogledd. Fel llywodraeth ormesol y Natsïaid gynt, roedd yr Undeb Sofietaidd yn elyniaethus iawn tuag at unrhyw un oedd yn rhoi addoli’r gwir Dduw o flaen ufudd-dod llwyr i’r wladwriaeth.

15. Beth wnaeth brenin y gogledd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd?

15 Yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth brenin newydd y gogledd, sef yr Undeb Sofietaidd a’i gynghreiriaid, gychwyn ei ymosodiad ei hun ar bobl Dduw. Yn unol â’r broffwydoliaeth yn Datguddiad 12:15-17, cafodd y gwaith pregethu ei wahardd gan y brenin hwn ac fe alltudiodd filoedd o bobl Jehofa. Ac felly, drwy gydol y dyddiau diwethaf, mae brenin y gogledd wedi tywallt “afon” o erledigaeth ar bobl Dduw mewn ymgais aflwyddiannus i stopio eu gwaith. *

16. Sut cyflawnodd yr Undeb Sofietaidd Daniel 11:37-39?

16 Darllen Daniel 11:37-39. Cafodd y broffwydoliaeth honno ei chyflawni pan ddangosodd brenin y gogledd ddiffyg “parch at dduwiau ei hynafiaid.” Sut felly? Gyda’r nod o gael gwared ar grefydd, ceisiodd yr Undeb Sofietaidd chwalu grym y cyfundrefnau crefyddol traddodiadol. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, rhoddodd y llywodraeth Sofietaidd orchymyn ym 1918 a osododd y sail i ysgolion ddysgu nad oes ’na Dduw. Sut roedd y brenin y gogledd hwn “yn addoli duw’r canolfannau milwrol”? Gwariodd yr Undeb Sofietaidd swm enfawr o arian ar adeiladu ei fyddin a chynhyrchu miloedd o arfau niwclear er mwyn cryfhau ei rym. Yn y pen draw roedd brenin y gogledd a brenin y de ill dau wedi casglu digon o arfau pwerus i ladd biliynau o bobl!

DAU ELYN YN CYDWEITHIO

17. Beth yw’r “eilun ffiaidd sy’n dinistrio”?

17 Mae brenin y gogledd wedi cefnogi brenin y de i wneud un peth pwysig, sef “codi eilun ffiaidd sy’n dinistrio.” (Dan. 11:31) Yr “eilun ffiaidd” hwnnw yw’r Cenhedloedd Unedig.

18. Pam mae cyfundrefn y Cenhedloedd Unedig yn cael ei disgrifio fel “eilun ffiaidd”?

18 Mae cyfundrefn y Cenhedloedd Unedig yn cael ei disgrifio fel “eilun ffiaidd” am ei bod yn honni y gall ddod â heddwch byd-eang—rhywbeth na all neb ond Teyrnas Dduw ei wneud. Mae’r broffwydoliaeth yn dweud bod yr eilun ffiaidd yn “dinistrio” oherwydd bydd y Cenhedloedd Unedig yn ymosod ar bob gau grefydd ac yn eu dinistrio.—Gweler y siart “Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd.”

PAM RYDYN NI ANGEN GWYBOD YR HANES?

19-20. (a) Pam rydyn ni angen gwybod yr hanes hwn? (b) Pa gwestiwn bydd yr erthygl nesaf yn ei ateb?

19 Rydyn ni angen gwybod yr hanes hwn oherwydd mae’n profi bod proffwydoliaeth Daniel am frenin y gogledd a brenin y de wedi cael ei chyflawni rhwng 1870 a 1991. Felly gallwn ni gael ffydd y bydd gweddill y broffwydoliaeth hefyd yn dod yn wir.

20 Ym 1991, cwympodd yr Undeb Sofietaidd. Felly pwy yw brenin y gogledd heddiw? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

CÂN 128 Dyfalbarhau i’r Diwedd

^ Par. 5 Rydyn ni’n gweld tystiolaeth fod proffwydoliaeth Daniel ynglŷn â “brenin y gogledd” a “brenin y de” yn dal i gael ei chyflawni. Pam gallwn ni fod mor sicr? A pham mae angen inni ddeall manylion y broffwydoliaeth hon?

^ Par. 5 Am y rheswm hwn, dydy hi ddim yn briodol bellach i restru yr Ymerawdwr Rhufeinig Aurelian (270-275 OG) fel “brenin y gogledd” na’r Frenhines Zenobia (267-272 OG) fel “brenin y de.” Mae hyn yn diweddaru’r hyn a gyhoeddwyd yn mhenodau 13 ac 14 o’r llyfr Pay Attention to Daniel’s Prophecy!

^ Par. 9 Ym 1890, cafodd Bismarck ei ddiswyddo gan Kaiser Wilhelm II.

^ Par. 10 Gwnaethon nhw brysuro cwymp yr ymerodraeth mewn sawl ffordd. Er enghraifft, fe wnaethon nhw stopio cefnogi’r kaiser, rhannu gwybodaeth sensitif am golledion y rhyfel, a gorfodi’r kaiser i ildio’r orsedd.

^ Par. 15 Yn unol â phroffwydoliaeth Daniel 11:34, stopiodd brenin y gogledd erlid Cristnogion am gyfnod byr. Enghraifft o hyn oedd pan gwympodd yr Undeb Sofietaidd ym 1991.