Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 18

A Fyddi Di’n Baglu o Achos Iesu?

A Fyddi Di’n Baglu o Achos Iesu?

“Gwyn ei fyd [hapus] y sawl na fydd yn cwympo o’m hachos i.”—MATH. 11:6, BCND.

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

CIPOLWG *

1. Beth efallai wnaeth dy synnu wrth iti geisio rhannu neges y Beibl ag eraill am y tro cyntaf?

WYT ti’n cofio’r adeg pan wnest ti sylweddoli am y tro cyntaf dy fod ti wedi cael hyd i’r gwir? Roedd yr hyn roeddet ti’n ei ddysgu o’r Beibl yn ymddangos mor glir—yn glir fel crisial! Roeddet ti’n meddwl y byddai pawb eisiau derbyn y pethau roeddet ti wedi dod i’w credu. Roeddet ti’n sicr y byddai neges y Beibl yn rhoi bywyd gwell iddyn nhw nawr a gobaith hyfryd am y dyfodol. (Salm 119:105) Felly, est ti ati yn frwdfrydig i rannu’r gwirioneddau roeddet ti wedi eu darganfod â dy ffrindiau a pherthnasau. Ond beth ddigwyddodd? Er syndod iti, gwnaeth llawer wrthod yr hyn ddywedaist ti wrthyn nhw.

2-3. Sut gwnaeth y mwyafrif yn nyddiau Iesu ymateb iddo?

2 Ddylai’r un ohonon ni synnu pan fydd eraill yn gwrthod y neges rydyn ni’n ei phregethu. Yn nyddiau Iesu, gwnaeth y mwyafrif ei wrthod, er iddo gyflawni gwyrthiau a oedd yn profi bod ganddo gefnogaeth Duw. Er enghraifft, gwnaeth Iesu atgyfodi Lasarus—gwyrth nad oedd ei wrthwynebwyr yn gallu ei gwadu. Er hynny, wnaeth yr arweinwyr Iddewig ddim derbyn Iesu fel y Meseia. Roedden nhw hyd yn oed eisiau lladd Iesu a Lasarus!—Ioan 11:47, 48, 53; 12:9-11.

3 Gwyddai Iesu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn gwrthod ei gydnabod fel y Meseia. (Ioan 5:39-44) Dywedodd wrth grŵp o ddisgyblion Ioan Fedyddiwr: “Gwyn ei fyd [hapus] y sawl na fydd yn cwympo o’m hachos i.” (Math. 11:2, 3, 6, BCND) Pam gwnaeth cymaint o bobl wrthod Iesu?

4. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl hon, yn ogystal â’r un nesaf, byddwn ni’n ystyried nifer o resymau pam na wnaeth llawer yn y ganrif gyntaf roi ffydd yn Iesu. Byddwn ni hefyd yn gweld pam mae llawer heddiw yn gwrthod ein neges. Yn bwysicach byth, byddwn ni’n dysgu pam gallwn ni gael ffydd gref yn Iesu er mwyn i ninnau beidio â baglu.

(1) CEFNDIR IESU

Cafodd llawer eu baglu oherwydd cefndir Iesu. Sut gallai’r un pethau ein baglu ninnau heddiw? (Gweler paragraff 5) *

5. Pam efallai roedd rhai yn meddwl nad Iesu oedd y Meseia addawedig?

5 Gwnaeth llawer faglu oherwydd cefndir Iesu. Roedden nhw’n cydnabod bod Iesu yn athro rhagorol a’i fod yn gwneud gwyrthiau. Ond iddyn nhw, dim ond mab saer tlawd oedd ef. Ac roedd yn dod o Nasareth, dinas oedd efallai’n cael ei hystyried yn ddi-nod. Fe wnaeth hyd yn oed Nathanael, a ddaeth yn ddisgybl i Iesu, ddweud ar un adeg: “Ddaeth unrhyw beth da o’r lle yna erioed?” (Ioan 1:46) Efallai nad oedd Nathanael yn hoff iawn o ddinas Nasareth, lle roedd Iesu’n byw ar y pryd. Neu efallai roedd yn meddwl am y broffwydoliaeth yn Micha 5:2, a oedd yn rhagfynegi y byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem, nid yn Nasareth.

6. Beth ddylai fod wedi helpu pobl yn adeg Iesu i’w adnabod fel y Meseia?

6 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Rhagfynegodd y proffwyd Eseia na fyddai gelynion Iesu yn “malio beth oedd yn digwydd iddo,” heb sôn am dalu sylw i’r manylion. (Esei. 53:8) Cafodd llawer o’r manylion hynny eu proffwydo. Petasai’r bobl wedi cymryd yr amser i ystyried y ffeithiau i gyd, bydden nhw wedi dysgu bod Iesu wedi cael ei eni ym Methlehem a’i fod yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd. (Luc 2:4-7) Felly, roedd man geni Iesu yn cyd-fynd â’r broffwydoliaeth yn Micha 5:2. Beth, felly, oedd y broblem? Roedd pobl yn rhy gyflym i ffurfio barn. Doedd ganddyn nhw ddim y ffeithiau i gyd. Oherwydd hynny, cawson nhw eu baglu.

7. Pam mae llawer heddiw yn gwrthod pobl Jehofa?

7 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Ar y cyfan, dydy pobl Jehofa ddim yn gyfoethog nac yn bwysig; mae llawer yn eu hystyried yn unigolion “cyffredin di-addysg.” (Act. 4:13) Mae rhai yn teimlo nad ydy pobl Dduw yn gallu dysgu am y Beibl am nad ydyn nhw wedi graddio o golegau crefyddol pwysig. Mae eraill yn honni mai “crefydd Americanaidd” yw Tystion Jehofa, er mewn gwirionedd, dim ond tua 1 ym mhob 7 ohonyn nhw sy’n byw yn yr Unol Daleithiau. Mae eraill eto wedi clywed bod y Tystion ddim yn credu yn Iesu. Dros y blynyddoedd, mae pobl Jehofa wedi cael eu labelu’n “Gomiwnyddion,” “ysbïwyr Americanaidd,” ac “eithafwyr.” Am nad oes gan y rhai sy’n clywed y straeon hynny y ffeithiau, neu dydyn nhw ddim yn eu derbyn, maen nhw’n cael eu baglu.

8. Yn ôl Actau 17:11, beth dylai pobl ei wneud er mwyn adnabod gweision Duw heddiw?

8 Sut gall rhywun osgoi cael ei faglu? Mae’n rhaid i bobl ystyried y ffeithiau. Dyna oedd Luc, ysgrifennwr yr Efengyl, yn benderfynol o’i wneud. Gweithiodd yn galed i “astudio’r pethau yma’n fanwl.” Roedd eisiau i’w ddarllenwyr allu “gwybod yn sicr” fod y pethau roedden nhw wedi eu clywed am Iesu “yn wir.” (Luc 1:1-4) Roedd y bobl Iddewig yn Berea gynt yn debyg i Luc. Pan glywson nhw’r newyddion da am Iesu am y tro cyntaf, fe wnaethon nhw droi at yr Ysgrythurau Hebraeg i gadarnhau beth roedden nhw wedi ei glywed. (Darllen Actau 17:11.) Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid i bobl heddiw ystyried y ffeithiau. Mae’n rhaid iddyn nhw gymharu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu gan bobl Dduw â’r hyn mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud. Rhaid iddyn nhw hefyd astudio’r hyn mae pobl Jehofa wedi ei wneud yn yr oes fodern. Os ydyn nhw’n gwirio’r cefndir yn iawn, fyddan nhw ddim yn caniatáu i ragfarn na straeon eu dallu.

(2) GWRTHODODD IESU WNEUD SIOE O’I WYRTHIAU

Cafodd llawer eu baglu am fod Iesu wedi gwrthod gwneud sioe o’i wyrthiau. Sut gallai’r un pethau ein baglu ninnau heddiw? (Gweler paragraffau 9-10) *

9. Beth ddigwyddodd pan wrthododd Iesu wneud arwydd gwyrthiol?

9 Doedd rhai pobl yn nyddiau Iesu ddim yn fodlon â’i ddysgeidiaethau rhyfeddol yn unig. Roedden nhw eisiau mwy. Roedden nhw’n mynnu ei fod yn profi mai ef oedd y Meseia drwy wneud “arwydd gwyrthiol.” (Math. 16:1) Efallai roedden nhw eisiau iddo wneud hyn am eu bod nhw wedi camddeall Daniel 7:13, 14. Ond, nid dyna oedd amser Jehofa i’r broffwydoliaeth honno gael ei chyflawni. Dylai fod yr hyn roedd Iesu yn eu dysgu wedi bod yn ddigon i brofi iddyn nhw mai ef oedd y Meseia. Ond pan wrthododd roi’r arwydd roedden nhw’n gofyn amdano, cawson nhw eu baglu.—Math. 16:4.

10. Sut gwnaeth Iesu gyflawni’r hyn ysgrifennodd Eseia am y Meseia?

10 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Wrth sôn am y Meseia, ysgrifennodd y proffwyd Eseia: “Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.” (Esei. 42:1, 2) Aeth Iesu o gwmpas ei weinidogaeth heb dynnu sylw ato’i hun. Wnaeth ef ddim adeiladu temlau godidog, a wnaeth ef ddim gwisgo dillad crefyddol arbennig, na mynnu bod pobl yn ei gyfarch â theitlau crefyddol mawreddog. Yn ystod ei dreial, gwnaeth Iesu wrthod ceisio plesio’r Brenin Herod drwy wneud gwyrth, er roedd ei fywyd yn y fantol. (Luc 23:8-11) Fe wnaeth Iesu gyflawni rhai gwyrthiau, ond roedd ei brif ffocws ar bregethu’r newyddion da. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Dyna pam dw i yma.”—Marc 1:38.

11. Pa syniadau anghywir sydd gan rai heddiw?

11 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Heddiw, mae eglwysi cadeiriol llawn addurniadau drud, clerigwyr â theitlau aruchel, a seremonïau y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi anghofio eu tarddiad neu eu hystyr, yn creu argraff fawr ar lawer. Ond beth mae pobl sy’n mynychu’r fath wasanaethau crefyddol yn ei ddysgu am Dduw a’i fwriadau? Mae’r rhai sy’n mynychu ein cyfarfodydd Cristnogol yn dysgu beth mae Jehofa yn ei ofyn gynnon ni, a sut i ymddwyn yn unol â’i ewyllys. Mae Neuaddau’r Deyrnas yn lân ac yn ymarferol, ond dydyn nhw ddim yn llefydd crand dros ben. Dydy’r rhai sy’n cymryd y blaen ddim yn gwisgo dillad arbennig, a does ganddyn nhw ddim teitlau mawreddog chwaith. Gair Duw yw sail yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu ac yn ei gredu. Er hynny, mae llawer heddiw yn cael eu baglu am eu bod nhw’n meddwl bod ein ffordd o addoli yn rhy syml, ac am nad ydy’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn cytuno â’r hyn maen nhw eisiau ei glywed.

12. Yn ôl Hebreaid 11:1, 6, ar beth dylen ni seilio ein ffydd?

12 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? Dywedodd yr apostol Paul wrth Gristnogion Rhufain: “Mae’n rhaid clywed cyn gallu credu—clywed rhywun yn rhannu’r newyddion da am y Meseia.” (Rhuf. 10:17) Felly, rydyn ni’n adeiladu ein ffydd drwy astudio’r Ysgrythurau, nid drwy gael rhan mewn seremonïau crefyddol anysgrythurol, ni waeth pa mor ddeniadol ydyn nhw. Mae’n rhaid inni adeiladu ffydd gref ar sail gwybodaeth gywir, oherwydd “mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd.” (Darllen Hebreaid 11:1, 6.) Felly, does dim rhaid inni weld arwydd gwyrthiol i brofi ein bod ni wedi cael hyd i’r gwir. Mae astudiaeth fanwl o ddysgeidiaethau’r Beibl yn ddigon i’n hargyhoeddi a chwalu unrhyw amheuon.

(3) DOEDD IESU DDIM YN DILYN POB TRADDODIAD IDDEWIG

Cafodd llawer eu baglu am fod Iesu wedi gwrthod rhai o’u traddodiadau. Sut gallai’r un pethau ein baglu ninnau heddiw? (Gweler paragraff 13) *

13. Beth wnaeth achosi i lawer wrthod Iesu?

13 Yn nyddiau Iesu, doedd disgyblion Ioan Fedyddiwr ddim yn deall pam nad oedd disgyblion Iesu yn ymprydio. Esboniodd Iesu nad oedd ganddyn nhw reswm i ymprydio tra oedd ef yn dal yn fyw. (Math. 9:14-17) Er hynny, gwnaeth y Phariseaid a gwrthwynebwyr eraill gondemnio Iesu am nad oedd yn dilyn eu harferion a’u traddodiadau. Roedden nhw’n ddig pan ddewisodd iacháu pobl ar y Saboth. (Marc 3:1-6; Ioan 9:16) Ar un llaw, roedden nhw’n brolio eu bod nhw’n cadw’r Saboth; ond ar y llaw arall, doedd ganddyn nhw ddim problem caniatáu i bobl brynu a gwerthu yn y deml. Roedden nhw’n gandryll pan wnaeth Iesu eu condemnio nhw am hynny. (Math. 21:12, 13, 15) A gwylltiodd y rhai roedd Iesu yn pregethu iddyn nhw yn y synagog yn Nasareth am ei fod wedi defnyddio enghreifftiau o hanes Israel i ddangos eu bod nhw’n hunanol a heb ffydd. (Luc 4:16, 25-30) Gwnaeth ymddygiad annisgwyl Iesu achosi i lawer faglu.—Math. 11:16-19.

14. Pam gwnaeth Iesu gondemnio traddodiadau oedd yn mynd yn groes i’r Ysgrythurau?

14 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Dywedodd Jehofa drwy ei broffwyd Eseia: “Mae’r bobl yma’n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau’n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.” (Esei. 29:13) Roedd Iesu’n iawn i gondemnio traddodiadau oedd yn mynd yn groes i’r Ysgrythurau. Roedd y rhai oedd yn meddwl bod rheolau a thraddodiadau dynion yn bwysicach na’r Ysgrythurau yn gwrthod Jehofa a’r un gwnaeth ef ei anfon fel y Meseia.

15. Pam nad ydy llawer o bobl yn hoffi Tystion Jehofa heddiw?

15 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Mae llawer o bobl yn ypsetio pan na fydd Tystion Jehofa yn ymuno â nhw mewn dathliadau anysgrythurol, fel penblwyddi a’r Nadolig. Mae eraill yn digio pan na fydd Tystion Jehofa yn ymuno â dathliadau cenedlaetholgar neu arferion angladd sy’n mynd yn groes i Air Duw. Efallai bod y rhai sy’n cael eu baglu fel hyn yn wir yn credu eu bod nhw’n addoli Duw mewn ffordd dderbyniol. Ond allan nhw ddim ei blesio os oes well ganddyn nhw draddodiadau’r byd yn hytrach na dysgeidiaethau clir y Beibl.—Marc 7:7-9.

16. Yn ôl Salm 119:97, 113, 163-165, beth sydd rhaid inni ei wneud, a beth sy’n rhaid inni ei osgoi?

16 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? Rydyn ni angen meithrin cariad cryf tuag at ddeddfau ac egwyddorion Jehofa. (Darllen Salm 119:97, 113, 163-165.) Os ydyn ni’n caru Jehofa, byddwn ni’n gwrthod unrhyw draddodiadau sydd ddim yn ei blesio. Fyddwn ni ddim yn caniatáu i unrhyw beth fod yn bwysicach na’n cariad tuag at Jehofa.

(4) WNAETH IESU DDIM CEISIO NEWID Y SEFYLLFA WLEIDYDDOL

Cafodd llawer eu baglu am fod Iesu wedi gwrthod ymwneud â gwleidyddiaeth. Sut gallai’r un pethau ein baglu ninnau heddiw? (Gweler paragraff 17) *

17. Beth roedd llawer yn nyddiau Iesu yn disgwyl iddo ei wneud?

17 Roedd rhai yn nyddiau Iesu eisiau newid yn y llywodraeth ar unwaith. Roedden nhw’n disgwyl i’r Meseia eu rhyddhau rhag gorthrwm y Rhufeiniaid. Ond pan wnaethon nhw geisio gwneud Iesu yn frenin, fe wnaeth ef wrthod. (Ioan 6:14, 15) Roedd eraill—gan gynnwys yr offeiriaid—yn pryderu y byddai Iesu yn dod â newid gwleidyddol a fyddai’n codi gwrychyn y Rhufeiniaid, a oedd wedi rhoi rywfaint o rym ac awdurdod i’r arweinwyr crefyddol hynny. Achosodd y fath bryderon gwleidyddol i lawer o Iddewon faglu.

18. Pa broffwydoliaethau Beiblaidd am y Meseia gwnaeth llawer eu hanwybyddu?

18 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Er roedd llawer o broffwydoliaethau wedi rhagfynegi y byddai’r Meseia yn Rhyfelwr buddugoliaethus yn y pen draw, roedd proffwydoliaethau eraill yn dangos y byddai’n rhaid iddo farw dros ein pechodau yn gyntaf. (Esei. 53:9, 12) Felly pam oedd eu disgwyliadau yn anghywir? Roedd llawer yn adeg Iesu yn anwybyddu unrhyw broffwydoliaeth nad oedd yn addo datrys eu problemau yn syth.—Ioan 6:26, 27.

19. Pa ddisgwyliadau sydd wedi baglu llawer heddiw?

19 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Mae llawer yn cael eu baglu heddiw oherwydd ein safiad niwtral tuag at wleidyddiaeth. Maen nhw’n disgwyl inni bleidleisio mewn etholiadau. Ond, rydyn ni’n sylweddoli os ydyn ni’n dewis arweinydd dynol i reoli droston ni, rydyn ni’n gwrthod Jehofa. (1 Sam. 8:4-7) Efallai bydd pobl hefyd yn meddwl y dylen ni adeiladu ysgolion ac ysbytai yn ogystal â gwneud pethau eraill i helpu yn y gymuned. Maen nhw’n cael eu baglu am ein bod ni’n canolbwyntio ar y gwaith pregethu, nid ar ddatrys problemau’r byd ar unwaith.

20. Yn ôl geiriau Iesu yn Mathew 7:21-23, beth ddylai ein prif ffocws fod?

20 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? (Darllen Mathew 7:21-23.) Dylen ni ganolbwyntio ar wneud y gwaith mae Iesu wedi gorchymyn inni ei wneud. (Math. 28:19, 20) Ddylen ni byth adael i faterion gwleidyddol a chymdeithasol y byd dynnu ein sylw oddi ar hynny. Rydyn ni’n caru pobl ac mae eu problemau o gonsýrn inni, ond rydyn ni’n gwybod mai’r ffordd orau i helpu ein cymdogion yw drwy eu dysgu nhw am Deyrnas Dduw a’u helpu i fod yn ffrind i Jehofa.

21. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

21 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi ystyried pedwar maen tramgwydd a achosodd i lawer wrthod Iesu yn y ganrif gyntaf ac a allai achosi i rai heddiw wrthod dilynwyr Iesu. Ond ai dyma’r unig bethau mae’n rhaid inni eu hosgoi? Nage. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n ystyried pedwar rhwystr arall. Gad inni fod yn benderfynol o beidio â chael ein baglu ac i gadw ein ffydd yn gryf!

CÂN 56 Gwna i’r Gwir Wir Fyw!

^ Par. 5 Er mai Iesu oedd yr Athro gorau a fuodd erioed ar y ddaear, cafodd y rhan fwyaf o bobl ei oes eu baglu ganddo. Pam? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried pedwar rheswm. Byddwn hefyd yn gweld pam mae cymaint o bobl heddiw yn baglu o achos yr hyn mae gwir ddilynwyr Iesu yn ei ddweud ac yn ei wneud. Ac yn bwysicach byth, byddwn ni’n dysgu pam gallwn ni gael ffydd gref yn Iesu er mwyn i ninnau beidio â baglu.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Philip yn annog Nathanael i gyfarfod Iesu.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Iesu yn pregethu’r newyddion da.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Iesu yn iacháu dyn a llaw ddiffrwyth tra bod gwrthwynebwyr yn gwylio.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Iesu yn mynd i ben mynydd ar ei ben ei hun.