Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

Bydd Jehofa yn Rhoi Nerth Iti

Bydd Jehofa yn Rhoi Nerth Iti

“Pan dw i’n wan, mae gen i nerth go iawn.”—2 COR. 12:10.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

CIPOLWG *

1-2. Pa heriau mae llawer o Dystion yn eu hwynebu?

ANOGODD yr apostol Paul Timotheus a phob Cristion o ran hynny i gyflawni ei weinidogaeth yn llawn. (2 Tim. 4:5) Mae pob un ohonon ni yn cymryd cyngor Paul o ddifri. Ond, mae ’na heriau. I lawer o’n brodyr a’n chwiorydd, mae’r gwaith pregethu yn gofyn am ddewrder go iawn. (2 Tim. 4:2) Meddylia, er enghraifft, am ein brodyr sy’n byw mewn gwledydd lle mae’n gwaith wedi ei gyfyngu neu hyd yn oed wedi ei wahardd. Maen nhw’n rhoi eu rhyddid yn y fantol er mwyn cael rhan yn y weinidogaeth!

2 Mae pobl Jehofa yn delio ag amryw o broblemau a allai eu digalonni. Er enghraifft, mae llawer yn gorfod gweithio dyddiau hir dim ond i ofalu am anghenion sylfaenol eu teulu. Bydden nhw’n hoffi gwneud mwy yn y weinidogaeth, ond does ganddyn nhw ddim llawer o egni ar ddiwedd yr wythnos. Mae gan eraill gyfyngiadau ar yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud oherwydd salwch hirdymor neu henaint; hwyrach eu bod nhw hyd yn oed yn gaeth i’r tŷ. Mae eraill eto wastad yn teimlo eu bod nhw’n ddiwerth. Dywedodd Mary, * chwaer sy’n byw yn y Dwyrain Canol: “Mae brwydro yn erbyn fy nheimladau negyddol yn cymryd gymaint o egni nes fy mod i wedi llwyr ymlâdd yn emosiynol. Wedyn, dw i’n teimlo’n euog am ei bod yn cymryd amser ac egni i ffwrdd o fy ngweinidogaeth.”

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Ni waeth beth yw ein hamgylchiadau, gall Jehofa roi inni’r nerth rydyn ni ei angen i ymdopi â’n heriau personol a pharhau i’w wasanaethu i’r gorau o’n gallu. Cyn ystyried sut gall Jehofa ein helpu ni, gad inni drafod sut gwnaeth Jehofa atgyfnerthu Paul a Timotheus i gyflawni eu gweinidogaeth er gwaethaf heriau.

NERTH I GYFLAWNI’R GWAITH PREGETHU

4. Pa heriau a wynebodd Paul?

4 Wynebodd Paul lawer o heriau. Roedd angen nerth arno yn enwedig pan gafodd ei guro, ei labyddio, a’i garcharu. (2 Cor. 11:23-25) Roedd Paul yn cyfaddef yn gwbl agored ei fod yn brwydro teimladau negyddol ar adegau. (Rhuf. 7:18, 19, 24) Roedd ef hefyd yn dioddef “poenau corfforol” o ryw fath, ac roedd yn dymuno’n arw y byddai Duw yn cael gwared arnyn nhw.—2 Cor. 12:7, 8.

Beth wnaeth alluogi Paul i wneud ei weinidogaeth? (Gweler paragraffau 5-6) *

5. Beth gyflawnodd Paul er gwaetha’r heriau a wynebodd?

5 Atgyfnerthodd Jehofa Paul i ddal ati yn ei weinidogaeth er gwaetha’r holl heriau roedd yn eu hwynebu. Ystyria beth gyflawnodd Paul. Er enghraifft, tra oedd o dan arestiad tŷ yn Rhufain, pregethodd yn selog i arweinwyr Iddewig ac efallai i swyddogion y llywodraeth. (Act. 28:17; Phil. 4:21, 22) Pregethodd hefyd i lawer yng Ngwarchodlu’r Praetoriwm, ac i bawb a ddaeth i’w weld. (Act. 28:30, 31; Phil. 1:13) Yn ystod y cyfnod hwnnw, ysgrifennodd Paul lythyrau ysbrydoledig sydd wedi bod yn fuddiol i wir Gristnogion hyd heddiw. Gwnaeth esiampl Paul atgyfnerthu’r gynulleidfa yn Rhufain, ac o ganlyniad roedd ei frodyr yn “fwy hyderus” a doedd ganddyn nhw “ddim ofn rhannu neges Duw.” (Phil. 1:14) Er nad oedd Paul yn gallu gwneud cymaint ag yr oedd ef eisiau, fe wnaeth y gorau o’i sefyllfa, a throdd hynny’n “gyfle newydd i rannu’r newyddion da.”—Phil. 1:12.

6. Yn ôl 2 Corinthiaid 12:9, 10, beth helpodd Paul i wneud ei weinidogaeth?

6 Sylweddolodd Paul mai nerth Duw, nid ei nerth ei hun, oedd y tu ôl i bopeth a wnaeth yng ngwasanaeth Jehofa. Dywedodd fod nerth Duw yn “gweithio orau mewn gwendid.” (Darllen 2 Corinthiaid 12:9, 10.) Drwy ei ysbryd glân, rhoddodd Jehofa’r nerth i Paul allu gwneud ei weinidogaeth—er gwaetha’r erledigaeth, y carchariad, a’r heriau eraill roedd yn eu hwynebu.

Beth wnaeth alluogi Timotheus i wneud ei weinidogaeth? (Gweler paragraff 7) *

7. Pa heriau roedd rhaid i Timotheus eu trechu er mwyn cyflawni ei weinidogaeth?

7 Roedd rhaid i Timotheus, cyfaill ifanc Paul, hefyd ddibynnu ar nerth Duw i wneud ei weinidogaeth. Aeth Timotheus gyda Paul ar deithiau cenhadol hir. Hefyd, gwnaeth Paul ei anfon ar deithiau eraill i ymweld â chynulleidfaoedd a’u hannog. (1 Cor. 4:17) Efallai bod Timotheus wedi teimlo nad oedd yn ddigon da. Hwyrach dyna pam dywedodd Paul wrtho: “Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di’n ifanc.” (1 Tim. 4:12) Ar ben hynny, roedd Timotheus yn wynebu ei broblemau iechyd ei hun yn ystod y cyfnod hwnnw. (1 Tim. 5:23) Ond gwyddai Timotheus y byddai ysbryd glân grymus Jehofa yn gallu rhoi’r nerth roedd ei angen arno i bregethu’r newyddion da a gwasanaethu ei frodyr.—2 Tim. 1:7.

NERTH I AROS YN FFYDDLON ER GWAETHAF HERIAU

8. Sut mae Jehofa yn atgyfnerthu ei bobl heddiw?

8 Heddiw, mae Jehofa yn rhoi “grym anhygoel” i’w bobl fel eu bod nhw’n gallu parhau i’w wasanaethu yn ffyddlon. (2 Cor. 4:7) Gad inni ystyried pedwar peth mae Jehofa wedi eu rhoi inni er mwyn ein hatgyfnerthu a’n helpu i aros yn ffyddlon iddo, sef gweddi, y Beibl, cwmni ein brodyr a’n chwiorydd, a’r weinidogaeth.

Mae Jehofa yn ein hatgyfnerthu drwy weddi (Gweler paragraff 9)

9. Sut gall gweddi ein helpu?

9 Cael nerth drwy weddi. Yn Effesiaid 6:18, mae Paul yn ein hannog i weddïo ar Dduw “bob amser.” Bydd Duw yn ymateb drwy ein hatgyfnerthu. Gwnaeth Jonnie, sy’n byw ym Molifia, deimlo’r gefnogaeth honno pan wynebodd gyfres o dreialon. Aeth ei wraig, ei fam, a’i dad yn ddifrifol wael ar yr un adeg. Roedd hi’n anodd iawn i Jonnie ofalu am anghenion y tri ohonyn nhw. Bu farw ei fam, a chymerodd amser hir i’w wraig a’i dad wella o’u salwch. Wrth edrych yn ôl, dywedodd Jonnie, “Pan o’n i o dan bwysau ofnadwy, bod yn benodol yn fy ngweddïau oedd yn fy helpu i bob tro.” Rhoddodd Jehofa y nerth roedd Jonnie ei angen i ddal ati. Clywodd Ronald, henuriad ym Molifia, bod gan ei fam ganser. Buodd hi farw fis yn ddiweddarach. Beth wnaeth ei helpu i ymdopi? Dywedodd: “Mae gweddïo ar Jehofa yn rhoi cyfle imi dywallt fy nghalon a lleisio fy nheimladau. Dw i’n gwybod ei fod yn fy neall i’n well nag unrhyw un arall, yn well nag ydw i’n deall fy hun hyd yn oed.” Ar adegau, efallai bydd ein problemau yn ein llethu, ac efallai na fyddwn ni’n gwybod beth i weddïo amdano. Ond mae Jehofa yn ein gwahodd i weddïo arno, hyd yn oed os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd rhoi ein meddyliau a’n teimladau mewn geiriau.—Rhuf. 8:26, 27.

Mae Jehofa yn ein hatgyfnerthu drwy’r Beibl (Gweler paragraff 10)

10. Yn ôl Hebreaid 4:12, pam mae darllen y Beibl a myfyrio arno mor bwysig?

10 Cael nerth o’r Beibl. Yn union fel y gwnaeth Paul ddibynnu ar yr Ysgrythurau am nerth a chysur, gallwn ninnau ddibynnu arnyn nhw hefyd. (Rhuf. 15:4) Wrth inni ddarllen Gair Duw a myfyrio arno, gall Jehofa ddefnyddio ei ysbryd i’n helpu ni i ddeall yn well sut mae’r Ysgrythurau yn berthnasol i’n sefyllfa ni. (Darllen Hebreaid 4:12.) Dywedodd Ronald, a soniwyd amdano gynt: “Dw i’n falch wnes i’r ymdrech i ddarllen y Beibl bob nos. Dw i’n myfyrio cryn dipyn ar rinweddau Jehofa a’r ffordd gariadus mae’n gofalu am ei bobl. Mae hyn yn fy helpu i i adennill fy nerth.”

11. Sut gwnaeth y Beibl atgyfnerthu chwaer a oedd yn galaru?

11 Gallwn feithrin yr agwedd gywir tuag at ein hamgylchiadau drwy fyfyrio ar Air Duw. Ystyria sut gwnaeth y Beibl helpu gwraig weddw a oedd yn galaru. Awgrymodd un henuriad y byddai hi’n dysgu gwersi defnyddiol o ddarllen llyfr Job. Wrth iddi wneud hynny, ei hymateb cyntaf oedd beirniadu Job am ei ffordd anghywir o feddwl. Yn ei dychymyg, wnaeth hi ei rybuddio: “Job! Paid â bod mor negyddol!” Ond wedyn, wnaeth hi sylweddoli bod ei hagwedd hi wedi bod yn debyg iawn i un Job. Gwnaeth hyn ei helpu i addasu ei safbwynt a rhoi’r nerth iddi ymdopi â’r boen o golli ei gŵr.

Mae Jehofa yn ein hatgyfnerthu drwy gwmni Cristnogol (Gweler paragraff 12)

12. Sut mae Jehofa yn defnyddio ein cyd-addolwyr i’n hatgyfnerthu?

12 Cael nerth o gwmni Cristnogol. Ffordd arall mae Jehofa yn atgyfnerthu Cristnogion yw drwy eu cyd-addolwyr. Ysgrifennodd Paul ei fod yn dyheu am gael cwmni ei frodyr a chwiorydd er mwyn iddyn nhw allu calonogi ei gilydd. (Rhuf. 1:11, 12) Mae Mair, a soniwyd amdani gynt, wrth ei bodd yng nghwmni ei brodyr a chwiorydd. “Mae Jehofa wedi defnyddio brodyr a chwiorydd doedd ddim hyd yn oed yn gwybod am fy mhroblemau,” meddai. “Dywedon nhw rywbeth calonogol neu anfon cerdyn, a dyna’n union o’n i ei angen. Gwnaeth hi hefyd helpu i agor fy nghalon i chwiorydd eraill oedd wedi mynd trwy rywbeth tebyg a dysgu o’u profiadau. Ac mae’r henuriaid wastad yn gwneud imi deimlo fy mod i’n rhan werthfawr o’r gynulleidfa.”

13. Sut gallwn ni galonogi ein gilydd yn y cyfarfodydd?

13 Un o’r llefydd gorau i galonogi ein gilydd yw yng nghyfarfodydd y gynulleidfa. Pan wyt ti yn y cyfarfodydd, beth am gymryd y cam cyntaf i atgyfnerthu eraill â geiriau cynnes llawn gwerthfawrogiad. Er enghraifft, cyn un cyfarfod dywedodd henuriad o’r enw Peter wrth chwaer gyda gŵr anghrediniol: “Elli di ddim dychmygu pa mor galonogol ydy hi i dy weld di yma. Mae gen ti chwech o blant ac maen nhw wastad yn smart ac yn barod gydag atebion.” Llenwodd ei llygaid â dagrau o ddiolch wrth iddi ddweud: “Does gen ti ddim syniad faint o’n i angen clywed hynny heddiw.”

Mae Jehofa yn ein hatgyfnerthu drwy’r weinidogaeth (Gweler paragraff 14)

14. Pa effaith mae’r weinidogaeth yn ei chael arnon ni?

14 Cael nerth drwy’r weinidogaeth. Pan fyddwn ni’n rhannu gwirioneddau’r Beibl ag eraill, cawn ein hadfywio, p’un a ydyn nhw’n ymateb yn bositif neu ddim. (Diar. 11:25) Cafodd chwaer o’r enw Stacy brofiad o sut gall rhywun gael nerth o’r weinidogaeth. Pan gafodd aelod o’i theulu ei ddiarddel, roedd hi’n ddigalon iawn a gofynnodd iddi hi ei hun drosodd a throsodd, ‘A allwn i fod wedi gwneud mwy i helpu?’ Prin oedd Stacy yn gallu meddwl am unrhyw beth arall. Beth helpodd hi i deimlo’n well? Y weinidogaeth! Wrth iddi bregethu, dechreuodd hi ganolbwyntio ar y bobl yn y diriogaeth oedd angen ei help. Dywedodd: “Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhoddodd Jehofa gyfle imi astudio’r Beibl gyda rhywun a ddaeth yn ei blaen yn sydyn iawn. Gwnaeth hynny fy nghalonogi’n fawr. Y peth sy’n sefydlogi fy mywyd fwyaf yw’r weinidogaeth.”

15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau Mary?

15 Oherwydd eu hamgylchiadau, mae rhai yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu gwneud llawer yn y weinidogaeth. Os mai dyna sut rwyt ti’n teimlo, cofia bod Jehofa’n hapus os wyt ti’n gwneud dy orau. Ystyria eto esiampl Mary. Pan symudodd hi i faes iaith dramor, doedd hi ddim yn teimlo’n ddefnyddiol iawn. Dywedodd, “Am beth amser, y cwbl o’n i’n gallu gwneud oedd rhoi atebion syml, darllen adnod o’r Beibl, neu roi taflen ar y weinidogaeth.” Gwnaeth hyn wneud iddi deimlo nad oedd hi’n ddigon da o’i chymharu â siaradwyr rhugl. Ond, fe wnaeth hi newid ei ffordd o feddwl. Daeth hi i sylweddoli bod Jehofa yn gallu ei defnyddio hi er nad oedd hi’n gallu siarad yr iaith yn dda. Dywedodd, “Mae gwirioneddau’r Beibl yn syml, a gall y gwirioneddau hynny achub bywydau pobl.”

16. Beth all helpu’r rhai sydd eisiau pregethu ond sy’n gaeth i’r tŷ?

16 Mae Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein dymuniad i gael rhan yn y weinidogaeth, hyd yn oed os ydyn ni’n gaeth i’r tŷ. Mae’n gallu creu cyfleoedd inni dystiolaethu i ofalwyr neu staff meddygol. Os byddwn ni’n cymharu’r hyn rydyn ni’n ei wneud nawr â’r hyn roedden ni’n gallu ei wneud yn y gorffennol, gallen ni ddigalonni. Ond os ydyn ni’n deall sut mae Jehofa yn ein helpu ni nawr, bydd gynnon ni’r nerth rydyn ni ei angen i ddal ati’n llawen yn wyneb unrhyw dreial.

17. Yn ôl Pregethwr 11:6, pam dylen ni ddal ati yn ein gweinidogaeth hyd yn oed os na fydden ni’n gweld canlyniadau ar unwaith?

17 Wyddon ni ddim pa un o’r hadau gwirionedd rydyn ni’n eu plannu fydd yn gwreiddio ac yn dechrau tyfu. (Darllen Pregethwr 11:6.) Er enghraifft, mae Barbara, chwaer yn ei 80au, yn tystiolaethu’n aml dros y ffôn a thrwy lythyrau. Yn un o’i llythyrau, wnaeth hi gynnwys copi o’r erthygl What God Has Done for Youo rifyn Mawrth 1, 2014, y Tŵr Gwylio. Heb yn wybod iddi hi, roedd hi wedi anfon y llythyr i gwpl priod nad oedd yn Dystion Jehofa bellach. Darllenon nhw’r cylchgrawn drosodd a throsodd. Teimlodd y gŵr fel petai Jehofa yn siarad yn uniongyrchol ag ef. Dechreuodd y cwpl fynd i’r cyfarfodydd ac yn y pen draw daethon nhw’n Dystion unwaith eto—ar ôl mwy na 27 mlynedd. Dychmyga gymaint cafodd Barbara ei chalonogi a’i hatgyfnerthu o weld canlyniadau mor bositif yn dod o ganlyniad i’r llythyr hwnnw!

Mae Jehofa yn ein hatgyfnerthu drwy (1) gweddi, (2) y Beibl, (3) cwmni Cristnogol, a (4) y weinidogaeth (Gweler paragraffau 9-10, 12, 14)

18. Beth gallwn ni ei wneud i elwa ar nerth Duw?

18 Mae Jehofa yn rhoi digon o gyfle inni gael nerth ganddo. Pan fyddwn ni’n defnyddio ei ddarpariaethau—fel gweddi, y Beibl, cwmni Cristnogol, a’r weinidogaeth—dangoswn ein bod ni’n trystio gallu ac awydd Jehofa i’n helpu ni. Gad inni bob amser ddibynnu ar ein Tad nefol, sydd wrth ei fodd yn “helpu’r rhai sy’n ei drystio fe’n llwyr.”—2 Cron. 16:9.

CÂN 61 Ymlaen â Chi Dystion!

^ Par. 5 Rydyn ni’n byw mewn cyfnodau anodd, ond mae Jehofa yn rhoi’r help rydyn ni ei angen er mwyn ymdopi â nhw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gwnaeth Jehofa helpu’r apostol Paul a Timotheus i ddal ati i’w wasanaethu er gwaethaf eu problemau. Byddwn ni’n trafod pedwar peth mae Jehofa wedi eu rhoi inni er mwyn ein helpu i barhau i’w wasanaethu.

^ Par. 2 Newidiwyd yr enw.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: O dan arestiad tŷ yn Rhufain, mae Paul yn ysgrifennu llythyrau i sawl cynulleidfa ac yn pregethu’r newyddion da i’w ymwelwyr.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Timotheus yn calonogi’r brodyr wrth iddo ymweld â’r cynulleidfaoedd.