Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

“Dw i Wedi Dysgu Gymaint gan Eraill!”

“Dw i Wedi Dysgu Gymaint gan Eraill!”

ROEDD hi’n noson dywyll fel y fagddu ym mynyddoedd Algeria, lle roedd fy nghatrawd Ffrengig yn gwersylla. Roedd yr ymladd yn Algeria wedi troi’n arbennig o ffyrnig. Gwn peiriant yn fy llaw, o’n i ar ben fy hun ar wyliadwriaeth tu ôl i domen o sachau tywod. Yn sydyn, torrwyd ar draws y distawrwydd gan sŵn traed yn agosáu. Sefais yn stond. Prin o’n i allan o fy arddegau, a doedd gen i ddim awydd lladd na chael fy lladd. Gwaeddais: “Duw! O, Dduw!”

Newidiodd y digwyddiad brawychus hwnnw fy mywyd, oherwydd dyna wnaeth fy sbarduno i chwilio am y Creawdwr. Ond cyn imi ddweud beth ddigwyddodd nesaf ar y noson dywyll honno, gad imi ddweud wrthot ti am bethau a ddigwyddodd yn fy mhlentyndod wnaeth ddylanwadu ar fy ffordd o feddwl a pharatoi fy nghalon i chwilio am Dduw.

GWERSI CYNNAR GAN FY NHAD

Ces i fy ngeni ym 1937 yn Guesnain, tref ym maes glo gogledd Ffrainc. Dysgais werth gwaith caled gan fy nhad, a oedd yn löwr. Wnes i hefyd ddysgu ganddo i gasáu anghyfiawnder. Roedd ef wedi sylwi faint o lowyr oedd yn cael eu trin yn annheg ac yn gorfod gweithio mewn amgylchiadau peryglus, ac roedd eisiau eu helpu. Mewn ymdrech i wella eu sefyllfa, wnaeth Dad ymuno ag undebau llafur a mynd ar streiciau. Hefyd, roedd y rhagrith a welodd ymysg yr offeiriaid lleol yn ei gythruddo. Roedd llawer o’r rheini yn byw bywyd eithaf moethus; ond eto, bydden nhw’n gofyn am fwyd ac arian oddi wrth y glowyr oedd yn stryffaglu i gael dau ben llinyn ynghyd. Roedd Dad wedi siomi gymaint gan ymddygiad yr offeiriaid, gwrthododd roi unrhyw addysg grefyddol imi. A dweud y gwir, wnaethon ni erioed siarad am Dduw.

Wrth imi dyfu i fyny, dechreuais innau gasáu anghyfiawnder. Roedd yr anghyfiawnder hwnnw’n cynnwys y rhagfarn oedd rhai yn ei ddangos tuag at yr estronwyr oedd yn byw yn Ffrainc. Byddwn i’n chwarae pêl-droed gyda phlant mewnfudwyr ac yn mwynhau eu cwmni. Ar ben hynny, roedd Mam yn Bwyles, nid Ffrances. O’n i’n dyheu am heddwch a thegwch rhwng gwahanol hiliau.

DECHREUAIS FEDDWL AM YSTYR BYWYD

Pan oeddwn i yn y fyddin

Ces i fy ngalw i’r fyddin ym 1957. Dyna sut wnes i landio ym mynyddoedd Algeria ar y noson dywyll o’n i’n sôn amdani gynt. Ar ôl imi weiddi “Duw! O, Dduw!” des i wyneb yn wyneb, nid â’r gelyn, ond â mul gwyllt! Am ryddhad oedd hynny! Eto, gwnaeth y digwyddiad hwnnw—a’r rhyfel ei hun—wneud imi feddwl mwy am ystyr bywyd. Pam ’dyn ni yma? Oes gan Dduw ddiddordeb ynon ni? A welwn ni heddwch parhaol ryw ddydd?

Yn hwyrach ymlaen, pan o’n i gartref yn ymweld â’n rhieni, wnes i gyfarfod un o Dystion Jehofa. Rhoddodd gopi o La Sainte Bible imi, cyfieithiad Catholig Ffrangeg o’r Beibl, a gwnes i ddechrau ei ddarllen ar ôl imi ddychwelyd i Algeria. Wnaeth un rhan yn enwedig fy nharo, sef Datguddiad 21:3 a 4 sy’n dweud: “Mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. . . . Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” * Wnaeth y geiriau hynny fy synnu. Wnes i feddwl i fi fy hun, ‘Allai hynny fod yn wir?’ Ar y pryd, o’n i’n gwybod y nesaf peth i ddim am Dduw na’r Beibl.

Ar ôl imi orffen fy ngwasanaeth milwrol ym 1959, wnes i gyfarfod Tyst o’r enw François, a ddysgodd lawer o wirioneddau’r Beibl imi. Er enghraifft, dangosodd imi yn y Beibl fod gan Dduw enw personol, Jehofa. (Salm 83:18, BC) Esboniodd François hefyd y bydd Jehofa yn dod â chyfiawnder i’r ddaear, yn ei throi’n baradwys, ac yn cyflawni geiriau Datguddiad 21:3 a 4.

Oedd y dysgeidiaethau hynny yn gwneud llawer o synnwyr, a gwnaethon nhw gyffwrdd fy nghalon. Ond des i hefyd yn flin iawn gyda’r offeiriaid, ac o’n i eisiau dweud wrth bawb eu bod nhw’n dysgu pethau sydd ddim yn y Beibl! Yn amlwg, oedd safbwynt fy nhad yn dal i ddylanwadu arna i, ac o’n i braidd yn ddiamynedd. O’n i eisiau gwneud rhywbeth amdani ar unwaith!

Gwnaeth François a fy ffrindiau newydd eraill o blith y Tystion fy helpu i beidio â chynhyrfu. Gwnaethon nhw esbonio nad beirniadu yw ein gwaith fel Cristnogion, ond cynnig gobaith drwy gyfrwng newyddion da Teyrnas Dduw. Dyna’r gwaith a wnaeth Iesu a’r gwaith a roddodd i’w ddilynwyr ei wneud. (Math. 24:14; Luc 4:43) Hefyd, roedd rhaid imi ddysgu sut i siarad â phobl yn garedig a gyda thact, hyd yn oed os oeddwn i’n anghytuno â’u daliadau. Mae’r Beibl yn dweud: “Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb.”—2 Tim. 2:24.

Mi wnes i’r newidiadau angenrheidiol a chael fy medyddio yn un o Dystion Jehofa ym 1959 mewn cynulliad cylchdaith. Yno, wnes i gyfarfod chwaer ifanc ddel iawn o’r enw Angèle. Wnes i ddechrau ymweld â’i chynulleidfa, a gwnaethon ni briodi ym 1960. Mae hi’n ddynes ragorol, yn wraig fendigedig, ac yn anrheg werthfawr gan Jehofa.—Diar. 19:14.

Ar ddiwrnod ein priodas

DYSGAIS LAWER GAN DDYNION DOETH A PHROFIADOL

Dros y blynyddoedd, dw i wedi dysgu llawer o wersi pwysig gan frodyr doeth a phrofiadol. Un o’r gwersi pwysicaf oedd hyn: Er mwyn llwyddo mewn unrhyw aseiniad heriol, mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig a rhoi ar waith y cyngor doeth yn Diarhebion 15:22, sy’n dweud: “Mae cynlluniau’n . . . llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”

Ar y gwaith cylch yn Ffrainc, 1965

Ym 1964, dechreuais weld pa mor wir oedd y geiriau ysbrydoledig hynny. Yn y flwyddyn honno, dechreuais wasanaethu fel arolygwr cylchdaith, ac ymweld â chynulleidfaoedd i annog brodyr a’u cryfhau yn ysbrydol. Ond, o’n i’n 27 oed ar y pryd heb lawer o brofiad. Felly mi wnes i gamgymeriadau. Ond o’n i’n trio dysgu ohonyn nhw. Yn fwy na dim, dysgais lawer o wersi gwerthfawr oddi wrth frodyr galluog a phrofiadol.

Mae un enghraifft gynnar yn dod i fy meddwl. Ar ôl imi ymweld â chynulleidfa ym Mharis, gofynnodd brawd ysbrydol aeddfed i gael gair bach gyda mi. “Wrth gwrs,” medda fi.

Gofynnodd, “Louis, pan fydd doctor yn gwneud galwad cartref, pwy mae’n mynd i’w weld?”

“Y rhai sâl,” atebais.

Dywedodd: “Yn union. Dw i wedi sylwi dy fod ti’n treulio’r rhan fwyaf o dy amser gyda’r rhai sy’n gwneud yn dda yn ysbrydol, fel arolygwr y gynulleidfa. Mae ’na lawer o frodyr a chwiorydd yn ein cynulleidfa ni sy’n ddigalon, yn newydd, neu’n swil. Mi fydden nhw’n cael eu calonogi’n fawr petaset ti’n treulio amser gyda nhw, neu hyd yn oed mynd i’w tai am bryd o fwyd.”

Roedd cyngor y brawd annwyl hwnnw yn ddilys ac yn werthfawr. Wnaeth ei gariad tuag at ddefaid Jehofa gyffwrdd fy nghalon. Felly, llyncais fy malchder a dechrau rhoi ei gyngor ar waith yn syth. Dw i’n diolch i Jehofa am frodyr fel ’na.

Ym 1969 a 1973, ces i fy mhenodi fel arolygwr yr Adran Gwasanaethau Bwyd mewn dwy gynhadledd ryngwladol yn Colombes, Paris. Yn y gynhadledd ym 1973, roedd angen bwydo tua 60,000 o bobl am bum diwrnod! Doedd gen i ddim syniad sut oedden ni am fynd o’i chwmpas hi! Ond unwaith eto, yr allwedd i lwyddiant oedd Diarhebion 15:22—gofyn am gyngor gan y doeth. Wnes i ofyn i frodyr profiadol am help. Roedd y rheini’n cynnwys cigyddion, tyfwyr llysiau, cogyddion a phrynwyr. Gyda’n gilydd, wnaethon ni lwyddo i gwblhau’r dasg enfawr hon.

Ym 1973, cafodd fy ngwraig a minnau ein gwahodd i wasanaethu yn y Bethel yn Ffrainc. Profodd fy aseiniad cyntaf yno i fod yn her fawr arall. Roedd rhaid imi ffeindio ffyrdd o anfon llenyddiaeth i’n brodyr yng ngwlad Camerŵn yn Affrica, lle roedd ein gwaith wedi ei wahardd rhwng 1970 a 1993. Unwaith eto, do’n i ddim yn siŵr a fyddwn i’n gallu cyflawni’r dasg. Efallai bod y brawd oedd yn arolygu’r gwaith yn Ffrainc ar y pryd wedi sylwi sut o’n i’n teimlo. Er mwyn fy annog, dywedodd: “Mae angen mawr am fwyd ysbrydol ar ein brodyr yn Camerŵn. Awn ni ati i’w bwydo nhw!” A dyna’n union wnaethon ni.

Mewn cyfarfod arbennig yn Nigeria gyda Thystion o Camerŵn, 1973

Es i sawl gwaith i’r gwledydd sy’n ffinio â Camerŵn i gyfarfod â henuriaid o’r wlad honno. Gwnaeth y dynion dewr a doeth hynny fy helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn gallu anfon llenyddiaeth i’r brodyr yn Camerŵn yn rheolaidd. Bendithiodd Jehofa ein hymdrechion. A wyddost ti beth, am tua 20 mlynedd, wnaeth y bobl yn y wlad honno erioed fethu’r un rhifyn o’r Tŵr Gwylio na’r cyhoeddiad misol oedd yn cael ei alw’n Our Kingdom Service ar y pryd.

Ym 1977, wnaeth Angèle a minnau fwynhau treulio amser yn Nigeria gydag arolygwyr cylchdaith a’u gwragedd o Camerŵn

DYSGAIS LAWER GAN FY NGWRAIG WERTHFAWR

Ers inni ddechrau canlyn, wnes i sylwi ar rinweddau ysbrydol Angèle. Daeth y rhinweddau hynny yn fwy amlwg yn ein bywyd priodasol. Er enghraifft, ar noson ein priodas, wnaeth hi ofyn imi weddïo am ein dymuniad i wasanaethu Jehofa yn llawn fel cwpl priod. Atebodd Jehofa y weddi honno.

Mae Angèle hefyd wedi fy helpu i ymddiried yn fwy yn Jehofa. Er enghraifft, pan gawson ni ein gwahodd i wasanaethu yn y Bethel ym 1973, wnes i oedi am fy mod i wrth fy modd yn y gwaith cylch. Ond, wnaeth Angèle fy atgoffa ein bod ni wedi cysegru ein bywydau i Jehofa. Oni ddylen ni wneud beth bynnag mae ei gyfundrefn yn gofyn inni ei wneud? (Heb. 13:17) Sut allwn i ddadlau â hynny! Felly ffwrdd â ni i’r Bethel. Mae fy ngwraig yn ddynes ddoeth a rhesymol sydd wir yn caru Jehofa. Mae hyn wedi cryfhau ein perthynas ac wedi ein helpu i wneud penderfyniadau da dros ein hoes hir gyda’n gilydd.

Gydag Angèle yng ngardd Bethel Ffrainc

Nawr ein bod ni’n hŷn, mae Angèle yn parhau i fod yn wraig ragorol a chefnogol. Er enghraifft, er mwyn mynd i ysgolion theocrataidd, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Saesneg, dechreuodd Angèle a minnau weithio’n galed i wella ein sgiliau yn yr iaith honno. Roedd hynny’n cynnwys ymuno â chynulleidfa iaith Saesneg, er ein bod ni ynghanol ein 70au ar y pryd. Oherwydd fy nghyfrifoldebau fel aelod o Bwyllgor Cangen Ffrainc, roedd astudio iaith arall yn her. Ond mi oedden ni’n helpu ein gilydd. A ninnau bellach yn ein 80au, ’dyn ni’n dal i baratoi ar gyfer cyfarfodydd ein cynulleidfa yn Saesneg ac yn Ffrangeg. ’Dyn ni’n ceisio cael rhan yn y cyfarfodydd a phregethu gyda’n cynulleidfa mor aml ag y gallwn ni. Mae Jehofa wedi bendithio ein hymdrechion i ddysgu Saesneg.

Daeth un fendith arbennig yn 2017. Cafodd Angèle a minnau’r fraint o fynd i’r Ysgol ar Gyfer Aelodau Pwyllgorau Cangen a’u Gwragedd, yng Nghanolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, Efrog Newydd.

Mae Jehofa wir yn Addysgwr Mawr sy’n ein harwain. (Esei. 30:20) Nid yw’n syndod felly bod ei bobl—hen ac ifanc—yn cael yr addysg orau posib! (Deut. 4:5-8) Yn sicr, dw i wedi gweld bod pobl ifanc sy’n gwrando ar Jehofa yn ogystal â brodyr a chwiorydd profiadol yn gwneud cynnydd ysbrydol da ac yn llwyddo fel oedolion. Mae Diarhebion 9:9 yn ein hatgoffa: “Rho gyngor i’r doeth, a byddan nhw’n ddoethach; dysga’r rhai sy’n byw yn iawn a byddan nhw’n dysgu mwy.”

O bryd i’w gilydd, bydda i’n meddwl am y noson dywyll, frawychus honno ym mynyddoedd Algeria tua 60 o flynyddoedd yn ôl. Doedd gen i ddim syniad bryd hynny y byddwn i’n cael bywyd mor hapus. Dw i wedi dysgu gymaint gan eraill! Mae Jehofa wir wedi rhoi bywyd bendigedig, llawn bendithion i Angèle a minnau. Felly, ’dyn ni’n benderfynol o beidio byth â stopio dysgu gan ein Tad nefol a brodyr a chwiorydd doeth a phrofiadol sy’n ei garu.

^ Par. 11 beibl.net.