Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

Ni All Unrhyw Beth Wneud i’r Cyfiawn Faglu

Ni All Unrhyw Beth Wneud i’r Cyfiawn Faglu

“Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.”—SALM 119:165.

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

CIPOLWG *

1-2. Beth ddywedodd un ysgrifennwr, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

HEDDIW, mae miliynau yn honni eu bod nhw’n credu yn Iesu, ond dydyn nhw ddim yn derbyn yr hyn a ddysgodd. (2 Tim. 4:3, 4) Dywedodd un ysgrifennwr: “Petasai ‘Iesu’ arall yn ein plith heddiw yn siarad fel roedd yr Iesu gwreiddiol . . . , a fydden ni’n ei wrthod heddiw fel y gwnaethon ni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl? . . . Ar y cyfan, yr ateb yw: Bydden.”

2 Gwnaeth llawer yn y ganrif gyntaf glywed Iesu yn dysgu a’i weld yn gwneud gwyrthiau, ond gwrthodon nhw roi ffydd ynddo. Pam? Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni ystyried pedwar rheswm pam cafodd pobl eu baglu gan yr hyn gwnaeth Iesu ei ddweud a’i wneud. Gad inni ystyried pedwar rheswm arall. Wrth inni wneud hynny, byddwn yn gweld pam mae pobl heddiw yn gwrthod dilynwyr Iesu a sut gallwn osgoi cael ein baglu.

(1) WNAETH IESU DDIM DANGOS FFAFRIAETH

Cafodd llawer eu baglu oherwydd pwy roedd Iesu’n dewis treulio amser gyda nhw. Sut gallai’r un pethau faglu rhai heddiw? (Gweler paragraffh 3) *

3. Pa ddewis wnaeth Iesu a arweiniodd at rai yn cael eu baglu?

3 Tra oedd ar y ddaear, dewisodd Iesu dreulio amser gyda phob math o bobl. Fe wnaeth ef fwyta gyda’r cyfoethog a’r rhai mewn awdurdod, ond treuliodd lawer o’i amser gyda’r tlawd a’r diymadferth. Hefyd, dangosodd dosturi tuag at y rhai oedd llawer yn eu hystyried fel “pechaduriaid.” Baglodd rhai unigolion hunangyfiawn oherwydd yr hyn a wnaeth Iesu. Gofynnon nhw i’w ddisgyblion: “Pam dych chi’n bwyta ac yfed gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy’n ddim byd ond ‘pechaduriaid’?” Atebodd Iesu: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.”—Luc 5:29-32.

4. Yn ôl y proffwyd Eseia, beth dylai’r Iddewon fod wedi ei ddisgwyl am y Meseia?

4 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Ymhell cyn i’r Meseia gyrraedd, gwnaeth y proffwyd Eseia ei ddisgrifio fel un na fyddai’n cael ei dderbyn gan y byd. Rhagfynegodd y broffwydoliaeth: “Cafodd ei ddirmygu a’i wrthod gan bobl . . . Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo’i werthfawrogi.” (Esei. 53:3) Yn ôl y broffwydoliaeth, byddai’r Meseia yn cael ei osgoi “gan bobl,” felly dylai Iddewon y ganrif gyntaf fod wedi disgwyl y byddai Iesu’n cael ei wrthod.

5. Sut mae llawer heddiw yn ystyried dilynwyr Iesu?

5 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Mae llawer o arweinwyr crefyddol yn awyddus i dderbyn unigolion blaengar, cyfoethog, a doeth yng ngolwg y byd fel aelodau o’u cynulleidfaoedd. Mae’r arweinwyr hynny’n caniatáu i bobl fel hyn fod yn rhan o’u cynulleidfa er eu bod nhw’n gwneud pethau mae Jehofa’n eu casáu. Mae’r un arweinwyr crefyddol yn dirmygu gweision selog, moesol lân Jehofa am nad ydyn nhw’n bwysig yn ôl safonau’r byd. Fel dywedodd Paul, dewisodd Duw y rhai mae eraill “yn edrych i lawr arnyn nhw.” (1 Cor. 1:26-29) Ond i Jehofa, mae pob un o’i weision ffyddlon yn werthfawr.

6. Beth ddywedodd Iesu yn Mathew 11:25, 26, a sut gallwn ni ei efelychu?

6 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? (Darllen Mathew 11:25, 26.) Paid â chael dy ddylanwadu gan farn y byd am bobl Dduw. Derbynia fod Jehofa ond yn defnyddio pobl ostyngedig i wneud ei ewyllys. (Salm 138:6) A myfyria ar gymaint mae ef wedi ei gyflawni gan ddefnyddio’r rhai nad ydy’r byd yn eu hystyried yn ddoeth nac yn glyfar.

(2) GWNAETH IESU DDINOETHI SYNIADAU ANGHYWIR

7. Pam gwnaeth Iesu alw’r Phariseaid yn rhagrithwyr, a sut gwnaethon nhw ymateb?

7 Aeth Iesu ati’n ddewr i gondemnio arferion crefyddol rhagrithiol ei ddydd. Er enghraifft, tynnodd sylw at ragrith y Phariseaid, a oedd yn poeni mwy am sut roedden nhw’n golchi eu dwylo nag am sut roedden nhw’n gofalu am eu rhieni. (Math. 15:1-11) Efallai cafodd disgyblion Iesu eu synnu gan ei eiriau, achos dywedon nhw wrtho: “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo’r Phariseaid go iawn!” Atebodd Iesu: “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny. Gadewch iddyn nhw—arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda’i gilydd.” (Math. 15:12-14) Wnaeth Iesu ddim gadael i ymateb negyddol yr arweinwyr crefyddol ei rwystro rhag dweud y gwir.

8. Sut dangosodd Iesu nad ydy pob cred grefyddol yn dderbyniol i Dduw?

8 Gwnaeth Iesu hefyd ddinoethi gau ddysgeidiaethau crefyddol. Wnaeth ef ddim dweud bod pob cred grefyddol yn dderbyniol i Dduw. Yn hytrach, dywedodd y byddai llawer ar y ffordd lydan sy’n arwain i ddinistr, ond dim ond ychydig a fyddai ar y ffordd gul sy’n arwain i fywyd. (Math. 7:13, 14) Fe wnaeth hi’n glir y byddai rhai yn honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw, ond byddai eu gweithredoedd yn dangos fel arall. Rhybuddiodd: “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi’r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid. Y ffordd i’w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw.”—Math. 7:15-20.

Cafodd llawer eu baglu am fod Iesu yn condemnio gau ddysgeidiaethau ac arferion anghywir. Sut gallai’r un pethau faglu rhai heddiw? (Gweler paragraff 9) *

9. Beth yw rhai o’r gau ddysgeidiaethau crefyddol gwnaeth Iesu eu dinoethi?

9 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Rhagfynegodd y Beibl y byddai’r Meseia wedi ei feddiannu gan sêl dros dŷ Jehofa. (Salm 69:9; Ioan 2:14-17) Gwnaeth y sêl honno ysgogi Iesu i ddinoethi gau ddysgeidiaethau ac arferion anghywir. Er enghraifft, roedd y Phariseaid yn credu bod yr enaid yn anfarwol, ond dysgodd Iesu fod y meirw yn cysgu. (Ioan 11:11) Roedd y Sadwceaid yn gwadu’r atgyfodiad, ond gwnaeth Iesu atgyfodi ei ffrind Lasarus. (Ioan 11:43, 44; Act. 23:8) Roedd y Phariseaid yn dysgu mai Duw neu ffawd sydd y tu ôl i bopeth mae rhywun yn ei wneud, ond dysgodd Iesu fod pobl yn gallu dewis gwasanaethu Duw neu beidio.—Math. 11:28.

10. Pam mae llawer yn cael eu baglu gan ein dysgeidiaethau?

10 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Mae llawer yn cael eu baglu am ein bod ni’n defnyddio’r Beibl i ddinoethi syniadau crefyddol anghywir. Mae clerigwyr yn dysgu eu praidd bod Duw yn cosbi’r drygionus yn uffern. Maen nhw’n defnyddio’r gau ddysgeidiaeth honno i reoli pobl. Fel gweision Jehofa, sy’n gwasanaethu Duw cariad, rydyn ni’n dinoethi’r gau ddysgeidiaeth honno. Mae clerigwyr hefyd yn dysgu bod yr enaid yn anfarwol. Rydyn ni’n dinoethi tarddiad paganaidd yr athrawiaeth honno, a fyddai—petai’n wir—yn gwneud yr atgyfodiad yn amherthnasol. Ac yn groes i’r gred boblogaidd fod popeth wedi ei ragordeinio, hynny yw, bod popeth a wnawn ni wedi ei benderfynu o flaen llaw gan Dduw neu gan ffawd, rydyn ni’n dysgu bod gan bobl ewyllys rhydd a’u bod nhw’n gallu dewis gwasanaethu Duw. Sut mae arweinwyr crefyddol yn ymateb? Yn aml, maen nhw’n gandryll!

11. Yn ôl geiriau Iesu yn Ioan 8:45-47, beth mae Duw eisiau i’w bobl ei wneud?

11 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? Os ydyn ni’n caru’r gwir, mae’n rhaid inni gredu’r hyn mae Duw yn ei ddweud ac ufuddhau iddo. (Darllen Ioan 8:45-47.) Yn wahanol i Satan y Diafol, rydyn ni’n glynu at y gwir. Dydyn ni byth yn cyfaddawdu ein daliadau. (Ioan 8:44) Mae Duw yn disgwyl bod ei bobl yn “casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy’n dda,” yn union fel gwnaeth Iesu.—Rhuf. 12:9; Heb. 1:9.

(3) CAFODD IESU EI ERLID

Cafodd llawer eu baglu am fod Iesu wedi marw ar stanc. Sut gallai’r un pethau faglu rhai heddiw? (Gweler paragraff 12) *

12. Pam roedd y ffordd bu farw Iesu yn faen tramgwydd i lawer o Iddewon?

12 Beth oedd maen tramgwydd arall i’r Iddewon yn nyddiau Iesu? Dywedodd Paul: “Dŷn ni’n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae’r fath syniad yn sarhad i’r Iddewon.” (1 Cor. 1:23) Pam gwnaeth llawer o’r Iddewon wrthod Iesu oherwydd y ffordd cafodd ei ladd? Iddyn nhw, roedd y ffaith bod Iesu wedi marw ar stanc yn gwneud iddo edrych fel troseddwr a phechadur—nid y Meseia.—Deut. 21:22, 23.

13. Beth wnaeth y rhai a faglodd o achos Iesu fethu â’i gydnabod?

13 Gwnaeth yr Iddewon a faglodd o achos Iesu fethu cydnabod ei fod yn ddieuog, ei fod wedi cael ei gyhuddo ar gam, a’i fod wedi cael ei drin yn annheg. Nid oedd y rhai oedd yn cynnal treial Iesu yn malio dim am gyfiawnder. Daeth barnwyr goruchaf lys yr Iddewon at ei gilydd ar hast, ac aethon nhw o gwmpas y treial heb ddilyn y gyfraith. (Luc 22:54; Ioan 18:24) Yn hytrach na rhoi gwrandawiad teg i’r cyhuddiadau a’r dystiolaeth yn erbyn Iesu, chwiliodd y barnwyr eu hunain “am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth.” Pan fethodd y cynllwyn hwnnw, gwnaeth yr archoffeiriad geisio dal Iesu allan drwy droi ei eiriau ei hun yn ei erbyn. Roedd hyn yn gwbl anghyson â safonau cyfreithiol y cyfnod. (Math. 26:59; Marc 14:55-64) Ac ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, talodd y barnwyr anghyfiawn hynny “swm mawr o arian” i’r milwyr Rhufeinig oedd yn gwarchod ei feddrod i ledaenu stori ffug i esbonio pam roedd y beddrod yn wag.—Math. 28:11-15.

14. Beth wnaeth yr Ysgrythurau ei ragfynegi ynglŷn â marwolaeth y Meseia?

14 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Er nad oedd llawer o Iddewon yn nyddiau Iesu yn disgwyl y byddai angen i’r Meseia farw, sylwa beth roedd wedi cael ei broffwydo yn yr Ysgrythurau: “[Rhoddodd] ei hun i farw, a’i gyfri’n un o’r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno’i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.” (Esei. 53:12) Felly doedd gan yr Iddewon ddim rheswm i faglu oherwydd i Iesu gael ei ddienyddio fel pechadur.

15. Pa gyhuddiadau yn erbyn Tystion Jehofa sydd wedi achosi i rai faglu?

15 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Yn bendant! Cafodd Iesu ei gyhuddo a’i ddedfrydu yn annheg, ac mae Tystion Jehofa wedi cael eu trin mewn ffordd debyg. Ystyria rai enghreifftiau. Yn ystod y 1930au a’r 1940au yn yr Unol Daleithiau, cafodd ein rhyddid i addoli Duw ei herio dro ar ôl tro yn y llysoedd. Roedd gan rai barnwyr ragfarn amlwg yn ein herbyn. Yn Nhalaith Cwebéc, Canada, gweithiodd yr Eglwys a’r Wladwriaeth gyda’i gilydd i wrthwynebu ein gwaith. Cafodd llawer o gyhoeddwyr eu carcharu dim ond am siarad â’u cymdogion am Deyrnas Dduw. Yn yr Almaen Natsïaidd, cafodd llawer o frodyr ifanc ffyddlon eu lladd gan y llywodraeth annuwiol honno. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o’n brodyr yn Rwsia wedi cael eu dedfrydu a’u carcharu am drafod y Beibl, rhywbeth mae’r awdurdodau yn ei ystyried yn “weithgaredd eithafol.” Mae hyd yn oed y New World Translation of the Holy Scriptures yn yr iaith Rwseg wedi cael ei wahardd a’i alw yn “ddeunydd eithafol” am ei fod yn defnyddio’r enw Jehofa.

16. Yn ôl 1 Ioan 4:1, pam dylen ni beidio â chael ein camarwain gan straeon ffug am bobl Jehofa?

16 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? Dysga’r ffeithiau. Yn ei Bregeth ar y Mynydd, rhybuddiodd Iesu ei wrandawyr y byddai pobl yn “dweud pethau drwg” amdanyn nhw. (Math. 5:11) Satan sydd y tu ôl i’r celwyddau hynny. Mae’n dylanwadu ar wrthwynebwyr er mwyn iddyn nhw ledaenu straeon maleisus am y rhai sy’n caru’r gwir. (Dat. 12:9, 10) Mae’n rhaid inni wrthod celwyddau ein gwrthwynebwyr. Ddylen ni byth ganiatáu i’r fath gelwyddau godi ofn arnon ni na thanseilio ein ffydd.—Darllen 1 Ioan 4:1.

(4) CAFODD IESU EI FRADYCHU A’I ADAEL

Cafodd llawer eu baglu am fod Jwdas wedi bradychu Iesu. Sut gallai’r un pethau faglu rhai heddiw? (Gweler paragraffau 17-18) *

17. Ym mha ffordd gallai’r digwyddiadau cyn marwolaeth Iesu fod wedi baglu rhai?

17 Ychydig cyn ei farwolaeth, cafodd Iesu ei fradychu gan un o’i 12 apostol. Gwnaeth apostol arall wadu Iesu dair gwaith, a gwnaeth pob un o’i apostolion ei adael ar y noson cyn ei farwolaeth. (Math. 26:14-16, 47, 56, 75) Doedd Iesu ddim yn synnu. Roedd ef hyd yn oed wedi rhagfynegi y byddai hyn yn digwydd. (Ioan 6:64; 13:21, 26, 38; 16:32) Gan weld hyn, gallai rhai fod wedi cael eu baglu, gan resymu, ‘Os mai dyna sut mae apostolion Iesu yn ymddwyn, dydw i ddim eisiau unrhyw beth i’w wneud â nhw!’

18. Pa broffwydoliaethau gafodd eu cyflawni yn yr hyn a ddigwyddodd o gwmpas marwolaeth Iesu?

18 Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud? Ganrifoedd ynghynt, datgelodd Jehofa yn ei Air y byddai’r Meseia yn cael ei fradychu am 30 darn o arian. (Sech. 11:12, 13) Byddai’r bradwr yn un o ffrindiau agos Iesu. (Salm 41:9) Hefyd, ysgrifennodd y proffwyd Sechareia: “Taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.” (Sech. 13:7) Yn lle cael eu baglu gan y digwyddiadau hyn, dylai pobl ddiffuant fod wedi cael eu hatgyfnerthu o weld y proffwydoliaethau hyn yn cael eu cyflawni drwy Iesu.

19. Beth mae pobl ddiffuant yn ei sylweddoli?

19 Ydyn ni’n gweld yr un broblem heddiw? Ydyn. Yn ein hoes ni, mae rhai Tystion adnabyddus wedi gadael y gwir, wedi troi’n wrthgilwyr, ac yna wedi ceisio troi eraill i ffwrdd hefyd. Maen nhw wedi lledaenu adroddiadau negyddol, hanner gwirioneddau, a chelwyddau noeth am Dystion Jehofa drwy’r cyfryngau a’r Rhyngrwyd. Ond dydy pobl ddiffuant ddim yn cael eu baglu. I’r gwrthwyneb, maen nhw’n sylweddoli bod y Beibl wedi rhagfynegi y byddai’r fath bethau’n digwydd.—Math. 24:24; 2 Pedr 2:18-22.

20. Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu gan y rhai sydd wedi gadael y gwir? (2 Timotheus 4:4, 5)

20 Sut gallwn ni osgoi cael ein baglu? Mae’n rhaid inni gadw ein ffydd yn gryf drwy astudio’n rheolaidd, drwy weddïo’n gyson, a thrwy gadw’n brysur yn y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni. (Darllen 2 Timotheus 4:4, 5.) Os oes gynnon ni ffydd, fyddwn ni ddim yn mynd i banics o glywed adroddiadau negyddol. (Esei. 28:16) Bydd ein cariad tuag at Jehofa, ei Air, a’n brodyr yn ein helpu i osgoi cael ein baglu gan y rhai sydd wedi gadael y gwir.

21. Er bod y rhan fwyaf o bobl heddiw yn gwrthod ein neges, o beth gallwn ni fod yn sicr?

21 Yn y ganrif gyntaf, cafodd llawer eu baglu, a gwnaethon nhw wrthod Iesu. Ond eto, gwnaeth llawer o bobl eraill ei dderbyn, gan gynnwys o leiaf un aelod o’r Sanhedrin Iddewig a hyd yn oed “nifer fawr o’r offeiriaid.” (Act. 6:7; Math. 27:57-60; Marc 15:43) Yn yr un modd, dydy miliynau heddiw ddim wedi cael eu baglu. Pam? Am eu bod nhw’n gwybod y gwirioneddau sydd yn yr Ysgrythurau ac yn eu caru. Mae Gair Duw yn dweud: “Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.”—Salm 119:165.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

^ Par. 5 Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni drafod pedwar rheswm pam gwnaeth pobl wrthod Iesu yn y gorffennol a pham maen nhw’n gwrthod ei ddilynwyr heddiw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried pedwar rheswm ychwanegol. Byddwn ni hefyd yn gweld pam nad ydy’r rhai diffuant sy’n caru Jehofa yn caniatáu i unrhyw beth eu baglu.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Iesu yn bwyta gyda Mathew a chasglwyr trethi.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Iesu’n gyrru’r masnachwyr allan o’r deml.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Iesu yn gorfod cario’r stanc artaith.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: Jwdas yn bradychu Iesu â chusan.