Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

A gafodd papurfrwyn eu defnyddio i adeiladu cychod yn adeg y Beibl?

Papurfrwyn

MAE llawer yn gyfarwydd â’r ffaith mai papyrws oedd prif ddeunydd ysgrifennu’r Aifft gynt. Ysgrifennodd y Groegiaid yn ogystal â’r Rhufeiniaid ar bapyrws. * Ond does dim cymaint yn gwybod bod papurfrwyn wedi cael eu defnyddio nid yn unig ar gyfer deunydd ysgrifennu, ond hefyd ar gyfer adeiladu cychod.

Dau fodel o gychod papurfrwyn wedi eu darganfod mewn beddrod yn yr Aifft

Dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd y proffwyd Eseia fod y bobl a oedd yn byw “tu draw i afonydd Ethiopia” wedi anfon “cenhadau dros y môr mewn cychod o bapurfrwyn.” Ganrifoedd ynghynt, gwnaeth Job restru “cychod brwyn” ymysg pethau oedd yn mynd yn gyflym.—Esei. 18:1, 2, BCND; Job 9:26.

Mae’r Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw, felly dydy hi ddim yn syndod i fyfyrwyr y Beibl fod darganfyddiadau archaeolegol yn dangos bod papurfrwyn wedi cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu cychod yn adeg y Beibl. (2 Tim. 3:16) Beth sydd wedi cael ei ddarganfod? Mae archaeolegwyr wedi cael hyd i dystiolaeth fanwl fod cychod papurfrwyn wedi cael eu hadeiladu yn yr Aifft.

SUT CAFODD CYCHOD PAPURFRWYN EU HADEILADU?

Mae darluniau a cherfweddau mewn beddrodau yn yr Aifft yn disgrifio’r broses o gasglu papurfrwyn a gwneud cychod. Byddai dynion yn torri coesau’r papurfrwyn, eu clymu mewn bwndeli, ac yna’n clymu’r bwndeli’n dynn at ei gilydd. Mae coesau papurfrwyn ar siâp triongl. Felly pan fydden nhw’n cael eu clymu’n dynn, byddai’r coesau’n ffurfio bwndel solet a chryf. Yn ôl y llyfr A Companion to Ancient Egypt, gallai cychod papurfrwyn fod yn 17 m o hyd, gan adael digon o le ar gyfer 10 neu 12 o rwyfau ar bob ochr.

Cerfwedd Eifftaidd yn disgrifio’r broses o adeiladu cwch papurfrwyn

PAM ROEDD ADEILADWYR CYCHOD YN DEFNYDDIO PAPURFRWYN?

Roedd ’na ddigonedd o bapurfrwyn yn tyfu yn Nyffryn Nîl. Ac roedd cychod papurfrwyn yn gymharol hawdd i’w hadeiladu. Hyd yn oed pan ddaeth pren yn brif ddeunydd adeiladu ar gyfer cychod mawr, mae’n ymddangos bod pysgotwyr a helwyr wedi parhau i ddefnyddio rafftiau a chychod bach wedi eu gwneud o bapurfrwyn.

Am gyfnod hir, parhaodd cychod papurfrwyn i fod yn boblogaidd. Yn ôl yr awdur Groegaidd Plwtarch, a oedd yn byw rhwng y ganrif gyntaf a’r ail ganrif, roedd rafftiau papurfrwyn yn dal yn gyfarwydd i ddarllenwyr ei ddydd.

^ Par. 3 Mae papurfrwyn yn ffynnu mewn corsydd ac afonydd sy’n llifo’n araf. Gall planhigyn dyfu i fod tua 5 m o daldra, a gall ei goes fod yn 15 cm mewn diamedr.