Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu ar Gyfer Dy Ddyfodol?

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu ar Gyfer Dy Ddyfodol?

“Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!”—DAT. 22:20.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

CIPOLWG a

1. Pa benderfyniad pwysig mae pawb ar y ddaear angen ei wneud?

 MAE gynnon ni i gyd heddiw benderfyniad pwysig i’w wneud—un ai cefnogi Jehofa a’i hawl i reoli dros y bydysawd, neu ochri gyda’i elyn ffiaidd Satan y Diafol. Does ’na ddim tir canol, ac mae bywyd tragwyddol yn y fantol. (Math. 25:31-33, 46) Yn ystod y “gorthrymder mawr,” byddwn ni’n cael ein marcio un ai ar gyfer bywyd, neu ddinistr.—Dat. 7:14, BCND; 14:9-11; Esec. 9:4, 6.

2. (a) Beth mae Hebreaid 10:35-39 yn ein hannog ni i’w wneud? (b) Sut gall llyfr Datguddiad ein helpu ni?

2 Darllen Hebreaid 10:35-39. Nawr dy fod ti wedi gwneud y penderfyniad i gefnogi Jehofa, mae’n siŵr dy fod ti’n awyddus i helpu eraill i wneud eu penderfyniad nhw. Gall llyfr Datguddiad dy helpu di i wneud hynny. Mae’r llyfr cyffrous hwnnw yn dangos beth fydd yn digwydd i elynion Jehofa. Ond ar ben hynny, mae’n tynnu sylw at yr holl fendithion sy’n disgwyl y rhai sy’n ffyddlon iddo. Gall edrych yn fanwl ar y llyfr hwnnw, nid yn unig wneud ni’n fwy penderfynol o wasanaethu Jehofa, ond hefyd ein helpu ni i helpu eraill i wneud y penderfyniad iawn, a glynu wrtho.

3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried dau gwestiwn: Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n cefnogi Duw a’i Deyrnas? A beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n cefnogi’r anghenfil ysgarlad sy’n cael ei bortreadu yn llyfr Datguddiad?

BETH SYDD AR Y GORWEL I’R RHAI FFYDDLON?

4. Pa grŵp mae’r apostol Ioan yn ei weld gyda Iesu yn y nef?

4 Cafodd yr apostol Ioan weledigaeth o ddau grŵp sy’n ochri gyda Jehofa, ac yn cael byw am byth. Mae ’na 144,000 yn y grŵp cyntaf. (Dat. 7:4) Maen nhw’n cael eu dewis o’r ddaear i fod yn rhan o lywodraeth, neu Deyrnas, yn y nef. Byddan nhw’n rheoli gyda Iesu dros y ddaear. (Dat. 5:9, 10; 14:3, 4) Yn y weledigaeth, mae Ioan yn eu gweld nhw yn y nef gyda Iesu yn sefyll ar Fynydd Seion.—Dat. 14:1.

5. Beth fydd yn digwydd i weddill yr eneiniog yn fuan?

5 Dros y canrifoedd, mae miloedd o bobl wedi cael eu dewis i fod yn rhan o’r 144,000. (Luc 12:32; Rhuf. 8:17) Ond, mae Ioan yn clywed mai dim ond nifer bach o’r rheini fydd yn dal yn fyw ar y ddaear yn ystod y dyddiau diwethaf. Maen nhw’n cael eu galw yn “weddill yr eneiniog.” Byddan nhw’n cael sêl derfynol Jehofa rhywbryd cyn i’r gorthrymder mawr gychwyn. (Dat. 7:2, 3; 12:17) Yna, rywbryd yn ystod y gorthrymder mawr, bydd y rhai hynny sydd ar ôl ar y ddaear yn cael eu cymryd i’r nef i ymuno â’r rhai hynny o’r 144,000 sydd eisoes wedi marw, a rheoli gyda Iesu yn Nheyrnas Dduw.—Math. 24:31; Dat. 5:9, 10.

6-7. (a) Pa grŵp gwnaeth Ioan ei weld nesaf, a phwy ydyn nhw? (b) Pam mae Datguddiad pennod 7 o ddiddordeb i weddill yr eneiniog, ac i’r dyrfa fawr?

6 Yr ail grŵp a welodd Ioan, oedd y ‘dyrfa enfawr,’ sy’n wahanol i’r 144,000 oherwydd dydy hi ddim yn bosib dweud faint fydd yn y grŵp. (Dat. 7:9, 10) Pwy ydyn nhw? “Dyma’r rhai sy’n dod allan o’r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.” (Dat. 7:14, BCND) Felly, ar ôl goroesi’r gorthrymder mawr, bydd tyrfa enfawr o bobl yn byw yma ar y ddaear, ac yn mwynhau bendithion bendigedig.—Salm 37:9-11, 27-29; Diar. 2:21, 22; Dat. 7:16, 17.

7 A wyt ti’n gweld dy hun yn y broffwydoliaeth yn Datguddiad pennod 7? Mi ddylet ti. P’un a fyddi di’n mynd i’r nefoedd, neu’n aros yma ar y ddaear, mae ’na bethau hynod o gyffrous o dy flaen di, a gelli di fod yn falch dy fod ti wedi dewis cefnogi Jehofa a’i Deyrnas! Beth arall mae llyfr Datguddiad yn ei ddweud wrthon ni am y gorthrymder mawr?—Math. 24:21.

BETH SYDD AR Y GORWEL I’R RHAI SY’N GWRTHWYNEBU DUW?

8. Sut bydd y gorthrymder mawr yn dechrau, a sut bydd y rhan fwyaf o bobl yn ymateb?

8 Yn yr erthygl ddiwethaf, gwnaethon ni ddysgu y bydd llywodraethau’r byd yn fuan yn troi ar Fabilon Fawr, sef ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. (Dat. 17:16, 17) Dyma fydd dechrau’r gorthrymder mawr. Ond, a fydd hyn yn achosi i lwyth o bobl ddechrau gwasanaethu Jehofa? Ddim o gwbl. Mae Datguddiad pennod 6 yn dangos y bydd pobl sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa, yn chwilio am loches yn systemau gwleidyddol a masnachol y byd hwn, sy’n cael eu cymharu â mynyddoedd. Os na fydd y bobl hynny wedi gwneud safiad penodol ar ochr Duw, bydd Jehofa yn eu hystyried nhw yn wrthwynebwyr.—Luc 11:23; Dat. 6:15-17.

9. Sut bydd pobl Jehofa yn sefyll allan yn wahanol yn ystod y gorthrymder mawr, a beth fydd y canlyniad?

9 Yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, bydd gweision ffyddlon Jehofa yn sefyll allan yn wahanol iawn, oherwydd dim ond y nhw fydd yn ei wasanaethu ac yn gwrthod cefnogi’r “anghenfil.” (Dat. 13:14-17) Bydd eu safiad pendant yn gwylltio’r rhai sy’n gwrthwynebu Jehofa, ac o ganlyniad bydd cynghrair o genhedloedd yn ymosod ar bobl Dduw ledled y byd. Mae proffwydoliaethau’r Beibl yn galw hyn yn ymosodiad Gog o Dir Magog.—Esec. 38:14-16.

10. Yn ôl Datguddiad 19:19-21, sut bydd Jehofa yn ymateb i’r ymosodiad ar ei bobl?

10 Sut bydd Jehofa yn ymateb i’r ymosodiad yma? Mae’n dweud wrthon ni: “Bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio’n lân.” (Esec. 38:18, 21-23) Mae Datguddiad pennod 19 yn disgrifio beth fydd yn digwydd nesaf. Bydd Jehofa yn anfon ei Fab i amddiffyn ei bobl a threchu eu gelynion. A bydd “byddinoedd y nefoedd,” sef yr angylion ffyddlon a’r 144,000, yn ymuno â Iesu yn y frwydr. (Dat. 17:14; 19:11-15) Beth fydd canlyniad y rhyfel hwn? Bydd pob person a chyfundrefn oedd yn gwrthwynebu Jehofa, wedi eu dinistrio’n llwyr!—Darllen Datguddiad 19:19-21.

PRIODAS AR ÔL Y RHYFEL

11. Beth ydy digwyddiad pwysicaf llyfr Datguddiad?

11 Dychmyga sut bydd pethau i’r rhai ffyddlon ar ôl y gorthrymder mawr. Nid yn unig byddan nhw wedi goroesi, ond bydd holl elynion Duw wedi cael eu dinistrio! Yn sicr, bydd ’na reswm i orfoleddu! A gyda dinistr Babilon Fawr, bydd ’na ddathlu yn y nef hefyd. Ond, bydd rywbeth yn dod â hyd yn oed mwy o lawenydd. (Dat. 19:1-3) Beth fydd hynny? Digwyddiad pwysicaf llyfr Datguddiad—“priodas yr Oen.”—Dat. 19:6-9.

12. Yn ôl Datguddiad 21:1, 2, pryd bydd priodas yr Oen yn digwydd?

12 Bydd pob un o’r 144,000 yn y nef jest cyn rhyfel Armagedon. Ond, nid dyna pryd bydd yr Oen yn priodi. (Darllen Datguddiad 21:1, 2.) Pam? Oherwydd yn gyntaf, bydd rhaid brwydro yn y rhyfel a dinistrio holl elynion Duw. Felly, bydd y briodas yn digwydd ar ôl Armagedon.—Salm 45:3, 4, 13-17.

13. Beth mae priodas yr Oen yn ei olygu?

13 Beth mae priodas yr Oen yn ei olygu? Fel mae priodas yn uno gŵr a gwraig, bydd y briodas yma yn uno’r Brenin, Iesu Grist, a’i “briodferch,” y 144,000. A gyda hynny, bydd llywodraeth newydd yn cael ei sefydlu—un fydd yn teyrnasu dros y ddaear am fil o flynyddoedd.—Dat. 20:6.

DINAS ODIDOG A DY DDYFODOL DI

Mae Datguddiad pennod 21 yn disgrifio’r Jerwsalem Newydd symbolaidd yn “dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd.” Bydd yn dod â bendithion di-rif i’r rhai ffyddlon yn ystod y Mil Blynyddoedd (Gweler paragraffau 14-16)

14-15. Pa gymhariaeth mae Datguddiad pennod 21 yn ei wneud ynglŷn â’r 144,000? (Gweler y llun ar y clawr.)

14 Mae Datguddiad 21 yn mynd ymlaen i gymharu’r 144,000 â dinas brydferth o’r enw “Jerwsalem newydd.” (Dat. 21:2, 9) Mae gan y ddinas 12 garreg sylfaen, gydag “enwau deuddeg [apostol] yr Oen” wedi eu hysgrifennu arnyn nhw. Roedd hynny o ddiddordeb arbennig i Ioan, oherwydd gwelodd ei enw ei hun ar un o’r cerrig hynny. Am fraint ryfeddol!—Dat. 21:10-14; Eff. 2:20.

15 Mae’r ddinas symbolaidd hon heb ei hail. Mae ei phrif stryd yn aur pur, ac mae ganddi 12 giât wedi eu gwneud o berlau. Mae ei waliau, a’i sylfeini, wedi eu haddurno â gemau gwerthfawr—a hynny i gyd o fewn siâp ciwb perffaith. (Dat. 21:15-21) Ond, sylweddolodd Ioan fod rhywbeth ar goll. Dywedodd: “Doedd dim teml i’w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a’r Oen yno, fel teml. Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a’r Oen fel lamp.” (Dat. 21:22, 23) Beth mae hynny’n ei olygu? Bydd y rhai sy’n rhan o’r Jerwsalem Newydd yno gyda Jehofa. Felly, Jehofa ac Iesu ydy’r deml yn y ddinas honno fel petai.—Heb. 7:27; Dat. 22:3, 4.

Pwy fydd yn elwa o’r bendithion sy’n cael eu cynrychioli gan “afon,” a ‘choed’? (Gweler paragraffau 16-17)

16. Beth fydd yn digwydd i bawb ar y ddaear yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Teyrnas Dduw?

16 Mae’n hawdd deall pam mae meddwl am y ddinas hon mor wefreiddiol i’r eneiniog. Ond yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Teyrnas Dduw, bydd y Jerwsalem Newydd yn dod â bendithion di-rif i’r rhai sydd â’r gobaith daearol hefyd. Gwelodd Ioan y bendithion hyn yn llifo fel “afon o ddŵr bywiol.” Bob ochr i’r afon, mae “coed y bywyd” yn tyfu, ac mae eu dail yn “iacháu y cenhedloedd.” (Dat. 22:1, 2) Mi fydd y bendithion hynny ar gael i bawb ar y ddaear, a bydd y rhai sy’n manteisio arnyn nhw yn dod yn berffaith dros amser. Bydd salwch, poen, a dagrau o dristwch, wedi diflannu.—Dat. 21:3-5.

17. Yn ôl Datguddiad 20:11-13, pwy fydd yn elwa o’r Teyrnasiad Mil Blynyddoedd?

17 Pwy fydd yn elwa o’r bendithion hyfryd hyn? Y rhai cyntaf bydd y dyrfa fawr sy’n goroesi Armagedon, ac unrhyw blant sy’n cael eu geni yn y byd newydd. Ond mae Datguddiad pennod 20 hefyd yn addo y bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi. (Darllen Datguddiad 20:11-13.) Bydd y rhai cyfiawn yn cael eu hatgyfodi i fywyd yma ar y ddaear, yn ogystal â’r rhai anghyfiawn wnaeth ddim cael cyfle i ddysgu am Jehofa cyn iddyn nhw farw. (Act. 24:15; Ioan 5:28, 29) Ydy hynny’n golygu y bydd pawb yn cael eu hatgyfodi ar y ddaear yn ystod y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd? Nac ydy. Fydd y rhai drwg wnaeth wrthod y cyfle i wasanaethu Jehofa cyn iddyn nhw farw, ddim yn cael eu hatgyfodi. Byddan nhw wedi dangos yn glir eu bod nhw ddim yn deilwng i fyw ar Baradwys ddaear.—Math. 25:46; 2 Thes. 1:9; Dat. 17:8; 20:15.

Y PRAWF OLAF

18. Sut bydd pethau ar y ddaear erbyn diwedd y mil blynyddoedd?

18 Erbyn diwedd y mil blynyddoedd, bydd pawb ar y ddaear yn berffaith, a fydd pechod Adda ddim yn effeithio ar unrhyw un. (Rhuf. 5:12) Oherwydd bydd y felltith honno wedi mynd unwaith ac am byth, bydd y rhai ar y ddaear yn “dod yn fyw” fel pobl berffaith ar ddiwedd y mil blynyddoedd.—Dat. 20:5.

19. Pam bydd angen prawf olaf?

19 Rydyn ni’n gwybod bod Iesu wedi aros yn ffyddlon pan wnaeth Satan ei brofi, ond a fydd pobl berffaith yn gallu gwneud yr un peth pan fydd Satan yn cael cyfle i’w profi nhw? Mae hynny’n gwestiwn bydd rhaid i bob un ohonon ni ei ateb droston ni’n hunain pan fydd Satan yn cael ei ryddhau o’r pydew ar ddiwedd y mil blynyddoedd. (Dat. 20:7) Bydd y rhai sy’n llwyddo i aros yn ffyddlon yn ystod y prawf olaf hwn yn cael byw am byth a mwynhau rhyddid go iawn. (Rhuf. 8:21) Ond, bydd y rhai sy’n gwrthryfela yn cael eu dinistrio am byth, ynghyd â’r Diafol a’i gythreuliaid.—Dat. 20:8-10.

20. Sut rwyt ti’n teimlo am broffwydoliaethau cyffrous llyfr Datguddiad?

20 Sut rwyt ti’n teimlo ar ôl trafod llyfr Datguddiad? A wyt ti’n gweld dy hun “yn y llun” fel petai, ac yn llawn cyffro am y proffwydoliaethau hyn? Onid wyt ti’n ysu i wahodd eraill i addoli Duw hefyd? (Dat. 22:17) Wrth inni edrych ymlaen at ddigwyddiadau rhyfeddol y dyfodol, rydyn ni’n sicr o gytuno â Ioan pan ddywedodd: “Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!”—Dat. 22:20.

CÂN 27 Datguddir Meibion Duw

a Dyma erthygl olaf y gyfres ar lyfr Datguddiad. Byddwn ni’n gweld bydd gan y rhai sy’n ffyddlon i Jehofa ddyfodol disglair. Ar y llaw arall, fydd gan y rhai sy’n gwrthwynebu Duw a’i Deyrnas ddim dyfodol o gwbl.