Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 20

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Elynion Duw?

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Elynion Duw?

“Dyma’r ysbrydion drwg yn casglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon.”—DAT. 16:16.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

CIPOLWG a

1. Beth mae llyfr Datguddiad yn ei ddweud am bobl Dduw?

 MAE llyfr Datguddiad yn dangos bod Teyrnas Dduw eisoes wedi ei sefydlu yn y nef, a bod Satan wedi cael ei luchio allan ohoni. (Dat. 12:1-9) Mae hynny’n beth da i’r rhai yn y nef, ond mae’n creu problemau i ni am fod Satan wedi gwylltio ac yn ymosod ar bobl ffyddlon Jehofa ar y ddaear.—Dat. 12:12, 15, 17.

2. Beth fydd yn ein helpu ni i sefyll yn gadarn?

2 Beth fydd yn ein helpu ni i sefyll yn gadarn yn wyneb ymosodiadau Satan? (Dat. 13:10) Un peth ydy gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn llyfr Datguddiad, disgrifiodd yr apostol Ioan rai o fendithion y dyfodol. Un o’r bendithion mawr ydy fydd gelynion Duw ddim bellach yn bodoli. Gad inni weld sut mae llyfr Datguddiad yn disgrifio’r gelynion hynny, a beth fydd yn digwydd iddyn nhw.

DISGRIFIADAU SYMBOLAIDD O ELYNION DUW

3. Beth yw rhai o’r symbolau sy’n cael eu disgrifio yn Datguddiad?

3 Yn yr iaith wreiddiol, mae adnod gyntaf Datguddiad yn dweud wrthon ni fod iaith symbolaidd yn cael ei defnyddio i ddisgrifio beth sy’n dilyn. (Dat. 1:1) Mae’r llyfr yn mynd ymlaen i ddisgrifio sawl anghenfil sy’n cynrychioli gelynion Duw. Er enghraifft, mae ’na “anghenfil yn dod allan o’r môr,” un sydd â ‘deg corn a saith pen.’ (Dat. 13:1) Mae ’na “anghenfil arall wedyn, yn codi o’r ddaear,” sy’n siarad fel draig ac yn “gwneud i dân ddisgyn o’r nefoedd.” (Dat. 13:11-13) Yna, rydyn ni’n gweld “anghenfil ysgarlad,” a phutain yn eistedd arno. Mae’r tri anghenfil hyn wedi bod yn elynion i Dduw ers talwm. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod pwy ydyn nhw.—Dat. 17:1, 3.

PEDWAR CREADUR MAWR

Maen nhw’n “codi allan o’r môr.” (Dan. 7:1-8, 15-17) Maen nhw’n cynrychioli llywodraethau sydd wedi rheoli dros bobl Dduw ac wedi cael effaith sylweddol arnyn nhw o adeg Daniel ymlaen (Gweler paragraffau 4, 7)

4-5. Sut mae Daniel 7:15-17 yn ein helpu ni i ddeall ystyr y symbolau hyn?

4 Sut gallwn ni ddeall iaith symbolaidd Datguddiad er mwyn gwybod pwy ydy gelynion Duw? Y ffordd orau ydy edrych ar rannau eraill o’r Beibl. Er enghraifft, cafodd symbolau tebyg eu defnyddio yn llyfr Daniel. Yno, cafodd y proffwyd Daniel freuddwyd am “bedwar creadur mawr yn codi allan o’r môr.” (Dan. 7:1-3) Gwnaeth ef hefyd esbonio’n glir bod y creaduriaid mawr hyn yn cynrychioli pedwar “brenin,” neu lywodraeth. (Darllen Daniel 7:15-17.) Mae ei esboniad yn ein helpu ni i ddeall bod yr angenfilod yn Datguddiad hefyd yn cynrychioli llywodraethau.

5 Felly, gad inni weld sut mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall ystyr rhai o’r symbolau yn Datguddiad. Wrth inni drafod yr angenfilod, byddwn ni’n dysgu pwy maen nhw’n ei gynrychioli, beth bydd yn digwydd iddyn nhw, a beth mae hynny’n ei olygu i ni.

PWY YDY GELYNION DUW?

YR ANGHENFIL SYDD Â SAITH PEN

Mae’n dod “allan o’r môr.” Mae ganddo saith pen, deg corn, a deg coron. (Dat. 13:1-4) Mae’n cynrychioli’r holl lywodraethau sydd wedi rheoli drwy gydol hanes. Mae’r saith pen yn cynrychioli saith grym byd sydd wedi cael effaith sylweddol ar bobl Dduw (Gweler paragraffau 6-8)

6. Beth mae’r anghenfil sydd â saith pen yn Datguddiad 13:1-4 yn ei gynrychioli?

6 Beth mae’r anghenfil sydd â saith pen yn ei gynrychioli? (Darllen Datguddiad 13:1-4.) Mae’r anghenfil hwn yn edrych fel llewpard sydd â thraed arth, ceg llew, a deg corn. Mae’r nodweddion hyn yn ein hatgoffa ni o’r pedwar creadur yn Daniel pennod 7. Ond yn Datguddiad, mae’r nodweddion yn rhan o’r un anghenfil; dydyn nhw ddim yn bedwar creadur ar wahân. Felly, dydy’r anghenfil yn Datguddiad ddim yn cynrychioli dim ond un llywodraeth, neu ymerodraeth. Mae Datguddiad 13:7 yn dweud bod yr anghenfil hwnnw yn teyrnasu “dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.” Felly, mae’n rhaid ei fod yn cynrychioli pob llywodraeth sydd wedi rheoli dros bobl drwy gydol hanes. bPreg. 8:9.

7. Beth mae saith pen yr anghenfil yn ei gynrychioli?

7 Beth mae’r saith pen yn ei gynrychioli? Mae Datguddiad pennod 17 yn ein helpu ni i ddeall pennod 13 am ei bod yn disgrifio’r anghenfil drwy sôn am saith brenin. Mae adnod 10, pennod 17, yn dweud: “Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae’r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw’n dod, fydd e ond yn aros am amser byr.” Mae Satan wedi defnyddio llawer o lywodraethau drwy gydol hanes, ond mae saith yn sefyll allan yn wahanol fel ‘pennau’ am eu bod nhw wedi cael effaith fawr ar bobl Dduw. Erbyn dyddiau’r apostol Ioan, roedd pump ohonyn nhw wedi mynd a dod yn barod: Yr Aifft, Asyria, Babilon, Medo-Persia, a Groeg. Roedd y chweched grym byd yn dal yn teyrnasu pan gafodd Ioan y datguddiad. Ond pwy fyddai’r seithfed grym byd, neu ben?

8. Pwy mae seithfed pen yr anghenfil yn ei gynrychioli?

8 Pa rym byd sydd wedi bod yn teyrnasu yn y cyfnod olaf hwn, hynny ydy, ‘dydd yr Arglwydd’? (Dat. 1:10, BCND) Yn syml, Prydain ac America, sef y grym byd Eingl-Americanaidd. Felly, gallwn ni ddod i’r casgliad mai dyna yw seithfed pen yr anghenfil yn Datguddiad 13:1-4. Gad inni weld sut mae proffwydoliaethau llyfr Daniel yn ein helpu ni i wneud y cysylltiad hwnnw.

ANGHENFIL SYDD Â DAU GORN YR UN FATH AG OEN

Mae’n “codi o’r ddaear” ac yn siarad “fel draig.” Mae’n “gwneud i dân ddisgyn o’r nefoedd” ac yn ymddwyn fel “y proffwyd ffug” wrth wneud arwyddion. (Dat. 13:11-15; 16:13; 19:20) Mae’r anghenfil sydd â dau gorn, ac sy’n cael ei alw’n broffwyd ffug, yn cynrychioli’r grym byd Eingl-Americanaidd. Mae hynny am eu bod nhw’n camarwain pawb ar y ddaear drwy ddweud wrthyn nhw i “godi delw” o’r “anghenfil” sydd â saith pen a deg corn (Gweler paragraff 9)

9. Beth mae’r anghenfil sydd â ‘dau gorn yr un fath ag oen’ yn ei gynrychioli?

9 Mae Datguddiad pennod 13 yn mynd ymlaen i gymharu’r seithfed pen, sef y grym byd Eingl-Americanaidd, ag anghenfil arall—un sydd â ‘dau gorn yr un fath ag oen, ond yn swnio fel draig.’ Mae’r anghenfil hwn yn “gwneud gwyrthiau anhygoel—hyd yn oed yn gwneud i dân ddisgyn o’r nefoedd i’r ddaear o flaen llygaid pawb.” (Dat. 13:11-15) Mae Datguddiad pennod 16 ac 19 yn disgrifio’r anghenfil fel “proffwyd ffug.” (Dat. 16:13; 19:20) Gwnaeth Daniel sôn am rywbeth tebyg. Dywedodd y byddai’r grym byd Eingl-Americanaidd yn “achosi’r dinistr mwyaf ofnadwy.” (Dan. 8:19, 23, 24) A dyna’n union a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y ddau fom atomig a wnaeth arwain at ddiwedd y rhyfel eu hadeiladu gan wyddonwyr o Brydain ac America. Drwy wneud hynny, roedd y grym byd Eingl-Americanaidd wedi gwneud i “dân ddisgyn o’r nefoedd i’r ddaear.”

YR ANGHENFIL YSGARLAD

Mae’r butain, Babilon Fawr, yn eistedd ar ei gefn. Mae’r anghenfil yn cael ei ddisgrifio fel wythfed brenin. (Dat. 17:3-6, 8, 11) I ddechrau, mae’r butain yn rheoli’r anghenfil, ond yn hwyrach ymlaen mae hi’n cael ei dinistrio ganddo. Mae’r butain yn cynrychioli ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Heddiw, mae’r anghenfil yn cynrychioli’r Cenhedloedd Unedig sy’n cefnogi’r system wleidyddol fyd-eang (Gweler paragraffau 10, 14-17)

10. Beth mae’r “ddelw o’r anghenfil cyntaf” yn ei gynrychioli? (Datguddiad 13:14, 15; 17:3, 8, 11)

10 Nesaf, rydyn ni’n gweld anghenfil arall sy’n debyg iawn i’r un sydd â saith pen, ond mae’n goch. Mae’n cael ei alw yn “ddelw o’r anghenfil cyntaf” ac yn cael ei ddisgrifio fel “wythfed brenin.” c (Darllen Datguddiad 13:14, 15; 17:3, 8, 11.) Mae’r “brenin” hwn yn ymddangos, yn diflannu, ac yna’n ymddangos unwaith eto. Mae hyn yn disgrifio’r Cenhedloedd Unedig i’r dim! Mae’r gyfundrefn hon yn cefnogi system wleidyddol y byd. I gychwyn, roedd yn cael ei hadnabod fel Cynghrair y Cenhedloedd. Yna, diflannodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ymddangos unwaith eto fel y Cenhedloedd Unedig, fel rydyn ni’n ei hadnabod heddiw.

11. Beth bydd yr angenfilod yn ei wneud, a pham na fydd rhaid inni eu hofni?

11 Bydd yr angenfilod, neu’r llywodraethau, yn defnyddio propaganda i annog pobl i wrthwynebu Jehofa a’i weision ffyddlon. Mewn ffordd, byddan nhw’n casglu ‘brenhinoedd y ddaear’ at ei gilydd i ryfel Armagedon, sef ‘diwrnod mawr y Duw Hollalluog.’ (Dat. 16:13, 14, 16) Ond fydd gan bobl Jehofa ddim ofn. Pam? Oherwydd bydd ein Duw yn ymateb yn gyflym i achub y rhai sy’n ei gefnogi.—Esec. 38:21-23.

12. Beth fydd yn digwydd i’r holl angenfilod?

12 Beth fydd yn digwydd i’r holl angenfilod? Mae Datguddiad 19:20 yn dweud: “Daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda’i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a’r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i’r llyn tân sy’n llosgi brwmstan.” Felly, tra maen nhw’n dal yn rheoli, bydd y llywodraethau hynny sy’n elynion i Dduw yn cael eu dinistrio am byth.

13. Pa her mae llywodraethau yn ei hachosi i Gristnogion?

13 Beth mae hyn yn ei olygu i ni? Mae’n rhaid i ni fel Cristnogion aros yn ffyddlon i Dduw a’i Deyrnas. (Ioan 18:36) Mae hyn yn golygu bod rhaid inni aros yn niwtral o ran gwleidyddiaeth y byd. Ond mae llywodraethau’r byd yn rhoi pwysau arnon ni i’w cefnogi nhw’n llwyr drwy beth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud. Felly, gall aros yn niwtral fod yn anodd. Bydd y rhai sy’n ildio i’w pwysau yn derbyn marc yr anghenfil. (Dat. 13:16, 17) Bydd unrhyw un sydd a’r marc hwnnw yn colli ffafr Jehofa, a’r cyfle i fyw am byth. (Dat. 14:9, 10; 20:4) Felly, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n aros yn hollol niwtral, ni waeth pa bwysau mae’r llywodraeth yn ei roi arnon ni i wneud fel arall!

DIWEDD CYWILYDDUS I’R BUTAIN FAWR

14. Beth wnaeth ryfeddu’r apostol Ioan? (Datguddiad 17:3-5)

14 Y peth nesaf wnaeth ryfeddu’r apostol Ioan, oedd dynes yn eistedd ar gefn un o’r angenfilod. (Dat. 17:1, 2, 6) Mae hi’n cael ei phortreadu fel ‘putain fawr’ o’r enw “Babilon Fawr,” ac mae ’na sôn am ei hanfoesoldeb gyda “brenhinoedd y ddaear.”—Darllen Datguddiad 17:3-5.

15-16. Pwy ydy “Babilon Fawr,” a sut rydyn ni’n gwybod?

15 Pwy ydy “Babilon Fawr”? Rydyn ni newydd sôn am ei hanfoesoldeb gydag arweinwyr y byd, felly allai hi ddim cynrychioli’r llywodraethau. (Dat. 18:9) Ac mae’r ffaith ei bod hi’n eistedd ar gefn yr anghenfil yn dangos ei bod hi’n trio rheoli’r arweinwyr hynny. Dydy hi ddim chwaith yn gallu cynrychioli’r byd busnes, am eu bod nhw’n cael eu portreadu ar wahân fel “pobl fusnes y ddaear.”—Dat. 18:11, 15, 16.

16 Beth mae’r term “putain” yn ei olygu yn y Beibl? Mae’n gallu cyfeirio at y rhai sy’n honni eu bod nhw’n addoli Duw, ond sydd ar yr un pryd yn cael rhan mewn rhyw fath o eilunaddoliaeth, neu’n ffrind i’r byd mewn rhyw ffordd arall. (1 Cron. 5:25; Iago 4:4) Ar y llaw arall, mae’r rhai sy’n aros yn ffyddlon i Jehofa yn cael eu galw’n “bur” fel gwyryf. (2 Cor. 11:2; Dat. 14:4) Roedd Babilon gynt yn ganolfan gau addoliad, felly mae’n rhaid bod Babilon Fawr yn cynrychioli pob math o gau addoliad heddiw. Yn syml, hi ydy ymerodraeth fyd-eang gau grefydd.—Dat. 17:5, 18; gweler yr erthygl What Is Babylon the Great? ar jw.org.

17. Beth fydd yn digwydd i Fabilon Fawr?

17 Beth fydd yn digwydd i Fabilon Fawr? Mae Datguddiad 17:16, 17 yn dweud: “Bydd y deg corn welaist ti, a’r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi’n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw’n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân. Mae Duw wedi plannu’r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas.” Felly, bydd Jehofa yn ysgogi gwledydd y byd i ddefnyddio’r anghenfil ysgarlad, sef y Cenhedloedd Unedig, i ymosod ar ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, a’i dinistrio’n llwyr.—Dat. 18:21-24.

18. Sut gallwn ni wneud yn siŵr bod gynnon ni ddim byd i’w wneud â Babilon Fawr?

18 Beth mae hyn ei olygu i ni? Rydyn ni angen parhau i addoli Jehofa yn y ffordd mae ef yn ei hystyried “yn bur ac yn ddilys.” (Iago 1:27) Felly, dylen ni wrthod dylanwad gau ddysgeidiaethau, gwyliau paganaidd, safonau moesol llac, ac arferion ysbrydegol Babilon Fawr. Mae’n rhaid inni ddal ati i rybuddio pobl i fynd “allan o’r ddinas” fel nad ydyn nhw’n euog fel hi yng ngolwg Duw.—Dat. 18:4.

DIWEDD AR ELYN PENNAF DUW

Y DDRAIG GOCH

Mae Satan yn rhoi awdurdod i’r anghenfil. (Dat. 12:3, 9, 13; 13:4; 20:2, 10) Bydd Satan, gelyn pennaf Jehofa, yn cael ei daflu i’r pydew am fil o flynyddoedd. Ar ôl hynny, bydd Satan yn cael ei hyrddio i’r “llyn tân sy’n llosgi brwmstan” (Gweler paragraffau 19-20)

19. Pwy ydy’r “ddraig goch enfawr”?

19 Mae llyfr Datguddiad hefyd yn disgrifio “draig goch enfawr.” (Dat. 12:3) Mae’r ddraig honno yn ymladd yn erbyn Iesu a’i angylion. (Dat. 12:7-9) Mae’n ymosod ar bobl Dduw, ac yn rhoi awdurdod i’r angenfilod, neu lywodraethau. (Dat. 12:17; 13:4) “Yr hen sarff, sef ‘y diafol’, ‘Satan,’” ydy’r ddraig, ac ef sy’n rheoli pob un o elynion Jehofa.—Dat. 12:9; 20:2.

20. Beth fydd yn digwydd i’r ddraig?

20 Beth fydd yn digwydd i’r ddraig? Mae Datguddiad 20:1-3 yn esbonio y bydd angel yn hyrddio Satan i mewn i bydew. Tra bydd Satan wedi ei garcharu yno, fydd ef ddim yn gallu “twyllo’r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd.” Ar ôl hynny, bydd Satan a’i gythreuliaid yn cael eu taflu i’r “llyn tân sy’n llosgi brwmstan,” sy’n golygu y byddan nhw’n cael eu dinistrio unwaith ac am byth. (Dat. 20:10) Dychmyga ba mor hyfryd fydd byd heb Satan a’i gythreuliaid!

21. Pam gallwn ni fod yn hapus am yr hyn rydyn ni wedi ei ddarllen yn llyfr Datguddiad?

21 Onid ydy hi’n galonogol i ddeall ystyr symbolau llyfr Datguddiad? Nid yn unig ydyn ni wedi gweld pwy yn union ydy gelynion Duw, ond rydyn ni hefyd wedi gweld beth bydd yn digwydd iddyn nhw. Yn sicr, gallwn ni gytuno â geiriau Datguddiad 1:3, BCND, sy’n dweud: “Gwyn ei fyd y sawl sy’n darllen a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon.” Ond sut bydd pethau unwaith i elynion Duw gael eu dinistrio? Byddwn ni’n trafod y bendithion sydd ar y gorwel i’r rhai ffyddlon yn erthygl ddiwethaf y gyfres hon.

CÂN 23 Jehofa yn Dechrau Rheoli

a Mae llyfr Datguddiad yn defnyddio symbolau i gynrychioli gelynion Duw. Mae llyfr Daniel yn ein helpu ni i ddeall beth mae’r symbolau hynny yn ei olygu. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n cymharu rhai o’r proffwydoliaethau yn Daniel â rhai tebyg yn Datguddiad. Bydd hynny yn ein helpu ni i wybod pwy yn union ydy gelynion Duw. Yna, byddwn ni’n trafod beth bydd yn digwydd iddyn nhw.

b Am fod y Beibl yn aml yn defnyddio’r rhif 10 i gynrychioli rhywbeth cyflawn, mae’r ffaith bod gan yr anghenfil hwn “ddeg corn” hefyd yn dangos ei fod yn cynrychioli holl lywodraethau’r byd.

c Mae’r anghenfil hwn yn wahanol i’r un cyntaf, does ganddo ddim “coron” ar ei gyrn, am ei fod yn tarddu o’r saith brenin arall, ac yn dibynnu arnyn nhw am awdurdod.—Dat. 13:1; gweler yr erthygl “Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?” ar jw.org.