Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Ti Heddiw?

Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Ti Heddiw?

“Gwyn ei fyd y sawl sy’n darllen . . . geiriau’r broffwydoliaeth hon.”—DAT. 1:3.

CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

CIPOLWG a

1-2. Pa reswm sydd gynnon ni dros gymryd diddordeb yn llyfr Datguddiad?

 WYT ti erioed wedi eistedd i lawr i edrych ar luniau rhywun arall? Wrth iti sganio dros yr holl wynebau anghyfarwydd, mae un llun yn dal dy sylw. Pam? Rwyt ti yn y llun hwnnw. Mae hynny’n gwneud iti drio cofio lle roeddet ti ar y pryd, a phwy ydy’r bobl eraill yn y llun. Mae’r llun hwn yn wahanol i’r lleill. Mae’n arbennig i ti.

2 Mae llyfr Datguddiad yn debyg i’r llun hwnnw am o leiaf ddau reswm. Mae’r rheswm cyntaf i’w weld yn glir yn adnod gyntaf y llyfr, sy’n dweud: “Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy’n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i’w rannu gyda’r rhai sy’n ei ddilyn a’i wasanaethu.” (Dat. 1:1) Felly cafodd y llyfr hwn ei ysgrifennu yn arbennig ar ein cyfer ni sy’n gwasanaethu Duw. Rydyn ni “yn y llun” fel petai, felly ddylen ni ddim synnu bod gynnon ni ran yng nghyflawniad ei broffwydoliaethau.

3-4. Yn ôl llyfr Datguddiad, pryd byddai ei broffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, a beth dylai pob un ohonon ni ei wneud?

3 Yn ail, mae amseru y proffwydoliaethau o ddiddordeb i ni. Pan ysgrifennodd Ioan lyfr Datguddiad, disgrifiodd yr amser lle byddai’r proffwydoliaethau’n cael eu cyflawni fel ‘dydd yr Arglwydd.’ (Dat. 1:10, BCND) Ond gan fod hynny yn ôl yn 96 OG, roedd ‘dydd yr Arglwydd’ yn dal yn bell i ffwrdd. (Math. 25:14, 19; Luc 19:12) Felly pryd cychwynnodd y diwrnod hwnnw? Yn ôl proffwydoliaeth y Beibl, cychwynnodd ym 1914, pan ddaeth Iesu yn Frenin yn y nef. O hynny ymlaen, gwnaeth y proffwydoliaethau yn Datguddiad, sy’n berthnasol i bobl Dduw, ddechrau cael eu cyflawni. Ie, rydyn ni’n byw yn ‘nydd yr Arglwydd’!

4 Am ein bod ni’n byw yn y cyfnod hynod o gyffrous hwn, mae’n rhaid inni dalu sylw arbennig i’r cyngor yn Datguddiad 1:3, BCND, sy’n dweud: “Gwyn ei fyd y sawl sy’n darllen a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon ac yn cadw’r hyn sy’n ysgrifenedig ynddi. Oherwydd y mae’r amser yn agos.” Ie, mae’n rhaid inni ddarllen y broffwydoliaeth hon er mwyn gwrando ar ei geiriau a chadw atyn nhw. Felly beth yw rhai o’r geiriau hynny?

GWNA’N SIŴR BOD DY ADDOLIAD YN DDERBYNIOL

5. Sut mae llyfr Datguddiad yn pwysleisio’r angen i wneud yn siŵr bod ein haddoliad yn dderbyniol i Jehofa?

5 O’r bennod gyntaf un yn llyfr Datguddiad, rydyn ni’n gweld bod Iesu’n gwybod yn iawn beth sy’n mynd ymlaen ym mhob cynulleidfa. (Dat. 1:12-16, 20; 2:1) Roedd hynny’n amlwg yn y negeseuon gwnaeth ef eu hanfon at saith cynulleidfa Asia Leiaf. Roedd ei negeseuon yn cynnwys arweiniad penodol i helpu Cristnogion y ganrif gyntaf i wneud yn siŵr eu bod nhw’n addoli Jehofa mewn ffordd dderbyniol. Ydy’r negeseuon hynny yn dal yn berthnasol i ni heddiw? Ydyn. Mae Iesu yn gwybod yn iawn sut fath o berthynas sydd gynnon ni gyda Jehofa. Mae Iesu yn ein harwain ac yn ein hamddiffyn. Mae’n gweld popeth, ac yn gwybod yn union beth sydd rhaid i ni ei wneud i blesio Jehofa. Gad inni edrych ar rai o’i eiriau rydyn ni angen cadw atyn nhw heddiw.

6. (a) Yn ôl geiriau Iesu yn Datguddiad 2:3, 4, pa broblem oedd gan y gynulleidfa yn Effesus? (b) Beth ydy’r wers i ni?

6 Darllen Datguddiad 2:3, 4Dylen ni beidio ag anghofio gymaint roedden ni’n caru Jehofa i gychwyn. Yn neges Iesu at gynulleidfa Effesus, rydyn ni’n gweld eu bod nhw wedi dal ati yn eu gwasanaeth i Jehofa er gwaethaf llawer o heriau. Er hynny, doedden nhw ddim yn caru Jehofa gymaint ag yr oedden nhw i gychwyn, felly roedd rhaid iddyn nhw ailgynnau eu cariad tuag ato. Fel arall, fyddai eu haddoliad ddim yn dderbyniol. Beth ydy’r wers i ni heddiw? Mae’n un peth i ddal ati, ond mae’n beth arall i ddal ati am y rhesymau cywir. Mae Jehofa yn disgwyl i ni ei addoli allan o gariad go iawn a diolchgarwch, felly mae’r rhesymau pam rydyn ni’n gwneud rhywbeth yr un mor bwysig iddo â beth rydyn ni’n ei wneud.—Diar. 16:2; Marc 12:29, 30.

7. (a) Yn ôl Datguddiad 3:1-3, pa broblem oedd gan y gynulleidfa yn Sardis? (b) Beth rydyn ni angen ei wneud?

7 Darllen Datguddiad 3:1-3. Mae’n rhaid inni aros yn effro. Roedd aelodau cynulleidfa Sardis wedi bod yn brysur yn eu gwasanaeth i Jehofa yn y gorffennol, ond bellach roedden nhw wedi llacio. Dyna pam gwnaeth Iesu ddweud wrthyn nhw i ‘ddeffro.’ Ond beth ydy’r wers i ni? Er na fydd Jehofa yn anghofio beth rydyn ni wedi ei wneud yn y gorffennol i’w wasanaethu, dydy hynny ddim yn rheswm inni lacio yn ein gwasanaeth iddo nawr. (Heb. 6:10) Mae ein hamgylchiadau yn newid drwy gydol ein bywydau. Ond mae’n rhaid inni gadw’n brysur yng ‘ngwaith yr Arglwydd,’ ac aros yn effro hyd y diwedd.—1 Cor. 15:58; Math. 24:13; Marc 13:33.

8. Pa wers gallwn ni ei dysgu o neges Iesu at y gynulleidfa yn Laodicea? (Datguddiad 3:15-17)

8 Darllen Datguddiad 3:15-17. Mae’n rhaid inni addoli Jehofa yn selog. Yn ei neges at y rhai yn Laodicea, dywedodd Iesu eu bod nhw’n “llugoer” yn eu ffordd o addoli, ac roedd hynny’n broblem. Am nad oedden nhw’n cymryd eu haddoliad o ddifri, dywedodd Iesu eu bod nhw mewn cyflwr ysbrydol gwael—yn “dlawd yn ddall ac yn noeth.” Roedd angen iddyn nhw danio eu sêl dros Jehofa a’u gwasanaeth. (Dat. 3:19) Beth ydy’r wers i ni? Os ydyn ni’n rhy brysur yn mynd ar ôl bywyd cyfforddus, y peryg ydy na fydd ein gwasanaeth i Jehofa yn flaenoriaeth ddim mwy. Felly os ydyn ni wedi colli rhywfaint o’n sêl, gallwn ni ei hailgynnau drwy feddwl yn ofalus am bopeth mae Jehofa a’i gyfundrefn wedi ei roi inni, a diolch amdano.—Dat. 3:18.

9. Yn ôl negeseuon Iesu at y Cristnogion yn Pergamus a Thyatira, pa beryg rydyn ni angen ei osgoi?

9 Mae’n rhaid inni wrthod yr hyn mae gwrthgilwyr yn ei ddysgu. Rydyn ni’n gweld sut roedd Iesu’n teimlo am wrthgilwyr o’r ffordd gwnaeth ef geryddu’r rhai yn Pergamus am achosi rhaniadau yn y gynulleidfa. Mae hefyd yn amlwg o’r ffordd gwnaeth ef ganmol y rhai yn Thyatira wnaeth gadw draw rhag “cyfrinachau dirgel Satan,” a’u hannog nhw i “ddal gafael” yn y gwir. (Dat. 2:14-16, 24-26) Ar yr un pryd, roedd y rhai oedd wedi dechrau cael eu hudo gan wrthgilwyr angen edifarhau. Felly beth ydy’r wers i ni heddiw? Mae’n rhaid inni wrthod unrhyw ddysgeidiaeth sy’n mynd yn groes i ffordd Jehofa o feddwl. Mae’n rhaid inni fod yn ofalus oherwydd gall gwrthgilwyr “ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw’n gwrthod y nerth sy’n gwneud pobl yn dduwiol go iawn.” (2 Tim. 3:5) Ond os byddwn ni’n astudio Gair Duw yn drylwyr, byddwn ni’n effro i gau ddysgeidiaethau gwrthgilwyr, a bydd hi’n haws inni eu gwrthod.—2 Tim. 3:14-17; Jwd. 3, 4.

10. Beth arall gallwn ni ei ddysgu o’r hyn ddywedodd Iesu wrth y cynulleidfaoedd yn Pergamus a Thyatira?

10 Mae’n rhaid inni beidio â gwneud, esgusodi, na chefnogi unrhyw beth anfoesol. Roedd ’na broblem arall yn Pergamus a Thyatira. Doedd rhai yn y cynulleidfaoedd hynny ddim yn gwrthod anfoesoldeb, a gwnaeth Iesu eu ceryddu nhw am hynny. (Dat. 2:14, 20) Beth ydy’r wers i ni? Dydy’r ffaith ein bod ni wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd, ac yn mwynhau llawer o freintiau, ddim yn esgus i gael rhan mewn unrhyw beth anfoesol. Byddai hynny’n hollol annerbyniol i Jehofa. (1 Sam. 15:22; 1 Pedr 2:16) Mae’n disgwyl inni gadw at ei safonau moesol uchel, ni waeth pa mor bell mae safonau’r byd yn llithro.—Eff. 6:11-13.

11. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn? (Gweler hefyd y blwch “ Gwersi i Ni Heddiw.”)

11 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn? Yn syml, rydyn ni wedi gweld pa mor bwysig ydy hi i wneud yn siŵr ein bod ni’n addoli Jehofa mewn ffordd dderbyniol. Ac os ydyn ni’n gwneud rhywbeth annerbyniol, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth amdano ar unwaith. (Dat. 2:5, 16; 3:3, 16) Ond, beth arall wnaeth Iesu sôn amdano yn ei negeseuon at y cynulleidfaoedd?

BYDDA’N BAROD I WYNEBU ERLEDIGAETH

Ar ôl i Satan gael ei hyrddio i’r ddaear, sut mae ef wedi ymosod ar bobl Dduw? (Gweler paragraffau 12-16)

12. Beth gallwn ni ei ddysgu o neges Iesu at y brodyr yn Smyrna a Philadelffia? (Datguddiad 2:10)

12 Gad inni ystyried negeseuon Iesu at y cynulleidfaoedd yn Smyrna a Philadelffia. Dywedodd wrthyn nhw i beidio ag ofni cael eu herlid, oherwydd byddai Jehofa yn gwobrwyo eu ffydd. (Darllen Datguddiad 2:10; 3:10) Beth ydy’r wers i ni heddiw? Mae’n rhaid inni ddisgwyl y byddwn ni’n cael ein herlid, a bod yn barod i’w wynebu. (Math. 24:9, 13; 2 Cor. 12:10) Pam mae hyn yn bwysig?

13-14. Beth sydd wedi digwydd i bobl Dduw o ganlyniad i’r hyn a ddigwyddodd yn Datguddiad pennod 12?

13 Mae llyfr Datguddiad yn dweud wrthon ni y byddwn ni fel pobl Dduw yn cael ein herlid yn ‘nydd yr Arglwydd,’ hynny ydy, y cyfnod rydyn ni’n byw ynddo nawr. Mae Datguddiad pennod 12 yn sôn am ryfel wnaeth ddigwydd yn y nef yn syth ar ôl i Deyrnas Dduw gael ei sefydlu. Yn y rhyfel hwnnw, gwnaeth Michael—sef enw Iesu yn y nef—a’i angylion, frwydro yn erbyn Satan a’i gythreuliaid. (Dat. 12:7, 8) Gwnaethon nhw lwyddo i drechu gelynion Duw, a’u hyrddio nhw i lawr i’r ddaear. Ers hynny, mae’r ddynoliaeth wedi dioddef yn fwy nag erioed o’r blaen. (Dat. 12:9, 12) Ond beth sydd wedi digwydd i bobl Dduw o ganlyniad i hynny?

14 Mae Datguddiad yn mynd ymlaen i sôn am ymateb Satan i hyn. Am nad oedd yn cael mynd a dod i’r nef ddim mwy, canolbwyntiodd ei holl egni ar ymosod ar y rhai eneiniog ar y ddaear—y rhai oedd yn cynrychioli Teyrnas Dduw ac yn “dal ati i dystio i Iesu.” (Dat. 12:17; 2 Cor. 5:20; Eff. 6:19, 20) Sut mae’r broffwydoliaeth hon wedi cael ei chyflawni?

15. Pwy oedd y “ddau dyst” yn Datguddiad pennod 11, a beth ddigwyddodd iddyn nhw?

15 Ymosododd Satan ar y brodyr eneiniog oedd yn cymryd y blaen yn y gwaith pregethu. Ond pwy oedd yn cynrychioli’r brodyr hynny yn llyfr Datguddiad? Y “ddau dyst” a gafodd eu lladd. b (Dat. 11:3, 7-11) Ym 1918, cafodd wyth o’r brodyr oedd yn cymryd y blaen yn y gyfundrefn eu cyhuddo ar gam, a’u dedfrydu i’r carchar am gyfnod hir. Oherwydd hynny, roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod eu gwaith wedi dod i ben, neu wedi cael ei ‘ladd,’ fel petai.

16. Beth ddigwyddodd ym 1919, a beth mae Satan wedi bod yn ei wneud ers hynny?

16 Gwnaeth y broffwydoliaeth yn Datguddiad pennod 11 hefyd ddweud y byddai’r “ddau dyst” yn dod yn ôl yn fyw ar ôl cyfnod byr. Cafodd hynny ei gyflawni mewn ffordd annisgwyl ym 1919, pan gafodd y brodyr eneiniog hynny eu rhyddhau o’r carchar. Yn fuan wedyn, cafodd y cyhuddiadau yn eu herbyn eu gollwng. Felly, dyma nhw’n ailafael yn eu gwaith a chymryd y blaen yn y gwaith pregethu unwaith eto. Ond wnaeth hynny ddim stopio Satan. Byth oddi ar hynny, mae Satan wedi anelu “afon” o erledigaeth i gyfeiriad pobl Dduw. (Dat. 12:15) Dyna pam mae’n rhaid i bob un ohonon ni “ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.”—Dat. 13:10.

GWNA DY ORAU YN Y GWAITH PREGETHU

17. Pa fath o help annisgwyl mae pobl Dduw wedi ei gael er gwaethaf ymosodiadau Satan?

17 Mae Datguddiad pennod 12 yn mynd ymlaen i ddweud y byddai’r “ddaear” yn llyncu’r “afon” o erledigaeth, hynny ydy, bydd pobl Dduw yn cael help o lefydd annisgwyl weithiau. (Dat. 12:16) Mae hynny wedi digwydd dro ar ôl tro, wrth i rai o awdurdodau byd Satan achub pobl Dduw. Er enghraifft, mae Tystion Jehofa wedi ennill achosion llys sydd wedi caniatáu mwy o ryddid iddyn nhw. Mae’r Tystion wedi gwneud y gorau o’r rhyddid hwnnw drwy wneud y gwaith mae Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. (1 Cor. 16:9) Beth ydy’r gwaith hwnnw?

Pa ddwy neges mae pobl Dduw yn eu cyhoeddi? (Gweler paragraffau 18-19)

18. Beth yw ein prif waith yn y dyddiau diwethaf hyn?

18 Dywedodd Iesu y byddai ei bobl yn cyhoeddi’r “newyddion da am deyrnasiad Duw” ledled y byd cyn i’r diwedd ddod. (Math. 24:14) Ac wrth iddyn nhw wneud y gwaith hwnnw, maen nhw’n cael help gan lu o angylion, sydd hefyd â “neges dragwyddol i’w chyhoeddi i bawb sy’n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.”—Dat. 14:6.

19. Pa neges arall mae’n rhaid i bobl Dduw ei chyhoeddi?

19 Yn ogystal â chyhoeddi neges y Deyrnas, mae’n rhaid i bobl Dduw gefnogi’r angylion sy’n cael eu disgrifio yn Datguddiad penodau 8 i 10. Mae’r angylion hynny yn cyhoeddi y bydd y rhai sy’n gwrthod Teyrnas Dduw mewn helbul. Dyna pam mae Tystion Jehofa wedi bod yn cyhoeddi neges sy’n esbonio barnedigaethau Duw yn erbyn gwahanol rannau o fyd drwg Satan. Mae’r neges honno yn debyg i “genllysg a thân.” (Dat. 8:7, 13) Mae’n bwysig fod pobl yn gwybod bod y diwedd yn agos er mwyn iddyn nhw allu gwneud y newidiadau angenrheidiol yn eu bywydau, a goroesi’r diwrnod pan fydd Jehofa’n barnu. (Seff. 2:2, 3) Ond dydy’r neges honno ddim yn un boblogaidd, felly mae’n gofyn am ddewrder ar ein rhan ni i’w chyhoeddi. Ac yn ystod y gorthrymder mawr, bydd y neges olaf o farn yn taro’n galetach byth.—Dat. 16:21.

CADWA AT EIRIAU’R BROFFWYDOLIAETH

20. Beth byddwn ni’n ei drafod yn y ddwy erthygl nesaf?

20 Felly am fod llyfr Datguddiad yn berthnasol i ni, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n cadw at “eiriau’r broffwydoliaeth hon.” (Dat. 1:3, BCND) Ond sut gallwn ni ddal ati i fod yn ddewr yn wyneb erledigaeth, ac wrth bregethu? Bydd y ddwy erthygl nesaf yn ein helpu ni yn hynny o beth. Yn gyntaf, byddwn ni’n trafod beth mae Datguddiad yn ei ddweud am elynion Duw, ac yn ail byddwn ni’n trafod y bendithion gawn ni yn y dyfodol am aros yn ffyddlon.

CÂN 32 Saf o Blaid Jehofa!

a Rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod o gyffrous! Mae proffwydoliaethau llyfr Datguddiad yn cael eu cyflawni heddiw. Ond sut maen nhw’n effeithio arnon ni? Bydd yr erthygl hon, a’r ddwy nesaf, yn trafod llyfr Datguddiad, a byddwn ni’n gweld sut gall y llyfr hwnnw ein helpu ni i addoli Jehofa mewn ffordd dderbyniol.

b Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Tachwedd 15, 2014, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 30.