Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

Doethineb i’n Helpu Bob Dydd

Doethineb i’n Helpu Bob Dydd

“Yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb.”—DIAR. 2:6.

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

CIPOLWG a

1. Pam rydyn ni i gyd angen doethineb duwiol? (Diarhebion 4:7)

 MAE’N debyg bod ni i gyd wedi gweddïo am ddoethineb wrth wneud penderfyniad pwysig. (Iago 1:5) Pam? Am ein bod ni, fel y Brenin Solomon, eisiau bod “yn ddoeth o flaen popeth arall.” (Darllen Diarhebion 4:7.) Ond doedd Solomon ddim yn sôn am ddoethineb cyffredinol. Roedd yn sôn am y doethineb sy’n dod oddi wrth Jehofa Dduw. (Diar. 2:6) Ydy doethineb Duw dal yn berthnasol heddiw? Ydy, fel cawn weld yn yr erthygl hon.

2. Beth yw un ffordd gallwn ni fod yn wirioneddol ddoeth?

2 Mae ’na ddau ddyn sy’n enwog am eu doethineb, a gallwn ni fod yn ddoethach drwy astudio eu cyngor a’i roi ar waith. Yn gyntaf, byddwn ni’n trafod Solomon. Mae’r Beibl yn dweud: “Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon.” (1 Bren. 4:29) Yn ail, byddwn ni’n trafod y dyn doethaf a fuodd erioed—Iesu. (Math. 12:42) Gwnaeth y Beibl proffwydo am Iesu: “Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol.”—Esei. 11:2.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Rhoddodd Duw lawer o ddoethineb i Solomon ac Iesu, felly mae eu cyngor o bwys i ni i gyd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall eu cyngor ein helpu ni i feithrin yr agwedd gytbwys tuag at arian, gwaith seciwlar, a ni’n hunain.

AGWEDD GYTBWYS TUAG AT ARIAN

4. Sut roedd bywydau Solomon ac Iesu yn wahanol?

4 Roedd bywydau Solomon ac Iesu yn wahanol iawn. Roedd gan Solomon gyfoeth aruthrol, a chartref bendigedig a chyffyrddus. (1 Bren. 10:7, 14, 15) Ar y llaw arall, doedd gan Iesu ddim llawer o bethau materol, na’i gartref ei hun. (Math. 8:20) Ond am fod eu doethineb wedi dod o’r un ffynhonnell, Jehofa Dduw, roedd gan y ddau ddyn agwedd gytbwys tuag at bethau materol.

5. Pa agwedd oedd gan Solomon tuag at arian?

5 Gwnaeth Solomon cydnabod bod arian “yn gysgod i’n cadw’n saff.” (Preg. 7:12) Mae ’na wirionedd i hynny, am ein bod ni’n gallu ei ddefnyddio i brynu pethau rydyn ni angen, ac weithiau pethau rydyn ni eisiau. Ond er ei fod yn hynod o gyfoethog, gwnaeth Solomon sylweddoli bod ’na bethau pwysicach nag arian. Mae hynny’n amlwg am ei fod wedi dweud: “Mae enw da yn well na chyfoeth mawr.” (Diar. 22:1) Gwnaeth ef hefyd sylwi ei bod hi’n anghyffredin iawn i bobl sy’n caru arian fod yn hapus gyda beth sydd ganddyn nhw. (Preg. 5:10, 12) Gwnaeth ef hefyd ein rhybuddio i beidio â rhoi gormod o ffydd mewn arian, oherwydd mae’n gallu diflannu dros nos.—Diar. 23:4, 5.

Ydy ein hagwedd tuag at bethau materol yn ein dal ni’n ôl rhag rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn ein bywydau? (Gweler paragraffau 6-7) d

6. Pa agwedd oedd gan Iesu tuag at bethau materol? (Mathew 6:31-33)

6 Roedd gan Iesu agwedd gytbwys tuag at bethau materol. Roedd yn hoff iawn o fwyd a diod da. (Luc 19:2, 6, 7) Ei wyrth gyntaf un oedd gwneud gwin o’r safon orau. (Ioan 2:10, 11) Ac ar y diwrnod buodd ef farw, roedd yn gwisgo dillad drud. (Ioan 19:23, 24) Ond i Iesu, nid dyna oedd y peth pwysicaf yn ei bywyd. Dywedodd wrth ei ddilynwyr: “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd.” (Math. 6:24) Dysgodd Iesu y bydd Jehofa yn gwneud yn siŵr bod gynnon ni yr hyn rydyn ni angen os ydyn ni’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf.—Darllen Mathew 6:31-33.

7. Sut gwnaeth un brawd elwa o gael agwedd gytbwys tuag at arian?

7 Mae cyngor doeth Jehofa ynglŷn ag arian wedi helpu llawer o frodyr a chwiorydd. Mae brawd sengl o’r enw Daniel yn un ohonyn nhw. Mae ef wedi gallu cael rhan ar lawer o brosiectau theocrataidd am ei fod wedi cadw ei fywyd yn syml. Dywedodd: “Wnes i benderfynu yn fy arddegau y byddwn i’n rhoi pethau ysbrydol yn gyntaf yn fy mywyd, a dw i heb ddifaru hynny am eiliad. Mae’n siŵr byddwn i wedi gallu ennill lot o arian os mai dyna o’n i eisiau. Ond sut gallai hynny gymharu â’r ffrindiau sydd gen i nawr, a’r hapusrwydd sy’n dod o wybod fy mod i’n rhoi Jehofa yn gyntaf? Fyddai holl arian y byd ddim cystal â’r bendithion mae Jehofa wedi eu rhoi imi.” Yn amlwg, rydyn ni’n elwa o ganolbwyntio ar bethau ysbrydol yn hytrach nag arian.

AGWEDD GYTBWYS TUAG AT WAITH SECIWLAR

8. Sut rydyn ni’n gwybod roedd gan Solomon agwedd gytbwys tuag at waith? (Pregethwr 5:18, 19)

8 Roedd Solomon yn ystyried y mwynhad sy’n dod o waith caled fel “rhodd gan Dduw.” (Darllen Pregethwr 5:18, 19.) Dywedodd hefyd: “Mae elw i bob gwaith caled.” (Diar. 14:23) Roedd Solomon yn gwybod hynny o brofiad! Gweithiodd yn galed i adeiladu tai, plannu gwinllannoedd, creu gerddi a llynnoedd, a hyd yn oed adeiladu dinasoedd. (1 Bren. 9:19; Preg. 2:4-6) Mae’n siŵr cafodd ef foddhad mawr o wneud y gwaith hwnnw, ond roedd Solomon yn gwybod fod rhaid iddo wneud pethau ar gyfer Jehofa os oedd am fod yn wirioneddol hapus. Felly, aeth ati i adeiladu teml ogoneddus er mwyn addoli Jehofa—prosiect wnaeth gymryd saith mlynedd. (1 Bren. 6:38; 9:1) Ar ôl gweithio’n galed ar bob math o bethau seciwlar ac ysbrydol, sylweddolodd Solomon mai’r peth pwysicaf gall rhywun ei wneud ydy gwasanaethu Jehofa. Ysgrifennodd: “Y cwbl sydd i’w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e’n ddweud!”—Preg. 12:13.

9. Sut gwnaeth Iesu gadw ei waith seciwlar yn ei le?

9 Roedd Iesu hefyd yn gweithio’n galed. Roedd yn saer pan oedd yn ifanc. (Marc 6:3) A gyda theulu mawr i ofalu amdano, mae’n debyg roedd ei rieni yn falch iawn o’i help. Roedd Iesu’n berffaith, felly mae’n debyg roedd ’na alw mawr am ei waith fel saer! Ac mae’n siŵr roedd Iesu yn mwynhau ei waith. Ond roedd ef wastad yn sicrhau bod ganddo amser ar gyfer pethau ysbrydol. (Ioan 7:15) Yn hwyrach ymlaen, pan oedd ef yn pregethu’n llawn amser, rhoddodd gyngor doeth pan ddywedodd: “Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy’n difetha, ond i gael y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol.” (Ioan 6:27) Ac yn ei Bregeth ar y Mynydd, dywedodd: “Casglwch drysorau i chi’ch hunain yn y nefoedd.”—Math. 6:20.

Sut gallwn ni gadw cydbwysedd rhwng ein gwaith seciwlar a phethau ysbrydol? (Gweler paragraffau 10-11) e

10. Pa her gall rhai wynebu yn eu gwaith seciwlar?

10 Mae cyngor doeth Jehofa yn ein helpu ni i gadw agwedd gytbwys tuag at ein gwaith seciwlar, ac mae ei Air hyd yn oed yn ein hannog ni i weithio’n galed. (Eff. 4:28) Yn aml iawn, mae ein cyflogwyr yn sylwi ar hynny a pha mor onest ydyn ni, a hyd yn oed yn ein canmol ni i’r cymylau. Gall hynny wneud inni weithio oriau hirach am ein bod ni eisiau creu argraff gwell byth fel un o Dystion Jehofa. Ond y peryg o wneud hynny ydy gallwn ni wthio ein cyfrifoldebau teuluol ac ysbrydol i’r neilltu. Os ydy hynny’n dechrau digwydd, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth amdano er mwyn cadw cydbwysedd.

11. Beth gwnaeth un brawd ei ddysgu am gadw agwedd gytbwys tuag at waith?

11 Roedd brawd ifanc o’r enw William yn gweithio i frawd arall. Gwnaeth esiampl y brawd yma helpu William i weld pa mor bwysig ydy hi i gadw gwaith seciwlar yn ei le. Dywedodd: “Mae gan [y brawd] agwedd mor gytbwys tuag at ei waith. Mae’n gweithio’n galed, ac mae ganddo enw da gyda’i gwsmeriaid. Ond mae’n gwybod pryd i stopio. Ar ddiwedd y dydd, mae’n canolbwyntio ar ei deulu ac ar Jehofa. A wyddoch chi beth? Fe ydy un o’r bobl hapusaf rydw i’n ei nabod!” b

AGWEDD GYTBWYS TUAG ATON NI’N HUNAIN

12. Sut gwnaeth Solomon ddangos fod ganddo agwedd gytbwys tuag ato’i hun, ond sut gwnaeth ef ei cholli?

12 Pan oedd Solomon yn ddyn ifanc ac yn dal yn ffyddlon i Jehofa, roedd ganddo agwedd gytbwys tuag ato’i hun. Gwnaeth ef hefyd gydnabod ei wendidau a dibynnu ar Jehofa am arweiniad. (1 Bren. 3:7-9) Ar yr un pryd, roedd ef yn effro i’r peryg o droi’n falch. Dywedodd: “Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu.” (Diar. 16:18) Yn anffodus, wnaeth Solomon ddim gwrando ar ei gyngor ei hun, ac ymhen amser gwnaeth balchder wneud iddo anwybyddu gofynion Duw. Er enghraifft, roedd y gyfraith yn dweud na ddylai brenin Hebraeg ‘gymryd lot o wragedd iddo’i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn.’ (Deut. 17:17) Gwnaeth Solomon anwybyddu’r gyfraith honno’n llwyr, ac ymhen hir a hwyr roedd ganddo 700 o wragedd, a 300 o gariadon, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n baganaidd! (1 Bren. 11:1-3) Efallai roedd ef yn teimlo na fyddai hyn yn broblem iddo ef. Ond yn y pen draw, dioddef wnaeth Solomon, oherwydd wnaeth ef ddim gwrando ar Jehofa.—1 Bren. 11:9-13.

13. Beth gallwn ni ei ddysgu o fyfyrio ar agwedd ostyngedig Iesu?

13 Roedd agwedd Iesu tuag ato’i hun yn un gytbwys a gostyngedig, er ei fod wedi gwneud llawer o bethau anhygoel yng ngwasanaeth Jehofa cyn iddo ddod i’r ddaear. Er enghraifft, drwyddo ef “crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” (Col. 1:16, BCND) A phan gafodd ei fedyddio, mae’n debyg gwnaeth Iesu gofio llawer o’r pethau wnaeth ef pan oedd gyda’i Dad yn y nef. (Math. 3:16; Ioan 17:5) Ond wnaeth hynny ddim gwneud iddo droi’n falch, na meddwl ei fod yn well na phobl eraill. I’r gwrthwyneb, dywedodd wrth ei ddisgyblion ei fod wedi dod i’r ddaear “fel gwas i aberthu [ei fywyd] er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Math. 20:28) Roedd hefyd yn gwbl agored am y ffaith nad oedd yn gweithredu’n annibynnol. (Ioan 5:19) Mae’n wir, roedd Iesu yn hollol ostyngedig. Am esiampl wych inni ei dilyn!

14. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Iesu am gadw’r agwedd gywir tuag aton ni’n hunain?

14 Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i gael yr agwedd gywir tuag atyn nhw eu hunain. Ar un achlysur, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!” (Math. 10:30) Onid ydy hynny’n galonogol, yn enwedig os nad ydyn ni’n meddwl llawer ohonon ni’n hunain? Mae’n profi bod gan ein Tad nefol ddiddordeb mawr ynon ni, a’n bod ni’n werthfawr yn ei olwg ef. Felly, os ydy Jehofa’n caniatáu inni ei addoli, ac mae’n meddwl ein bod ni’n ddigon da i fyw yn ei fyd newydd am byth, pwy ydyn ni i anghytuno?

Sut byddwn ni’n colli allan os nad oes gynnon ni agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain? (Gweler paragraff 15) f

15. (a) Beth gwnaeth un Tŵr Gwylio ei awgrymu ynglŷn â chadw agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain? (b) Fel mae’r lluniau ar dudalen 24 yn ei ddangos, sut byddwn ni’n colli allan os ydyn ni’n canolbwyntio gormod arnon ni’n hunain?

15 Tua 15 mlynedd yn ôl, dywedodd y Tŵr Gwylio y dylen ni feithrin agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain, gan ddweud: “Yn sicr, fydden ni ddim eisiau meddwl gymaint ohonon ni’n hunain nes inni droi’n falch, ond fydden ni ddim eisiau mynd i’r pegwn arall chwaith, gan feddwl dim ohonon ni’n hunain. Mae’n rhaid cydnabod ein cryfderau yn ogystal â’n gwendidau er mwyn meithrin agwedd resymol tuag aton ni’n hunain. Dywedodd un chwaer: ‘Dw i ddim yn berson ffiaidd, ond dw i ddim yn berffaith chwaith. Mae gen i gryfderau a gwendidau, yr un fath â phawb arall.’” c Mae’n amlwg felly pam mae’n beth da inni gadw agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain.

16. Pam mae Jehofa’n rhoi cyngor doeth inni?

16 Mae Jehofa yn rhoi cyngor doeth inni yn ei Air am ei fod yn ein caru ni, ac eisiau inni fod yn hapus. (Esei. 48:17, 18) Felly y peth doeth ydy rhoi Jehofa yn gyntaf yn ein bywydau. Dyna fydd yn ein gwneud ni’n wirioneddol hapus. Byddwn ni hefyd yn osgoi’r problemau sy’n dod o ganolbwyntio gormod ar arian, gwaith seciwlar, neu ni’n hunain. Felly, gad i bob un ohonon ni fod yn benderfynol o fod yn ddoeth a gwneud Jehofa’n hapus!—Diar. 23:15.

CÂN 94 Gwerthfawrogi Gair Duw

a Cafodd Solomon ac Iesu ddoethineb mawr gan Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld beth gallwn ni ei ddysgu o’u cyngor ynglŷn â chadw agwedd gytbwys at arian, gwaith seciwlar, a ni’n hunain. Byddwn ni hefyd yn gweld sut mae rhai o’n brodyr a chwiorydd eisoes wedi elwa o roi eu cyngor ar waith.

b Gweler yr erthygl How to Enjoy Hard Work yn rhifyn Chwefror 1, 2015, y Tŵr Gwylio Saesneg.

c Gweler yr erthygl The Bible Can Help You Find Joy yn rhifyn Awst 1, 2005, y Tŵr Gwylio Saesneg.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae John a Tom yn ddau frawd ifanc yn yr un gynulleidfa. Mae John yn treulio llawer o amser yn gofalu am ei gar. Ond mae Tom yn defnyddio ei gar ar gyfer y weinidogaeth, ac i fynd ag eraill i’r cyfarfodydd.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae John yn gweithio goramser. Dydy o ddim eisiau siomi ei fòs, felly mae ef wastad yn cytuno i weithio’n hwyr. Ar yr un noson, mae Tom sy’n was gweinidogaethol, yn mynd gyda henuriad ar alwad bugeiliol. Mae Tom eisoes wedi esbonio i’w fòs ei fod yn neilltuo sawl noson yr wythnos ar gyfer pethau ysbrydol.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae John yn canolbwyntio arno’i hun, ond i Tom, Jehofa sy’n dod yn gyntaf. Felly mae’n gwneud llawer o ffrindiau newydd wrth iddo helpu i adnewyddu Neuadd Cynulliad.