Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa

Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa

“Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.”—MATH. 22:37.

CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant

CIPOLWG a

1-2. Esbonia sut gall egwyddorion y Beibl olygu mwy inni pan fydd ein hamgylchiadau yn newid.

 DYCHMYGA gwpl yn gwrando’n astud ar eu hanerchiad priodas. Mae’r anerchiad yn llawn egwyddorion maen nhw wedi eu clywed o’r blaen. Ond o’r diwrnod hwnnw ymlaen, bydd yr egwyddorion hynny yn fwy perthnasol iddyn nhw nag erioed. Pam? Oherwydd nawr byddan nhw’n eu rhoi nhw ar waith fel cwpl priod.

2 Mae rhywbeth tebyg yn digwydd pan mae cwpl yn cael plant. Dros y blynyddoedd, mae’n debyg byddan nhw wedi clywed llawer o anerchiadau am fagu plant, ond bellach mae’r egwyddorion yn yr anerchiadau hynny yn golygu mwy iddyn nhw, oherwydd bydd ganddyn nhw’r fraint arbennig o fagu eu plant eu hunain! Mae hyn yn dangos bod amgylchiadau newydd yn gallu newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am egwyddorion cyfarwydd y Beibl. Dyna un rheswm pam mae pobl Jehofa yn darllen y Beibl bob dydd, ac yn myfyrio arno “ar hyd eu bywydau,” fel roedd brenhinoedd Israel i fod i wneud.—Deut. 17:19.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Rieni, mae gynnoch chi un o’r breintiau mwyaf gwerthfawr gall Cristion ei chael, sef dysgu eich plant am Jehofa. Ond, mae angen gwneud mwy na dim ond rhannu ffeithiau â nhw am Dduw. Y nod ydy eu helpu nhw i garu Jehofa yn fawr. Ond sut gallwch chi gyrraedd y nod hwnnw? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair egwyddor o’r Beibl all eich helpu chi fel rhieni. (2 Tim. 3:16) A byddwn ni’n gweld sut mae rhai rhieni Cristnogol eisoes wedi elwa o roi cyngor y Beibl ar waith.

PEDAIR EGWYDDOR A ALL HELPU RHIENI

Os ydych chi wastad yn troi at Jehofa am arweiniad, ac yn gosod esiampl dda, pa effaith bydd hynny’n ei chael er eich plant? (Gweler paragraffau 4, 8)

4. Beth yw un egwyddor gall rhieni ei dilyn er mwyn helpu eu plant i garu Jehofa? (Iago 1:5)

4 Egwyddor 1: Chwiliwch am arweiniad Jehofa. Gofynnwch i Jehofa am y doethineb rydych chi ei angen i helpu eich plant i ddod i’w garu. (Darllen Iago 1:5.) Ef ydy’r Person gorau i roi cyngor, am o leiaf ddau reswm. Yn gyntaf, ef ydy’r rhiant mwyaf profiadol erioed. (Salm 36:9) Ac yn ail, mae ei gyngor doeth wastad o les inni.—Esei. 48:17.

5. (a) Sut mae cyfundrefn Jehofa yn helpu rhieni? (b) Yn y fideo, beth wnest ti ei ddysgu o’r ffordd wnaeth Brawd a Chwaer Amorim fagu eu plant?

5 Mae Jehofa wedi rhoi pentwr o fwyd ysbrydol drwy ei Air a’i gyfundrefn a all helpu rhieni i fagu eu plant i garu Jehofa. (Math. 24:45) Er enghraifft, mae ’na lawer o erthyglau ymarferol yn y gyfres “Help ar Gyfer y Teulu,” ar jw.org. Yno hefyd mae llawer o fideos a chyfweliadau all helpu rhieni i roi cyngor Jehofa ar waith wrth fagu eu plant. bDiar. 2:4-6.

6. Sut mae Joe a’i wraig yn teimlo am yr help maen nhw’n ei gael gan gyfundrefn Jehofa?

6 Mae rhieni ledled y byd wedi dweud eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r help mae cyfundrefn Jehofa yn ei roi. Dywedodd un tad o’r enw Joe: “Dydy magu tri o blant yn y gwir ddim yn hawdd. Dw i a fy ngwraig wastad yn gweddïo ar Jehofa am help, ac yn aml mae erthygl neu fideo yn cael ei ryddhau sy’n delio â’r union her rydyn ni’n ei hwynebu. Wn i ddim lle fydden ni oni bai am help Jehofa.” Mae Joe a’i wraig hefyd wedi ffeindio bod erthyglau a fideos o’r fath yn helpu eu plant i glosio at Jehofa.

7. Pam mae’n bwysig bod rhieni yn ymwybodol o’r esiampl maen nhw’n ei gosod? (Rhufeiniaid 2:21)

7 Egwyddor 2: Dysgwch drwy esiampl. Dydy plant ddim yn methu llawer, ac yn aml, maen nhw’n efelychu beth maen nhw’n ei weld. Er does ’na’r un rhiant yn berffaith, mae rhieni doeth yn trio eu gorau i osod esiampl dda ar gyfer eu plant. (Rhuf. 3:23; darllen Rhufeiniaid 2:21.) Dywedodd un tad: “Mae plant fel sbwnj; maen nhw’n cymryd popeth i mewn. Byddan nhw’n sicr o ddweud wrthon ni os nad ydyn ni’n dilyn ein cyngor ein hunain.” Felly, mae’n rhaid inni ddangos yn glir ein bod ni’n caru Jehofa yn fawr os ydyn ni eisiau i’n plant wneud yr un peth.

8-9. Beth gwnest ti ei ddysgu o brofiadau Andrew ac Emma?

8 Mae ’na lawer o ffyrdd gall rhieni ddysgu eu plant i garu Jehofa. Dyma ddywedodd Andrew, brawd 17 mlwydd oed: “Mae fy rhieni wastad wedi rhoi pwyslais mawr ar weddi. Er enghraifft, oedd Dad yn gweddïo gyda fi bob nos, hyd yn oed os o’n i wedi gweddïo’n barod. Oedden nhw wastad yn dweud wrtho i a’n chwaer, ‘Gallwch chi siarad â Jehofa gymaint ag ydych chi eisiau.’ Oherwydd hynny, mae gweddi yn bwysig iawn i minnau hefyd, a dw i’n teimlo bod Jehofa yn Dad sy’n fy ngharu.” Rieni, peidiwch ag anghofio gymaint o effaith gall eich cariad chi tuag at Jehofa ei chael ar eich plant.

9 Meddylia hefyd am esiampl Emma. Gwnaeth ei thad gefnu ar y teulu a gadael ei mam gyda dyledion anferth i’w talu. Dywedodd Emma: “Er roedd arian yn aml yn brin, roedd Mam wastad yn siarad am sut roedd Jehofa yn edrych ar ôl ei weision. Ac oedd hi’n amlwg i mi o’r ffordd roedd hi’n byw ei bod hi wir yn credu hynny.” Y wers? Mae’n bosib dysgu drwy esiampl, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd.—Gal.6:9.

10. Pa gyfleoedd oedd gan rieni yn Israel gynt i siarad â’u plant am Jehofa? (Deuteronomium 6:6, 7)

10 Egwyddor 3: Siaradwch â’ch plant yn aml. Gwnaeth Jehofa orchymyn i’r Israeliaid fanteisio ar bob cyfle i ddysgu eu plant amdano. (Darllen Deuteronomium 6:6, 7.) Ac mae’n rhaid roedd y cyfleoedd hynny yn codi yn aml bob dydd. Er enghraifft, roedd hi’n gyffredin i fachgen dreulio oriau yn y cae, yn helpu ei dad i blannu cnydau neu eu casglu, ac i’w chwaer dreulio’r diwrnod gyda’i mam yn gwnïo, gwehyddu, a gwneud pethau eraill o gwmpas y tŷ. Felly yn amlwg, roedd ’na hen ddigon o amser i rieni siarad â’u plant am bethau pwysig bywyd, ac i sôn am rinweddau Jehofa, a sut roedd ef yn eu helpu nhw fel teulu.

11. Pa gyfle sydd gan rieni Cristnogol heddiw i siarad â’u plant?

11 Mae pethau’n wahanol iawn erbyn heddiw. Mae’n gyffredin iawn i rieni fod yn y gwaith drwy’r dydd, tra bod y plant yn yr ysgol. Felly, am fod amser mor brin i siarad am bethau pwysig, mae’n rhaid i rieni greu cyfleoedd i wneud hynny â’u plant. (Eff. 5:15, 16; Phil. 1:10) Mae addoliad teuluol, er enghraifft, yn gyfle arbennig o dda. Dywedodd un brawd ifanc o’r enw Alexander: “Mae Dad yn trefnu addoliad teuluol bob wythnos, ac yn sicrhau bod dim byd yn torri ar draws hynny. Ac ar ôl yr astudiaeth mae’n ddigon naturiol inni jest sgwrsio.”

12. Beth dylai penteulu ei gofio yn ystod addoliad teuluol?

12 Os wyt ti’n benteulu, beth gelli di ei wneud i helpu dy blant i fwynhau addoliad teuluol? Beth am astudio’r llyfr newydd, Mwynhewch Fywyd am Byth! gyda nhw. Gall helpu dy blant i siarad yn agored am eu teimladau a’u pryderon. Ond er mwyn creu awyrgylch braf lle maen nhw’n ddigon cyfforddus i wneud hynny, paid â defnyddio’r amser hwn i roi pregeth, neu ddweud y drefn wrthyn nhw. A thria beidio â gorymateb os ydyn nhw’n anghytuno â rhywbeth yn y Beibl. Yn hytrach, diolcha eu bod nhw’n teimlo y gallan nhw sôn am bethau felly gyda ti. Cofia, gelli di helpu dy blant yn well os wyt ti’n gwybod yn union sut maen nhw’n teimlo. Felly anoga nhw i siarad o’r galon, ac i fod yn onest ac yn agored am sut maen nhw’n teimlo.

Sut gall rhieni ddefnyddio’r greadigaeth i ddysgu eu plant am rinweddau Jehofa? (Gweler paragraff 13)

13. Pryd arall gall rhieni helpu eu plant i glosio at Jehofa?

13 Cofiwch, does dim rhaid ichi ddisgwyl am adeg benodol, fel sesiwn astudio, i siarad â’ch plant am Jehofa. Gallwch chi chwilio am gyfleoedd yn ystod y dydd i wneud hynny. Sylwch beth ddywedodd un fam o’r enw Lisa: “Oedden ni’n defnyddio natur yn aml i ddysgu ein plant am Jehofa. Er enghraifft, pan fyddai’r ci yn gwneud rhywbeth doniol, roedd hynny’n gyfle i ddangos bod Jehofa yn Dduw hapus, a’i fod eisiau inni chwerthin a mwynhau bywyd hefyd.”

Rieni, a ydych chi’n adnabod ffrindiau eich plant? (Gweler paragraff 14) d

14. Pam mae hi’n bwysig i rieni helpu eu plant i fod yn ddoeth wrth ddewis ffrindiau? (Diarhebion 13:20)

14 Egwyddor 4: Helpwch eich plant i ddewis ffrindiau da. Mae’r Beibl yn ei gwneud hi’n glir bod ein ffrindiau yn dylanwadu arnon ni—boed hynny’n dda, neu’n ddrwg. (Darllen Diarhebion 13:20.) A ydych chi’n adnabod ffrindiau eich plant? A ydych chi wedi eu cyfarfod nhw, a threulio ychydig o amser gyda nhw? Beth gallwch chi ei wneud i helpu eich plant i wneud ffrindiau sy’n caru Jehofa? (1 Cor. 15:33) Un ffordd ydy drwy wahodd rhai sy’n gwneud yn dda yn ysbrydol i dreulio amser gyda chi a’ch plant.—Salm 119:63.

15. Beth gall rhieni ei wneud i helpu eu plant i wneud ffrindiau da?

15 Ystyriwch beth wnaeth tad o’r enw Tony, a’i wraig, i helpu eu plant i wneud ffrindiau da. Dywedodd: “Dw i a fy ngwraig wedi ffeindio bod amrywiaeth yn hollbwysig. Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gwahodd brodyr a chwiorydd o bob oed a chefndir i gael pryd o fwyd gyda ni, neu i ymuno â’n haddoliad teuluol. Mae hyn yn ffordd wych i ddod i ’nabod rhai sy’n caru Jehofa, ac sy’n hapus yn ei wasanaeth. Rydyn ni wedi cael arolygwyr cylchdaith, cenhadon, ac eraill i aros gyda ni. Oedd y plant wastad wrth eu boddau yn gwrando ar eu profiadau, ac oedd hi’n amlwg bod sêl ein holl ymwelwyr, a’u gwaith caled yng ngwasanaeth Jehofa, wedi bod yn ddylanwad da ar y plant ac wedi eu helpu nhw i glosio at Jehofa.” Felly, rieni, byddwch yn benderfynol o helpu eich plant i gael cwmni da.

PEIDIWCH Â CHOLLI GOBAITH!

16. Beth os dydy un o’ch plant ddim eisiau gwasanaethu Jehofa, er gwaethaf eich holl ymdrechion?

16 Beth os dydy un o’ch plant ddim eisiau gwasanaethu Jehofa, er gwaethaf eich holl ymdrechion? Dydy hynny ddim yn golygu eich bod chi wedi methu fel rhieni. Mae Jehofa wedi rhoi’r hawl i bob un ohonon ni—gan gynnwys eich plant—ddewis p’un a ydyn ni am ei wasanaethu neu ddim. Ac os ydy un o’ch plant wedi penderfynu gadael Jehofa, peidiwch â meddwl does ’na ddim gobaith iddo ddod yn ôl. Cofiwch am y mab coll yn eglureb Iesu. Daeth yn ei ôl yn y pen draw, er ei fod wedi crwydro’n bell oddi wrth Jehofa. (Luc 15:11-19, 22-24) Mae’n ddigon hawdd meddwl, ‘Dim ond stori ydy hynny, dydy hi ddim yn golygu bydd fy mhlentyn i yn dod yn ôl.’ Ond ydy hynny’n wir? Ddim o reidrwydd. Mae profiad dyn ifanc o’r enw Elie yn dangos hynny.

17. Sut mae profiad Elie yn dy galonogi di?

17 Dywedodd Elie am ei rieni: “Gwnaethon nhw drio eu gorau i fy helpu i i garu Jehofa, a’r Beibl. Ond erbyn imi gyrraedd tua 15, doeddwn i ddim eisiau gwybod.” Dechreuodd Elie fyw bywyd dwbl, a gwnaeth ef wrthod unrhyw ymdrechion gan ei rieni i’w helpu’n ysbrydol. Ar ôl iddo adael cartref, crwydrodd yn bellach oddi wrth Jehofa. Er hynny, roedd yn dal i drafod y Beibl ag un o’i ffrindiau bob hyn a hyn. Dywedodd Elie: “Y mwyaf o’n i’n siarad am Jehofa, y mwyaf o’n i’n meddwl amdano. Ond fesul tipyn, oedd yr hadau bach oedd Mam a Dad eisoes wedi eu plannu yn fy nghalon yn dechrau tyfu.” Yn y pen draw, daeth Elie yn ôl i’r gwir. c Meddylia pa mor falch oedd ei rieni eu bod nhw wedi gweithio’n galed i’w ddysgu am Jehofa pan oedd ef yn ifanc.—2 Tim. 3:14, 15.

18. Sut rwyt ti’n teimlo am rieni sy’n gweithio’n galed i ddysgu eu plant i garu Jehofa?

18 Rieni, mae gynnoch chi’r fraint anhygoel o fagu’r genhedlaeth nesaf o Dystion Jehofa. (Salm 78:4-6) Dydy hynny ddim yn hawdd—mae’n gofyn am gryn dipyn o amser ac ymdrech—felly da iawn chi am ddal ati! Gallwch chi fod yn sicr bod ein Tad nefol cariadus yn hapus iawn o’ch gweld chi’n gwneud eich gorau glas i helpu’ch plant i’w garu a’i wasanaethu!—Eff. 6:4.

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth Fy Mab”

a Mae rhieni Cristnogol yn caru eu plant yn fawr iawn, felly maen nhw’n gweithio’n galed i ofalu am eu hanghenion corfforol ac emosiynol. Ar ben hynny, maen nhw’n gwneud eu gorau i helpu eu plant i garu Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair egwyddor o’r Beibl a fydd yn helpu rhieni i wneud hynny.

b Gweler y fideo Taught by Jehovah to Raise Our Family ar jw.org.

c Gweler yr erthygl, The Bible Changes Lives yn rhifyn Ebrill 1, 2012, y Tŵr Gwylio Saesneg.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae tad yn gwneud ymdrech i ddod i adnabod ffrind ei fab drwy chwarae pêl-fasged gyda nhw.