Awgrymiad ar Gyfer Gwneud Ymchwil
Adnoddau Ymchwilio yn LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
Gall ein hadnoddau ymchwilio sydd ar lein dy helpu di i ddysgu am lawer o bynciau gwahanol. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys y Geirfa a Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa yn Gymraeg, ac Insight on the Scriptures a’r Watch Tower Publications Index yn Saesneg.
Gall y blwch chwilio ar LYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio dy helpu i ddefnyddio adnoddau ymchwilio. Wrth iti deipio, bydd awgrymiadau yn ymddangos o dan y blwch. Os ydy’r gair wedi ei gynnwys mewn adnodd ymchwilio, bydd y gair “Pwnc” yn ymddangos wrth ei ochr.
Rho gynnig arni: Dechreua deipio’r gair “Jehofa” yn y blwch chwilio (A). Clicia ar yr awgrym “Jehofa” sydd â’r gair “Pwnc” wrth ei ochr (B). Byddi di’n gweld canlyniadau o wahanol adnoddau ymchwilio.