Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

Cadwch “Fflam Jah” yn Fyw

Cadwch “Fflam Jah” yn Fyw

‘Mae fflamau cariad yn dân gwenfflam, yn fflam Jah.’—CANIAD SOL. 8:6, NWT.

CÂN 131 ‘Yr Hyn Mae Duw Wedi’i Uno’

CIPOLWG a

1. Sut mae’r Beibl yn disgrifio gwir gariad?

 MAE fflamau cariad “yn dân gwenfflam, yn fflam Jah. Ni all dyfroedd llawn tonnau ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei ysgubo i ffwrdd chwaith.” b (Caniad Sol. 8:6, 7, NWT) Dyna ddisgrifiad hyfryd o wir gariad! Mae’r geiriau hynny’n cynnwys gwirionedd calonogol i gyplau priod. Fe allwch chi gael cariad diddarfod tuag at eich gilydd.

2. Beth sy’n rhaid i gwpl ei wneud i sicrhau dydy eu cariad ddim yn oeri?

2 Mae cwpl priod yn gorfod rhoi ymdrech i mewn i’w priodas er mwyn cael cariad diddarfod sy’n para ar hyd eu hoes. I egluro, meddylia am dân. Mae ganddo botensial i losgi am byth cyn belled â bod rhywun yn parhau i roi tanwydd arno. Fel arall bydd y tân yn llosgi allan. Mewn ffordd debyg, gall y cariad rhwng gŵr a gwraig bara am byth, cyn belled â’u bod nhw’n dal ati i weithio ar eu perthynas. Pan fydd cwpl dan straen oherwydd problemau ariannol, salwch, neu’r pwysau o fagu plant, gallan nhw deimlo bod eu cariad yn dechrau oeri. Felly os wyt ti’n briod, sut gelli di gadw “fflam Jah” yn fyw yn dy briodas di? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair ffordd gelli di gadw dy berthynas yn gryf a mwynhau priodas hapus. c

PARHAU I GRYFHAU DY BERTHYNAS Â JEHOFA

Fel Joseff a Mair, mae’n rhaid i ŵr a gwraig gael perthynas agos â Jehofa (Gweler paragraff 3)

3. Sut mae perthynas agos â Jehofa yn helpu cwpl i gadw eu cariad yn gryf? (Pregethwr 4:12) (Gweler hefyd y llun.)

3 Er mwyn cadw “fflam Jah” yn fyw, dylai gŵr a gwraig weithio’n galed i gael perthynas agos â Jehofa. Sut bydd hyn yn cryfhau eu priodas? Mae bod yn ffrind i Jehofa yn golygu rhoi ei gyngor ar waith. Mae hyn yn helpu cyplau i osgoi, neu i ddod dros, unrhyw broblemau allai wneud i’w cariad at ei gilydd oeri. (Darllen Pregethwr 4:12.) Bydd pobl ysbrydol yn ceisio efelychu Jehofa a’i rinweddau. Mae hynny’n cynnwys bod yn garedig, yn amyneddgar, ac yn faddeugar. (Eff. 4:32–5:1) Pan fydd cwpl yn gwneud hynny, bydd eu cariad yn siŵr o dyfu. Mae chwaer o’r enw Lena, sydd wedi bod yn briod am fwy na 25 mlynedd, yn dweud: “Mae’n hawdd caru a pharchu person ysbrydol.”

4. Pam gwnaeth Jehofa ddewis Joseff a Mair i fod yn rhieni i’r Meseia?

4 Meddylia am esiampl cwpl o’r Beibl—Joseff a Mair. Allan o holl ddisgynyddion Dafydd, pam gwnaeth Jehofa eu dewis nhw i fod yn rhieni i’r Meseia? Roedd gan y ddau eu perthynas eu hunain â Jehofa, ac roedd Jehofa’n gwybod y bydden nhw’n rhoi’r flaenoriaeth iddo yn eu priodas. Gyplau priod, beth allwch chi ei ddysgu oddi wrth Joseff a Mair?

5. Beth gall gwŷr ei ddysgu oddi wrth Joseff?

5 Roedd Joseff yn fodlon rhoi arweiniad Jehofa ar waith, ac roedd hynny’n ei helpu i fod yn ŵr gwell. O leiaf dair gwaith, cafodd gyfarwyddiadau gan Dduw oedd yn berthnasol i’w deulu. Bob tro, gwnaeth ef ufuddhau ar unwaith, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iddo. (Math. 1:20, 24; 2:13-15, 19-21) Drwy ddilyn arweiniad Duw, roedd Joseff yn gallu amddiffyn Mair a gofalu amdani. Meddylia am yr effaith gafodd y ffordd gwnaeth Joseff ymddwyn ar Mair. Rhaid bod hynny wedi cryfhau ei chariad a’i pharch tuag ato. Os wyt ti’n ŵr priod, gelli di efelychu Joseff drwy chwilio yn y Beibl am gyngor am sut i ofalu am dy deulu. d Pan fyddi di’n rhoi’r cyngor hwn ar waith, hyd yn oed os ydy hynny’n golygu gwneud newidiadau, byddi di’n dangos cariad at dy wraig ac yn cryfhau dy briodas. Mae chwaer yn Fanwatw, sydd wedi bod yn briod ers dros 20 mlynedd, yn dweud: “Pan fydd fy ngŵr yn chwilio am arweiniad Jehofa a’i roi ar waith, dw i’n ei barchu’n fwy. Mae’n gwneud imi deimlo’n saff, ac yn fy helpu i drystio ei benderfyniadau.”

6. Beth gall gwragedd ei ddysgu oddi wrth Mair?

6 Roedd gan Mair ei pherthynas ei hun â Jehofa, a doedd hi ddim yn dibynnu ar Joseff i gadw ei ffydd ei hun yn gryf. Roedd hi’n gyfarwydd iawn â’r Ysgrythurau. (Gweler rhifyn Chwefror 2016 y Tŵr Gwylio, tud. 13, par. 17.) Roedd hi hefyd yn neilltuo amser i fyfyrio. (Luc 2:19, 51) Mae’n rhaid bod Mair yn wraig arbennig am ei bod hi mor ysbrydol. Mae llawer o wragedd heddiw yn ceisio efelychu Mair. Er enghraifft, dywedodd chwaer o’r enw Emiko: “Pan oeddwn i’n sengl, roedd gen i fy rwtîn ysbrydol fy hun. Ond ar ôl priodi, roedd fy ngŵr yn gweddïo drosto i ac yn cymryd y blaen mewn addoliad, a dechreuais ddibynnu arno i wneud y pethau hyn drosto i. Sylweddolais fod rhaid imi gario fy llwyth fy hun ynglŷn â fy mherthynas â Jehofa. Felly, nawr dw i’n neilltuo amser i fod ar fy mhen fy hun gyda fy Nuw—yn gweddïo, yn darllen y Beibl, ac yn myfyrio arno.” (Gal. 6:5) Wrth i chi wragedd ddal ati i gryfhau eich perthynas â Jehofa, bydd gan eich gwŷr hyd yn oed fwy o resymau i’ch canmol ac i’ch caru.—Diar. 31:30.

7. Beth all cyplau ei ddysgu am addoli Duw gyda’i gilydd o esiampl Joseff a Mair?

7 Gwnaeth Joseff a Mair hefyd gydweithio i gadw eu perthynas â Jehofa yn gryf. Roedden nhw’n deall bod rhaid i deulu addoli Jehofa gyda’i gilydd. (Luc 2:22-24, 41; 4:16) Llwyddon nhw i wneud hynny er bod ’na heriau, yn enwedig wrth iddyn nhw gael mwy o blant. Maen nhw’n esiampl wych i gyplau priod heddiw. Os oes gynnoch chi blant, efallai ei bod hi’n dipyn o her i sicrhau bod pawb yn mynd i’r cyfarfodydd, neu i wneud amser ar gyfer addoliad teuluol. Efallai ei bod hi’n anoddach byth cael amser i astudio a gweddïo gyda’ch gilydd fel cwpl. Ond cofiwch, pan ydych chi’n addoli Jehofa gyda’ch gilydd, rydych chi’n agosáu ato ef ac at eich gilydd. Felly gwnewch yn siŵr i flaenoriaethu addoli Duw.

8. Os ydy priodas cwpl o dan straen, beth allan nhw ei wneud i elwa’n fwy o addoliad teuluol?

8 Beth os ydych chi’n cael problemau yn eich priodas? Efallai fyddwch chi ddim yn rhy hoff o’r syniad o ddod at eich gilydd ar gyfer addoliad teuluol. Os ydych chi’n teimlo fel ’na, dechreuwch drwy ystyried rhywbeth byr rydych chi’ch dau yn ei fwynhau ac yn fodlon ei drafod. Gall hyn eich helpu chi i garu’ch gilydd yn fwy a chryfhau eich awydd i addoli Jehofa fel cwpl.

TREULIO AMSER GYDA’CH GILYDD

9. Pam mae gŵr a gwraig angen treulio amser gyda’i gilydd?

9 Ffordd arall y gall cyplau priod gadw eu cariad yn gryf yw drwy dreulio amser gyda’i gilydd. Os ydyn nhw’n gwneud hynny, byddan nhw’n llai tebygol o bellhau oddi wrth ei gilydd—yn feddyliol ac yn emosiynol. (Gen. 2:24) Yn fuan ar ôl i Lilia a Ruslan briodi, dros 15 mlynedd yn ôl, gwnaethon nhw sylweddoli rhywbeth. Dywedodd Lilia: “Gwelon ni nad oedd gynnon ni gymaint o amser gyda’n gilydd ag roedden ni wedi disgwyl. Bob dydd roedden ni’n brysur iawn gyda’n gwaith seciwlar, gwaith tŷ, ac yn nes ymlaen ein plant. Daeth hi’n amlwg fydden ni ddim yn gallu aros yn agos at ein gilydd oni bai ein bod ni’n treulio amser gyda’n gilydd fel cwpl.”

10. Sut gall cyplau priod roi’r egwyddor yn Effesiad 5:15, 16 ar waith?

10 Efallai bydd angen i gwpl gynllunio er mwyn cael amser gyda’i gilydd. (Darllen Effesiaid 5:15, 16.) Mae’r brawd Uzondu yn Nigeria yn dweud: “Wrth gynllunio’r wythnos, dw i’n neilltuo amser i’w dreulio gyda fy ngwraig, ac yn blaenoriaethu hynny.” (Phil. 1:10) Mae Anastasia, gwraig arolygwr cylchdaith ym Moldofa, yn esbonio sut mae hi’n defnyddio ei hamser yn y ffordd orau: “Dw i’n ceisio gofalu am y pethau rydw i angen eu gwneud tra bod fy ngŵr yn brysur gyda’i gyfrifoldebau ef. Mae hynny’n golygu gallwn ni dreulio amser gyda’n gilydd wedyn.” Ond beth os ydy eich rwtîn yn ei gwneud hi’n anodd ichi gael amser gyda’ch gilydd?

Pa bethau gallwch chi eu gwneud fel cwpl? (Gweler paragraffau 11-12)

11. Pa bethau wnaeth Acwila a Priscila gyda’i gilydd?

11 Gall cyplau priod ddysgu o esiampl Acwila a Priscila. Roedd llawer o’r Cristnogion cynnar yn caru’r cwpl hwnnw. (Rhuf. 16:3, 4) Dydy’r Beibl ddim yn rhoi llawer o fanylion am eu priodas, ond mae’n dweud eu bod nhw wedi gweithio, pregethu, a helpu eraill gyda’i gilydd. (Act. 18:2, 3, 24-26) A dweud y gwir, bob tro mae’r Beibl yn sôn am Acwila a Priscila, maen nhw wastad gyda’i gilydd.

12. Sut gall gŵr a gwraig dreulio mwy o amser gyda’i gilydd? (Gweler hefyd y llun.)

12 Sut gall cyplau heddiw efelychu Acwila a Priscila? Mae’n siŵr bod gynnoch chi lawer o dasgau rydych chi angen eu gwneud. Allwch chi wneud rhai ohonyn nhw gyda’ch gilydd fel cwpl yn lle ar eich pennau eich hunain? Er enghraifft, ydych chi’n cynllunio i bregethu gyda’ch gilydd yn aml, fel roedd Acwila a Priscila’n ei wneud? Efallai nad ydych chi’ch dau yn gwneud yr un gwaith seciwlar fel roedd Acwila a Priscila. Ond a allwch chi wneud jobsys o gwmpas y tŷ gyda’ch gilydd? (Preg. 4:9) Bydd gwneud tasgau gyda’ch gilydd yn rhoi cyfle ichi siarad ac yn gwneud ichi deimlo fel eich bod chi ar yr un tîm. Mae Robert a Linda wedi bod yn briod am dros 50 mlynedd. Mae Robert yn dweud: “Does gynnon ni ddim llawer o amser hamdden i’w dreulio gyda’n gilydd. Ond pan dw i’n golchi’r llestri ac mae fy ngwraig yn eu sychu, neu pan dw i tu allan yn chwynnu, ac mae hi’n dod i fy helpu, dw i’n teimlo mor hapus. Rydyn ni’n agosáu pan ydyn ni’n gwneud pethau gyda’n gilydd ac mae ein cariad yn tyfu.”

13. Beth dylai gŵr a gwraig ei wneud er mwyn agosáu at ei gilydd?

13 Cofiwch, er mwyn agosáu at eich gilydd mae angen mwy na dim ond bod yn yr un lle. Mae gwraig briod ym Mrasil yn dweud: “Mae ’na gymaint o bethau i dynnu dy sylw y dyddiau yma, mae’n hawdd meddwl bod byw o dan yr un to yn golygu ein bod ni’n treulio amser gyda’n gilydd. Ond dw i wedi dysgu bod rhaid imi wneud mwy na jyst bod gyda fy ngŵr. Dw i hefyd angen rhoi iddo’r sylw mae ei angen.” Dywedodd Bruno sut mae ef a’i wraig Tays yn llwyddo i roi sylw i’w gilydd: “Yn ystod ein hamser rhydd, rydyn ni’n rhoi ein ffonau i gadw ac yn mwynhau amser gyda’n gilydd.”

14. Beth all cwpl ei wneud os dydyn nhw ddim yn mwynhau treulio amser gyda’i gilydd?

14 Ond beth os dwyt ti a dy gymar ddim yn mwynhau treulio amser gyda’ch gilydd? Efallai bod eich diddordebau’n wahanol, neu efallai rydych chi’n mynd dan groen eich gilydd. Beth gallwch chi ei wneud? Cofiwch yr eglureb am y tân. Dydy tân ddim yn dechrau llosgi’n wenfflam yn syth. Mae angen dechrau gyda darnau bach o bren ac yna rhoi darnau mwy a mwy arno. Yn yr un modd, beth am gychwyn drwy dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd bob dydd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud rhywbeth y byddwch chi’ch dau yn ei fwynhau, nid rhywbeth a allai achosi dadl. (Iago 3:18) Drwy ddechrau gyda phethau bach, gallwch ail-gynnau eich cariad.

DANGOS PARCH AT EICH GILYDD

15. Pam mae parch yn hanfodol er mwyn cadw cariad cwpl yn gryf?

15 Mae parch yn hanfodol mewn priodas. Mae’n debyg i’r ocsigen sy’n gwneud i dân losgi’n llachar. Heb ocsigen, bydd tân yn diffodd yn gyflym. Mewn ffordd debyg, os nad oes gan gwpl barch at ei gilydd, bydd eu cariad yn oeri’n gyflym. Ar y llaw arall, bydd gŵr a gwraig sy’n ceisio dangos parch at ei gilydd yn cadw eu cariad yn fyw. Ond mae ’na rywbeth pwysig i’w gofio. Hyd yn oed os wyt ti yn meddwl dy fod ti’n dangos parch, ydy dy gymar yn teimlo dy fod ti’n ei barchu? Gwnaeth Penny ac Aret briodi dros 25 mlynedd yn ôl. Mae hi’n dweud: “Mae ’na awyrgylch cynnes yn ein cartref ni am ein bod ni’n parchu ein gilydd. Dydyn ni ddim yn dal yn ôl rhag dweud beth sydd ar ein meddyliau oherwydd rydyn ni’n gwerthfawrogi barn ein gilydd.” Felly beth gelli di ei wneud i helpu dy gymar i deimlo dy fod ti’n ei barchu? Ystyria esiampl Abraham a Sara.

Mae angen i ŵr Cristnogol ddangos parch at ei wraig drwy wrando’n astud ar ei theimladau hi (Gweler paragraff 16)

16. Beth gall gwŷr ei ddysgu o esiampl Abraham? (1 Pedr 3:7) (Gweler hefyd y llun.)

16 Roedd Abraham yn trin Sara â pharch, ac yn ystyried ei theimladau a’i barn ar bethau. Un tro, roedd Sara wedi cynhyrfu, a gwnaeth hi fwrw ei bol i Abraham a hyd yn oed rhoi’r bai arno. A wnaeth Abraham golli ei dymer? Naddo. Roedd yn gwybod bod Sara yn barod i ymostwng iddo a’i gefnogi, felly gwrandawodd arni a cheisio datrys y broblem. (Gen. 16:5, 6) Beth gelli di ei ddysgu o hyn os wyt ti’n ŵr priod? Mae gen ti’r awdurdod i wneud penderfyniadau dros dy deulu. (1 Cor. 11:3) Ond y peth cariadus i’w wneud fyddai ystyried barn dy wraig cyn penderfynu, yn enwedig os bydd y penderfyniad yn effeithio arni hi. (1 Cor. 13:4, 5) Ar adegau eraill, efallai bydd dy wraig yn teimlo o dan straen ac angen mynegi ei theimladau. Wyt ti’n parchu ei theimladau drwy wrando’n astud? (Darllen 1 Pedr 3:7.) Mae Angela a Dmitry wedi bod yn briod ers bron i 30 mlynedd. Esboniodd Angela sut mae ei gŵr yn dangos parch ati: “Mae Dmitry wastad yn barod i wrando arna i pan dw i wedi ypsetio, neu jyst eisiau siarad. Mae’n dangos amynedd, hyd yn oed pan dw i’n emosiynol iawn.”

17. Beth gall gwragedd ei ddysgu o esiampl Sara? (1 Pedr 3:5, 6)

17 Roedd Sara yn dangos parch at Abraham drwy gefnogi ei benderfyniadau. (Gen. 12:5) Un diwrnod, dyma Abraham yn penderfynu dangos lletygarwch at ymwelwyr annisgwyl. Gofynnodd i Sara stopio beth roedd hi’n ei wneud ar unwaith a pharatoi lot fawr o fara. (Gen. 18:6) Brysiodd Sara i gefnogi penderfyniad ei gŵr. Os wyt ti’n wraig, gelli di efelychu Sara drwy gefnogi penderfyniadau dy ŵr. O ganlyniad, byddi di’n cryfhau dy briodas. (Darllen 1 Pedr 3:5, 6.) Esboniodd Dmitry, gwnaethon ni sôn amdano yn y paragraff diwethaf, sut mae ei wraig yn dangos parch tuag ato. Mae’n dweud: “Dw i’n gwerthfawrogi pan mae Angela yn trio cefnogi fy mhenderfyniadau, hyd yn oed os dydy hi ddim yn cytuno. A dydy hi ddim yn fy meirniadu os ydy pethau’n mynd o chwith.” Onid ydy hi’n hawdd caru rhywun sy’n dy barchu?

18. Sut mae cyplau priod yn elwa o gadw eu cariad yn fyw?

18 Heddiw, mae Satan eisiau diffodd y cariad sydd rhwng gwŷr a gwragedd Cristnogol. Mae’n gwybod bod ’na beryg i gyplau ymbellhau oddi wrth Jehofa os ydyn nhw’n stopio caru ei gilydd. Ond mae’n amhosib diffodd gwir gariad! Felly yn eich priodas chi, ceisiwch gael y math o gariad sy’n cael ei ddisgrifio yn Caniad Solomon. Byddwch yn benderfynol o roi Jehofa yn gyntaf yn eich bywydau, o neilltuo amser i fod gyda’ch gilydd, ac o barchu teimladau ac anghenion eich gilydd. Wrth ichi wneud hynny, bydd eich priodas yn anrhydeddu Jehofa, Ffynhonnell gwir gariad. Ac yn union fel tân sy’n cael ei fwydo’n gyson, bydd eich cariad yn wenfflam am byth.

CÂN 132 Nawr Rydym yn Un

a Mae priodas yn rhodd gan Jehofa sy’n rhoi cyfle i ŵr a gwraig fwynhau cariad arbennig. Ond gall y cariad hwnnw oeri ar adegau. Os wyt ti’n briod, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i gadw dy gariad at dy gymar yn fyw ac i gael priodas hapus.

b Mae gwir gariad yn gyson ac yn barhaol. Mae’n cael ei alw’n “fflam Jah” gan mai Jehofa yw Ffynhonnell cariad o’r fath.

c Hyd yn oed os nad ydy dy gymar yn y gwir, efallai bydd yr awgrymiadau hyn yn dy helpu di i gryfhau dy briodas.—1 Cor. 7:12-14; 1 Pedr 3:1, 2.

d Er enghraifft, ystyria’r cyngor ymarferol sydd ar gael yn y gyfres erthyglau “Help ar Gyfer y Teulu,” sydd ar gael ar jw.org ac yn JW Library®.