ERTHYGL ASTUDIO 24
Gelli Di Lwyddo i Gyrraedd Dy Amcanion Ysbrydol
“Mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau i wneud daioni, oherwydd pan ddaw’r amser penodedig fe fyddwn ni’n medi os nad ydyn ni’n blino’n lân.”—GAL. 6:9.
CÂN 84 Rhown Help Llaw
CIPOLWG a
1. Pa heriau mae llawer ohonon ni wedi eu hwynebu?
WYT ti erioed wedi gosod nod ysbrydol ond wedi methu ei gyrraedd? b Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Er enghraifft, roedd Philip eisiau gweddïo’n amlach a gwella safon ei weddïau, ond roedd hi’n anodd iddo gael digon o amser. Nod Erika oedd i gyrraedd cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth ar amser. Eto, roedd hi’n hwyr ar gyfer bron pob un. Nod Tomáš oedd darllen y Beibl cyfan. Ond dywedodd: “Do’n i jyst ddim yn mwynhau darllen y Beibl. Gwnes i drio dair gwaith, ond bob tro wnes i ond cyrraedd Lefiticus cyn stopio.”
2. Pam na ddylen ni ddigalonni os ydyn ni heb gyrraedd rhyw nod ysbrydol?
2 Os oes gen ti nod ar hyn o bryd nad wyt ti wedi’i gyrraedd, plîs paid â digalonni. Yn aml mae angen amser a gwaith caled er mwyn cyrraedd nod, hyd yn oed un syml. Mae’r ffaith dy fod ti’n dal eisiau cyrraedd dy nod yn dangos dy fod ti’n trysori dy berthynas â Jehofa ac eisiau rhoi dy orau iddo. Mae Jehofa’n gwerthfawrogi dy ymdrechion, a dydy ef ddim yn disgwyl mwy nag y gelli di ei roi. (Salm 103:14; Mich. 6:8) Felly pan fyddi di’n dewis nod, gwna’n siŵr ei fod yn rhesymol ac o fewn dy gyrraedd. Ar ôl ei ddewis, beth gelli di ei wneud i’w gyrraedd? Dewch inni drafod rhai awgrymiadau.
MAE’N RHAID CAEL AWYDD CRYF I GYRRAEDD DY NOD
3. Pam mae’n bwysig i fod yn awyddus?
3 Er mwyn cyrraedd dy nod ysbrydol, mae angen awydd cryf. Pam? Y mwyaf yw dy awydd i wneud rhywbeth, y caletaf byddi di’n gweithio. Mae’r awydd i wneud rhywbeth yn debyg i’r gwynt sy’n gwthio cwch hwylio yn ei flaen. Os ydy’r gwynt yn dal i chwythu, mae’r morwr yn fwy tebygol o gyrraedd pen ei daith. Ac os ydy’r gwynt yn gryf, mae’n debyg o gyrraedd yn gynt. Yn yr un modd, y mwyaf o awydd sydd gynnon ni, y mwyaf tebygol ydyn ni o gyrraedd ein nod. Dywedodd David, brawd o El Salfador: “Os ydy’r awydd yn gryf, byddi di’n gweithio’n galetach. Byddi di’n gwneud dy orau glas i beidio â gadael i unrhyw beth dy rwystro di rhag cyrraedd dy nod.” Felly beth gelli di ei wneud i fod yn fwy awyddus?
4. Beth gallwn ni weddïo amdano? (Philipiaid 2:13) (Gweler hefyd y llun.)
4 Gweddïa am awydd cryfach. Mae Jehofa’n gallu defnyddio ei ysbryd glân i roi’r awydd iti gyrraedd dy nod. (Darllen Philipiaid 2:13.) Weithiau rydyn ni’n gosod nod dim ond am ein bod ni’n gwybod y dylen ni wneud. Ac er bod hynny’n beth da, efallai nad oes gynnon ni wir awydd i’w gyrraedd. Roedd hynny’n wir yn achos chwaer o’r enw Norina yn Wganda. Roedd hi eisiau cynnal astudiaeth Feiblaidd, ond doedd ei hawydd ddim yn ddigon cryf. Roedd hi’n poeni nad oedd hi’n athrawes ddigon da. Beth wnaeth ei helpu hi? Dywedodd: “Dechreuais weddïo ar Jehofa bob dydd am awydd cryfach i gynnal astudiaeth Feiblaidd. Er mwyn gweithio’n unol â fy ngweddïau, ceisiais wella fy sgiliau dysgu. Ar ôl ychydig o fisoedd, sylwais fod fy awydd wedi cynyddu. Ac o fewn blwyddyn, o’n i wedi dechrau dwy astudiaeth Feiblaidd.”
5. Beth gallwn ni fyfyrio arno i gynyddu ein hawydd i gyrraedd ein nod?
5 Myfyria ar beth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti. (Salm 143:5) Roedd yr apostol Paul yn myfyrio ar ba mor garedig oedd Jehofa tuag ato, a gwnaeth hyn ei gymell i weithio’n galed iddo. (1 Cor. 15:9, 10; 1 Tim. 1:12-14) Yn debyg, y mwyaf rwyt ti’n myfyrio ar beth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti, y cryfaf fydd dy awydd i gyrraedd dy nod. (Salm 116:12) Ystyria beth helpodd chwaer yn Hondwras i gyrraedd ei nod o arloesi’n llawn amser. Dywedodd: “Gwnes i atgoffa fy hun gymaint mae Jehofa’n fy ngharu. Mae wedi fy arwain at ei bobl. Mae’n gofalu amdana i ac yn fy amddiffyn. Gwnaeth myfyrio ar y pethau hyn gryfhau fy nghariad at Jehofa a rhoi’r awydd imi weithio’n galetach i ddechrau arloesi.”
6. Beth arall all ein helpu i gryfhau ein hawydd i gyrraedd ein nod?
6 Canolbwyntia ar y bendithion o gyrraedd dy nod. Sylwa ar beth helpodd Erika gyda’i nod o gyrraedd ar amser. Dywedodd: “Sylweddolais fy mod i’n colli llawer drwy fod yn hwyr ar gyfer y grwpiau. Drwy gyrraedd yn gynt, byddwn i’n gallu dweud helo wrth y brodyr a’r chwiorydd a threulio amser gyda nhw. Byddwn i hefyd yn gallu clywed awgrymiadau ymarferol fyddai’n fy helpu i wella fy ngweinidogaeth a’i mwynhau.” Drwy ganolbwyntio ar y buddion o fod yn brydlon, gwnaeth Erika gyrraedd ei nod. Pa fendithion gelli di ganolbwyntio arnyn nhw? Os mai darllen y Beibl yn amlach neu wella dy weddïau yw dy nod, meddylia am sut bydd hynny’n cryfhau dy berthynas â Jehofa. (Salm 145:18, 19) Os mai meithrin rhinwedd Gristnogol yw dy nod, canolbwyntia ar sut bydd hynny’n gwella dy berthynas ag eraill. (Col. 3:14) Beth am wneud rhestr o’r holl resymau sydd gen ti i gyrraedd dy nod, ac edrych arni’n aml? Dywedodd Tomáš: “Y mwyaf o resymau sydd gen i dros gyrraedd nod, y lleiaf tebygol ydw i o roi’r gorau iddi.”
7. Beth helpodd Julio a’i wraig i gyrraedd eu nod?
7 Treulia amser gyda phobl fydd yn dy annog i gyrraedd dy nod. (Diar. 13:20) Sylwa ar beth helpodd Julio a’i wraig i gyrraedd eu nod o wneud mwy yn y gwaith pregethu. Dywedodd ef: “Dewison ni ffrindiau oedd yn cefnogi ein nod, a bydden ni’n trafod ein nod gyda nhw. Roedd llawer ohonyn nhw eisoes wedi llwyddo i wneud rhywbeth tebyg, ac felly roedden nhw’n gallu rhoi awgrymiadau defnyddiol. Roedd ein ffrindiau hefyd yn gofyn inni sut hwyl roedden ni’n ei chael arni, ac yn rhoi anogaeth inni.”
PAN DOES GYNNON NI DDIM AWYDD
8. Beth allai ddigwydd petasen ni ond yn gweithio tuag at ein nod pan mae gynnon ni’r awydd? (Gweler hefyd y llun.)
8 Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd yn cael dyddiau pan does gynnon ni ddim awydd i weithio at ein nod. Ond ddylai hynny ddim ein stopio ni. Fel eglureb, mae’r gwynt yn gallu bod yn rym cryf i wthio cwch hwylio yn ei flaen. Ond mae cryfder y gwynt yn gallu amrywio, a weithiau does ’na ddim gwynt o gwbl. Ydy hynny’n golygu na all y morwr symud yn ei flaen? Ddim o reidrwydd. Er enghraifft, mae gan rai cychod hwylio injan neu rwyfau a gall y morwr eu defnyddio i symud yn ei flaen. Mae ein hawydd i gyrraedd ein nod yn debyg i’r gwynt. Mae ei gryfder yn amrywio, ac ar rai dyddiau mae’n gallu diflannu’n gyfan gwbl. Ond petasen ni ond yn gweithio tuag at ein nod pan fydd gynnon ni awydd, efallai fydden ni byth yn ei gyrraedd. Ond fel mae’r morwr yn cael hyd i ffyrdd eraill o gyrraedd pen ei daith, gallwn ninnau symud ymlaen tuag at ein nod hyd yn oed heb fawr o awydd. Er bydd hyn yn gofyn am hunanddisgyblaeth, mae’n werth yr ymdrech. Ond cyn inni drafod beth gallwn ni ei wneud, dewch inni drafod cwestiwn all godi.
9. A ddylen ni ddal ati i geisio cyrraedd nod hyd yn oed pan ydyn ni heb fawr o awydd? Esbonia.
9 Mae Jehofa eisiau inni fod yn fodlon ac yn hapus wrth ei wasanaethu. (Salm 100:2; 2 Cor. 9:7) Felly a ddylen ni barhau i weithio at nod ysbrydol os nad ydyn ni’n teimlo fel gwneud? Ystyria esiampl yr apostol Paul. Dywedodd: “Rydw i’n ceryddu’n llym fy nghorff ac yn ei arwain fel caethwas.” (1 Cor. 9:25-27, nodyn astudio ar adnod 27) Roedd Paul yn ei orfodi ei hun i wneud beth oedd yn iawn hyd yn oed pan doedd ef ddim eisiau gwneud hynny. Oedd Jehofa’n hapus gyda’r hyn roedd Paul yn ei wneud i’w wasanaethu? Yn bendant! A gwnaeth Jehofa ei wobrwyo am ei waith.—2 Tim. 4:7, 8.
10. Beth yw’r bendithion o weithio tuag at ein nod hyd yn oed pan does gynnon ni mo’r awydd?
10 Mewn ffordd debyg, mae Jehofa wrth ei fodd o’n gweld ni’n gweithio tuag at ein nod er gwaethaf diffyg awydd. Er efallai nad ydyn ni wastad yn caru beth rydyn ni’n ei wneud, mae Jehofa’n gwybod ein bod ni’n ei wneud allan o gariad ato ef. Dyna sy’n ei blesio. Yn union fel gwnaeth Jehofa fendithio Paul, bydd yn ein bendithio ni hefyd. (Salm 126:5) Ac wrth inni fwynhau bendith Jehofa, efallai bydd ein hawydd yn cryfhau. Mae chwaer o Wlad Pwyl o’r enw Lucyna yn dweud: “Weithiau dydw i ddim wir eisiau mynd allan i bregethu, yn enwedig os ydw i wedi blino. Er hynny, mae’r llawenydd dw i’n ei deimlo ar ôl mynd allan yn rhyfeddol.” Felly dewch inni weld beth gallwn ni ei wneud pan fydd ein hawydd yn isel.
11. Sut gall Jehofa ein helpu ni i gael mwy o hunanreolaeth?
11 Gweddïa am hunanreolaeth. Mae’r rhinwedd hon yn ein helpu ni i reoli ein hymddygiad a’n teimladau. Yn aml, mae’n golygu dal ein hunain yn ôl rhag gwneud pethau drwg. Ond mae hefyd yn hanfodol er mwyn ein cymell ni i wneud pethau da, yn enwedig pan fydd hynny’n anodd, neu pan nad oes gynnon ni lawer o awydd i’w gwneud. Cofia fod hunanreolaeth yn rhan o ffrwyth yr ysbryd, felly gofynna i Jehofa am ysbryd glân i dy helpu di i feithrin y rhinwedd bwysig hon. (Luc 11:13; Gal. 5:22, 23) Esboniodd David sut gwnaeth gweddi ei helpu i wneud astudiaeth bersonol yn fwy rheolaidd. Dywedodd: “Ro’n i’n gweddïo am help Jehofa i feithrin hunanreolaeth. Gyda’i help, gwnes i ddechrau rhaglen gyson o astudio.”
12. Sut mae Pregethwr 11:4 yn ein helpu ni i gyrraedd ein hamcanion ysbrydol?
12 Paid ag aros am amgylchiadau perffaith. Os gwnei di hynny, efallai wnei di byth gyrraedd dy nod oherwydd mae’n debyg chawn ni byth amgylchiadau perffaith yn y byd hwn. (Darllen Pregethwr 11:4.) Dywedodd brawd o’r enw Dayniel: “Does ’na ddim ffasiwn beth ag amgylchiadau perffaith. Rydyn ni’n creu’r amgylchiadau gorau pan ydyn ni jyst yn rhoi cychwyn arni.” Mae brawd o’r enw Paul yn Wganda yn sôn am reswm arall pam ddylen ni ddim oedi: “Pan ydyn ni’n dechrau er gwaethaf heriau, rydyn ni’n rhoi rhywbeth i Jehofa ei fendithio.”—Mal. 3:10.
13. Beth ydy’r manteision o ddechrau gydag amcanion llai?
13 Dechreua gyda chamau bach. Os yw ein nod i’w weld yn anodd iawn ei gyrraedd, efallai fydd gynnon ni ddim awydd gweithio tuag ato. Os yw hynny’n wir yn dy achos di, a elli di droi un nod mawr yn rhai llai? Er enghraifft, os wyt ti’n ceisio meithrin rhinwedd benodol, beth am geisio ei dangos mewn ffyrdd bach yn gyntaf? Os oes gen ti’r nod o ddarllen y Beibl cyfan, elli di ddechrau drwy drefnu cyfnodau byr o ddarllen? Roedd Tomáš, gwnaethon ni sôn amdano ar ddechrau’r erthygl, yn ei chael hi’n anodd cyrraedd y nod o ddarllen y Beibl mewn blwyddyn. Dywedodd: “Sylweddolais fod hynny’n rhy glou imi. Felly penderfynais roi cynnig arall arni. O’n i am ddarllen cwpl o baragraffau bob dydd a myfyrio arnyn nhw. O ganlyniad, dechreuais fwynhau darllen.” Wrth i Tomáš fwynhau darllen y Beibl yn fwy, dechreuodd ddarllen am gyfnodau hirach. Ac yn y pen draw, roedd wedi darllen y Beibl cyfan. c
PAID Â DIGALONNI OHERWYDD ANAWSTERAU
14. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni gyrraedd ein nod?
14 Yn anffodus, gallwn ni i gyd wynebu anawsterau ni waeth pa mor awyddus ydyn ni, na faint o hunanreolaeth rydyn ni’n ei dangos. Er enghraifft, gall pethau annisgwyl gymryd yr amser rydyn ni ei angen i weithio ar ein nod. (Preg. 9:11) Efallai byddwn ni’n wynebu problem sy’n gwneud inni deimlo’n wan neu’n ddigalon. (Diar. 24:10) Gall ein hamherffeithrwydd ei gwneud hi’n anoddach inni gyrraedd y nod. (Rhuf. 7:23) Neu efallai ein bod ni jyst wedi blino. (Math. 26:43) Beth all ein helpu ni os ydyn ni’n wynebu anawsterau neu’n cael diwrnod drwg?
15. Ydy llithro’n ôl yn golygu ein bod ni wedi methu? Esbonia. (Salm 145:14)
15 Cofia nad yw llithro’n ôl yn golygu dy fod ti wedi methu. Yn ôl y Beibl, byddwn ni’n wynebu anawsterau, dro ar ôl tro weithiau. Ond mae hefyd yn dweud y gallwn ni godi’n ôl ar ein traed, yn enwedig gyda help Jehofa. (Darllen Salm 145:14.) Dywedodd Philip, y brawd gwnaethon ni sôn amdano gynnau: “Dim ots faint o weithiau dw i’n syrthio, dw i’n canolbwyntio ar godi eto a gweithio tuag at fy nod.” Dywedodd David, a ddyfynnwyd ynghynt: “Pan dw i’n llithro’n ôl neu’n cael diwrnod drwg, dw i’n ceisio peidio â gweld hynny fel rhwystr, ond fel cyfle i ddangos i Jehofa faint dw i’n ei garu.” Bob tro rwyt ti’n symud yn dy flaen ar ôl syrthio, rwyt ti’n profi i Jehofa dy fod ti eisiau ei blesio. Mae’n rhaid bod Jehofa mor hapus yn dy weld ti’n dal ati i geisio cyrraedd dy nod!
16. Os wyt ti’n llithro’n ôl, beth gelli di ei ddysgu o’r profiad?
16 Os wyt ti’n llithro’n ôl, dysga o’r profiad. Meddylia am beth ddigwyddodd a gofynna, ‘Beth allwn i ei newid i stopio hyn rhag digwydd eto?’ (Diar. 27:12) Ond weithiau, gall anawsterau fod yn arwydd dy fod ti wedi gosod nod sy’n rhy anodd iti. Os ydy hynny’n wir amdanat ti, meddylia eto am dy nod i weld a yw’n dal yn rhesymol i ti. d Os dwyt ti ddim yn llwyddo i gyrraedd nod oedd yn amhosib iti, fydd Jehofa ddim yn meddwl llai ohonot ti.—2 Cor. 8:12.
17. Pam dylen ni gofio beth rydyn ni eisoes wedi ei gyflawni?
17 Paid ag anghofio beth rwyt ti eisoes wedi ei gyflawni. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy Duw ddim yn anghyfiawn, felly ni fydd yn anghofio am eich gwaith.” (Heb. 6:10) Felly ddylet tithau ddim anghofio chwaith. Meddylia am yr amcanion rwyt ti wedi eu cyrraedd yn barod. Efallai bod hynny’n cynnwys dod yn ffrind i Jehofa, siarad ag eraill amdano, neu gael dy fedyddio. Yn union fel rwyt ti wedi llwyddo i gyrraedd amcanion ysbrydol yn y gorffennol, gelli di ddal ati i wneud cynnydd tuag at y nod sydd gen ti ar hyn o bryd.—Phil. 3:16.
18. Beth dylen ni gofio ei wneud wrth inni weithio tuag at ein nod? (Gweler hefyd y llun.)
18 Gyda help Jehofa gelli di gyrraedd dy nod, yn union fel morwr sy’n hapus i gyrraedd pen ei daith. Ond cofia, mae llawer o forwyr hefyd yn mwynhau’r siwrnai. Mewn ffordd debyg, wrth iti barhau i weithio tuag at dy nod ysbrydol, sylwa ar sut mae Jehofa’n dy helpu di ac yn dy fendithio ar hyd y ffordd. (2 Cor. 4:7) Ac os nad wyt ti’n rhoi’r gorau iddi, byddi di’n derbyn hyd yn oed mwy o fendithion.—Gal. 6:9.
CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!
a Mae cyfundrefn Jehofa yn aml yn ein hannog i osod amcanion ysbrydol. Efallai ein bod ni eisoes wedi gwneud hynny. Ond beth os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd cyrraedd y nod hwnnw? Mae’r erthygl hon yn cynnwys sawl awgrym all ein helpu.
b ESBONIAD: Mae nod ysbrydol yn gallu cynnwys unrhyw beth rwyt ti’n gweithio’n galed arno i’w wella neu i’w gyrraedd er mwyn gwasanaethu Jehofa’n well a’i blesio. Er enghraifft, gallet ti osod y nod o feithrin rhinwedd Gristnogol, neu wella rhywbeth rwyt ti’n ei wneud i wasanaethu Jehofa, fel darllen y Beibl, astudiaeth bersonol, neu’r weinidogaeth.
d Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “Cultivate Reasonable Expectations, and Be Joyful” yn rhifyn Gorffennaf 15, 2008, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.