ERTHYGL ASTUDIO 20
Gwella Safon Ein Gweddïau
“Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.”—SALM 62:8.
CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon
CIPOLWG a
1. Beth mae Jehofa yn gwahodd ei addolwyr i’w wneud? (Gweler hefyd y llun.)
PWY gallwn ni droi ato am gysur ac arweiniad? Rydyn ni’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw. Gallwn ni droi at Jehofa mewn gweddi. Dyna’n union mae Jehofa yn ein gwahodd ni i’w wneud. Mae eisiau inni weddïo’n aml—“yn ddi-baid.” (1 Thes. 5:17) Gallwn ni fynd at Dduw mewn gweddi a gofyn am ei arweiniad ym mhob agwedd o’n bywydau. (Diar. 3:5, 6) Gan ei fod yn Dduw hael, dydy Jehofa ddim yn gosod terfyn ar y nifer o weithiau medrwn ni droi ato mewn gweddi.
2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
2 Rydyn ni’n trysori’r fraint o weddïo. Ond gyda’r holl bethau mae angen inni eu gwneud, gall fod yn anodd cael yr amser i weddïo. Efallai ein bod ni hefyd yn teimlo bod angen inni wella safon ein gweddïau. Gallwn fod yn ddiolchgar bod y Beibl yn rhoi anogaeth ac arweiniad inni. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n edrych ar esiampl Iesu er mwyn gweld sut gallwn ni neilltuo’r amser i weddïo. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni wella safon ein gweddïau drwy gynnwys pum peth pwysig.
ROEDD IESU’N NEILLTUO AMSER I WEDDÏO
3. Beth roedd Iesu’n ei wybod am weddi?
3 Roedd Iesu’n gwybod bod Jehofa yn gwerthfawrogi gweddïau. Ymhell cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd wedi gweld ei Dad yn ateb gweddïau dynion a merched ffyddlon. Er enghraifft, roedd Iesu wrth ochr ei Dad pan atebodd weddïau diffuant Hanna, Dafydd, Elias, a llawer mwy. (1 Sam. 1:10, 11, 20; 1 Bren. 19:4-6; Salm 32:5) Does dim syndod felly fod Iesu wedi dysgu ei ddisgyblion i weddïo’n aml a gyda hyder!—Math. 7:7-11.
4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o weddïau Iesu?
4 Drwy gyfrwng ei weddïau i Jehofa, gosododd Iesu esiampl i’w ddisgyblion ei dilyn. Drwy gydol ei weinidogaeth, roedd Iesu’n gweddïo’n aml. Roedd rhaid iddo neilltuo amser i weddïo oherwydd roedd llawer o bobl yn dod ato, ac roedd yn brysur. (Marc 6:31, 45, 46) Roedd yn codi’n gynnar yn y bore er mwyn cael amser ar ei ben ei hun i weddïo. (Marc 1:35) Ar o leiaf un achlysur, fe weddïodd drwy’r nos cyn gwneud penderfyniad pwysig. (Luc 6:12, 13) A gweddïodd dro ar ôl tro ar y noson cyn iddo farw, wrth iddo ganolbwyntio ar gyflawni’r rhan fwyaf heriol o’i aseiniad ar y ddaear.—Math. 26:39, 42, 44.
5. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Iesu yn ein gweddïau?
5 Mae esiampl Iesu yn ein dysgu bod angen inni neilltuo amser i weddïo, ni waeth pa mor brysur ydyn ni. Fel Iesu, efallai bydd rhaid i ni drefnu amser penodol ar gyfer gweddi, drwy godi’n gynnar yn y bore, neu aros yn effro ychydig yn hwyrach cyn mynd i gysgu. Pan wnawn ni hyn, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rhodd arbennig hon. Mae chwaer o’r enw Lynne yn cofio’r tro cyntaf gwnaeth hi ddysgu am y fraint o weddïo, a’r effaith a gafodd hyn arni. Mae’n dweud: “Roedd dysgu fy mod i’n gallu siarad â Jehofa ar unrhyw adeg yn fy helpu i’w weld fel ffrind agos, ac roeddwn i eisiau gwella safon fy ngweddïau.” Mae’n debyg bod llawer ohonon ni’n teimlo’r un ffordd. Felly dewch inni ystyried pum pwnc pwysig medrwn ni eu cynnwys yn ein gweddïau.
PUM PWNC PWYSIG AR GYFER GWEDDI
6. Yn ôl Datguddiad 4:10, 11, beth mae Jehofa yn deilwng o’i dderbyn?
6 Mola Jehofa. Mewn gweledigaeth syfrdanol, gwelodd yr apostol Ioan 24 henuriad yn y nefoedd yn addoli Jehofa. Roedden nhw’n clodfori Duw, gan ddweud ei fod yn deilwng “i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r grym.” (Darllen Datguddiad 4:10, 11.) Mae gan angylion ffyddlon lawer iawn o resymau i roi clod ac anrhydedd i Jehofa. Maen nhw’n byw yn y nef gydag ef ac wedi dod i’w adnabod yn dda. Ac wrth wylio’r pethau mae Jehofa’n eu gwneud, maen nhw’n gweld ei rinweddau ac yn cael eu hysgogi i’w glodfori.—Job 38:4-7.
7. Am ba bethau gallwn ni roi clod i Jehofa?
7 Rydyn ninnau hefyd eisiau rhoi clod i Jehofa yn ein gweddïau, drwy ddweud wrtho beth rydyn ni’n ei garu ac yn ei werthfawrogi amdano. Wrth iti ddarllen ac astudio’r Beibl, ceisia nodi rhinweddau Jehofa sy’n apelio yn arbennig atat ti. (Job 37:23; Rhuf. 11:33) Yna dyweda wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo am y rhinweddau hynny. Gallwn hefyd roi clod iddo am weithredu ar ein rhan ni ac ar ran ein holl frodyr a chwiorydd. Mae’n gofalu amdanon ni ac yn ein gwarchod drwy’r amser.—1 Sam. 1:27; 2:1, 2.
8. Beth yw rhai o’r rhesymau pam dylen ni ddiolch i Jehofa? (1 Thesaloniaid 5:18)
8 Rho ddiolch i Jehofa. Mae gynnon ni lawer o resymau i ddiolch i Jehofa mewn gweddi. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:18.) Gallwn ni ddiolch iddo am unrhyw beth da sydd gynnon ni. Wedi’r cyfan, mae pob rhodd dda yn dod oddi wrtho ef. (Iago 1:17) Er enghraifft, gallwn ni ddiolch iddo am harddwch y ddaear a’r pethau rhyfeddol mae wedi eu creu. Gallwn hefyd roi diolch am ein bywydau, ein teuluoedd, ein ffrindiau, ac am y gobaith sydd gynnon ni. Ac yn sicr, byddwn ni eisiau diolch i Jehofa am adael inni fwynhau perthynas agos ag ef.
9. Pam efallai bydd angen inni wneud ymdrech i fod yn ddiolchgar i Jehofa?
9 Efallai bydd rhaid inni wneud ymdrech arbennig i feddwl am y rhesymau rydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa. Rydyn ni’n byw mewn byd anniolchgar. Yn rhy aml, mae pobl yn canolbwyntio ar yr hyn maen nhw eisiau, yn hytrach nag ar ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar am beth sydd ganddyn nhw. Petai’r agwedd honno yn dylanwadu arnon ni, gallai ein gweddïau droi’n rhestr o bethau rydyn ni eisiau. Er mwyn osgoi hynny, mae’n rhaid inni barhau i weithio ar fod yn ddiolchgar am bopeth mae Jehofa yn ei wneud droston ni a mynegi hynny yn ein gweddïau.—Luc 6:45.
10. Sut gwnaeth agwedd ddiolchgar helpu un chwaer i ddal ati? (Gweler hefyd y llun.)
10 Mae agwedd diolchgar yn gallu ein helpu ni i oddef anawsterau. Ystyria brofiad Kyung-sook sydd i’w gael yn rhifyn Ionawr 15, 2015, o’r Tŵr Gwylio Saesneg. Cafodd hi ei diagnosio â chanser difrifol ar yr ysgyfaint. “Gwnaeth hyn fy nharo’n galed,” meddai. “Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi colli popeth, ac roeddwn i’n ofnus iawn.” Beth helpodd hi i ymdopi â’r sefyllfa? Bob nos, cyn mynd i’r gwely, byddai hi’n dringo’r grisiau i do fflat ei thŷ, ac yn gweddïo’n uchel am bump o bethau roedd hi’n ddiolchgar amdanyn nhw y diwrnod hwnnw. Roedd hyn yn tawelu ei meddwl hi ac yn ei hysgogi hi i fynegi ei chariad at Jehofa. Dysgodd hi o brofiad sut mae Jehofa yn cynnal ei weision ffyddlon pan maen nhw’n wynebu treialon enbyd. Daeth hi i sylweddoli bod ’na lawer mwy o fendithion yn ein bywydau na threialon. Fel Kyung-sook, mae gynnon ni lawer o resymau i fod yn ddiolchgar i Jehofa, hyd yn oed os ydyn ni mewn amgylchiadau enbyd. Mae diolch iddo mewn gweddi yn gallu ein helpu ni i ddyfalbarhau ac i gadw ein cydbwysedd emosiynol.
11. Ar ôl i Iesu ddychwelyd i’r nef, pam roedd angen dewrder ar ei ddisgyblion?
11 Gofynna i Jehofa am ddewrder yn y weinidogaeth. Yn y munudau cyn iddo ddychwelyd i’r nef, gwnaeth Iesu atgoffa ei ddisgyblion o’u haseiniad i dystiolaethu amdano “yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.” (Act. 1:8; Luc 24:46-48) Yn fuan ar ôl hynny, fe wnaeth yr arweinwyr Iddewig arestio’r apostolion Pedr ac Ioan, a dod â nhw o flaen y Sanhedrin. Wedyn, cawson nhw eu bygwth a’u gorchymyn i roi’r gorau i bregethu. (Act. 4:18, 21) Beth oedd ymateb Pedr ac Ioan?
12. Yn ôl Actau 4:29, 31, beth wnaeth y disgyblion?
12 Beth oedd ymateb Pedr ac Ioan i fygythiadau’r arweinwyr crefyddol Iddewig? Dywedon nhw: “Barnwch chi a yw’n iawn yng ngolwg Duw inni wrando arnoch chi yn hytrach nag ar Dduw. Ond o’n rhan ni, dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Act. 4:19, 20) Pan gafodd Pedr ac Ioan eu rhyddhau, gweddïodd y disgyblion ar Jehofa am ei ewyllys, gan ddweud: ‘Caniatâ i dy gaethweision barhau i gyhoeddi dy air â phob hyder.’ Atebodd Jehofa y weddi ddiffuant honno.—Darllen Actau 4:29, 31.
13. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jin-hyuk?
13 Os bydd yr awdurdodau seciwlar yn mynnu ein bod ni’n stopio pregethu, gallwn ni efelychu’r disgyblion drwy ddal ati beth bynnag. Ystyria esiampl brawd o’r enw Jin-hyuk a gafodd ei garcharu am ei niwtraliaeth. Yn y carchar, roedd rhaid iddo ofalu am garcharorion a oedd mewn celloedd ar eu pennau eu hunain. Doedd dim hawl ganddo i siarad â nhw am y Beibl, nac am unrhyw beth heblaw ei waith. Ond, gweddïodd am yr hyder i bregethu ar bob cyfle. (Act. 5:29) Dywedodd: “Atebodd Jehofa fy ngweddïau drwy roi dewrder a doethineb imi allu dechrau llawer o astudiaethau Beiblaidd byr wrth ddrysau’r celloedd. Yna gyda’r nos, byddwn i’n ysgrifennu llythyrau er mwyn eu rhoi nhw i’r carcharorion y diwrnod wedyn.” Fel Jin-hyuk, gallwn ninnau hefyd weddïo am ddewrder a doethineb a bod yn sicr y bydd Jehofa yn ein helpu ni i wneud ein gweinidogaeth.
14. Beth all ein helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu problemau? (Salm 37:3, 5)
14 Gofynna i Jehofa am help i ddelio â dy broblemau. Mae llawer ohonon ni’n wynebu problemau fel salwch, colli anwylyn, sefyllfa anodd yn y teulu, erledigaeth, neu rywbeth arall. Ac mae pethau fel pandemigau neu ryfeloedd wedi gwneud y problemau hyn yn anoddach byth. Dyweda wrth Jehofa yn union sut rwyt ti’n teimlo, fel byddet ti gyda ffrind agos. A thrystia y bydd Jehofa yn “gweithredu ar dy ran.”—Darllen Salm 37:3, 5.
15. Sut gall gweddi ein helpu ni i ddyfalbarhau wrth wynebu problemau? Rho esiampl.
15 Bydd dal ati i weddïo yn ein helpu ni i ‘ddyfalbarhau pan fyddwn ni’n wynebu problemau.’ (Rhuf. 12:12) Mae Jehofa yn gwybod yn union beth mae ei bobl yn ei wynebu—“mae’n eu clywed nhw’n galw” am help. (Salm 145:18, 19) Gwelodd Kristie, arloeswraig 29 mlwydd oed, pa mor wir yw hynny. Dechreuodd hi gael problemau iechyd difrifol yn hollol annisgwyl. Cafodd hi iselder ysbryd ofnadwy oherwydd hynny. Yn nes ymlaen, dysgodd bod gan ei mam salwch terfynol. Dywedodd Kristie: “Gwnes i weddïo’n daer ar Jehofa am y nerth oeddwn i ei angen bob dydd. Gwnes i fy ngorau i gadw at rwtîn ysbrydol da drwy fynd i’r cyfarfodydd a gwneud astudiaeth bersonol.” Aeth ymlaen i ddweud: “Gweddi wnaeth fy helpu drwy’r dyddiau du. Roedd gwybod bod Jehofa wastad yno imi yn gysur mawr. Wnaeth fy mhroblemau iechyd ddim diflannu’n syth, ond atebodd Jehofa fy ngweddïau drwy roi heddwch meddwl a chalon dawel imi.” Gad inni beidio byth ag anghofio bod “Jehofa’n gwybod sut i achub pobl sydd â defosiwn duwiol rhag eu treialon.”—2 Pedr 2:9.
16. Pam rydyn ni angen help Jehofa i wrthod temtasiynau?
16 Gofynna am help Jehofa i wrthod temtasiynau. Oherwydd ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni wastad yn gorfod brwydro yn erbyn y temtasiwn i wneud drwg. Mae Satan yn gwneud popeth yn ei allu i wneud y frwydr honno yn anodd inni. Un ffordd mae’n ceisio llygru ein meddyliau ydy drwy adloniant anfoesol. Mae adloniant o’r fath yn gallu gwneud inni feddwl am bethau—pethau sy’n ein gwneud ni’n aflan yng ngolwg Jehofa ac yn gallu arwain at bechod difrifol.—Marc 7:21-23; Iago 1:14, 15.
17. Ar ôl gweddïo am help, beth sydd rhaid inni ei wneud er mwyn osgoi temtasiwn? (Gweler hefyd y llun.)
17 Er mwyn llwyddo i wrthod y temtasiwn i wneud pethau drwg, mae angen help Jehofa. Mae gofyn am yr help hwnnw yn rhan o’r weddi enghreifftiol a roddodd Iesu inni. Dywedodd: “A phaid â gadael inni ildio i demtasiwn, ond achuba ni rhag yr un drwg.” (Math. 6:13) Mae Jehofa eisiau ein helpu, ond mae’n rhaid inni ofyn iddo am ei help a gweithio’n unol â’n gweddïau. Er enghraifft gallwn ni gadw’n glir o’r syniadau drwg sy’n boblogaidd ym myd Satan. (Salm 97:10) A gallwn ni lenwi ein meddyliau â phethau da drwy ddarllen ac astudio’r Beibl. Bydd pregethu a mynd i’r cyfarfodydd hefyd yn gwarchod ein meddyliau. Ac mae Jehofa’n addo gwneud ei ran drwy beidio â gadael inni gael ein temtio y tu hwnt i’r hyn gallwn ei oddef.—1 Cor. 10:12, 13.
18. Beth sydd rhaid inni i gyd ei wneud ynglŷn â gweddi?
18 Mae angen inni i gyd weddïo’n fwy nag erioed er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa yn ystod y dyddiau olaf hyn sydd mor anodd. Sicrha dy fod ti’n neilltuo amser bob dydd i weddïo o dy galon. Mae Jehofa eisiau inni ‘dywallt beth sydd ar ein calon o’i flaen’ mewn gweddi. (Salm 62:8) Mola Jehofa a diolch iddo am bopeth mae’n ei wneud. Gofynna iddo am help i fod yn ddewr yn y weinidogaeth. Erfyn arno am help i ddelio â phroblemau ac i wrthod unrhyw demtasiwn sy’n codi. Paid â gadael i neb na dim dy rwystro di rhag gweddïo ar Jehofa yn rheolaidd. Ond sut mae Jehofa yn ateb ein gweddïau? Dyna byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf.
CÂN 42 Gweddi Gwas Jehofa
a Rydyn ni eisiau i’n gweddïau fod fel llythyrau at ffrind annwyl. Ond dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwneud amser i weddïo. A gall fod yn anodd gwybod beth i weddïo amdano. Bydd yr erthygl hon yn trafod y ddau bwnc pwysig hyn.