Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

Parha i Deithio ar “y Ffordd Sanctaidd”

Parha i Deithio ar “y Ffordd Sanctaidd”

‘Bydd priffordd yno, Y Ffordd Sanctaidd.’—ESEI. 35:8.

CÂN 31 Cerdda Gyda Duw!

CIPOLWG a

1-2. Pa benderfyniad pwysig oedd gan yr Iddewon ym Mabilon i’w wneud? (Esra 1:2-4)

 AR ÔL i’r Iddewon fod yn gaeth ym Mabilon am tua 70 mlynedd, dyma’r brenin yn rhoi newyddion da iddyn nhw. Roedden nhw’n cael mynd yn ôl i’w mamwlad, Israel, o’r diwedd! (Darllen Esra 1:2-4.) Mae’n rhaid mai Jehofa oedd y tu ôl i hynny oherwydd fel arfer doedd Babilon byth yn rhyddhau ei chaethweision. (Esei. 14:4, 17) Ond roedd Babilon wedi cael ei gorchfygu a dywedodd y rheolwr newydd wrth yr Iddewon y bydden nhw’n cael gadael y wlad. Oherwydd hyn, roedd gan bob Iddew, yn enwedig pennau teuluoedd, benderfyniad i’w wneud—naill ai i adael Babilon neu i aros yno. Efallai nad oedd hynny’n benderfyniad hawdd ei wneud. Pam?

2 Roedd llawer yn rhy hen i wneud y daith anodd. Ac am fod y rhan fwyaf o’r Iddewon wedi cael eu geni ym Mabilon, dyna’r unig le roedden nhw wedi ei alw’n gartref. Iddyn nhw, gwlad eu cyndadau oedd Israel. Mae’n ymddangos bod rhai Iddewon wedi dod yn gyfoethog ym Mabilon, ac felly byddai’n anodd iddyn nhw adael eu cartrefi clyd a’u busnesau llwyddiannus i fyw mewn gwlad anghyfarwydd.

3. Sut byddai Jehofa yn bendithio’r Iddewon a aeth yn ôl i Israel?

3 Er byddai’n rhaid i’r Iddewon aberthu llawer er mwyn mynd yn ôl, i’r rhai ffyddlon, roedd y bendithion yn werth yr aberth. Un o’r bendithion mwyaf fyddai cael adfer addoliad pur. Roedd mwy na 50 teml baganaidd ym Mabilon, ond doedd dim un deml i Jehofa. Doedd dim allor lle roedd Iddewon yn gallu cynnig aberthau yn ôl Cyfraith Moses, a doedd dim offeiriaid i offrymu’r aberthau hynny. Ar ben hynny, roedd ’na lawer iawn mwy o baganiaid ym Mabilon nag o bobl Jehofa. Felly roedd rhaid i’r Iddewon fyw yng nghanol y bobl hyn oedd heb unrhyw barch at Jehofa na’i safonau. Felly, roedd miloedd o Iddewon oedd yn parchu Duw yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w mamwlad ac i addoli Jehofa yn y ffordd iawn.

4. Ym mha ffordd gwnaeth Jehofa addo helpu’r Iddewon oedd yn mynd yn ôl i Israel?

4 Roedd y daith o Fabilon i Israel yn un anodd ac yn gallu cymryd tua phedwar mis. Ond gwnaeth Jehofa addo byddai unrhyw beth a oedd yn ymddangos fel rhwystr yn cael ei glirio o’r ffordd. Ysgrifennodd Eseia: “Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch! . . . Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau’r mynyddoedd yn wastatir.” (Esei. 40:3, 4) Dychmyga briffordd yn croesi anialwch, yn rhedeg ar hyd llawr gwastad y dyffryn. Byddai hynny’n fendith fawr i deithwyr. Byddai’n llawer haws teithio ar hyd priffordd syth yn hytrach na gorfod mynd i fyny ac i lawr mynyddoedd, bryniau, a chymoedd. Byddai’n gynt hefyd.

5. Beth oedd enw’r briffordd ffigurol rhwng Babilon ac Israel?

5 Heddiw mae gan lawer o briffyrdd enw neu rif. Roedd gan y briffordd ffigurol ysgrifennodd Eseia amdani enw hefyd. Mae’n dweud yn Eseia 35:8: “Bydd priffordd; ie, ffordd yno sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd.’ Fydd neb sy’n aflan yn cael teithio arni.” Beth roedd yr addewid hwn yn ei olygu i’r Israeliaid bryd hynny? A beth mae’n ei olygu i ni heddiw?

“Y FFORDD SANCTAIDD”—YN YR OES A FU A HEDDIW

6. Pam cafodd y ffordd hon ei galw’n sanctaidd?

6 Pam cafodd yr enw hyfryd “y Ffordd Sanctaidd” ei ddewis ar gyfer y briffordd hon? Fyddai “neb sy’n aflan” yn cael bod yn rhan o Israel, hynny yw, unrhyw un oedd yn benderfynol o fod yn anfoesol, o addoli eilunod, neu o bechu’n ddifrifol mewn unrhyw ffordd arall. Roedd rhaid i’r Iddewon oedd yn mynd yn ôl fod “yn bobl sanctaidd” i Dduw. (Deut. 7:6, BCND) Ond er hynny, roedden nhw’n dal i wneud newidiadau er mwyn plesio Jehofa.

7. Pa newidiadau roedd rhaid i rai o’r Iddewon eu gwneud? Rho esiampl.

7 Gan fod llawer o’r Iddewon wedi cael eu geni ym Mabilon, mae’n ymddangos fel bod rhai wedi dod i arfer â safonau a ffordd o feddwl y Babiloniaid. Ddegawdau ar ôl i’r Iddewon cyntaf ddychwelyd i Israel, dysgodd Esra fod rhai Iddewon wedi priodi merched paganaidd. (Ex. 34:15, 16; Esra 9:1, 2) Yn ddiweddarach, cafodd y Llywodraethwr Nehemeia ei synnu o weld bod plant a gafodd eu geni yn Israel heb ddysgu iaith yr Iddewon. (Deut. 6:6, 7; Neh. 13:23, 24) Sut yn y byd gallai’r plant hynny ddysgu i garu Jehofa a’i addoli os nad oedden nhw’n gallu deall Hebraeg—y brif iaith roedd Gair Duw wedi ei ysgrifennu ynddi? (Esra 10:3, 44) Felly byddai’n rhaid i’r Iddewon hynny wneud newidiadau mawr, ond byddai’n llawer haws gwneud hynny yn Israel, lle roedd addoliad pur yn cael ei adfer yn raddol.—Neh. 8:8, 9.

Ers 1919, mae miliynau o ddynion, merched, a phlant wedi gadael Babilon Fawr ac wedi dechrau teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd” (Gweler paragraff 8)

8. Pam dylen ni gael diddordeb mewn pethau ddigwyddodd mor bell yn ôl? (Gweler y llun ar y clawr.)

8 Efallai byddi di’n meddwl, ‘Mae hyn i gyd yn ddiddorol, ond beth sydd gan yr hyn ddigwyddodd i’r Iddewon mor bell yn ôl i’w wneud â fi?’ Wel, mae ganddo ystyr inni heddiw oherwydd rydyn ni’n teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd” fel petai. P’un a ydyn ni’n un o’r eneiniog neu’n un o’r ‘defaid eraill,’ mae’n rhaid inni aros ar “y Ffordd Sanctaidd.” (Ioan 10:16) Mae hi’n ein harwain ni drwy’r baradwys ysbrydol ac at fendithion yn y dyfodol o dan y Deyrnas. b Ers 1919, mae miliynau o ddynion, merched, a phlant wedi gadael Babilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, ac wedi dechrau teithio ar hyd y ffordd ffigurol honno. Mae’n debyg dy fod ti’n un ohonyn nhw. Er bod y ffordd wedi cael ei hagor tua chan mlynedd yn ôl, dechreuodd pobl ei pharatoi hi ganrifoedd ynghynt.

PARATOI’R FFORDD

9. Yn ôl Eseia 57:14, sut cafodd “y Ffordd Sanctaidd” ei pharatoi?

9 Gwnaeth Jehofa sicrhau y byddai unrhyw rwystr yn cael ei glirio i’r Iddewon oedd yn gadael Babilon. (Darllen Eseia 57:14.) Beth am “y Ffordd Sanctaidd” yn yr oes fodern? Yn y canrifoedd oedd yn arwain at 1919, defnyddiodd Jehofa ddynion duwiol i glirio’r ffordd allan o Fabilon Fawr. (Cymhara Eseia 40:3.) Fe wnaethon nhw’r gwaith oedd ei angen i baratoi’r ffordd ysbrydol fel bod pobl ddiffuant yn gallu gadael Babilon Fawr ac addoli Jehofa gyda’i bobl. Beth oedd y gwaith hwn yn ei gynnwys? Ystyria rai o’r pethau wnaethon nhw i baratoi’r ffordd.

Am ganrifoedd, roedd dynion duwiol yn helpu i glirio’r ffordd allan o Fabilon Fawr (Gweler paragraffau 10-11)

10-11. Sut mae’r gwaith o argraffu a chyfieithu’r Beibl wedi helpu mwy o bobl i ddysgu’r gwir? (Gweler hefyd y llun.)

10 Argraffu. Tan tua chanol y 15fed ganrif, roedd copïau o’r Beibl yn cael eu hysgrifennu â llaw. Roedd y gwaith yn cymryd oes ac roedd copïau o’r Beibl yn brin ac yn ddrud iawn. Ond pan gafodd gwasg argraffu ei dyfeisio, roedd hi’n haws cynhyrchu a dosbarthu copïau o’r Beibl.

11 Cyfieithu. Am ganrifoedd, roedd y rhan fwyaf o gopïau o’r Beibl ond ar gael yn Lladin. Dim ond pobl oedd ag addysg dda oedd yn gallu deall yr iaith honno. Ond pan ddaeth argraffu yn fwy cyffredin, dechreuodd pobl oedd yn caru Duw gyfieithu’r Beibl i ieithoedd roedd y bobl gyffredin yn eu siarad. Roedd hynny’n golygu bod darllenwyr y Beibl yn gallu cymharu beth roedd clerigwyr yn ei ddysgu â’r hyn roedd y Beibl yn ei ddweud.

Roedd dynion duwiol yn helpu i glirio’r ffordd allan o Fabilon Fawr (Gweler paragraffau 12-14) c

12-13. Rho esiampl o sut gwnaeth myfyrwyr y Beibl ddechrau dinoethi dysgeidiaethau crefyddol ffals yn y 19eg ganrif.

12 Adnoddau astudio’r Beibl. Wrth i bobl astudio’r Beibl yn ofalus, dysgon nhw lawer o bethau. Ac roedden nhw fel arfer yn rhannu’r hyn roedden nhw’n ei ddysgu ag eraill, er nad oedd llawer o glerigwyr yn hapus am hyn. Er enghraifft, tua 1835, dechreuodd rhai dynion diffuant gyhoeddi taflenni oedd yn dinoethi dysgeidiaethau ffals yr eglwysi.

13 Tua 1835, fe wnaeth Henry Grew, dyn oedd yn parchu Duw, gyhoeddi taflen oedd yn trafod cyflwr y meirw. Yn y daflen, profodd o’r Beibl fod rhywun ond yn cael bywyd anfarwol os ydy Duw yn ei roi iddo, nid am ei fod yn cael ei eni ag enaid anfarwol, fel roedd y rhan fwyaf o’r eglwysi yn ei ddysgu. Ym 1837, daeth gweinidog o’r enw George Storrs ar draws copi o’r daflen honno tra oedd yn teithio ar drên. Ar ôl ei darllen, roedd yn hollol sicr ei fod wedi darganfod gwirionedd pwysig iawn. Felly penderfynodd rannu hynny ag eraill. Ym 1842, rhoddodd gyfres o ddarlithoedd gyda’r thema “Ymchwiliad—Ydy Pobl Ddrwg yn Anfarwol?” Un person a ddysgodd oddi wrth George Storrs oedd dyn ifanc o’r enw Charles Taze Russell.

14. Sut gwnaeth y Brawd Russell a’i ffrindiau elwa o’r gwaith oedd eisoes wedi cael ei wneud? (Gweler hefyd y llun.)

14 Sut gwnaeth y Brawd Russell a’i ffrindiau elwa o’r gwaith oedd wedi cael ei wneud yn y gorffennol i baratoi’r ffordd ysbrydol? Yn eu hastudiaethau, roedden nhw’n gallu gwneud ymchwil mewn sawl geiriadur, mynegai, a chyfieithiad o’r Beibl. Roedd y rheini i gyd wedi cael eu paratoi cyn eu hamser nhw. Ar ben hynny, roedd gwaith ymchwil dynion fel Henry Grew, George Storrs, ac eraill yn eu helpu. Cyfrannodd y Brawd Russell a’i ffrindiau at y gwaith ar y ffordd ysbrydol drwy gynhyrchu llwyth o lyfrau a thaflenni ar bynciau Beiblaidd.

15. Pa bethau pwysig ddigwyddodd ym 1919?

15 Ym 1919 collodd Babilon Fawr ei gafael ar bobl Dduw. Y flwyddyn honno, dechreuodd y “gwas ffyddlon a chall” weithredu, fel bod rhai diffuant yn gallu dechrau teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.” (Math. 24:45-47) Gallai pawb a ddechreuodd ar hyd y ffordd honno fod yn ddiolchgar am waith paratoi’r rhai a aeth o’u blaenau. Oherwydd y gwaith hwnnw roedd hi’n bosib iddyn nhw ddysgu mwy am Jehofa a’i bwrpasau. (Diar. 4:18) Roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n gallu byw yn unol â safonau Jehofa. Ond mae Jehofa wedi helpu ei bobl i wneud y newidiadau angenrheidiol dros amser, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw wneud popeth ar unwaith. (Gweler y blwch “ Jehofa yn Puro Ei Bobl yn Raddol.”) Byddwn ni i gyd mor hapus pan fydd popeth rydyn ni’n ei wneud yn plesio ein Duw!—Col. 1:10.

MAE’R “FFORDD SANCTAIDD” YN DAL AR AGOR

16. Pa waith cynnal a chadw sydd wedi cael ei wneud ar “y Ffordd Sanctaidd” ers 1919? (Eseia 48:17; 60:17)

16 Mae angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar bob ffordd. Dydy’r “Ffordd Sanctaidd” ddim yn wahanol. Mae’r gwaith arni wedi parhau ers 1919 er mwyn i fwy o bobl allu gadael Babilon Fawr. Aeth y gwas ffyddlon a chall ati i weithio, ar ôl cael ei apwyntio, gan gyhoeddi adnodd astudio’r Beibl ym 1921 i helpu pobl i ddechrau dysgu am y Beibl. Yn y pen draw, roedd ’na bron i chwe miliwn copi o’r llyfr hwnnw, The Harp of God. Roedd y llyfr ar gael mewn 36 o ieithoedd, a dysgodd llawer o bobl y gwir ohono. Bellach mae gynnon ni gyhoeddiad newydd gwych ar gyfer cynnal astudiaethau Beiblaidd, sef Mwynhewch Fywyd am Byth! Drwy gydol y dyddiau olaf, mae Jehofa wedi defnyddio ei gyfundrefn i roi bwyd ysbrydol inni yn gyson, i’n helpu ni i gyd i ddal ati i deithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.”—Darllen Eseia 48:17; 60:17.

17-18. I le mae’r “Ffordd Sanctaidd” yn arwain?

17 Bob tro mae rhywun yn derbyn astudiaeth Feiblaidd, mae ganddo gyfle i ddechrau teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.” Dydy rhai ddim yn mynd yn bell ar hyd y briffordd hon. Ond mae eraill yn benderfynol o barhau i deithio arni nes iddyn nhw gyrraedd pen eu taith. Ond i le mae’r ffordd hon yn arwain?

18 Bydd “y Ffordd Sanctaidd” yn arwain y rhai sydd â’r gobaith nefol i ‘baradwys Duw’ yn y nef. (Dat. 2:7) Ond i’r rhai sydd â’r gobaith o fyw ar y ddaear, mae’r ffordd honno yn arwain at berffeithrwydd ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd. Os wyt ti’n teithio ar hyd y ffordd honno heddiw, paid ag edrych yn ôl. A phaid â chamu oddi arni nes iti gyrraedd pen dy daith yn y byd newydd! Rydyn ni’n dymuno “siwrnai saff” iti.

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

a Rhoddodd Jehofa yr enw “y Ffordd Sanctaidd” ar y briffordd ffigurol o Fabilon i Israel. Ydy Jehofa wedi gwneud rhywbeth tebyg drwy glirio ffordd i’w bobl heddiw? Ydy! Ers 1919, mae miliynau wedi gadael Babilon Fawr ac wedi dechrau teithio ar “y Ffordd Sanctaidd.” Mae’n rhaid inni i gyd aros ar y ffordd hon nes inni gyrraedd pen ein taith.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd y Brawd Russell a’i ffrindiau yn defnyddio adnoddau astudio’r Beibl oedd wedi cael eu paratoi cyn eu hamser nhw