Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

Sut Mae Jehofa’n Ateb Ein Gweddïau

Sut Mae Jehofa’n Ateb Ein Gweddïau

“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i gael y pethau rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw, gan ein bod ni wedi gofyn iddo ef amdanyn nhw.”—1 IOAN 5:15.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

CIPOLWG a

1-2. Beth all ddod i’n meddyliau ynglŷn â gweddi?

 WYT ti erioed wedi cwestiynu a ydy Jehofa’n ateb dy weddïau? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae nifer o frodyr a chwiorydd wedi dweud eu bod nhw wedi meddwl yr un peth, yn enwedig pan oedden nhw’n mynd trwy dreialon. Os ydyn ni’n wynebu problemau, gall fod yn anodd inni weld sut mae Jehofa’n ateb ein gweddïau.

2 Yn yr erthygl hon byddwn ni’n gweld pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa’n ateb gweddïau ei bobl. (1 Ioan 5:15) Byddwn ni hefyd yn ateb y cwestiynau hyn: Pam mae hi weithiau’n gallu ymddangos fel nad ydy Jehofa’n ateb ein gweddïau? Ym mha ffyrdd mae Jehofa’n ateb ein gweddïau heddiw?

EFALLAI BYDD JEHOFA’N ATEB MEWN FFORDD ANNISGWYL

3. Pam mae Jehofa eisiau inni weddïo arno?

3 Mae’r Beibl yn ei gwneud hi’n hollol glir bod Jehofa’n ein caru ni’n fawr a’n bod ni’n werthfawr iddo. (Hag. 2:7; 1 Ioan 4:10) Dyna pam mae’n ein gwahodd ni i weddïo arno a gofyn am ei help. (1 Pedr 5:6, 7) Mae eisiau ein helpu ni i aros yn agos ato ac i ddelio â’n problemau yn llwyddiannus.

Atebodd Jehofa weddïau Dafydd drwy ei achub rhag ei elynion (Gweler paragraff 4)

4. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n ateb gweddïau ei bobl? (Gweler hefyd y llun.)

4 Elli di feddwl am esiampl yn y Beibl o Jehofa’n ateb gweddïau rhywun? Mae ’na lawer ohonyn nhw, ond beth am y brenin Dafydd? Roedd ganddo elynion peryglus drwy gydol ei fywyd, ac roedd yn gofyn am help Jehofa’n aml. Ar un achlysur, gweddïodd: “O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi. Gwranda arna i’n pledio am dy help di! Ti’n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly plîs ateb fi.” (Salm 143:1) Atebodd Jehofa weddi Dafydd a’i achub. (1 Sam. 19:10, 18-20; 2 Sam. 5:17-25) Felly, gallai Dafydd ddweud yn hyderus bod Jehofa “yn agos at y rhai sy’n galw arno.” Gallwn ninnau hefyd gael yr un hyder.—Salm 145:18.

Atebodd Jehofa weddïau Paul drwy roi iddo’r nerth oedd ei angen i ddal ati (Gweler paragraff 5)

5. Ydy Jehofa bob amser wedi ateb gweddïau ei weision yn y ffordd roedden nhw’n ei disgwyl? Rho esiampl. (Gweler hefyd y llun.)

5 Efallai na fydd Jehofa bob tro’n ateb ein gweddïau yn y ffordd rydyn ni’n ei disgwyl. Dyna a ddigwyddodd i’r apostol Paul. Roedd gan Paul broblem anodd roedd yn ei alw’n “ddraenen yn y cnawd.” Gweddïodd Paul dair gwaith a gofyn i Jehofa gael gwared arni. A wnaeth Jehofa ateb ei weddïau? Do, ond nid yn y ffordd roedd Paul yn ei disgwyl. Yn lle cael gwared ar y broblem, rhoddodd Jehofa’r nerth roedd Paul ei angen i ddal ati i’w wasanaethu’n ffyddlon.—2 Cor. 12:7-10.

6. Pam mae’n gallu ymddangos fel nad ydy Jehofa’n ateb ein gweddïau weithiau?

6 Ar adegau, efallai byddwn ni’n cael ateb dydyn ni ddim yn ei ddisgwyl. Ond gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa’n gwybod yn union beth yw’r ffordd orau i’n helpu. Mae hyd yn oed “yn gallu gwneud mwy na’r hyn sydd y tu hwnt i bob peth rydyn ni’n gofyn amdano neu’n ei ddychmygu.” (Eff. 3:20) Felly, mae’n gwneud synnwyr, efallai bydd y ffordd a’r amser mae Jehofa’n ateb ein gweddïau yn annisgwyl inni.

7. Pam efallai bydd rhaid inni newid beth rydyn ni’n gweddïo amdano? Rho esiampl.

7 Wrth inni weld yn gliriach beth ydy ewyllys Jehofa, efallai bydd angen inni newid y pethau rydyn ni’n gweddïo amdanyn nhw. Ystyria brofiad Martin Poetzinger. Yn fuan ar ôl iddo briodi, cafodd ei garcharu mewn gwersyll crynhoi Natsïaidd. Ar y dechrau, gofynnodd i Jehofa ei ryddhau o’r gwersyll er mwyn iddo ofalu am ei wraig a phregethu eto. Ond, ar ôl pythefnos, doedd ’na ddim awgrym bod Jehofa’n mynd i drefnu iddo gael ei ryddhau. Felly dechreuodd weddïo: ‘Jehofa, plîs dangosa imi beth rwyt ti eisiau imi ei wneud.’ Yna dechreuodd feddwl am beth roedd brodyr eraill yn y gwersyll yn ei wynebu. Roedd llawer ohonyn nhw’n poeni am eu gwraig a’u plant eu hunain. Yna gweddïodd y Brawd Poetzinger: “Jehofa, diolch iti am fy aseiniad newydd. Helpa fi i gryfhau a chalonogi fy mrodyr.” Ac am y naw mlynedd nesaf yn y gwersylloedd, dyna’n union wnaeth ef.

8. Pa beth pwysig dylen ni ei gofio wrth weddïo?

8 Mae’n bwysig inni gofio y bydd Jehofa’n cyflawni ei bwrpas ar yr amser mae ef wedi ei ddewis. Mae problemau fel trychinebau naturiol, salwch, a marwolaeth yn achosi cymaint o ddioddefaint i bobl heddiw. Ond mae pwrpas Duw yn cynnwys cael gwared ar y pethau hynny unwaith ac am byth. Bydd Jehofa’n defnyddio ei Deyrnas i gyflawni ei bwrpas. (Dan. 2:44; Dat. 21:3, 4) Ond tan hynny, mae Jehofa’n gadael i Satan reoli’r byd. b (Ioan 12:31; Dat. 12:9) Petai Jehofa’n datrys problemau’r byd nawr, gallai greu’r argraff bod Satan yn cael rhywfaint o lwyddiant wrth reoli’r byd. Ond mae Jehofa’n ein helpu ni wrth inni aros iddo gyflawni ei addewidion. Dewch inni weld rhai o’r ffyrdd mae’n gwneud hynny.

FFYRDD MAE JEHOFA’N ATEB GWEDDÏAU HEDDIW

9. Sut gall Jehofa ein helpu ni pan ydyn ni angen gwneud penderfyniadau? Eglura.

9 Mae’n rhoi doethineb inni. Mae Jehofa’n addo rhoi’r doethineb inni allu gwneud penderfyniadau da. Rydyn ni wir angen doethineb Duw pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n newid cwrs ein bywyd. Un penderfyniad o’r fath ydy p’un ai i aros yn sengl neu i briodi. (Iago 1:5) Ystyria brofiad chwaer sengl o’r enw Maria. c Roedd hi’n hapus yn arloesi’n llawn amser pan wnaeth hi gwrdd â brawd. Mae hi’n dweud: “Y mwyaf roedden ni’n agosáu fel ffrindiau, y mwyaf roedden ni’n cael ein denu at ein gilydd. Roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi wneud penderfyniad, felly gwnes i weddïo dro ar ôl tro am y peth. Roeddwn i angen arweiniad Jehofa, ond roeddwn i hefyd yn gwybod fyddai ef ddim yn gwneud y penderfyniad drosto i.” Mae hi’n teimlo bod Jehofa wedi ateb ei gweddïau a rhoi doethineb iddi. Ym mha ffordd? Wrth iddi ymchwilio yn ein cyhoeddiadau, daeth o hyd i erthyglau penodol oedd yn ei helpu hi i gael atebion i’w chwestiynau. Gwrandawodd hi hefyd ar gyngor doeth ei mam ffyddlon. Gwnaeth y cyngor hwnnw helpu Maria i feddwl yn ofalus am ei theimladau. Yn y pen draw gwnaeth hi benderfyniad doeth.

Sut mae Jehofa’n rhoi inni’r nerth sydd ei angen i ddal ati? (Gweler paragraff 10)

10. Beth bydd Jehofa’n ei wneud i helpu ei bobl yn ôl Philipiaid 4:13? Rho esiampl. (Gweler hefyd y llun.)

10 Mae’n rhoi inni’r nerth rydyn ni ei angen i ddal ati. Yn union fel gwnaeth ef i’r apostol Paul, bydd Jehofa’n rhoi’r nerth rydyn ni ei angen i ddal ati drwy ein treialon. (Darllen Philipiaid 4:13.) Ystyria sut gwnaeth Jehofa helpu brawd o’r enw Benjamin i ddyfalbarhau yn ystod amgylchiadau anodd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Affrica gyda’i deulu. Dywedodd Benjamin: “Roeddwn i’n gweddïo’n rheolaidd ar Jehofa, yn gofyn iddo roi imi’r nerth i wneud beth oedd yn ei blesio. Atebodd Jehofa fy ngweddïau drwy roi imi heddwch meddwl, y dewrder i ddal ati i bregethu, a’r cyhoeddiadau o’n i eu hangen i aros yn agos ato.” Mae hefyd yn dweud: “Roedd darllen profiadau fy mrodyr a fy chwiorydd am y ffordd roedd Jehofa wedi eu helpu nhw i ddal ati, yn fy nghryfhau’n ysbrydol ac yn fy ngwneud i’n fwy penderfynol o aros yn ffyddlon.”

Wyt ti wedi gweld Jehofa’n defnyddio dy frodyr a dy chwiorydd i dy helpu di? (Gweler paragraffau 11-12) d

11-12. Sut mae Jehofa’n gallu defnyddio ein brodyr a’n chwiorydd i ateb ein gweddïau? (Gweler hefyd y llun.)

11 Mae’n defnyddio ein teulu ysbrydol. Y noson cyn iddo farw, gwnaeth Iesu weddïo’n daer iawn, ac erfyn ar Jehofa i beidio â gadael i bobl feddwl ei fod yn cablu enw Duw. Ond atebodd Jehofa weddi Iesu mewn ffordd wahanol. Anfonodd angel, un o frodyr Iesu, i’w gryfhau. (Luc 22:42, 43) Mewn ffordd debyg, efallai bydd Jehofa’n ein helpu ni drwy ysgogi un o’n brodyr neu’n chwiorydd i godi’r ffôn neu i alw draw i’n gweld ni. Gall pob un ohonon ni edrych am gyfleoedd i roi “gair caredig” i’n brodyr a’n chwiorydd.—Diar. 12:25.

12 Ystyria brofiad chwaer o’r enw Miriam. Ychydig o wythnosau ar ôl iddi golli ei gŵr, roedd hi adref ar ei phen ei hun, yn teimlo ar goll ac yn isel ei hysbryd. Doedd hi ddim yn gallu stopio llefain ac roedd hi angen siarad â rhywun. Dywedodd hi: “Doedd gen i ddim y nerth i ffonio neb, felly gweddïais ar Jehofa. Tra oeddwn i’n dal i grio a gweddïo, dyma’r ffôn yn canu. Pwy oedd yno ond ffrind annwyl, un o’r henuriaid.” Gwnaeth yr henuriad a’i wraig gysuro Miriam, ac mae hi’n hollol sicr mai Jehofa wnaeth ysgogi’r brawd i’w ffonio.

Sut mae Jehofa’n gallu ysgogi eraill i’n helpu ni? (Gweler paragraffau 13-14)

13. Rho esiampl o’r ffordd gall Jehofa ddefnyddio’r rhai sydd ddim yn ei addoli i ateb ein gweddïau.

13 Efallai bydd yn defnyddio pobl sydd ddim yn ei addoli. (Diar. 21:1) Weithiau mae Jehofa’n ateb gweddïau ei bobl drwy ysgogi’r rhai sydd ddim yn ei addoli i’w helpu nhw. Er enghraifft, gwnaeth ef gymell y Brenin Artaxerxes i adael i Nehemeia fynd yn ôl i Jerwsalem i helpu i ailadeiladu’r ddinas. (Neh. 2:3-6) Yn yr un ffordd heddiw, gall Jehofa ysgogi hyd yn oed rhai sydd ddim yn ei addoli i’n helpu ni pan ydyn ni mewn angen.

14. Sut mae profiad Soo Hing yn dy galonogi di? (Gweler hefyd y llun.)

14 Mae chwaer o’r enw Soo Hing yn teimlo bod Jehofa wedi ysgogi ei doctor i’w helpu hi. Mae ei mab yn dioddef o nifer o broblemau iechyd meddwl. Pan gafodd ef ddamwain ddifrifol, roedd rhaid iddi hi a’i gŵr roi’r gorau i’w gwaith er mwyn gofalu amdano. O ganlyniad, roedd ganddyn nhw broblemau ariannol. Roedd hi’n teimlo ei bod hi o dan gymaint o bwysau, doedd hi ddim yn gallu dioddef dim mwy. Gwnaeth hi fwrw ei bol i Jehofa a gofyn am ei help. Beth ddigwyddodd wedyn? Penderfynodd y meddyg edrych am ffordd i’w helpu hi a’i theulu. O ganlyniad, cawson nhw help gan y llywodraeth a rhywle i fyw oedden nhw’n gallu ei fforddio. Wedyn dywedodd Soo Hing: “Gwelson ni law Jehofa ar yr adeg honno. Mae ef wir yn ‘gwrando gweddïau.’”—Salm 65:2.

MAE ANGEN FFYDD I FFEINDIO ATEBION JEHOFA A’U DERBYN

15. Beth helpodd un chwaer i sylweddoli bod Jehofa’n ateb ei gweddïau?

15 Fel arfer, dydy ein gweddïau ddim yn cael eu hateb mewn ffyrdd dramatig. Ond mae’r atebion bob amser yr union beth rydyn ni ei angen i aros yn ffyddlon i’n Tad nefol. Felly edrycha am y ffyrdd mae Jehofa’n ateb dy weddïau. Roedd chwaer o’r enw Yoko’n teimlo nad oedd Jehofa’n ateb ei gweddïau, ond yna dechreuodd gadw cofnod o’r pethau roedd hi wedi gofyn i Jehofa amdanyn nhw. Ar ôl peth amser, edrychodd yn ôl drwy ei nodiadau a sylweddoli bod Jehofa wedi ateb y rhan fwyaf o’i gweddïau, hyd yn oed rhai roedd hi wedi anghofio amdanyn nhw. O bryd i’w gilydd, mae angen inni stopio a meddwl am y ffordd mae Jehofa’n ateb ein gweddïau.—Salm 66:19, 20.

16. Sut gallwn ni ddangos ffydd wrth weddïo? (Hebreaid 11:6)

16 Nid gweddïo ar Jehofa yw’r unig ffordd gallwn ni ddangos ffydd. Gallwn ni hefyd wneud hynny drwy dderbyn ei atebion i’n gweddïau, beth bynnag ydyn nhw. (Darllen Hebreaid 11:6.) Ystyria esiampl Mike a’i wraig Chrissy oedd wedi gosod y nod o wasanaethu yn y Bethel. “Dros y blynyddoedd gwnaethon ni sawl cais i fynd i’r Bethel a gweddïo ar Jehofa drosodd a throsodd am y nod hwn,” meddai Mike, “ond chawson ni erioed ein gwahodd.” Er hynny, roedd Mike a Chrissy yn hyderus bod Jehofa’n gwybod y ffordd orau o’u defnyddio yn ei wasanaeth. Felly dalion nhw ati i wneud popeth roedden nhw’n gallu ei wneud drwy wasanaethu fel arloeswyr llawn amser lle roedd mwy o angen, a thrwy gael rhan mewn prosiectau adeiladu theocrataidd. Maen nhw bellach yn y gwaith cylch. Dywedodd Mike: “Dydy Jehofa ddim wastad wedi ateb ein gweddïau yn y ffordd roedden ni’n ei disgwyl, ond mae ef wedi eu hateb nhw, ac mewn ffyrdd llawer gwell nag oedden ni’n disgwyl.”

17-18. Beth gallwn ni fod yn hyderus ohono yn ôl Salm 86:6, 7?

17 Darllen Salm 86:6, 7. Roedd y salmydd Dafydd yn sicr bod Jehofa’n clywed ei weddïau ac yn eu hateb. Gelli di fod yr un mor hyderus. Mae’r esiamplau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon yn rhoi sicrwydd inni fod Jehofa’n gallu rhoi inni’r doethineb a’r nerth rydyn ni eu hangen i ddal ati. Efallai bydd yn defnyddio ein teulu ysbrydol, neu hyd yn oed y rhai sydd ddim yn ei wasanaethu ar hyn o bryd i’n helpu ni mewn rhyw ffordd.

18 Efallai na fydd Jehofa bob tro’n ateb ein gweddïau yn y ffordd rydyn ni’n ei disgwyl, ond rydyn ni’n hollol hyderus y bydd yn eu hateb nhw. Bydd yn rhoi yn union beth rydyn ni ei angen, ar yr union adeg iawn. Felly dal ati i weddïo, yn llawn ffydd y bydd Jehofa’n gofalu amdanat ti nawr ac yn “rhoi iti bopeth wyt ti eisiau” yn y byd newydd sydd i ddod.—Salm 37:4.

CÂN 46 Diolchwn i Ti, Jehofa

a Mae Jehofa’n addo y bydd yn ateb ein gweddïau os ydyn nhw’n unol â’i ewyllys. Pan ydyn ni’n wynebu treialon, gallwn fod yn hyderus y bydd yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon iddo. Dewch inni weld sut mae Jehofa’n ateb ein gweddïau.

b Am drafodaeth o’r rhesymau pam mae Jehofa wedi gadael i Satan reoli’r byd, gweler yr erthygl “Cadw Dy Lygad ar y Peth Pwysicaf,” yn rhifyn Mehefin 2017 o’r Tŵr Gwylio.

c Newidiwyd rhai enwau.

d DISGRIFIAD O’R LLUN Tudalen 11: Mae mam a’i merch yn cyrraedd gwlad newydd fel ffoaduriaid. Mae eu brodyr a’u chwiorydd yn rhoi croeso cynnes iddyn nhw a help ymarferol.