Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

Canlyn Mewn Ffordd Sy’n Anrhydeddu Jehofa

Canlyn Mewn Ffordd Sy’n Anrhydeddu Jehofa

“Yr hyn yr ydych chi yn eich calon . . . Dyma [sydd] yn werthfawr”1 PEDR. 3:4.

PWRPAS

I helpu cyplau sy’n canlyn i wneud penderfyniadau doeth, ac i helpu eraill yn y gynulleidfa i wybod sut i’w cefnogi nhw.

1-2. Sut mae rhai yn teimlo am ganlyn?

 MAE canlyn yn amser hapus a chyffrous ym mywyd rhywun. Os wyt ti’n canlyn, mae’n siŵr dy fod ti eisiau i bethau mynd yn dda. Ac i lawer, dyna sy’n digwydd. Mae Tsion, a chwaer o Ethiopia yn dweud: “Roedd yr amser pan oedd fy ngŵr a minnau’n canlyn yn un o’r hapusaf yn fy mywyd. Gwnaethon ni drafod pethau pwysig, ond hefyd cael amser i chwerthin. Roeddwn i’n hapus pan sylweddolais fy mod i wedi ffeindio rhywun roeddwn i’n ei garu, ac roedd yn fy ngharu i.”

2 Ond, mae brawd o’r Iseldiroedd o’r enw Alessio yn dweud: “Wnes i fwynhau dod i ’nabod fy ngwraig pan oedden ni’n canlyn, ond doedd pethau ddim wastad yn hawdd.” Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod rhai heriau a all godi ac egwyddorion Beiblaidd a fydd yn helpu cyplau sy’n canlyn i lwyddo. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gall eraill yn y gynulleidfa gefnogi cyplau sy’n canlyn.

PWRPAS CANLYN

3. Beth ydy pwrpas canlyn? (Diarhebion 20:25)

3 Er bod canlyn yn amser hapus, mae hefyd yn gam pwysig a all arwain at briodas. Ar ddiwrnod eu priodas, mae cwpl yn gwneud adduned o flaen Jehofa i garu a pharchu ei gilydd cyhyd ag y byddan nhw’n fyw. Cyn addo unrhyw beth, dylen ni ystyried y mater yn ofalus iawn. (Darllen Diarhebion 20:25.) Mae hynny’n bendant yn wir yn achos adduned priodas. Mae canlyn yn rhoi’r cyfle i gwpl ddod i adnabod ei gilydd ac i wneud penderfyniad da. Weithiau, y penderfyniad ydy i briodi. Ond weithiau, y penderfyniad gorau ydy i stopio canlyn. Os ydy cwpl sy’n canlyn yn torri i fyny, dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw wedi methu. Yn hytrach, mae canlyn wedi eu helpu nhw i wneud penderfyniad da.

4. Pam mae’n bwysig i gael yr agwedd gywir tuag at ganlyn?

4 Pam mae’n bwysig i gael yr agwedd gywir tuag at ganlyn? Fydd person sengl sydd â’r agwedd gywir ddim yn canlyn rhywun heb unrhyw fwriad o briodi. Ond, mae’n bwysig i bob un ohonon ni, nid rhai sengl yn unig, gael yr agwedd gywir. Er enghraifft, mae rhai yn meddwl os ydy cwpl yn canlyn mae’n rhaid iddyn nhw briodi. Sut mae hyn yn effeithio ar Gristnogion sengl? Mae Melissa, chwaer sengl o’r Unol Daleithiau, yn dweud: “Mae ’na lot o bwysau ar Dystion sy’n canlyn. O ganlyniad, mae rhai cyplau yn aros gyda’i gilydd hyd yn oed pan dydy’r berthynas ddim yn gweithio. Mae rhai sengl eraill yn osgoi canlyn yn gyfan gwbl. Gall y pwysau achosi lot o bryder.”

DOD I ADNABOD EICH GILYDD YN DDA

5-6. Beth dylai cwpl sy’n canlyn geisio ei ddysgu am ei gilydd? (1 Pedr 3:4)

5 Os wyt ti’n canlyn, beth all dy helpu di i benderfynu priodi neu beidio? Ceisia ddod i adnabod eich gilydd yn dda. Mae’n siŵr dy fod ti wedi dysgu rhai pethau am y person arall cyn ichi ddechrau canlyn. Ond nawr mae gen ti’r cyfle i weld beth sydd yn ei galon. (Darllen 1 Pedr 3:4.) Mae hyn yn cynnwys dysgu am bersonoliaeth y person arall, am ei ffordd o feddwl, ac am ei berthynas â Jehofa. Ymhen amser, dylet ti allu ateb cwestiynau fel: ‘A fydd y person hwn yn gymar da i mi?’ (Diar. 31:​26, 27, 30; Eff. 5:33; 1 Tim. 5:8) ‘A allwn ni gwrdd ag anghenion emosiynol ein gilydd? A alla i fyw gyda’i wendidau?’ b (Rhuf. 3:23) Wrth ichi ddod i adnabod eich gilydd yn well, cofia: Nid pa mor debyg rydych chi i’ch gilydd sy’n bwysig, ond pa mor dda y gallwch chi addasu i’ch gilydd.

6 Beth arall dylet ti ei ddysgu am y person arall? Byddai’n syniad da i drafod rhai pethau pwysig, fel amcanion y person arall, cyn i deimladau rhamantus fynd yn rhy gryf. Ond beth am faterion personol fel problemau iechyd, problemau ariannol, neu unrhyw drawma o’r gorffennol? Does dim angen trafod popeth wrth iti ddechrau canlyn. (Cymhara Ioan 16:12.) Os wyt ti’n teimlo ei fod yn rhy gynnar iti siarad am rai pethau hynod o bersonol, gad i’r person arall wybod. Er hynny, bydd rhaid i’r person arall wybod am y pethau hyn yn y pen draw er mwyn gwneud penderfyniad doeth. Felly rywbryd, bydd rhaid iti agor i fyny.

7. Sut gall cwpl sy’n canlyn ddod i adnabod ei gilydd yn well? (Gweler hefyd y blwch “ Perthynas Dros Bellter Hir.”) (Gweler hefyd y lluniau.)

7 Sut gelli di ddysgu pa fath o berson ydy rhywun go iawn? Un o’r ffyrdd gorau ydy drwy siarad yn agored, gofyn cwestiynau, a gwrando ar yr atebion. (Diar. 20:5; Iago 1:19) Er mwyn gwneud hynny, efallai bydd yn helpu i wneud pethau gyda’ch gilydd a fydd yn arwain at sgwrs, fel bwyta, mynd am dro mewn llefydd cyhoeddus, a phregethu gyda’ch gilydd. Gallwch chi hefyd ddysgu am eich gilydd drwy dreulio amser gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Hefyd, trefna weithgareddau a fydd yn dangos sut mae’r person yn ymddwyn gyda phobl wahanol ac o fewn sefyllfaoedd gwahanol. Sylwa ar beth mae Aschwin, o’r Iseldiroedd, yn ei ddweud am yr adeg pan oedd yn canlyn Alicia: “Roedden ni’n edrych am weithgareddau fyddai’n ein helpu ni i ddysgu am ein gilydd. Weithiau, roedd y rhain yn bethau syml fel paratoi pryd o fwyd gyda’n gilydd, neu wneud jobsys eraill. Wrth wneud hyn, gwelon ni gryfderau a gwendidau ein gilydd.”

Os ydych chi fel cwpl yn gwneud pethau fydd yn arwain at sgwrs, byddwch chi’n fwy tebygol o ddod i adnabod eich gilydd yn well (Gweler paragraffau 7-8)


8. Sut gall cwpl sy’n canlyn elwa o astudio gyda’i gilydd?

8 Bydd astudio pethau ysbrydol gyda’ch gilydd hefyd yn help mawr i’r ddau ohonoch chi. Os ydych chi’n priodi, bydd rhaid neilltuo amser ar gyfer addoliad teuluol er mwyn i Dduw fod yn rhan allweddol yn y briodas. (Preg. 4:12) Felly, beth am drefnu amser i astudio gyda’ch gilydd nawr tra eich bod chi’n canlyn? Wrth gwrs, dydy cwpl sy’n canlyn ddim yn deulu eto, a dydy’r brawd ddim yn ben ar y chwaer eto. Ond, drwy astudio gyda’ch gilydd yn aml, gallwch chi ddysgu am ysbrydolrwydd eich gilydd. Mae Max a Laysa, cwpl o’r Unol Daleithiau, yn esbonio un ffordd gwnaethon nhw elwa o wneud hyn. Mae Max yn dweud: “Ddim yn hir ar ôl inni ddechrau canlyn, dechreuon ni astudio cyhoeddiadau ar bynciau fel canlyn, priodi, a bywyd teuluol. Agorodd hynny’r drws i sgyrsiau ar faterion pwysig fydden ni ddim wedi eu trafod hebddyn nhw.”

PETHAU ERAILL I’W HYSTYRIED

9. Pa ffactorau dylai cwpl eu hystyried wrth ddewis rhannu’r newyddion eu bod nhw’n canlyn?

9 A ddylech chi ddweud wrth bawb eich bod chi’n canlyn? Mae hynny i fyny i chi fel cwpl i benderfynu. Ar y dechrau, efallai byddwch chi’n penderfynu dweud wrth ychydig o bobl yn unig. (Diar. 17:27) Drwy wneud hynny, byddwch chi’n osgoi unrhyw bwysau neu gwestiynau diangen. Ond, os nad ydych chi’n dweud wrth neb, gallwch chi syrthio i’r fagl beryglus o ynysu eich hunain rhag ofn i eraill ffeindio allan. Felly, byddai’n beth doeth i ddweud wrth o leiaf rhai a all rhoi cyngor doeth a help ymarferol ichi. (Diar. 15:22) Er enghraifft, gallwch chi ddweud wrth rai aelodau’r teulu, ffrindiau aeddfed, neu henuriaid yn y gynulleidfa.

10. Sut gall cwpl gadw’n foesol lân wrth ganlyn? (Diarhebion 22:3)

10 Sut gallwch chi gadw’n foesol lân wrth ganlyn? Wrth i’ch teimladau dyfu, byddai’n naturiol ichi gael eich denu yn fwy at eich gilydd. Beth all eich helpu chi i gadw’n foesol lân? (1 Cor. 6:18) Osgowch sgwrsio am bethau anfoesol, bod ar eich pennau eich hunain, a goryfed. (Eff. 5:3) Gall y pethau hyn wneud chwantau rhywiol yn gryfach a’i gwneud hi’n anoddach i wneud beth sy’n iawn. Beth am drafod gyda’ch gilydd yn aml yr hyn y gallwch chi ei wneud i barchu eich gilydd, a pharchu safonau Jehofa? (Darllen Diarhebion 22:3.) Sylwa ar beth helpodd Dawit ac Almaz o Ethiopia. Maen nhw’n dweud: “Roedden ni’n treulio amser gyda’n gilydd mewn llefydd lle roedd ’na lawer o bobl, neu yng nghwmni ffrindiau. Doedden ni byth ar ein pennau ein hunain yn y car neu yn y tŷ. Felly, roedden ni’n osgoi sefyllfaoedd a allai fod wedi ein temtio ni.”

11. Pa ffactorau dylai cwpl sy’n canlyn eu hystyried wrth ddangos hoffter?

11 Wrth i’ch perthynas ddatblygu, efallai byddwch chi eisiau dangos hoffter tuag at eich gilydd. Ond, os ydy chwantau rhywiol yn cael eu deffro, efallai byddai’n anodd ichi wneud penderfyniadau doeth. (Caniad Sol. 1:2; 2:6) Os nad ydych chi’n ofalus, gall dangos hoffter arwain at weithredoedd drwg. (Diar. 6:27) Felly, yn gynnar yn eich perthynas, trafodwch beth rydych chi’n ei feddwl sy’n briodol yn unol ag egwyddorion Beiblaidd. c (1 Thes. 4:​3-7) Fel cwpl, trafodwch gyda’ch gilydd: ‘Sut byddai pobl yn ein hardal ni’n ymateb petasen ni’n dangos hoffter tuag at ein gilydd? A allai’r gweithredoedd hyn achosi i chwantau anweddus godi ynon ni?’

12. Beth dylai cwpl sy’n canlyn ei ystyried wrth ddelio ag anghytundebau?

12 Sut gallwch chi ddelio â phroblemau ac anghytundebau? Beth os ydych chi’n anghytuno o bryd i’w gilydd? Ydy hynny’n arwydd bod rhywbeth o’i le yn y berthynas? Ddim o reidrwydd. Mae pob cwpl yn anghytuno ar adegau. Mae priodas yn llwyddo pan mae’r ddau yn gweithio’n galed i ddod dros eu problemau. Efallai bydd eich gallu i ddatrys problemau gyda’ch gilydd nawr yn arwydd o’ch gallu i wneud hynny ar ôl priodi. Felly, fel cwpl, gofynnwch i chi’ch hunain: ‘A allwn ni drafod pethau’n ddistaw ac yn barchus? A ydyn ni’n barod i gyfaddef pan ydyn ni’n methu, ac yna’n ceisio gwella? A ydyn ni’n barod i ildio, ymddiheuro, a maddau?’ (Eff. 4:​31, 32) Er hynny, os ydych chi’n dadlau o hyd wrth ganlyn, mae’n debyg na fyddai’r sefyllfa yn newid ar ôl ichi briodi. Os wyt ti’n sylweddoli fyddai’r person arall ddim yn gwneud cymar da iti, y penderfyniad gorau i’r ddau ohonoch chi a fyddai i stopio canlyn. d

13. Beth all helpu cwpl i benderfynu am ba mor hir y dylen nhw ganlyn?

13 Pa mor hir ddylech chi ganlyn? Yn aml, mae penderfyniadau byrbwyll yn dod â chanlyniadau negyddol. (Diar. 21:5) Felly, dylech chi ganlyn yn ddigon hir i ddod i adnabod eich gilydd yn dda. Ond, ddylech chi ddim gohirio priodi yn ddiangen. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon.” (Diar. 13:12) Hefyd, wrth ichi barhau i ganlyn, gallai fod yn anoddach i wrthod temtasiwn rhywiol. (1 Cor. 7:9) Yn hytrach na chanolbwyntio ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn canlyn, gelli di ofyn i ti dy hun, ‘Beth arall sy’n rhaid imi ei ddysgu am y person arall er mwyn gwneud penderfyniad?’

SUT GALL ERAILL GEFNOGI CYPLAU SY’N CANLYN?

14. Ym mha ffyrdd ymarferol gall eraill gefnogi cwpl sy’n canlyn? (Gweler hefyd y llun.)

14 Os ydyn ni’n adnabod cwpl sy’n canlyn, sut gallwn ni eu cefnogi nhw? Gallwn ni eu gwahodd nhw draw am bryd o fwyd, ar gyfer addoliad teuluol, neu am adloniant. (Rhuf. 12:13) Gall yr amgylchiadau hyn eu helpu nhw i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Gelli di hefyd eu cefnogi nhw drwy fynd allan neu deithio yn y car gyda nhw, neu eu gwahodd nhw i dy dŷ fel fyddan nhw ddim ar eu pennau eu hunain. (Gal. 6:10) Mae Alicia, y soniwyd amdani yn gynharach, yn ddweud beth roedd hi ac Aschwin yn ei werthfawrogi: “Roedden ni’n hapus iawn pan wnaeth rhai brodyr dweud ein bod ni’n gallu mynd i’w tai os oedden ni eisiau bod gyda’n gilydd, ond nid ar ein pennau’n hunain.” Mae’n fraint os ydy cwpl sy’n canlyn yn gofyn iti dreulio amser gyda nhw. Bydda’n ofalus i beidio â’u gadael nhw ar eu pennau eu hunain yn gyfan gwbl, ond hefyd bydda’n effro i amseroedd pan maen nhw angen amser i drafod pethau’n breifat.—Phil. 2:4.

Os ydyn ni’n adnabod cwpl sy’n canlyn, gallwn ni eu helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol (Gweler paragraffau 14-15)


15. Beth arall gall ffrindiau ei wneud i helpu cwpl sy’n canlyn? (Diarhebion 12:18)

15 Gallwn ni hefyd helpu cyplau sy’n canlyn gyda’n geiriau. Efallai ar adegau, bydd hynny’n golygu rheoli ein tafod a dweud dim. (Darllen Diarhebion 12:18.) Er enghraifft, efallai byddwn ni’n ysu i ddweud wrth eraill bod cwpl wedi dechrau canlyn, ond efallai bod y cwpl eisiau dweud wrth eraill eu hunain. Ddylen ni ddim hel clecs am gwpl sy’n canlyn, na lladd arnyn nhw am faterion personol. (Diar. 20:19; Rhuf. 14:10; 1 Thes. 4:11) Ar ben hynny, ddylen ni ddim dweud unrhyw beth a allai rhoi pwysau ar y cwpl i briodi. Mae chwaer o’r enw Elise a’i gŵr yn dweud: “Roedden ni’n teimlo’n anghyfforddus iawn pan oedd eraill yn gofyn inni am ein trefniadau ar gyfer priodi, pan doedden ni ddim wedi eu trafod nhw eto.”

16. Sut dylen ni ymateb os ydy cwpl yn penderfynu stopio canlyn?

16 Beth os ydy cwpl yn penderfynu stopio canlyn? Dylen ni osgoi busnesu neu gymryd ochrau. (1 Pedr 4:15) Mae chwaer o’r enw Lea yn dweud: “Clywais fod eraill wedi ceisio dyfalu pam gwnaeth brawd a minnau torri i fyny. Gwnaeth hynny fy mrifo i’r byw.” Dydy stopio canlyn ddim yn golygu bod y cwpl wedi methu. Fel arfer mae’n dangos bod canlyn wedi helpu’r cwpl i lwyddo i wneud penderfyniad da. Er hynny, efallai bydd y penderfyniad wedi achosi iddyn nhw deimlo’n drist iawn ac yn unig. Felly, gallwn ni edrych am ffyrdd i’w cefnogi nhw.—Diar. 17:17.

17. Beth dylai cyplau sy’n canlyn ddal ati i’w wneud?

17 Fel rydyn ni wedi ei weld, gall canlyn ddod â heriau, ond hefyd gall fod yn amser hapus. Mae Jessica yn cofio: “A dweud y gwir, roedd canlyn yn lot o waith. Ond roedd yn werth pob ymdrech.” Os ydych chi’n canlyn, parhewch i ddod i adnabod eich gilydd yn dda. Os ydych chi’n gwneud hynny, byddwch chi’n llwyddo wrth ganlyn, ac yn gwneud penderfyniad doeth.

CÂN 49 Llawenhau Calon Jehofa

a Newidiwyd rhai enwau.

b Am fwy o gwestiynau i’w hystyried, gweler Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 2, tt. 39-40.

c Mae mastyrbio rhywun arall yn fath o anfoesoldeb rhywiol. Yn yr achos hwn, bydd henuriaid y gynulleidfa yn ffurfio pwyllgor barnwrol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall cyffwrdd â’r bronnau a sgwrsio am bethau anfoesol drwy negeseuon neu dros y ffôn hefyd arwain at bwyllgor barnwrol yn cael ei ffurfio.

d Am fwy o wybodaeth, gweler “Questions From Readers” yn rhifyn Awst 15, 1999, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.