PROSIECT ASTUDIO
Sut i Ddyfalbarhau er Gwaethaf Anghyfiawnder
Darllen Genesis 37:23-28; 39:17-23 i ddysgu sut i ddelio ag anghyfiawnder oddi wrth brofiad Joseff.
Ystyria’r cyd-destun. Pam gwnaeth eraill drin Joseff yn annheg? (Gen. 37:3-11; 39:1, 6-10) Am faint roedd rhaid i Joseff ddelio ag anghyfiawnder? (Gen. 37:2; 41:46) Sut gwnaeth Jehofa helpu Joseff yn ystod yr adeg honno, ond beth ni wnaeth Jehofa?—Gen. 39:2, 21; w23.01 17 ¶13.
Cloddia’n ddyfnach. Dydy’r Beibl ddim yn sôn am Joseff yn amddiffyn ei hun rhag cyhuddiad ffals gwraig Potiffar. Sut gall yr adnodau canlynol ein helpu ni i weld pam efallai dewisodd Joseff gadw’n ddistaw, neu pam dydyn ni ddim yn disgwyl cael y manylion i gyd yn y Beibl? (Diar. 20:2; Ioan 21:25; Act. 21:37) Pa rinweddau allai fod wedi helpu Joseff i ddyfalbarhau yn wyneb anghyfiawnder?—Mich. 7:7; Luc 14:11; Iago 1:2, 3.
Meddylia am y gwersi. Gofynna i ti dy hun:
-
‘Pa fath o driniaeth anghyfiawn alla i ddisgwyl ei hwynebu fel un o ddisgyblion Iesu?’ (Luc 21:12, 16, 17; Heb. 10:33, 34)
-
‘Sut galla i baratoi i ddelio ag anghyfiawnder yn llwyddiannus?’ (Salm 62:7, 8; 105:17-19; w19.07 2-7)